Cyfarfodydd

Adolygiad o drefniadau Adolygiad o drefniadau a chyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)

Cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17: trafodaeth gyntaf

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cyfarfod: 03/07/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)

Cymorth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad: Polisïau ar gyfer staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad, a chanllawiau drafft ar y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10

Cyfarfod: 20/02/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)

Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad: ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar Godiad Cyflog 2015-16

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)

Trefniadau staffio Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad: Cyflogau, Pensiynau a Budd-daliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – dyfarniad cyflog 2014–15

Cofnodion:

2.3     Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y bydd staff cymorth yn cael cynnydd o 1%  mewn cyflog yn ystod blwyddyn 2014-15, yn unol â pholisïau cyflog yn y sector cyhoeddus. Cytunodd y Bwrdd y byddai'n edrych yn fanylach ar y materion allweddol canlynol sy'n codi o'r ymgynghoriad fel rhan o'i waith yn y dyfodol:

-        A ddylai staff cymorth Aelodau'r Cynulliad fod yn gymwys ar gyfer buddion marwolaeth mewn gwasanaeth

 -       Dileu swydd a pharhad cyflogaeth

 -       Gwyliau a dyddiau disgresiwn

 -       Cyfraniadau pensiwn.


Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

·         Adolygiad o strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad – Papur 10

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

5.1     Ystyriodd y Bwrdd bapur ar strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad, a ddarparwyd gan Gomisiwn y Cynulliad.

 

5.2     Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiad o gyflogaeth a strwythur staffio'r Staff Cymorth ar gyfer y Pumed Cynulliad.


Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Cyflogau staff cymorth yr Aelodau - dyfarniad cyflog 2014-15

·         Papur 2b

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 21

Cofnodion:

2.4     Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau ynghylch cyflogau'r staff cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15.

 

2.5     Cytunodd y Bwrdd y dylid ymgynghori â'r staff cymorth a'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion i gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog ar gyfer 2014-15, yn unol â chyflogau'r sector cyhoeddus.

 

2.6     Cytunodd y Bwrdd i gynnull cyfarfod o grŵp cyfeirio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau - yn enwedig safbwyntiau staff sy'n gweithio y tu allan i Fae Caerdydd.


Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)

Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – adroddiad drafft

·         Papur 9 (Adroddiad drafft ar gyflogau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

7.1     Gwnaeth y Bwrdd sylwadau ar ei adroddiad ar gyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, a gâi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2013, a chytunodd arno.

 

7.2     Nododd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ynghylch cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2014-15 ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

 

7.3     Cytunodd y Bwrdd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr a’i ddosbarthu i bob aelod o staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.

 

Cam i’w gymryd:

  • Byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi’r adroddiad ar gyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ac yn ei ddosbarthu i holl staff cymorth yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Adolygiad o drefniadau staffio Aelodau'r Cynulliad

·         Papur 2 - Cynigion ar gyfer yr adolygiad o drefniadau staffio

-        Atodiad A: Cynigion ar gyfer trefniadau staffio grwpiau

-        Atodiad B: Ymateb gan y grwpiau

-        Atodiad C: Llythyrau at yr Aelodau

·         Y camau nesaf - llythyr at yr Aelodau a chyhoeddi adroddiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29
  • Cyfyngedig 30
  • Cyfyngedig 31
  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

26.     Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg byr o’r broses hyd yma fel rhan o adolygiad y Bwrdd i drefniadau staffio Aelodau’r Cynulliad a nododd ei fod ef a Sandy Blair wedi cymryd rhan mewn cyfres o gyfarfodydd terfynol â rhanddeiliaid ym mis Mai.

 

27.     Mae crynodeb o benderfyniadau’r Bwrdd ar drefniadau Staffio Aelodau’r Cynulliad wedi’i nodi isod, gyda’r camau a ganlyn wedi’u rhoi ar waith ers 1 Ebrill 2013.

·         Codiad cyflog o 1% i holl Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad;

 

·         Cyfle i ddechreuwyr newydd a benodwyd ar bwynt isaf eu graddfa gyflog i fod yn gymwys i gael adolygiad cyflog ar ôl chwe mis. Yn amodol ar berfformiad boddhaol, byddant yn symud at y pwynt cynyddrannol nesaf ar y raddfa gyflog. Bydd cynnydd eu cyflog yn y dyfodol yn digwydd fesul blwyddyn o ddyddiad yr adolygiad chwe mis; 

 

·         Dileu’r gofyniad bod rhaid hysbysebu swyddi yn allanol yn yr achosion hynny pan mae ymgeiswyr mewnol addas a benodwyd eisoes drwy gystadleuaeth deg ac agored;

 

·         Caniatáu i Aelodau’r Cynulliad gynyddu nifer diwrnodau gwyliau blynyddol eu staff ar gontractau safonol i hyd at 31 diwrnod y flwyddyn.

 

28.     Hefyd cadarnhaodd y Cadeirydd benderfyniadau’r Bwrdd ynghylch trefniadau a geisiodd eu hamlinellu oedd â’r nod o gynyddu capasiti strategol y Cynulliad, capasiti strategol Aelodau unigol a chapasiti strategol grwpiau pleidiau; a darparu cyfleoedd ychwanegol i staff cymorth ddatblygu eu gyrfaoedd ar yr un pryd.

 

29.     Cydnabu’r Bwrdd, tra bo rhai Aelodau wedi croesawu ei gynigion a’u bod yn cytuno â’r egwyddorion sy’n sail iddynt, ni chawsant gefnogaeth drwyddi draw.

 

30.     Felly cytunodd y Bwrdd na fyddai’r cynigion hyn yn cael eu rhoi ar waith yn eu cyfanrwydd. Yn hytrach, byddai rhai o’r newidiadau hyn, yr oedd cytundeb unfrydol wedi bod arnynt, yn cael eu rhoi ar waith o 1 Gorffennaf 2013 a’u monitro dros y 12 mis nesaf.

 

31.     Mae crynodeb o’r cynigion hyn wedi’u nodi isod:

 

Cefnogaeth well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - penodi Uwch Gynghorydd

 

32.     Cadarnhaodd y Bwrdd nad yw’n fwriad ganddo roi’r cynnig hwn ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ond efallai yr ystyrir ef eto yn y dyfodol.

 

Cefnogaeth well ar gyfer Aelodau Cynulliad unigol - Cronfa Ymgysylltu (Cronfa Bolisi ac Ymchwil)

 

33.     Byddwn yn parhau â’r cynnig i sefydlu cronfa ychwanegol i Aelodau allu ei defnyddio i gomisiynu gwaith ymchwil allanol, a bydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf. Er mwyn sicrhau bod diben y gronfa’n eglur, byddai’n cael ei galw’n Gronfa Bolisi ac Ymchwil. Byddai ar gael i Aelodau, i ariannu gwaith ymchwil allanol i gefnogi datblygiad polisi, archwilio materion o bwys yn eu hetholaeth neu ranbarth, neu graffu ar bolisi, deddfwriaeth neu gyllid.

 

34.     Caniateir i’r Aelodau gyfuno arian o’r gronfa i gomisiynu darnau o waith mwy sylweddol, er y byddai’n ofynnol i hynny fod yn unol ag arfer gorau o ran caffael.

 

35.     Byddai’r Bwrdd yn monitro faint o ddefnydd o’r Gronfa Bolisi ac Ymchwil a fydd, a’i gwerth o ran defnyddio arbenigedd ychwanegol i gynorthwyo’r Aelodau dros y 12 mis nesaf. Byddai’n cynnal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5