Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, ac roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 dros dro ddydd Mercher er mwyn caniatáu i adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16) gael ei drafod.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Mick Antoniw yn gofyn am ddadl ar yr adroddiad a baratowyd ganddo ef, Rhodri Glyn Thomas AC a chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau mewn ymateb i argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn y busnes a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 3 Chwefror 2016 -

 

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16) (15 munud) - wedi'i symud i 27 Ionawr 2016

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2016 -

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (60 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar weithgareddau cynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, yr UE (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Tai a Chynllunio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Tai a Chynllunio.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer gwaith craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 25 Chwefror 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1 Mawrth 2016.

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur a oedd yn nodi cynigion manwl ar gyfer diwygio Rheol Sefydlog 26 yn seiliedig ar yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru. Roedd y papur hefyd yn nodi diwygiadau amrywiol arfaethedig i Reol Sefydlog 26 er mwyn eglurder a chysondeb.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ac ailystyried y papur yn y cyfarfod ar 9 Chwefror 2016.

 

Unrhyw fater arall

Adroddiad Etifeddiaeth

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno unrhyw sylwadau ar yr Adroddiad Etifeddiaeth drafft i'r Clerc erbyn dydd Iau er mwyn gallu trafod yr adroddiad diwygiedig yn y cyfarfod ar 2 Chwefror.

Dadl gan Aelod Unigol

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd y Swyddfa Gyflwyno hyd yma wedi derbyn unrhyw gynigion, nac unrhyw ymholiadau gan Aelodau yn awgrymu eu bod yn bwriadu cyflwyno cynnig ar gyfer y Ddadl gan Aelod Unigol a drefnwyd ar gyfer 10 Chwefror. Dywedodd Rheolwyr Busnes eu bod yn ymwybodol o gynnig a oedd yn cael ei lunio.