Cyfarfodydd
Cyflwyniad y Cadeirydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/05/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
1.1
. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2
Derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 4 Mawrth yn
amodol ar ddiwygio'r disgrifiad categori o aelodau'r Bwrdd yn y grid
presenoldeb; a chywiro gwall gramadegol ym mharagraff 2.4.
1.3
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Ronnie Alexander wedi
cyflwyno’i ymddiswyddiad fel aelod o’r Bwrdd ar ôl pedair blynedd, a hynny er
mwyn ymgymryd â phenodiad arall. Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau i
Ronnie am ei waith rhagorol ar y Bwrdd, gan ddweud y bydd colled ar ei ôl.
Adleisiodd aelodau eraill y Bwrdd y teimladau hyn. Roeddent hefyd am gofnodi eu
hedmygedd o'i fanylder at ei waith a'u gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth y mae
wedi'i rhoi i gyd-aelodau'r Bwrdd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf.
Diolchodd Ronnie i'r Bwrdd am eu geiriau caredig ac ychwanegodd ei fod yn
ddiolchgar am y gefnogaeth a gafwyd gan swyddogion y Comisiwn ac aelodau eraill
o'r Bwrdd dros y pedair blynedd diwethaf. Dymunodd yn dda i'r Bwrdd at y
dyfodol.
1.4
Fe wnaeth yr ysgrifenyddiaeth roi diweddariad ar y broses
ar gyfer llenwi'r swydd wag yn sgil ymddiswyddiad Ronnie. Nododd y Bwrdd mai’r
Clerc a'r Prif Weithredwr sy’n penodi aelod o'r Bwrdd ac y bydd angen iGomisiwn
y Senedd gymeradwyo’r penodiad.
1.5
Trafododd y Bwrdd ddiweddariad ynghylch y gefnogaeth sy’n
cael ei darparu i'r Aelodau o ran Covid-19. Cytunodd y Bwrdd ei bod yn rhy
gynnar yn nhymor y Senedd newydd i werthuso'r darpariaethau sydd ar waith ar
hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r darpariaethau hyn mewn cyfarfod yn y
dyfodol, ond byddant yn parhau ar yr un ffurf yn y cyfamser.
1.6
Trafododd y Bwrdd ei ddull o ymgysylltu â’r Aelodau a
staff cymorth a chytunodd i edrych ar adfer sesiynau galw heibio gyda'r
Aelodau; parhau â chyfarfodydd grŵp cynrychiolwyr; a threfnu rhaglen o
gyfarfodydd rheolaidd â swyddfeydd yr Aelodau, boed hynny’n rhithwir neu wyneb
yn wyneb. Cydnabu'r Bwrdd fanteision cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn enwedig
gyda staff y tu allan i Gaerdydd.
1.7
Trafododd y Bwrdd rai trefniadau gweinyddu ar gyfer
cyfarfodydd y Bwrdd a chytunodd, er mwyn gwneud ei waith yn fwy tryloyw i
randdeiliaid, i gyhoeddi blaenraglen waith ar ei wefan. Caiff y flaenraglen hon
ei diweddaru'n rheolaidd i gyd-fynd â chylch cyfarfodydd y Bwrdd.
1.8
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar wefan newydd Umbraco a
chytunodd i adolygu proflenni terfynol, gyda’r bwriad y bydd y wefan newydd yn
mynd yn fyw cyn gynted â phosibl.
1.9
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau
diogelwch ar gyfer Aelodau ar ddechrau'r Chweched Senedd. Cytunodd i ailedrych
ar hyn gyda thîm diogelwch y Senedd ymhen chwe mis. Bydd hyn yn rhan o’r
adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad.
1.10
Cytunodd y Bwrdd ar ei flaenraglen waith hyd at fis
Ionawr 2022.
Camau i’w cymryd: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
Diwygio a threfnu i gyhoeddi cofnodion mis Mawrth;
-
Rhoi diweddariad i'r Bwrdd ar recriwtio aelod newydd o'r
Bwrdd;
- Rhoi gwybodaeth i'r Bwrdd adolygu'r darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau a’u swyddfeydd mewn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1
Cyfarfod: 04/03/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6 , View reasons restricted (1/1)
- Cyfyngedig 7 , View reasons restricted (1/2)
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd a swyddogion i'r cyfarfod.
1.2
Nododd
y Bwrdd, pe bai angen i'r Cadeirydd esgusodi ei hun o'r cyfarfod, y byddai'r
cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Mike Redhouse yn ei habsenoldeb.
1.3
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Ionawr, fel y’i diwygiwyd.
1.4
Trafododd
y Bwrdd gais yn ymwneud ag amgylchiadau eithriadol mewn perthynas â chostau
staff sy’n dirprwyo ar ran staff cymorth sy’n ymgymryd â gwasanaeth rheithgor.
Cytunodd y Bwrdd, os yw Aelodau'n dymuno cyflogi staff dros dro i ddarparu cymorth
dros gyfnod o ddyletswydd gyhoeddus, fel gwasanaeth rheithgor, y dylent
ddefnyddio'r darpariaethau presennol o dan bwynt 7.15 o'r Penderfyniad i
drosglwyddo arian o’r gronfa costau swyddfa i dalu’r costau staffio.
1.5
Trafododd
y Bwrdd fater yn ymwneud ag amgylchiadau
eithriadol, sef cyhoeddi hysbysiadau staffio cyn diwedd y Bumed Senedd.
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o wybodaeth am y materion penodol a oedd yn
gysylltiedig â’r hysbysiadau diswyddo dan sylw, a chytunodd i drafod y materion
hyn ymhellach yn ei gyfarfod ar 27 Mai.
1.6
Nododd
y Bwrdd yr ohebiaeth a gafwyd gan gynrychiolydd o Undeb y GMB, yn gwneud cais
bod aelod o staff yn cael cyfle i hawlio unrhyw wyliau blynyddol y mae wedi’u
cronni fel taliad cyn diwedd ei gontract. Cytunodd y Bwrdd i wrthod y cais hwn,
gan nodi mai cyfrifoldeb yr Aelod, fel cyflogwr, yw rheoli materion yn ymwneud
â gwyliau blynyddol. Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd i annog yr Aelod a’r aelod
staff dan sylw i gymryd unrhyw wyliau a gronnwyd cyn yr etholiad.
1.7
Nododd
y Bwrdd yr adborth a gafwyd yn sgil ymweliadau rhithwir diweddar. Cytunodd y
Bwrdd, er y dylid mynd ar drywydd ymweliadau pellach, fod angen rhoi ystyriaeth
i lwyth gwaith yr Aelodau a'r staff yn ystod y cyfnod yn arwain at yr etholiad,
a allai gyfyngu ar yr opsiynau ar gyfer cynnal ymweliadau pellach. Cytunodd y
Bwrdd i drefnu ymweliadau ar ddechrau'r Chweched Senedd.
