Cyfarfodydd

Bwrdd Pensiynau Aelodau’r Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem i'w thrafod/i'w phenderfynu: Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Bwrdd benodiad Cadeirydd Annibynnol Proffesiynol y Bwrdd Pensiynau. Mae'r penodiad am bedair blynedd a bydd penodiad y Cadeirydd presennol yn dod i ben ym mis Mai 2020.

3.2     Trafododd y Bwrdd ei opsiynau gan gynnwys hysbysebu am benodiad newydd neu ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am bedair blynedd arall.

3.3     Gan nodi perfformiad y Cadeirydd presennol, cytunodd y Bwrdd i ymestyn ei phenodiad am dymor arall o bedair blynedd.

 

Cam gweithredu:

-     Rhoi gwybod i Glerc y Bwrdd Pensiynau am benderfyniad y Bwrdd i ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am bedair blynedd arall.

 


Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)

Eitem i'w thrafod: Ymgynghori ar bensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

6.1        Cynigiodd y Bwrdd newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau ar ôl cael cyngor cyfreithiol ynghylch goblygiadau posibl gwahaniaethu ar sail oedran.

6.2        Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio Rheolau'r Cynllun Pensiwn.

6.3        Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol

 


Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Reolau'r Cynllun Pensiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

2.1        Trafododd y Bwrdd y cyngor cyfreithiol diweddar ar oblygiadau gwahaniaethu posibl ar sail oed yn deillio o nifer o ddarpariaethau yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

2.2        Gan mai'r Bwrdd sy'n gyfrifol am osod rheolau'r Cynllun, cytunodd i wneud rhai newidiadau i'r rheolau gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.

2.3        Cytunodd y Bwrdd hefyd i rannu ei gynigion â'r Bwrdd Pensiynau cyn ymgynghori â rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn yn ddiweddarach yn yr haf.

 


Cyfarfod: 22/11/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem i'w phenderfynu: Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

3.1.      Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer prisio'r terfyn uchaf ar gostau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

3.2.      Cytunodd y Bwrdd i fonitro'r sefyllfa.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses o brisio'r terfyn uchaf ar gostau yn y flwyddyn newydd.


Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem i'w thrafod: Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Lwfans Blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

2.1. Nododd y Bwrdd oblygiadau'r Lwfans Blynyddol sy'n lleihau'n raddol ar y lefel y tâl a geir.

2.2. Dywedodd Donna Davies, Pennaeth Pensiynau yn y Cynulliad, wrth y Bwrdd fod Ieuan Wyn Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru) wedi'i enwebu i fod yn un o gynrychiolwyr yr Aelodau ar y Bwrdd Pensiynau, yn lle Gareth Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru). Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad.


Cyfarfod: 11/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar yr adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.

 

2.2 Cadarnhaodd y Bwrdd eu bod yn fodlon â chyfradd gyfrannu uwch y Comisiwn a chytunwyd i hysbysu Actiwari'r Cynllun, sy'n gosod cyfradd cyfraniad y Comisiwn.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu Actiwari'r Cynllun o safbwyntiau'r Bwrdd.

 


Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Trafod y rolau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Pensiynau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Bwrdd Pensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau sydd wedi'u gosod yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Bwrdd a'r Bwrdd Pensiynau, a chytuno arnynt

 

6.2 Nododd y Bwrdd y byddai'r Bwrdd Pensiynau newydd yn trafod y ddogfen yn ei gyfarfod cyntaf ar 11 Gorffennaf. Caiff y ddogfen hefyd ei gwrth-lofnodi gan Brif Weithredwr y Cynulliad fel Swyddog Cyfrifyddu.

 

6.3 Cytunodd y Bwrdd ar y rhagdybiaethau o ran demograffeg a gaiff eu defnyddio i osod cap ar gostau'r cyflogwr yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad. Bydd y Bwrdd Pensiynau newydd yn trafod y rhagdybiaethau yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf.


Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penodi Bwrdd Pensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

5.1 Penododd y Bwrdd y sawl a fydd yn aelodau ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn ffurfiol:

 

        Jill Youds (Cadeirydd Annibynnol) - ers dechrau'r Pumed Cynulliad

        Gareth Jones (cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru) - ers dechrau'r Pumed Cynulliad

        Mike Hedges (Aelod Cynulliad Llafur) - ers dechrau'r Pumed Cynulliad

        Suzy Davies (Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr a Chomisiynydd y Cynulliad)

        Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad (yn wag ar hyn o bryd, i'w benodi).

