Cyfarfodydd
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod/i'w phenderfynu: Taliadau Cadeirydd Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
2.1 Nododd y Bwrdd benderfyniad y Cynulliad i
sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
2.2 Nododd y Bwrdd y bydd y Pwyllgor Busnes yn
rhoi cynigion i'r Cynulliad ar faint ac aelodaeth y Pwyllgor maes o law.
2.3 Trafododd y Bwrdd lythyr oddi wrth y
Llywydd yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor. Nododd aelodau’r Bwrdd y byddai gwaith
y Pwyllgor yn cael ei gyflawni’n unol â therfyn amser penodol, ond cytunwyd y
dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd uwch oherwydd y posibilrwydd y gallai cylch
gwaith y Pwyllgor fod yn gymhleth ac yn dechnegol.
Cam
gweithredu:
- Y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd i
gadarnhau y dylid pennu lefel tâl Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad ar y gyfradd uwch.
Cyfarfod: 15/09/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w benderfynu: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar dâl Cadeiryddion y Pwyllgorau
Cofnodion:
2.1 Trafododd y
Bwrdd ymatebion i'w ymgynghoriad ar dâl Cadeiryddion y Pwyllgorau drwy e-bost
yn dilyn cyfarfod ffurfiol y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal y lefelau
cyflog ar gyfer Cadeiryddion y Pwyllgorau.
2.2 Nododd y
Bwrdd y byddai cyfrifoldebau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol newydd mor arwyddocaol â rhai y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
eraill. Felly, cytunodd y Bwrdd y dylai cadeirydd y Pwyllgor hwn dderbyn y
cyflog uchaf o'r ddau gyflog ychwanegol.
2.3 Fel sy'n wir
am gyflogau'r Aelodau a phob Deiliad Swydd, cytunodd y Bwrdd y byddai cyflogau
ychwanegol i gadeiryddion y pwyllgorau yn cael eu haddasu ym mis Ebrill bob
blwyddyn yn ôl y newid yn y Canolrif Enillion ASHE yng Nghymru, rhwng mis
Mawrth a mis Mawrth y flwyddyn flaenorol .
2.4 Cytunodd y
Bwrdd y byddai cyflog Cadeiryddion y Pwyllgorau newydd yn cael ei ôl-ddyddio
o'r dyddiad y cawsant eu hethol i'w rolau.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 8)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad: Yr adolygiad o dâl cadeiryddion pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
8.1 Trafododd y Bwrdd bapur yn amlinellu strwythur newydd
y pwyllgorau, eu cylch gorchwyl a rolau cadeiryddion y pwyllgorau
8.2 Nododd y Bwrdd strwythur newydd y pwyllgorau, a
chytunodd i ymgynghori ynghylch a ddylid cadw'r ddwy lefel cyflog arfaethedig
ar gyfer y ddau fath gwahanol o gadeirydd mewn pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y
byddai'n gofyn am farn Aelodau'r Cynulliad ynghylch a oedd y system dwy haen o
dâl i gadeiryddion yn dal i fod yn briodol.
8.3 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori â'r Aelodau ynghylch y
cynigion hyn, gyda'r nod o wneud penderfyniad erbyn mis Medi.
8.4 Cytunodd y Bwrdd y dylid ôl-ddyddio cyflogau i
ddyddiad y penodiad. Fel yw'r achos ar gyfer pob deiliad swydd arall, byddai
cyflogau cadeiryddion yn destun adolygiad blynyddol.
Cam
gweithredu:
• Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn dechrau ymgynghoriad ynghylch cynigion y Bwrdd o ran tâl
cadeiryddion pwyllgorau.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad: Effaith gwahaniaethu cyflogau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cyfarfod: 20/02/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)
Cyflogau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad: Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cyfarfod: 16/01/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad: Ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad
Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)
Cyflogau a chyfraniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad: Pontio rhwng y Pedwerydd a'r Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
Cyfarfod: 29/08/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad
Cyflogau ACau: Adroddiad
drafft ar ymchwil i rwystrau o ran cael mynediad i'r Cynulliad (13:00 - 14:00)
Cyflogau ACau: Adroddiad
drafft ar werthuso rôl Aelodau'r Cynulliad a deiliaid swyddi (14:00 - 15:00)
Trafod cynigion (15:00-16:00)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad
Cofnodion:
2.2 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan
Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y dylai cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer
blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad gynyddu 1% yn unol â pholisïau cyflog yn y
sector cyhoeddus.