1.8
Cytunodd
y Bwrdd i benodi Nick Ramsay AS, fel yr Aelod a enwebwyd, i’r swydd wag ar y
Bwrdd Pensiwn ar gyfer ymddiriedolwr o blith yr Aelodau.
1.9
Nododd
y Bwrdd ddyluniad ei wefan newydd, a fydd yn cael ei lansio erbyn dechrau’r
Chweched Senedd, a chytunodd arno.
1.10
Cytunodd
y Bwrdd ar ei raglen waith hyd at fis Tachwedd 2021. Cytunodd y Bwrdd i drafod
unrhyw faterion brys yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad yn unol â hynny.
1.11
Adolygodd
y Bwrdd effaith barhaus COVID-19 ar yr Aelodau a'u swyddfeydd. Cytunodd y Bwrdd
y bydd y cymorth presennol sydd ar waith yn parhau ar ddechrau'r Chweched
Senedd.
Cyfarfod: 28/01/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10 , View reasons restricted (1/1)
- Cyfyngedig 11 , View reasons restricted (1/2)
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd swyddogion ac aelodau’r
Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i'r Bwrdd ar
ei chyfarfod â Swyddog Cyfrifyddu a Chomisiynydd Safonau Dros Dro Comisiwn y
Senedd ynghylch y rheolau ar ddefnyddio adnoddau'r Senedd.
1.3
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ynghylch
ymweliadau rhithwir â swyddfeydd etholaethol. Cytunodd y Bwrdd i ehangu cwmpas
yr ymweliadau hyn.
1.4
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod mis
Rhagfyr yn amodol ar un newid i baragraff 3.3.
1.5
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar Covid-19 a
chytunodd nad oedd angen unrhyw newidiadau pellach i'r gefnogaeth a ddarperir
i'r Aelodau ar hyn o bryd. Cytunodd y Bwrdd i ofyn i’r Aelodau a grwpiau
cynrychiolwyr staff cymorth yr Aelodau a oedd unrhyw faterion yn codi yn
ymwneud â'r pandemig y dylai'r Bwrdd eu hystyried. Gofynnodd y Bwrdd am gynnwys
amlinelliad o'r gefnogaeth a ddarperir yn y bwletin Cymorth Busnes i’r Aelodau
nesaf.
1.6
Gohiriodd y Bwrdd y drafodaeth ynghylch
ymddiriedolwyr y Bwrdd Pensiynau i'r cyfarfod nesaf.
1.7
Cytunodd y Bwrdd i ystyried yr hysbysiad diogelu
data a phreifatrwydd newydd drwy e-bost.
1.8
Trafododd y Bwrdd ddyddiadau ar gyfer
cyfarfodydd yn y dyfodol y tu hwnt i fis Mai a chytunodd i ystyried cynnal
diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ddechrau mis Gorffennaf 2021.
Camau i’w cymryd:
·
Ysgrifenyddiaeth
i gyhoeddi cofnodion diwygiedig.
·
Ysgrifenyddiaeth
i ofyn i Grwpiau Cynrychiolwyr am eitemau ar gyfer yr agenda.
·
Ysgrifenyddiaeth
i gynnwys trafodaeth ar benodi ymddiriedolwr y Bwrdd Pensiynau yng nghyfarfod
mis Mawrth.
·
Ysgrifenyddiaeth
i ddosbarthu hysbysiad diogelu data a phreifatrwydd newydd drwy e-bost i'w
gymeradwyo.
·
Ysgrifenyddiaeth
i gynnwys dyddiadau y cytunwyd arnynt yn y blaengynllun gwaith.
Cyfarfod: 10/12/2020 - Bwrdd Taliadau (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r bwrdd a’r swyddogion i’r
cyfarfod.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd Dean Beard, Deb Suller, Dan Collier
a Huw Gapper o Gomisiwn y Senedd i’r cyfarfod.
1.3
Derbyniodd y bwrdd gofnodion y cyfarfod ym mis Tachwedd,
fel y’u diwygiwyd.
1.4
Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a
chytunwyd nad oedd yn rhaid gwneud newidiadau ychwanegol i’r cymorth sy’n cael
ei roi ar hyn o bryd.
1.5
Nododd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y
ddeddfwriaeth ynghylch pwerau i ohirio etholiad y Senedd yn 2021 yn ôl yr
angen. Holodd y bwrdd ynghylch effaith gohirio’r etholiad ar y Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Senedd, gan gytuno y dylid trafod y mater hwn mewn rhagor o
fanylder yn ei gyfarfod nesaf.
1.6
Cytunodd y bwrdd ar fân ddiwygiadau i ffurflen y Gofrestr
o Fuddiannau, gan gytuno y dylai’r aelodau geisio llenwi’r ffurflen erbyn y
cyfarfod nesaf.
1.7
Cafwyd cydnabyddiaeth gan y bwrdd fod angen penodi
Swyddog Diogelu Data sy’n annibynnol, sy’n arbenigwr mewn diogelu data, sydd ag
adnoddau digonol ac sy’n adrodd yn ôl i’r lefel reoli uchaf.
1.8
Cytunodd y bwrdd i adolygu ei hysbysiad preifatrwydd i
sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf.
1.9
Cytunodd y bwrdd i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am y
wefan newydd yn ystod y cyfarfod nesaf.
1.10
Trafododd y bwrdd ei flaenraglen waith, gan gytuno i gael
dwy drafodaeth ar wahân ar gynllunio ar gyfer senarios yn y dyfodol.
Camau gweithredu:
·
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y
cyfarfod ym mis Tachwedd.
·
Yr ysgrifenyddiaeth i lunio dogfen i roi
cyngor i’r bwrdd ar ddeddfwriaeth arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch
etholiad y Senedd yn 2021, i’w thrafod yn y cyfarfod nesaf.
·
Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gofrestr o
Fuddiannau ac anfon y fersiwn ddiwygiedig at aelodau’r bwrdd.
·
Yr ysgrifenyddiaeth i adolygu hysbysiad
preifatrwydd y bwrdd a rhoi cyngor i’r bwrdd ar y broses o benodi Swyddog
Diogelu Data.
·
Yr ysgrifenyddiaeth i lunio papurau trafod i
helpu i gynllunio ar gyfer gwahanol senarios yn ystod y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 09/07/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
Cyfarfod: 21/05/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
1.1 Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant.
1.3 Yn amodol ar
destun ychwanegol i baragraff 4.1, cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 2 Ebrill fel
rhai cywir.
1.4 Nododd y
Bwrdd y diweddariad am wariant mewn perthynas â Covid-19 a nifer yr Aelodau
sydd wedi cymryd y Lwfans Gweithio o Gartref. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at
yr Aelodau i'w hatgoffa o'r cymorth sydd ar gael a rhoi sicrwydd iddynt bod y
Bwrdd yn barod i’w cynorthwyo yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cytunodd y Bwrdd i
ystyried diweddariad pellach mewn perthynas â Covid-19 yn y cyfarfod nesaf, gan
gynnwys gwaith paratoi rhag ofn y byddai'n rhaid delio ag ail don o’r feirws.