 

5.2 Roedd gan y Bwrdd rai amheuon ynghylch penodi aelod o staff Comisiwn y Cynulliad ar y Bwrdd Pensiynau, yn enwedig os byddai sefyllfa'n codi lle bo'n rhaid iddynt wneud penderfyniadau am Aelodau Cynulliad unigol. Cytunodd y Bwrdd i geisio cael trywydd sicr gan y Comisiwn ar y pwynt hwn.

 

 

Camau gweithredu:

 

        Bydd y Pennaeth Pensiynau yn hysbysu Comisiwn y Cynulliad yn ffurfiol o benodiad aelodau'r Bwrdd.

        Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Cynulliad ynghylch cynrychiolaeth Comisiwn y Cynulliad ar y Bwrdd.


Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Cyflwyniad i Gadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau


Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Pensiynau'r Aelodau: Ystyried rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r Cynllun Pensiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 30

Cofnodion:

5.1        Bu'r Bwrdd yn trafod papur a oedd yn nodi'n glir y rolau a'r cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Cynllun Pensiynau newydd fel sail ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng y Bwrdd Pensiynau a'r Bwrdd Taliadau.

 

5.2        Nododd y Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chadarnhaodd ei fod yn fodlon ar sut y câi rôl y Bwrdd Taliadau ei chyflawni mewn egwyddor. 

 

5.3        Cytunodd y Bwrdd y dylid gwahodd sylwadau gan Adran Actiwari’r Llywodraeth a'r Bwrdd Pensiynau newydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r rolau a'r cyfrifoldebau.

 

5.4         Nododd y Bwrdd hefyd y byddai'r Bwrdd yn cael papur ar brisiadau'r terfyn uchaf ar gostau i'w ystyried yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Darpariaeth ar gyfer Cynghorwr Ariannol Annibynnol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 33

Cofnodion:

4.1        Trafododd y Bwrdd bapur yn amlinellu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Donna Davies, Pennaeth Pensiynau Comisiwn y Cynulliad.

 

4.2        Nododd y Bwrdd fod Cynghorwr Ariannol Annibynnol ynghlwm wrth y Cynllun a'i fod yn cael ei dalu gan y Comisiwn ar hyn o bryd am y gwasanaethau a ddarperir a chostau disgwyliedig y gwasanaeth yn y dyfodol, o ystyried na fyddai'n gweithredu ar y sail honno mwyach. 

 

4.3         Bu'r Bwrdd yn trafod adborth staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar y gwasanaeth hwn ac awgrymiadau ar gyfer gwella'r cymorth a roddir iddynt o ran deall eu cynllun pensiwn.  

 

4.4        Nododd y Bwrdd y byddai Comisiwn y Cynulliad yn cynnal adolygiad o Gynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn fuan.

 

4.5         Cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi terfyn ar gontract y Cynghorwr Ariannol Annibynnol presennol.  Yn lle hynny, cytunodd y Bwrdd mai Tîm Pensiynau Comisiwn y Cynulliad ddylai fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â'u pensiynau.

 

4.6        Cytunodd y Bwrdd y dylai'r tîm Pensiynau ysgrifennu at aelodau a'u staff er mwyn egluro'r newid a chadarnhau'r trefniadau newydd.

 

Cam gweithredu:

 

·         Y Pennaeth Pensiynau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd wrth weithredu'r ddarpariaeth newydd ynghylch cyngor ar bensiynau i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. 

 


Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)

Y diweddaraf am bensiynau Aelodau'r Cynulliad a'r camau nesaf

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 36

Cyfarfod: 03/07/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad: Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, ac effaith gwahaniaethu cyflog ar bensiynau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38
  • Cyfyngedig 39
  • Cyfyngedig 40

Cyfarfod: 22/05/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)

Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Adolygu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 42

Cyfarfod: 24/04/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Adolygiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44
  • Cyfyngedig 45

Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)

Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Llywodraethu gorau ar gyfer rhoi'r cynllun pensiwn ar waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cyfarfod: 29/08/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)

Trefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 49
  • Cyfyngedig 50
  • Cyfyngedig 51

Cyfarfod: 19/06/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Materion i'w penderfynu a chasgliad: Pensiynau

·        Adolygiad o'r gwaith hyd yma a chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad – Papur 10, Atodiad

·        Trafod y ddogfen ymgynghori ar drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad – Papur 11, Atodiad