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad
·
Papurau 3b a 3c
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
3.3 Trafododd y
Bwrdd bapur ynghylch cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad, a oedd
wedi ei baratoi gan y Clerc a'r Gwasanaeth Ymchwil. Bu'r Bwrdd yn trafod
amrywiaeth o opsiynau ar gyfer mynegeio ac ystyriwyd opsiynau ar gyfer
gwerthuso swyddi.
3.4 Cytunodd y Bwrdd
i gomisiynu ymarfer gwerthuso swyddi i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol y
mae Aelodau'r Cynulliad wedi eu hysgwyddo yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y
pecyn tâl. Cytunodd y Bwrdd y bydd y gwerthusiad hwn hefyd, am y tro cyntaf, yn
cynnwys cyfrifoldebau Gweinidogion ac amryw o swydd-ddeiliaid eraill.
3.5 Cytunodd y Bwrdd
hefyd i wahodd cynigion i wneud gwaith ymchwil gydag ymgeiswyr ac ymgeiswyr
posibl y Cynulliad er mwyn canfod a oes unrhyw agweddau ar dâl yn rhwystro
unigolion rhag sefyll i gael eu hethol.
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad
·
Papur 2a
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
2.1 Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a
oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y setliad cyflog ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad yn 2015-16, sef pumed flwyddyn ychwanegol y Cynulliad hwn.
2.2 Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd Dros Dro wedi cynnal cyfres o
gyfarfodydd anffurfiol gydag arweinwyr y
pleidiau er mwyn trafod eu cyflogau yn 2015-16.
2.3 Nododd y Bwrdd fod y cyflogau eisoes wedi'u rhewi ers pum
mlynedd a chytunwyd y dylid ymgynghori â'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion
i gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog sylfaenol ar gyfer 2015-16, yn
unol â chyflogau'r sector cyhoeddus.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Cyflogau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2015-16 a’r Pumed Cynulliad
·
Papur 7 – Nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
5.1 Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a
oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y setliad cyflog ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad yn 2015-16, ac yn trafod y dull gweithredu o ran taliadau ar gyfer y
Pumed Cynulliad.
5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid ymgynghori ag arweinwyr y pleidiau yn y
Flwyddyn Newydd ynghylch yr opsiynau ar gyfer cyflog sylfaenol y setliad ar
gyfer Aelodau’r Cynulliad yn 2015-16.
5.3 Ar gyfer y Pumed Cynulliad, cytunodd y Bwrdd i asesu rolau a
chyfrifoldebau Aelodau’r Cynulliad, Gweinidogion a deiliaid swyddi eraill.
Cytunodd y Bwrdd i ystyried taliadau mewn sectorau eraill a chynnal arolwg i
fesur y graddau y mae taliad yn ffactor pan fydd pobl yn penderfynu sefyll mewn
etholiad.
5.4 Cytunodd y Bwrdd i ystyried cynigion ar gyfer cyflogau Aelodau’r
Cynulliad ar gyfer 2015/16 yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2014.
5.5 Cytunodd y Bwrdd, er mwyn cymharu rôl Aelodau’r Cynulliad â
swyddi o’r un ansawdd, y byddai angen caffael sefydliad allanol i gynnal
ymarferiad i bwysoli’r swydd.
Camau i’w cymryd:
·
Y Gwasanaeth
Ymchwil i baratoi papur ar gyfer y cyfarfod ar 31 Ionawr 2014, yn cwmpasu
dulliau arolygu posibl er mwyn darganfod beth sy’n atal pobl rhag bod yn
Aelodau’r Cynulliad;
·
Yr ysgrifenyddiaeth
i baratoi papur cwmpasu ar gyfer y cyfarfod ar 31 Ionawr 2014 yn amlinellu
dulliau posibl ar gyfer caffael cyngor ar bwysoli rôl Aelodau’r Cynulliad;
·
Y Gwasanaeth Ymchwil i ddarparu papur ar gyfer
y cyfarfod ar 21 Mawrth 2014 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am
gynigion ar gyfer cyflogau Aelodau’r Cynulliad yn y pumed Cynulliad.