1.5 Roedd y
Bwrdd hefyd o'r farn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol yn y costau sy'n
gysylltiedig â DSE ar gyfer gweithio o gartref mewn perthynas ag iechyd a
diogelwch gweithwyr. Nododd y Bwrdd y cyngor ar wefan yr Awdurdod Gweithredol
Iechyd a Diogelwch, yn arbennig mewn perthynas â gweithio unigol. Er bod y
Bwrdd yn cydnabod bod gwariant ar deithio gan Aelodau er enghraifft yn llai ac
felly y gallai dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chymorth mewn perthynas â Covid-19,
byddai angen cadw llygad ar hyn. Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn yn bwriadu
cynnal arolwg gyda’r Aelodau i weld a yw eu gofynion o ran offer TGCh yn cael
eu bodloni, a phwysleisiodd ei gyngor y dylai'r Aelodau gaffael offer a
gymeradwyir gan y Comisiwn er y gallai’r gost fod ychydig yn uwch.
1.6 Trafododd y
Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygu Contractau a Llawlyfr Staff Cymorth. Cafodd y
Bwrdd sicrwydd o’r ffaith y cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol gan grwpiau’r
pleidiau a phenaethiaid staff. Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw'r Bwrdd sy’n ei
olynu at y mater hwn yn ei nodyn trosglwyddo.
1.7 Nododd y
Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau diogelwch personol a chytunodd i
drafod gwybodaeth bellach yn ei gyfarfod nesaf. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai
angen cynnwys y mater hwn yn y nodyn trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu.
1.8 Nododd y
Bwrdd ddiweddariad ynghylch apeliadau a gofynnodd am gael tynnu sylw’r Bwrdd at
unrhyw apeliadau ynghylch Covid-19 er gwybodaeth ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
1.9 Nododd y Bwrdd
fod y taliadau goramser ar gyfer aelodau teulu wedi'u cyhoeddi am y tro cyntaf
a chytunodd y dylid eu hystyried adeg y cyhoeddiad nesaf, y flwyddyn nesaf.
1.10 Trafododd y
Bwrdd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu ym mis Medi 2020,
a chytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf.
Camau
gweithredu:
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod
mis Ebrill, yn amodol ar y newid bach a nodir uchod.
-
Paratoi papur i'r Bwrdd ei drafod yn y cyfarfod
nesaf mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir mewn perthynas â Covid-19.
Cyfarfod: 02/04/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 - Papur 1
·
Papur
diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Dros Dro aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dymunodd y Bwrdd yn dda iddi yn
ystod ei habsenoldeb. Dewiswyd Jane Roberts fel Cadeirydd Dros Dro ar gyfer y
cyfarfod hwn.
1.3
Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.4
Roedd
y Bwrdd yn dymuno diolch i swyddogion am drefnu cyfarfod heddiw dan yr
amgylchiadau presennol.
1.5
Cytunodd
y Bwrdd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror yn gofnod cywir.
1.6
Nododd
y Bwrdd ohebiaeth y Comisiwn yn ymwneud â chostau offer swyddfa a ariennir yn
ganolog. Cytunodd y Bwrdd i drafod paper arall ar y mater yn ei gyfarfod nesaf.
1.7
Nododd
y Bwrdd fod y Comisiwn yn adolygu rheolau yn ymwneud â defnyddio adnoddau'r
Cynulliad a nododd y bydd Clerc y Cynulliad yn cysylltu â Chadeirydd y Bwrdd
ynglŷn â’r diwygiadau a gynigiwyd.
1.8
Nododd
y Bwrdd fod y Cynulliad wedi canslo ei gynlluniau i gynnal wythnos o fusnes yng
ngogledd-ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd y gallai ei
benderfyniad blaenorol, y dylai’r nifer gyfyngedig o deithiau dwyffordd gan
staff cymorth a amlinellwyd yn y Penderfyniad gael eu defnyddio rhwng
etholaeth/rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fod yn
gymwys o hyd pe bai'r wythnos yn cael ei haildrefnu.
1.9
Cytunodd
y Bwrdd i drafod y mater hwn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.
1.10 Trafododd y Bwrdd wybodaeth a roddwyd am
Covid-19. Mewn ymateb i newidiadau a wnaed gan y Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y
byddai'n rhesymol darparu lwfans deiliad swydd ychwanegol ar gyfer rôl y Darpar
Lywydd Dros Dro, ond nid rôl Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfod Llawn.
1.11 Gwnaeth y Bwrdd nodi a chytuno ar ei
flaenraglen waith ar gyfer gweddill ei dymor.
1.12 Nododd y Bwrdd y gallai fod yn ofynnol
iddo gynnal ei gyfarfod ym mis Mai drwy ddulliau rhithwir. Cytunodd y Bwrdd
hefyd i adolygu yn nes at y dyddiad a ddylid bwrw ymlaen â’r cyfarfodydd Grŵp Cynrychiolwyr a drefnwyd.
Camau
gweithredu:
-
Yr
Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod mis Chwefror.
-
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi papur ar gostau offer swyddfa a ariennir yn ganolog.
-
Yr
ysgrifenyddiaeth i baratoi opsiynau ar gyfer diogelwch gwybodaeth i'r Bwrdd.
Cyfarfod: 27/02/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Cofnodion
y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020 – Papur 1
·
Papur
diweddaru a’r rhaglen waith – Papur 2
·
Trafod
y llythyr gan y Pwyllgor Busnes – Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro
Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dewiswyd Trevor Reaney yn
Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr.
1.4 Cyn y cyfarfod, cyfarfu'r Bwrdd â'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau a
Grŵp Cynrychiolwyr y staff cymorth, a oedd yn adeiladol ac a groesawyd yn
fawr. Nododd y Bwrdd y byddai materion a godwyd yn y cyfarfodydd hynny yn
llywio ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
1.5 Trafododd y Bwrdd pa adnoddau ychwanegol y gallai eu gweithredu i wneud ei
orau i liniaru unrhyw risg posibl i ddiogelwch staff cymorth wrth iddynt wneud
eu gwaith. Cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais diogelwch personol ychwanegol
ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i'r
Aelodau eu hunain).
1.6 Nododd y Bwrdd y bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd
ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd, ar gyfer yr wythnos hon
yn unig, y gellid defnyddio'r nifer cyfyngedig o deithiau yn ôl a blaen gan
staff cymorth rhwng etholaeth /rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd
ddwyrain Cymru a amlinellwyd yn y Penderfyniad.
1.7 Trafododd y Bwrdd gais gan y Llywydd i ystyried diwygio cyfradd cyflog
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adlewyrchu cynnydd o ran ei
gyfrifoldebau.
1.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd cyflog lefel uwch i
gadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gyfradd hon yn gymwys o 1
Mawrth 2020 tan ddiwedd y Pumed Cynulliad.
