Cyfarfodydd

P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac, yng ngoleuni ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac mai ychydig yn fwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y mater ymlaen, cytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i:

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ymchwil ar y cyd â Chymdeithas Cadwraeth y Môr a Phrifysgol Abertawe i ymchwilio i’r mater hwn a materion eraill a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd; ac i

·         bwysleisio pwysigrwydd casglu’r wybodaeth berthnasol i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol i fynd i’r afael â’r broblem.

 

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • disgwyl barn y deisebydd;
  • ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar y gwaith a gomisiynodd gan Gadw Cymru'n Daclus ynghylch sbwriel polystyren a'i effaith ar yr amgylchedd ac ar bob math o sbwriel arfordirol yng Nghymru, er mwyn canfod meysydd blaenoriaeth ar gyfer eu gwella; a
  • rhannu'r wybodaeth a gafwyd gan Gyngor Dinas Rhydychen gyda Rob Curtis, y prif ddeisebydd, a Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

 

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ystyried y ddeiseb eto, gan gynnwys a ddylid pwyso ar y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar, unwaith y bydd ymatebion oddi wrth ohebwyr eraill wedi dod i law.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trafod y Sesiwn dystiolaeth o gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2015 - Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i:

 

  • glywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol 
  • gofyn am sesiwn friffio ymchwil ar y costau posibl i fusnesau petaent yn newid o ddefnyddio pecynnau polystyren i ddewisiadau mwy ecogyfeillgar;
  • ysgrifennu at Gyngor Sir Rhydychen yn gofyn am eu barn am y ddeiseb; a
  • thynnu sylw'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:

 

·         Rob Curtis, Deisebydd a Chadeirydd Cyfeillion Traeth y Barri; a

·         Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

 

Cytunodd Rob Curtis i anfon gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y gwaharddiad ar becynnau bwyd polystyren mewn Dinasoedd ar dir mawr Ewrop.


Cyfarfod: 22/01/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Deiseb P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

E&S(4)-02-15 Papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

  • i gyflawni darn o waith ar y ddeiseb;
  • ei fod yn fodlon â'r dull ar gyfer ymdrin â’r gwaith hwn a amlinellir mewn papur gan y Gwasanaeth Ymchwil;
  • i hysbysu Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad am y ddeiseb a'r gwaith yr oedd wedi cytuno ei wneud.

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am eglurhad gan y deisebwr ynghylch a ydynt yn dymuno parhau i ddilyn y mater, o ystyried naws gadarnhaol eu gohebiaeth ddiweddar; ac

·         yn dibynnu ar ymateb y deisebydd, cyflawni ‘darn o waith’ ar y ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

1.   ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb;

2.   cysylltu â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hysbysu am y ddeiseb; a 

3.   rhoi rhagor o ystyriaeth i ymgymryd â gwaith ar y materion a godwyd.