Cyfarfodydd
Ethol Cadeirydd dros dro
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/10/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Ethol Cadeirydd Dros Dro
1. Yn dilyn
ymddiswyddiad Syr George Reid o'i rôl yn Gadeirydd ar Fwrdd Taliadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, gofynnodd Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad i aelodau'r Bwrdd
Taliadau enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
2. Etholwyd Sandy
Blair yn unfrydol gan aelodau'r bwrdd yn Gadeirydd Dros Dro ar y Bwrdd
Taliadau.
3. Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod ac estynnodd groeso i Anna
Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd
y Bwrdd a Dan Collier, y Dirprwy Glerc newydd.
4. Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant.
Cofnodion:
1. Yn dilyn ymddiswyddiad Syr George Reid o’i rôl fel Cadeirydd
Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwahoddodd Cyfarwyddwr Busnes y
Cynulliad y Bwrdd Taliadau i enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur
Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2010).
2. Etholodd y
Bwrdd Sandy Blair yn unfrydol yn Gadeirydd Dros Dro y Bwrdd Taliadau.
3. Croesawodd
y Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd i’r cyfarfod a chroesawodd Anna Daniel, Pennaeth y
Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd y bwrdd, a Dan
Collier, Dirprwy Glerc newydd y Bwrdd.
4. Nid oedd
datganiadau o fuddiant.