1.9 Nododd a chytunodd y Bwrdd ei Flaenraglen Waith am weddill ei gyfnod.
Camau
gweithredu:
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi gwybod
i’r Llywydd am y penderfyniad i dalu rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
ar y gyfradd gyflog lefel uwch ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn.
-
Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y
llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 16/01/2020 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 - Papur 1
·
Papur
diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2
·
Cynllun
Pensiwn Aelodau Cynulliad: Strategaeth buddsoddi– Papur 2a
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd dros dro
Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2
Nododd y Cadeirydd ac aelodau'r
Bwrdd y newidiadau staffio dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn, a chroesawyd Huw
Gapper a Dan Collier.
1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod
21 Tachwedd fel cofnod cywir, yn amodol ar welliant i baragraff 3.13 i
atgyfnerthu bod y Bwrdd wedi ystyried cymariaethau â Seneddau eraill y DU wrth
wneud ei benderfyniad ar lefelau cyflog staff cymorth.
1.4
Nododd y Bwrdd fod Deddf Senedd
Cymru ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac y bydd enw'r
sefydliad yn newid ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru / Welsh Parliament. Nododd y
Bwrdd y bydd ei enw wedi newid i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi hynny.
1.5
Nododd y Bwrdd y bydd Cadeirydd y Bwrdd
yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ddydd Llun
20 Ionawr.
1.6
Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i
gynnal adolygiad anffurfiol o'r llawlyfr i Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i
ystyried papur yn nodi ei ddull o ymdrin â'r adolygiad hwn yn ei gyfarfod
nesaf.
1.7
Cytunodd y Bwrdd i gynnig diwygiad
i'r Weithdrefn Ddisgyblu a Chwyno ar gyfer Staff Cymorth i egluro'r seiliau ar
gyfer apelio. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori'n ffurfiol ag Aelodau a Staff
Cymorth fel rhan o'i lythyr diweddaru ar ôl y cyfarfod.
1.8
Cytunodd y Bwrdd y dylid atgoffa'r
Aelodau fod ganddynt ddyletswydd gofal, fel cyflogwyr, dros eu Staff Cymorth.
Cytunodd y Bwrdd i annog Aelodau i ofyn am gyngor gan adran ddiogelwch Comisiwn
y Cynulliad ar gadw'n ddiogel bob amser.
1.9
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar
Strategaeth Buddsoddi Bwrdd Pensiwn yr Aelodau.
1.10 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor
y gwanwyn.
1.11 Cytunodd y Bwrdd i geisio trefnu cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr ar
gyfer yr un diwrnod â chyfarfod nesaf y Bwrdd.
Camau
gweithredu:
-
Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio a
chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd;
-
Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r
Rhaglen Waith i gynyddu amseriad yr eitem ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched
Cynulliad ar gyfer cyfarfod 2 Ebrill.
- Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y
cyfarfod ym mis Chwefror.
- Yr uned Cymorth Busnes i’r Aelodau i baratoi papur yn nodi cwmpas yr
adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.
- Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn
gynted â phosibl.
-
-
Cyfarfod: 21/11/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r
Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Gan groesawu Lleu Williams, Clerc y
Bwrdd, yn ôl, mynegodd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau iddo.
1.3
Cyflwynodd y Cadeirydd y swyddogion
a ganlyn i bawb yn y cyfarfod: Craig Griffiths, un o gynghorwyr cyfreithiol
Comisiwn y Cynulliad, a Dean Beard, aelod o’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
1.4
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd 19 Medi, yn amodol ar fân newid i baragraff 5.2 i’w wneud
yn fwy darllenadwy.
1.5
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn y Cynulliad.
1.6
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am sefydlu'r Pwyllgor ar Ddiwygio'r Cynulliad.
1.7
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am y broses o benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro,
gan gydnabod y penodiad hwnnw.
1.8
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn ar
Gyfiawnder, sef 'Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru'.
1.9
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am eiriad y Weithdrefn Gwyno a Disgyblu mewn perthynas ag apeliadau
yn dilyn ymchwiliadau annibynnol, ynghyd â chyngor gan ACAS. Cytunodd y Bwrdd y
byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr mewn perthynas
â’r newidiadau arfaethedig i eiriad y weithdrefn, gyda'r bwriad o wneud gwaith
ymgynghori pellach fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y
Chweched Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
1.10 Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn.
Camau
gweithredu:
-
Yr ysgrifenyddiaeth i newid a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 19 Medi.
-
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y
cyfarfod ym mis Ionawr.
-
Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r
Bwrdd ym mis Chwefror 2020.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
- Cyfyngedig 46
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2
Mynegodd y
Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau i Lleu Williams, clerc y
Bwrdd.
1.3
Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019.
1.4
Nododd y
Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng
Nghyfnod 2 o'r broses graffu ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.
1.5
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar y cam nesaf o ran diwygio'r Cynulliad a phenderfyniad y
Cynulliad i sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
1.6
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gyflwyno dyfeisiau diogelwch i Aelodau.
1.7
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar ymchwiliadau annibynnol fel rhan o'r weithdrefn gwyno.
1.8
Nododd y
Bwrdd y diweddariad yn dilyn galw'r Cynulliad yn ôl.
1.9
Gwnaeth y
Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019.
Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2
Diolchodd y
Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Craig Stephenson am eu gwaith yn cefnogi'r
Bwrdd, a dymunodd bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.
1.3
Cytunodd y
Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai.
1.4
Nododd y
Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng
Nghyfnod 1 o'r broses graffu yn y Cynulliad ar hyn o bryd.
1.5
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gam nesaf Diwygio'r Cynulliad.
1.6
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gaffael dyfeisiau diogelwch i Aelodau.
1.7
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar wrandawiad tribiwnlys diweddar a dyfarniad dilynol o ran
contractau ar gyfer staff grwpiau.
1.8
Nododd y
Bwrdd ddiweddariad ar yr archwiliad mewnol diweddar o waith Cymorth Busnes
Aelodau.
1.9
Nododd y
Bwrdd ddiweddariad yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch gan y
Comisiwn.
1.10 Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar
ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
Cam
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mai 2019.
Yr
ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at staff grwpiau yn rhoi gwybod iddynt am effaith
y dyfarniad o ran eu contractau.
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Nododd y
Cadeirydd ymddiheuriadau gan Michael Redhouse a Ronnie Alexander; roedd y ddau
wedi darparu sylwadau ar bapurau cyn y cyfarfod.
1.3
Croesawodd
y Cadeirydd Ruth Hatton i'w chyfarfod cyntaf fel Dirprwy Glerc.
1.4
Cytunodd y
Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019 yn amodol ar fân newid.
1.5
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 1 yn y
Cynulliad ar hyn o bryd.
1.6
Cytunodd y
Bwrdd ar newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn Disgyblu a Chwyno yn dilyn
ymgynghoriad â'r Aelodau a'r staff cymorth. Cytunodd y Bwrdd i roi'r
gweithdrefnau ar waith cyn gynted â phosibl.