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53
  • Cyfyngedig 54
  • Cyfyngedig 55
  • Cyfyngedig 56
  • Cyfyngedig 57
  • Cyfyngedig 58

Cyfarfod: 09/04/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)

Ymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol - Ebrill 2014

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 60

Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Materion i benderfynu ac ymgynghori yn eu cylch: Pensiynau

·         Adolygiad o'r gwaith hyd yn hyn – Papur 5

·         Trefniadau llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad – Papur 6

 

Egwyl

 

·         Adroddiad cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co – Papur 7

·         Cytuno ar y dogfennau ymgynghori terfynol ac ar yr ymgynghoreion – Papur 8

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 62
  • Cyfyngedig 63
  • Cyfyngedig 64
  • Cyfyngedig 65

Cofnodion:

Adolygiad o'r gwaith hyd yma

 

3.1     Trafododd y Bwrdd ei gynnydd o ran gweithredu trefniadau pensiwn addas ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad, a chytunodd ar ddogfen ymgynghori gyhoeddus, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill. Dyma fyddai'r rhan gyntaf mewn ymgynghoriad dwy ran, yn ceisio barn rhanddeiliaid am y cynllun yn gyffredinol. Bydd ail ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ceisio barn am gynllun mwy manwl.

 

Trefniadau Llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad

 

3.2     Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i ymgynghori ag Ymddiriedolwyr ynghylch trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynllun newydd.

 

Adroddiad cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co.

 

3.3     Croesawodd y Bwrdd Paul Carberry, Cyfarwyddwr, a Hannah Beacham, Uwchgyfreithiwr, Grŵp Adnoddau Dynol, Wragge & Co. i'r cyfarfod.

3.4     Ystyriodd y Bwrdd adroddiad cyfreithiol terfynol Wragge & Co. a chytunodd ar ei gynnwys.

Dogfennau ymgynghori terfynol ac ymgyngoreion

3.5     Trafododd y Bwrdd y dogfennau ymgynghori drafft ar drefniadau pensiwn yr Aelodau, a ddarparwyd gan Carys Evans a Richard Bettley. Cytunodd y Bwrdd y byddai modd cyflwyno'r ymgynghoriad ar bensiynau wedi mân newidiadau a awgrymwyd gan Mary a Stuart.


Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Pensiynau

·         Adolygu'r gwaith hyd yma  – Papur 4a

·         Ystyried cynigion ar gyfer cynllun newydd - Papurau 4b a 4c

·         Opsiynau ymgynghori - Papur 4d

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 68
  • Cyfyngedig 69
  • Cyfyngedig 70
  • Cyfyngedig 71

Cofnodion:

Adolygiad o'r gwaith hyd yma (Papur 4a)

 

4.3     Nododd y Bwrdd y gwaith hyd yma ar y trefniadau pensiwn newydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

 

Ystyried cynigion ar gyfer cynllun newydd

 

4.4     Croesawodd y Cadeirydd Paul Carberry a Hannah Beacham o Wragge & Co a gwahoddwyd hwy i gyflwyno eu drafft o'r adroddiad cyfreithiol ar y trefniadau pensiwn arfaethedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad o fis Ebrill 2015.

 

4.5     Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Mark Packham o PwC a gwahoddwyd ef i gyflwyno'r adroddiad cynghorol actiwaraidd cychwynnol.

 

Holodd y Bwrdd Wragge & Co a PwC am eu hadroddiadau.

Cam i’w gymryd:

 

·         Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trafod y trefniadau llywodraethu ar gyfer unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig gyda'r cynghorwyr cyfreithiol.

 

Opsiynau ar gyfer ymgynghori

 

4.6     Nododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan Carys Evans a Richard Bettley yn cynnig opsiynau ar gyfer ymgynghoriad y Bwrdd ar drefniadau pensiwn yr Aelodau. 

 

4.7     Trafododd y Bwrdd opsiynau ymgynghori, gan gynnwys pa randdeiliaid i ymgynghori â hwy, a dull a strwythur yr ymgynghoriad.

 

4.8     Cytunodd y Bwrdd ar broses ymgynghori dau gam.  Byddai'r cam cyntaf ym mis Ebrill/Mai yn canolbwyntio ar y materion ehangach, ac yna cyflwynir cynnig manylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Briff gan y cynghorwyr cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 3 – cyngor gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 4 – dogfen dendro gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 5 – PwC - cyngor actiwaraidd

·         Papur 6 – Strawman - prif delerau cynllun pensiwn newydd arfaethedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 74
  • Cyfyngedig 75
  • Cyfyngedig 76
  • Cyfyngedig 77
  • Cyfyngedig 78
  • Cyfyngedig 79

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Paul Carberry, Prif Bartner; Helen Beacham, Uwch Gyfreithiwr, y Grŵp Adnoddau Dynol; a Kevin Milton, Cyfreithiwr Cyswllt o Wragge & Co. Cyflwynwyd eu cynigion ar gyfer darparu trefniadau pensiwn Aelodau’r Cynulliad.