1.7
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gaffael larymau diogelwch personol ar gyfer yr Aelodau a
chytunodd i ystyried diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf ar ôl i'r broses
gaffael ddod i ben.
1.8
Cytunodd y
Bwrdd i'r ysgrifenyddiaeth barhau i atgoffa Aelodau Annibynnol a staff cymorth
am y ffyrdd y gallant ymgysylltu â'r Bwrdd a rhannu eu barn ag ef.
1.9
Nododd y
Bwrdd ddiweddariad mewn perthynas ag adnewyddu yswiriant Arferion Cyflogaeth.
Cytunodd y Bwrdd i gael diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf yn dilyn
trafodaethau â Chomisiwn y Cynulliad.
1.10 Nododd y Bwrdd y newidiadau i'r Grwpiau
gwleidyddol yn y Cynulliad dros yr wythnosau diwethaf a chytunodd i fonitro
newidiadau a allai gael effaith ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
Cyfarfod: 21/03/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
- Cyfyngedig 58
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2.
Cafodd y Cadeirydd
ymddiheuriad gan Trevor Reaney. Gwnaeth Trevor sylwadau ar bob eitem cyn y
cyfarfod.
1.3.
Croesawodd y Cadeirydd
Joanna Adams i'r cyfarfod, a fydd yn helpu'r Bwrdd yn ei rôl fel Uwch-bartner
Busnes Aelodau'r Cynulliad.
1.4.
Dywedodd y Cadeirydd wrth
y Bwrdd mai hwn fydd cyfarfod olaf Siân Giddins fel Dirprwy Glerc y Bwrdd. Ar
ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei gwaith dros y ddwy flynedd
diwethaf a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd.
1.5.
Yn amodol ar ddiwygiad
mân, derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2019.
1.6.
Trafododd y Bwrdd
oblygiadau posibl y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ei gylch gwaith a chytunodd i fonitro hynt y Bil
drwy'r Cynulliad.
1.7.
Trafododd y Bwrdd y
diwygiadau i'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn sgil ei benderfyniadau
blaenorol i gyflwyno diwrnodau braint a pholisi absenoldeb tosturiol ffurfiol,
yn ogystal â diwygio'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion. Cytunodd y Bwrdd i
rannu'r polisïau a'r gweithdrefnau â'r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn eu cyflwyno'n
ffurfiol.
1.8.
Nododd y Bwrdd y sylw diweddar
yn y cyfryngau i'r lwfans dirwyn i ben a chytunodd i gynnal y darpariaethau
presennol.
1.9.
Dywedodd yr
ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd, yn dilyn ei benderfyniad i ysgrifennu at yr holl
staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y Cynulliad i ofyn iddynt
ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd, nad oedd consensws wedi'i
gyflawni ynghylch pwy ddylai gynrychioli'r garfan hon o staff. Fel y cyfryw,
cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth berthnasol â'r holl staff o'r fath yn
electronig.
Camau gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol:
-
cyhoeddi nodyn y cyfarfod
ar 17 Ionawr;
-
dosbarthu'r polisïau a'r
gweithdrefnau diwygiedig i'r Grwpiau Cynrychiolwyr;
-
ysgrifennu at yr holl
staff cymorth sy'n gweithio i'r Aelodau annibynnol i'w hysbysu o'i
phenderfyniad.
Cyfarfod: 17/01/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2.
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018.
1.3.
Cydymdeimlodd y Bwrdd â
theulu, ffrindiau a chydweithwyr Steffan Lewis, y cyn Aelod Cynulliad, yn eu
profedigaeth. Diolchodd y Bwrdd i:
- dîm Cymorth Busnes yr Aelodau am y cymorth a’r cyngor y
maent yn parhau i'w gynnig i deulu Steffan a’i staff cymorth;
- yr ysgrifenyddiaeth am roi gwybod i’r Bwrdd am y materion
sy'n codi.
1.4.
Nododd y Bwrdd y
darpariaethau ar gyfer dirwyn swyddfa Steffan Lewis i ben.
1.5.
Cynhaliodd y Bwrdd ei adolygiad
blynyddol o'r holl geisiadau am dreuliau eithriadol yr oedd wedi'u cymeradwyo’n
flaenorol ac, o ystyried bod yr Aelodau wedi’u sicrhau nad oedd eu sefyllfa
wedi newid ers i’r Bwrdd gymeradwyo’r taliadau ychwanegol gyntaf, cytunodd y
dylent barhau i gael y taliadau ychwanegol. Nododd y Bwrdd y bydd nifer a maint
y taliadau eithriadol yn 2018-19 yn cael eu cyhoeddi yn ei adroddiad blynyddol.
1.6.
Cytunodd y Bwrdd i
ysgrifennu at yr holl staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y
Cynulliad i ofyn iddynt ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd.
Camau i’w cymryd:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi nodyn o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd;
- rhoi gwybod i’r holl Aelodau sy'n cael treuliau
eithriadol am benderfyniad y Bwrdd;
- ysgrifennu at staff cymorth Aelodau annibynnol i
ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd.
Cyfarfod: 22/11/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 66
- Cyfyngedig 67
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r
cyfarfod.
1.2.
Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i John Chick
ar ei benodiad diweddar yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Ar ran y Bwrdd, diolchodd
y Cadeirydd i John am ei waith, ei arweiniad a'i gefnogaeth i'r Bwrdd.
1.3.
Dymunodd y Bwrdd longyfarchiadau i Rebecca
Hardwicke ar ei phenodiad i'r rôl y mae John yn ei gadael.
1.4.
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.
1.5.
Datganodd y Cadeirydd fuddiant mewn perthynas
ag eitem dau, gan ei bod yn Gyfarwyddwr anweithredol yng nghwmni Thompson's
Solicitors.
Cam
gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018.
Cyfarfod: 11/10/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 70
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.
1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gylch
gorchwyl y Grŵp Llywodraethiant ar gyfer Cynllun Pensiwn Staff Cymorth
Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod Comisiwn
y Cynulliad wedi enwebu ei Gyfarwyddwr Cyllid i gynrychioli'r Comisiwn ar y
Bwrdd, ochr yn ochr â Phennaeth Pensiynau'r Comisiwn ac aelod o'r Bwrdd
Taliadau.
1.4
Nododd y Bwrdd fod swydd
wag o hyd ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn
sgil ymddiswyddiad Caroline Jones AC o'r rôl. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at
Gomisiwn y Cynulliad, gan ofyn i'r Comisiwn enwebu cynrychiolydd i'r Bwrdd
Pensiynau cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau dilyniant yn yr aelodaeth.
1.5
Nododd y Bwrdd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion perthnasol a
godwyd yn yr ymchwiliad hwn yn ei flaenraglen waith lle bo'n briodol.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.
Cyfarfod: 05/07/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
- Cyfyngedig 75
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2.
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi
cofnodion y cyfarfod ar 24 Mai 2018.