 

3.2     Bu’r Bwrdd yn holi Wragge & Co am eu cynigion.

 

3.3     Cytunodd y Bwrdd ar y materion a ganlyn:

        Trafododd aelodau’r Bwrdd gynigion Wragge & Co, a phwysleisiwyd, gan y byddai unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig yn gynllun bach, y byddai angen trefniadau ar gyfer terfyn cost uchaf, i atal costau rhag cynyddu’n ormodol;

        O gofio y byddai unrhyw gynllun newydd yn debygol o fod o’r un ysbryd â’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd yn debygol na fyddai cynllun cyflog terfynol yn addas ar gyfer trefniadau pensiwn yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd fod angen i’r cynllun fod yn gadarn, a bod angen iddo fod wedi’i ddiogelu rhag unrhyw broblemau ariannol byd-eang posibl;

 

3.4     Byddai’r Bwrdd yn gofyn am gyngor ynghylch cynnal Asesiad o Effaith unrhyw gynigion ar Gydraddoldeb. Dylid cynnal un Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ar y pecyn taliadau yn ei gyfanrwydd yn nes ymlaen.

 

3.5     Nododd y Bwrdd Taliadau fod y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys camau Diogelu Trosiannol dros 10 mlynedd, a chytunodd y byddai’n edrych yn fanwl ar ba mor briodol oedd yr amserlen hon o gofio beth yw hyd cyfnodau’r Cynulliad. Nodwyd bod yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol wedi dewis cael gwarchodaeth drosiannol am 10 mlynedd ar gyfer Aelodau Seneddol.

 

3.6     Nododd y Bwrdd y rhestr o faterion a ddarparwyd gan Wragge & Co, a chytunodd ei bod yn rhoi darlun cywir o’r materion a oedd dan sylw hyd yma.

 

3.7     Cytunodd Wragge & Co i roi gwybodaeth i’r Bwrdd am gasgliadau’r adroddiad ar dreuliau Aelodau Seneddol, yr oedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol erbyn diwedd 2013.

 

3.8     Cytunodd Wragge & Co i ddarparu cwestiynau i’r Bwrdd y byddai modd i Drysorlys Ei Mawrhydi eu hateb.

 


Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad - Adolygiad o waith a gyflawnwyd hyd yma

·         Papur 2 – Nodyn gan staff y Comisiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 82

Cofnodion:

2.1     Yn dilyn cynnal proses gaffael drylwyr a manwl, dewisodd y Bwrdd Taliadau y cwmni Wragge & Co i ddarparu cyngor cyfreithiol ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref.

 

2.2     Trafododd y Bwrdd y datganiad dull a ddarparwyd gan PwC, a phenodwyd y cwmni hwnnw’n ffurfiol i ddarparu cyngor actiwaraidd ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

 

2.3     Nododd y Bwrdd fod Adran Actiwari’r Llywodraeth wedi cael ei chadarnhau ar gyfer costio unrhyw gynigion.

 

2.4     Cytunodd y Bwrdd y dylai Mary a Stuart barhau i arwain y gwaith ar drefniadau pensiwn i sicrhau bod modd gwneud cynnydd rhwng cyfarfodydd y Bwrdd.

 

2.5     Nododd y Bwrdd y bydd angen i unrhyw drefniadau pensiwn gydymffurfio mewn ysbryd â Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, hyd yn oed lle nad yw’r Ddeddf ei hun yn gymwys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2.6     Cytunodd y Bwrdd y byddai angen iddynt gwrdd â swyddogion o Drysorlys Ei Mawrhydi, i ofyn am eglurhad ar rai materion, gan gynnwys llywodraethu.

 

2.7     Bu’r Bwrdd yn trafod y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau a ganlyn:

o        Cadw’r cynllun pensiwn presennol;

o        Symud tuag at gynllun Enillion Cyfartalog Gyrfa
wedi’u Hail-werthuso (CARE);

o        Symud tuag at gynllun o fath arall, er enghraifft, cynllun balans arian.