Cyfarfod: 24/05/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 78
- Cyfyngedig 79
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Llongyfarchodd
y Bwrdd Adrian Crompton ar ei benodiad diweddar fel Archwilydd Cyffredinol
Cymru. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd Adrian am ei waith, arweiniad a chymorth
yn ei rôl fel uwch gynghorydd i'r Bwrdd.
1.3
Croesawodd
y Cadeirydd Craig Stephenson i'r cyfarfod, a fydd yn cefnogi'r Bwrdd yn sgil
ymadawiad Adrian.
1.4
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018.
1.5
Trafododd
y Bwrdd y darpariaethau yn y Penderfyniad o ran y treuliau eithriadol a
chytunodd i drafod y mater eto yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf.
1.6
Trafododd
y Bwrdd ei flaenraglen waith a chytunodd i edrych ar y mater eto ar ôl iddo
gytuno ar gwmpas adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Camau
gweithredu:
Yr
ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2018.
Cyfarfod: 15/03/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr.
1.3
Nododd
y Bwrdd y datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystod
y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth ynghylch ei waith ar ddatblygu polisi urddas a
pharch. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau perthnasol ar waith ar gyfer
staff cymorth unwaith y derbyniwyd y polisïau ar gyfer Aelodau er mwyn sicrhau
bod y ddau bolisi yn gyson.
1.4
Cytunodd
y Bwrdd i adolygu sut mae'n ymgysylltu â'r Grwpiau Cynrychioliadol.
1.5
Trafododd
y Bwrdd y dyddiadau cyfarfod dros dro a'r flaenraglen waith ddrafft hyd at fis
Gorffennaf 2020 a chytunodd i edrych ar y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 25/01/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
- Cyfyngedig 87
- Cyfyngedig 88
Cofnodion:
1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Croesawodd
y Bwrdd John Chick, a oedd wedi dychwelyd i'r Cynulliad, i'r cyfarfod. Hefyd,
ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Carys Rees am eu
gwaith ar ran y Bwrdd yn ystod absenoldeb John.
1.3
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion 23 Tachwedd 2017 yn amodol ar fân newidiadau.
1.4
Cytunodd
y Bwrdd i ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn bod y ddeddfwriaeth i newid enw'r
Cynulliad i Senedd Cymru hefyd yn cynnwys darpariaeth i newid enw'r Bwrdd i
“Bwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru”.
1.5
Nododd
y Bwrdd na fyddai ymddiswyddiad Nathan Gill a’r penderfyniad a wnaed na fyddai
ei olynydd, Mandy Jones AC, yn aelod o'r grŵp UKIP yn y Cynulliad yn cael
unrhyw effaith ar y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol.
1.6
Cytunodd
y Bwrdd y dylai aelodaeth Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau’r
Cynulliad gynnwys un aelod o staff cymorth o bob plaid wleidyddol ac un
cynrychiolydd o bob undeb llafur.
1.7
Nododd
y Bwrdd ei ddyddiadau cyfarfod a'r dyddiadau posibl ar gyfer cyfarfodydd y
Grwpiau Cynrychiolwyr.
Camau gweithredu:
Y Bwrdd i:
-
ysgrifennu
at Gomisiwn y Cynulliad yn amlinellu pam yr hoffai newid ei enw;
-
ysgrifennu
at Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn cadarnhau’r
aelodaeth.
Cyfarfod: 23/11/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Rhagarweiniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 91
- Cyfyngedig 92
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am gytuno i gynnal y cyfarfod drwy
gyfrwng telegynhadledd ac am ail-drefnu ei fusnes yng ngoleuni’r digwyddiadau
trasig ar 7 Tachwedd.
1.2 Cafodd y Cadeirydd
ymddiheuriadau gan Jane Roberts nad oedd yn gallu bod yn y cyfarfod ar fyr
rybudd oherwydd amhariad teithio ac felly nid oedd yn gallu cymryd rhan drwy
delegynhadledd. Rhoddodd Jane sylwadau ar bob eitem cyn y cyfarfod.
1.3 Cytunodd y
Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref.
1.4 Bu’r Bwrdd
yn cydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl Sargeant, y cyn Aelod
Cynulliad, yn dilyn eu colled. Diolchodd y Bwrdd i’r canlynol:
-
y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau am y
gefnogaeth a’r cyngor y maent yn parhau i’w darparu i deulu a Staff Cymorth
Carl; a’r
-
ysgrifenyddiaeth am ddiweddaru’r Bwrdd am y
materion sy’n codi.
1.5 Nododd y
Bwrdd y darpariaethau ar gyfer dirwyn i ben swyddfa Carl Sargent.
1.6 Nododd y
Bwrdd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018
- 19, a oedd yn cynnwys dau argymhelliad o ran effaith tanwariant y Bwrdd ar
gyllideb y Comisiwn.
1.7 Rhoddodd y
Bwrdd ystyriaeth i oblygiadau ariannol ail-wampio’r Cabinet yn ddiweddar ar:
-
y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol yng
ngoleuni’r darpariaethau o fewn y Penderfyniad; a
-
y gyllideb gyffredinol yng ngoleuni creu dwy
swydd Weinidogol newydd.
1.8 Nododd y
Bwrdd ddyddiadau ei gyfarfodydd a dyddiadau posibl cyfarfodydd y Grwpiau
Cynrychiolwyr.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 95
- Cyfyngedig 96
- Cyfyngedig 97
Cofnodion:
1.1.
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2.
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 12
Gorffennaf 2017.
1.3.
Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei
gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019.
1.4.
Nododd y Bwrdd:
-
y gwaith a gyflawnwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru i gasglu data ar
gyfer yr ymchwil i'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag sefyll i gael eu hethol i'r
Cynulliad, a'r hyn a fyddai'n eu cymell i wneud hynny; a'r
-
wybodaeth ddiweddaraf am brisiad y terfyn uchaf ar gostau'r cyflogwr, a'r
lwfans blynyddol ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau.
1.5.
Trafododd y Bwrdd y cynigion ar gyfer ei feicrowefan annibynnol ei hun, a
chytunodd arnynt, yn amodol ar rai mân newidiadau. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r
feicrowefan yn rheolaidd yn unol â'i strategaeth ymgysylltu ehangach.
1.6.
Trafododd y Bwrdd yr effaith wrth i Aelod adael grŵp gwleidyddol, gan
ailddatgan y penderfyniad a wnaeth ar 24 Mai 2017 y bydd y Lwfans Cymorth i
Bleidiau Gwleidyddol yn cael ei dyrannu i Aelodau annibynnol.
1.7.
Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at bob Aelod nad yw wedi gweithredu'r camau
diogelwch a nodwyd yn dilyn yr adolygiad o'i swyddfa / swyddfeydd, i annog yr
Aelodau i sicrhau bod y gwaith perthnasol yn cael ei gwblhau. Ar yr un pwnc,
cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr Aelodau i gyd yn gofyn iddynt sicrhau y
cynhelir yr archwiliadau diogelwch perthnasol ar yr holl wirfoddolwyr sy'n
gweithio yn eu swyddfeydd.
1.8.
Trafododd y Bwrdd y goblygiadau ariannol os oes gan Aelodau fwy nag un
swyddfa, a chytunodd i ystyried y mater hwn yn y dyfodol.
1.9.
Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym maes dileu swyddi, a chytunodd i
drafod yn y dyfodol y trefniadau pan fo swyddi'n cael eu dileu wrth
ailstrwythuro swyddfeydd.
1.10. Trafododd y Bwrdd oblygiadau'r
trefniadau ariannu newydd arfaethedig ar gyfer system gweithiwr achos i'r
Aelodau, a chytunodd i ailedrych ar y mater wrth adolygu'r lwfans costau
swyddfa ar gyfer 2018-19.
Camau gweithredu:
Y Bwrdd i:
-
ysgrifennu at Aelodau nad ydynt wedi gweithredu'r camau a nodwyd yn ystod
adolygiad diogelwch eu swyddfa;
- ysgrifennu at yr Aelodau i gyd i
sicrhau y cynhelir yr archwiliad diogelwch perthnasol ar gyfer unrhyw
wirfoddolwyr yn eu swyddfeydd; ac
-
ailedrych ar y materion a nodwyd uchod ar ddyddiadau perthnasol.
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfodydd
a gynhaliwyd ar 11 a 12 Gorffennaf.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 100
- Cyfyngedig 101
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. Ar ran y Bwrdd,
llongyfarchodd y Cadeirydd Ronnie Alexander ar ei benodiad i'r Bwrdd a'i
groesawu i'w gyfarfod Bwrdd cyntaf.
1.2 Croesawodd
y Cadeirydd Lleu Williams, a benodwyd yn Glerc newydd i'r Bwrdd Taliadau.
Hefyd, ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Dan Collier am ei waith i’r
Bwrdd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad diweddar.
1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2017.
1.4 Nododd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd
at fis Mawrth 2019. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r dyddiadau ar gyfer
cyfarfodydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2017.
1.5
Cytunodd y Bwrdd i estyn gwahoddiad ffurfiol i Gadeirydd y Panel Arbenigol ar
Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i'w gyfarfod ym mis Hydref 2017 i drafod y
materion a allai ymwneud â gwaith y Bwrdd yn y dyfodol wrth ddatblygu
Penderfyniad sy'n addas i'r Chweched Cynulliad.
1.6
Dywedodd yr Ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd y byddai papur yn amlinellu'r broses
a ddefnyddir gan Gymorth Busnes yr Aelodau wrth weinyddu hawliadau yn cael ei
ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.
1.7
Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer adolygu diogelwch swyddfeydd a chartrefi'r
Aelodau a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth atgoffa Aelodau am y gwasanaethau sydd
ar gael iddynt.
1.8
Anfonodd y Bwrdd gydymdeimladau at deulu Sam Gould, uwch-gynghorydd Nathan Gill
AC, ac at deulu Ben Davies, dirprwy bennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, yn eu
profedigaeth.
1.9 Nododd
y Bwrdd y cwestiwn a ofynnwyd yn ystod Cwestiynau'r Cynulliad ar 5 Gorffennaf a
chytunodd i ystyried rôl interniaethau cyflogedig gydag Aelodau'r Cynulliad fel
rhan o'i adolygiad ehangach o gymorth i Aelodau
Camau
gweithredu:
Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn
·
cyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai;
·
gwahodd
Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gyfarfod y
Bwrdd ym mis Hydref 2017;
·
paratoi
papur sy'n amlinellu'r broses y mae Cymorth Busnes yr Aelodau yn ei defnyddio
wrth weinyddu hawliadau; ac
·
atgoffa
Aelodau o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt o ran adolygiadau diogelwch.
Cyfarfod: 24/05/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 104
- Cyfyngedig 105
- Cyfyngedig 106
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth
2017.
1.3 Gwnaeth y Bwrdd:
·
nodi ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a'i dyddiadau cyfarfodydd hyd
at fis Mawrth 2018;
·
gohirio penderfyniad i ganslo ei gyfarfod ym mis Hydref 2017 i'w gyfarfod
ym mis Gorffennaf;
·
cytuno i drafod ei ddyddiadau cyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019 y tu allan
i'r cyfarfod ac i gytuno ar y dyddiadau hynny yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis
Gorffennaf.
1.4 Trafododd y bwrdd ganlyniadau'r arolwg boddhad Aelodau’r Cynulliad a
Staff Cymorth blynyddol cyntaf a nodi y gallai rhai o'r canlyniadau fod yn
berthnasol i'w waith ar effeithiolrwydd ac egwyddorion sylfaenol y
Penderfyniad.
1.5 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar yr ymarfer
recriwtio diweddar i benodi aelod newydd o'r Bwrdd.
1.6 Hysbysodd y Cadeirydd y Bwrdd y byddai'n cyfarfod â Chadeirydd y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i drafod unrhyw faterion a allai
fod yn berthnasol i waith y Bwrdd yn y dyfodol o ran datblygu Penderfyniad sy'n
addas ar gyfer y Chweched Cynulliad.
1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod datblygu diffiniad ar gyfer rôl Aelodau’r
Cynulliad a'u staff cymorth i'w gynnwys yn y Penderfyniad.
1.8 Cytunodd y Bwrdd i ystyried y broses y mae Cymorth Busnes i'r Aelodau
yn ei defnyddio i weinyddu hawliadau yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 23/03/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 109
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Fe wnaeth y Fonesig Jane Roberts ddatgan buddiant ar gyfer eitem 3 gan
ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 23 Ionawr 2017 yn amodol ar
fân newidiadau.
1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei
gyfarfodydd hyd nes mis Mawrth 2018.
1.5 Trafododd y Bwrdd gais Rhyddid Gwybodaeth ar ei waith, a chytunodd nad
oedd ganddo wybodaeth ar gyfer y cais.
1.6 Trafododd y Bwrdd y modd y mae Aelodau'r Cynulliad yn defnyddio
gwirfoddolwyr a chytunodd â'r cyngor a roddwyd i'r Aelodau.
1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod nifer y swyddfeydd rhanbarthol ac etholaethol
y gall Aelodau'r Cynulliad eu prydlesu rhywbryd yn y dyfodol.
1.8 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer rhoi cyngor i Aelodau'r
Cynulliad ynghylch contractau prydlesu eu swyddfeydd, a chytunwyd i:
·
ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i nodi ei bryderon ynghylch y mater; ac
·
adolygu'r broses yn ystod ei drafodaethau ynghylch y pumed Penderfyniad.
1.9 Trafododd y Bwrdd y ffordd orau o ymgysylltu â Phanel Arbenigol y
Llywydd ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad o ystyried bod unrhyw un
o'i argymhellion y bydd Comisiwn y Cynulliad am weithredu arnynt yn debygol o
effeithio ar ei waith. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gadeirydd y Panel i
sicrhau bod ganddo gyfle i gyfrannu ar adeg briodol.