 

2.8     Cytunodd y Bwrdd, pa bynnag opsiwn a ddewisir, y byddai’n bwysig ystyried y goblygiadau posibl o ran y gost a’r risgiau i gostau, o newid o gynllun pensiwn cyflog terfynol, yn benodol, mewn perthynas â hawliau sefydliedig a hawliau cronnus, (hynny yw, buddion pensiwn sydd wedi cronni hyd at y dyddiad y bydd unrhyw drefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith).

 


Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Trafod y camau nesaf

Cofnodion:

4.1     Ystyriodd y Bwrdd y drafodaeth â Wragge & Co, a thrafododd y camau nesaf yn y broses o ddarparu trefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

 

4.2     Penodwyd PwC yn ffurfiol gan y Bwrdd fel cynghorwyr actiwaraidd ar y trefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, a nodwyd y byddai cyfarfod â chynrychiolwyr o PwC yn cael ei gynnal erbyn diwedd mis Tachwedd.

 

4.3     Byddai’r Bwrdd yn gwneud cais i PwC gyfrif cyfradd gyfraniadau y cyflogwr/cyflogai.

 

4.4     Cytunodd y Bwrdd y dylai’r materion a ganlyn gael eu codi gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi:

 

  • Materion llywodraethu;
  • eu gofynion;
  • hyblygrwydd i gydymffurfio â deddfwriaeth;
  • rhagor o fanylion am y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus;
  • Goblygiadau Deddf Llywodraeth Cymru (2006) a’r Mesur Taliadau (2010);
  • Rhagor o wybodaeth am derfynau uchaf costau;
  • Rhagor o wybodaeth ynghylch a ddylid ymgynghori â rheoleiddiwr pensiynau ai peidio.

 

Camau i’w cymryd:

  • Yr ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn gofyn am y cyngor a ddarparwyd gan Wragge & Co mewn perthynas â dyfodol prif bensiwn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i ystyried goblygiadau cyfreithiol yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac ymateb i Wragge & Co;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi nodyn ar ganlyniadau terfynau ariannu uchaf mewn cynlluniau pensiwn;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod â Thrysorlys Ei Mawrhydi cyn gynted â phosibl.

 


Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Pensiynau

·         Papur 4 - Y camau nesaf

-        Atodiad A: Ymatebion

-        Atodiad B: Adroddiad PwC

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 87
  • Cyfyngedig 88
  • Cyfyngedig 89
  • Cyfyngedig 90

Cofnodion:

23.     Trafododd y Bwrdd yr Adolygiad o bensiynau Aelodau’r Cynulliad, a chydnabu y byddai heb amheuaeth, yn rhannol, yn cael ei lywio gan yr ymgynghoriad IPSA yn San Steffan, sydd i’w gynnal yn ddiweddarach y mis hwn.

 

24.     Trafododd Aelodau’r Bwrdd effaith y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar ei drafodaethau ar drefniadau pensiwn Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol.

 

25.     Ystyriodd y Bwrdd y prosesau a’r amseru o ran yr Adolygiad, a’r gwaith rhagbaratoawl y byddai angen iddo ei gyflawni. Fel cam gweithredu cychwynnol, cytunodd y Bwrdd i:

i)        Ddiweddaru Ymddiriedolwyr Pensiwn y Cynulliad ynghylch cynlluniau arfaethedig y Bwrdd, a thrafod cost debygol y cyngor cyfreithiol a’r trefniadau wrth gefn y byddai’n ofynnol iddo eu gwneud. Byddai hefyd yn trafod yr awgrym ynghylch defnyddio cynllun caffael y Llywodraeth ar y cyd â phroses dendro o bosibl.

ii)       Ysgrifennu at y Trysorlys i nodi beth yw ei fwriadau cychwynnol ar gyfer yr Adolygiad ac egluro materion yn ymwneud â chymeradwyaeth gan y Trysorlys i unrhyw gynllun newydd pe baent yn penderfynu dilyn y trywydd hwn.

iii)      Cynnal ymarferiad caffael i benodi cynghorwyr actiwaraidd a chynghorwyr cyfreithiol dros doriad yr haf, yn y gobaith y byddent yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd yn yr hydref.  Byddai hyn yn cynnwys cysylltu â’r Ymddiriedolwyr ynghylch y graddau y gallai’r Bwrdd weithio gydag Adran Actiwari’r Llywodraeth, a fu’n cynghori Ymddiriedolwyr y cynllun presennol.