1.10 Yn wyneb y cyhoeddiad diweddar gan yr Awdurdod
Safonau Seneddol Annibynnol ynghylch Aelodau'n penodi aelodau o'u teulu,
cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr egwyddor hon yn y dyfodol.
1.11 Cytunodd y Bwrdd i fonitro nifer yr
hawliadau goramser a hawliwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sicrhau
bod yr oriau a wneir yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac y gweithredir
dyletswydd gofal i'r holl staff.
1.12 Cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i'r gyllideb sy'n
weddill o'r adolygiad diogelwch gael ei drosglwyddo i'r flwyddyn
ariannol nesaf ond pwysleisiodd cymaint o frys sydd i holl Aelodau'r Cynulliad
gynnal y gwaith uwchraddio angenrheidiol ar fyrder.
1.13 Cytunodd y Bwrdd i drafod ei strategaeth ar gyfer
ymgysylltu â'r cyhoedd yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
- Cyfyngedig 114
- Cyfyngedig 115
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Tachwedd
2016 yn amodol ar fân newidiadau.
1.3 Nododd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017.
1.4 Cytunodd
y Bwrdd ar ddyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2018.
1.5
Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfodydd gyda'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r
Cynulliad a'r Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad.
1.6
Dywedodd y Fonesig Jane Roberts fod ganddi fuddiant yn eitem 3 gan ei bod yn
aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 118
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016.
1.3
Diolchodd aelodau'r Bwrdd i Gwion Evans sydd wedi symud o'i swydd fel Clerc
y Bwrdd i gefnogi'r Llywydd.
1.4
Dymunodd y Bwrdd y gorau i John Chick hefyd wrth iddo gymryd seibiant gyrfa
am 12 mis.
1.5
Cytunodd y Bwrdd i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf gan y gwasanaeth
Cymorth Busnes i'r Aelodau yn eitem gyntaf yr agenda yng nghyfarfod y dydd.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 121
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)
Cyflwyniad gan y Cadeirydd a dadfriffio
Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Cyfarfod: 03/07/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 127
- Cyfyngedig 128
- Cyfyngedig 129
Cyfarfod: 22/05/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 131
- Cyfyngedig 132
- Cyfyngedig 133
Cyfarfod: 24/04/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o
fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 135
- Cyfyngedig 136
- Cyfyngedig 137
Cyfarfod: 20/02/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o
fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 139
- Cyfyngedig 140
- Cyfyngedig 141
Cyfarfod: 16/01/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 143
- Cyfyngedig 144
Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau o
fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 146
- Cyfyngedig 147
- Cyfyngedig 148
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
• Datganiadau
o fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 151
- Cyfyngedig 152
- Cyfyngedig 153
Cyfarfod: 29/08/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 155
- Cyfyngedig 156
- Cyfyngedig 157
Cyfarfod: 19/06/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Datganiadau
o fuddiant
·
Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20/21 Mawrth 2014 – Papur 1
·
Y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd – Papur 2
·
Gohebiaeth
gan y grŵp Llafur ynghylch arolwg y Bwrdd o Aelodau'r Cynulliad – Papur 3
·
Crynodeb o’r ymatebion i’r arolwg ar gyfer
Aelodau’r Cynulliad – Papur 4
·
Gohebiaeth
gan y Llywydd ynghylch strategaeth Comisiwn y Cynulliad – Papur 5
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 159
- Cyfyngedig 160
- Cyfyngedig 161
- Cyfyngedig 162
- Cyfyngedig 163
- Cyfyngedig 164
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2014 – Papur 3
·
Datgan buddiannau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 166
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’r
cyfarfod.
1.2 Adolygwyd cofnodion y cyfarfod ar 31 Ionawr
2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Cofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2013 - Papur 1a
·
Cofnodion y cyfarfod ar 14/15 Tachwedd 2013 - Papur 1b
·
Datganiadau o fuddiant
·
Adborth o gyfarfodydd ag Arweinwyr y Pleidiau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 169
- Cyfyngedig 170
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Cafodd cofnodion
y cyfarfodydd blaenorol ar 18 Hydref a 14/15 Tachwedd eu hadolygu ac yn dilyn
awgrym i newid teitl Sandy Blair o Gadeirydd Dros Dro i Gadeirydd, cadarnhawyd
eu bod yn gywir.
1.3 Dywedodd yr
Athro Monojit Chatterji bod ganddo fuddiant am ei fod wedi'i benodi yn aelod
lleyg o Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ar gyfer yr Awdurdod Safonau
Seneddol Annibynnol (IPSA) yn ddiweddar. Nid oedd buddiannau eraill i'w datgan.
Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd.
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd yn ôl i’r cyfarfod.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin
2013
·
Datganiadau o fuddiant
·
Trafod y cyfarfod sydd i ddod â Chynghorwyr Annibynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 175
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod a nododd mai hwn oedd cyfarfod
cyntaf y Bwrdd heb Syr George Reid. Roedd y Bwrdd yn falch o nodi bod
llawdriniaeth Syr George Reid wedi bod yn llwyddiannus a’i fod yn gwella’n dda.
Cydnabu’r Bwrdd y rôl bwysig a chwaraewyd gan Syr George Reid yn y Bwrdd
Taliadau, a dymunodd adferiad buan iddo.
1.2 Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro Gareth Price a Dan Collier, a oedd newydd gael eu penodi fel
Clerc a Dirprwy Glerc yn ôl eu trefn, i’r cyfarfod, a dymunai gofnodi ei
werthfawrogiad i’r Clerc a’r Dirprwy Glerc a oedd yn gadael, sef Carys Evans ac
Al Davies, am eu cyfraniadau gwerthfawr i waith y Bwrdd Taliadau.
1.3 Ar ôl eu
hadolygu, cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf, ar 22 Mawrth, yn
gofnod cywir.
1.4 Datganodd y
Cadeirydd Dros Dro fuddiant, oherwydd ei fod wedi’i benodi fel Cadeirydd
Sefydliad Bevan yn ddiweddar, ac mae’r Sefydliad wedi gwneud gwaith ar gyfer
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelodau Cynulliad unigol yn y gorffennol. Nid
oedd buddiannau eraill i’w datgan.
Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Cyflwyniad y Cadeirydd
·
Papur 1- Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2013
·
Datganiadau o fuddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 178
Cofnodion:
1. Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’w
bedwerydd cyfarfod ar bymtheg, a chroesawodd Anna Daniel, a benodwyd yn
ddiweddar fel Pennaeth Trawsnewid Strategol y Cynulliad, y byddai ei thîm yn
cymryd cyfrifoldeb dros ddarparu cymorth ysgrifenyddol i’r Bwrdd maes o law.
2. Ar ôl eu hadolygu, cadarnhawyd bod
cofnodion y cyfarfod diwethaf, ar 22 Mawrth, yn gofnod cywir.
3. Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant.