Cyfarfodydd
Blaenraglen waith - y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/02/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
ARAC (23-01)
Papur 10 - Y flaenraglen waith
11.1 Trafodwyd y
flaenraglen waith, a chafodd aelodau newydd eu hannog i awgrymu eitemau yr
hoffent eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
11.2 Croesawodd y
Cadeirydd awgrym gan Menai, sef y dylai’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y
rhaglen Ffyrdd o Weithio fod yn eitem sefydlog ym mhob cyfarfod, ochr yn ochr
â’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Diwygio’r Senedd.
11.3 Yn ogystal,
gofynnwyd i'r tîm Clercio drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor
yr hydref.
Camau
i’w cymryd
·
Darparu
diweddariadau corfforaethol ar y broses o gyflawni’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio
ym mhob cyfarfod ARAC, ochr yn ochr â’r diweddariadau corfforaethol ar
Ddiwygio’r Senedd.
·
Y
tîm Clercio i drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 12 - Y flaenraglen waith
16.1 Nodwyd y
flaenraglen waith, y bydd cael ei rhannu y tu allan i'r pwyllgor i wahodd
sylwadau.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
ARAC (22-03) Paper 10 – Forward Work Programme
ARAC (22-03) Papur 10 - Y flaenraglen waith
11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau arfaethedig i’w
trafod yn y cyfarfod anffurfiol ym mis Gorffennaf. Byddai blaenraglen waith
ddiwygiedig yn cael ei rhannu a’i chyhoeddi ar ôl y cyfarfod hwnnw.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 14 – Blaenraglen waith
19.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chadarnhaodd
y tîm clercio y byddai dyddiad ar gyfer y cyfarfod yn nhymor yr hydref yn cael
ei drefnu yn fuan.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 12 – Blaenraglen waith
15.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.
15.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r risgiau diogelu
data yn cael eu harchwilio'n feirniadol yng nghyfarfod mis Ebrill. Ychwanegodd
y byddai'r cyfarfod ym mis Gorffennaf yn cael ei gadw ar gyfer trafodaethau
strategol a bod eitem ar yr agenda ar newid hinsawdd eisoes wedi'i nodi.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 21)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 12 –
Blaenraglen waith
21.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a gofynnodd y
Cadeirydd i Strategaeth yr Ystâd a'r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu gael
eu rhannu y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Y flaenraglen waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
ARAC (03-21) – Papur 16 – Blaenraglen waith
11.1
Anogodd y Cadeirydd
aelodau'r Pwyllgor i awgrymu eitemau i’r agenda ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol. Yng nghyfarfod mis Gorffennaf, byddai
Fframwaith Sicrwydd wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno yn ogystal ag eitem i
drafod ymgysylltu â'r Comisiwn newydd i benderfynu ar eu teimladau o ran risg.
11.2
Awgrymodd aelodau'r
Pwyllgor y dylid ystyried ymgysylltu â'r canlynol, gan gynnwys yr opsiwn o
bresenoldeb posibl mewn cyfarfodydd yn y dyfodol:
·
Archwilydd Cyffredinol
Cymru
·
Y Comisiynydd Safonau
·
Cadeirydd y Bwrdd
Taliadau
·
Arbenigwyr mewn
seiberddiogelwch a seilwaith TG.
Awgrymwyd hefyd y
dylid rhannu gwybodaeth am y gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar yr ystâd yn
ogystal â'r strategaeth llety yn y dyfodol gyda'r Pwyllgor, gan gynnwys y
trafodaethau sydd ar y gweill ar brydles Tŷ Hywel.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 16 – Blaenraglen waith
20.1
Nid oedd y Pwyllgor am wneud unrhyw newidiadau i’w
flaenraglen waith.
21.0 Eitem 20 – Unrhyw fater arall
Eitem
lafar
21.1
Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Roedd swyddogion
Archwilio Cymru yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat ag aelodau’r Pwyllgor ar
ôl i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chafodd unrhyw gofnodion eu cadw.
Disgwylir
i’r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 18 Mehefin 2021.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Y flaenraglen waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
16.1 Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw newidiadau
i'w gwneud i raglen waith y Pwyllgor.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Y flaenraglen waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
ARAC (05-20)
Papur 10 - Y flaenraglen waith
16.1 Byddai'r eitem
hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Y flaenraglen waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 13 - Y flaenraglen waith
16.1 Gan na thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r
Pwyllgor yn cael eu gwahodd i wneud sylwadau y tu allan i'r pwyllgor.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27
Ebrill 2020.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 11 - Y flaenraglen waith
18.1 Gan na
thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i roi
sylwadau y tu allan i'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
ACARAC (04-19) Papur 5 - Y flaenraglen waith
6.1 Er y byddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf
am y meysydd blaenoriaeth a amlinellir yn eitem 5 uchod fel mater o drefn,
cytunwyd y byddai'r eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y flaenraglen
waith i'w hystyried:
·
y wybodaeth ddiweddaraf am gynllunio senarios
ar gyfer Brexit yng nghyfarfod mis Hydref;
·
y
wybodaeth ddiweddaraf am brofi ymatebion i ddigwyddiadau seiberddiogelwch fel
rhan o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd yng nghyfarfod mis Hydref;
·
gwerthuso'r trefniadau a’r strwythur
llywodraethu newydd, h.y. y bwrdd gweithredol a'r tîm arweinyddiaeth;
·
adborth ar ddatblygu strategaethau cyfathrebu
ac ymgysylltu'r Comisiwn, gan gynnwys ystyriaethau gan REWAC.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ystyried sesiwn ar y cyd â REWAC i drafod sut y gallent hwy, ac arbenigwyr
allanol o bosibl, ychwanegu gwerth at ddatblygu strategaethau cyfathrebu ac
ymgysylltu’r Comisiwn.
6.3 Gofynnodd y Cadeirydd i'r
aelodau gyfrannu unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau pellach at y flaenraglen
waith.
6.4 Cytunwyd bod cyflwyniad a
gafwyd mewn cyfarfod pwyllgor gan Ganolfan Lywodraethu Cymru yn flaenorol wedi
bod yn ddefnyddiol o ran rhoi persbectif allanol ar y sefyllfa wleidyddol, a
chytunodd y Cadeirydd i ystyried cael cyflwyniad tebyg ar gyfer cyfarfod yn y
dyfodol.
7.0
Unrhyw fater arall
7.1 Gofynnodd Nia am farn
aelodau'r pwyllgor am feysydd a oedd yn debygol o gael eu codi pan fyddai’n
bresennol mewn sesiwn dystiolaeth yn y Pwyllgor Cyllid sydd ar ddod ynghylch
Deddf Archwilio'r Cyhoeddus (Cymru), yn enwedig o ran gosod ffioedd archwilio.
7.2 Trafododd y pwyllgor osod ffioedd archwilio
yn gyffredinol ar draws y sector cyhoeddus a disgrifiodd Gareth Lucey y broses
ar gyfer gosod ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn. Cadarnhaodd y
byddent yn parhau i edrych ar ffyrdd o ostwng y ffi ymhellach, er y cytunwyd
bod hyn yn anodd oherwydd yr effeithlonrwydd a gyflwynwyd eisoes. Cadarnhaodd
hefyd fod yr archwiliadau mewnol o dreuliau Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal ag
archwiliadau mewnol eraill, wedi helpu i gadw'r costau i lawr.
7.3
Ychwanegodd Gareth Watts, er bod y cwmpas i
ddibynnu ar archwilio mewnol yn gyfyngedig, roedd y protocol gweithio ar y cyd
rhwng y Comisiwn a'r SAC wedi helpu i wneud y mwyaf o'r ddibyniaeth honno ac
osgoi dyblygu.
7.4
Diolchodd
y Cadeirydd i aelodau'r pwyllgor a'u swyddogion am eu presenoldeb a'u
cyfraniadau.
8.0
Sesiwn breifat
8.1
Bu Gareth Lucey mewn sesiwn breifat gydag
aelodau'r pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd
cofnodion yn ystod y sesiwn hon.
Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 21 Hydref 2019.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 15 - Y flaenraglen waith
14.1
Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor
gyflwyno unrhyw sylwadau ar y flaenraglen waith cyn ei gyfarfod â'r tîm
clercio.
14.2
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor a'u
swyddogion am eu presenoldeb a'u cyfraniadau.
Bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf ar 15 Gorffennaf.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
ACARAC
(02-19) Papur 17 - Y flaenraglen waith
14.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith
ddiwygiedig a chytunodd i'r tîm clercio ad-drefnu sesiwn breifat gyda Swyddfa
Archwilio Cymru.
Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 17
Mehefin 2019.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Y flaenraglen waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 15 - Y flaenraglen waith
14.1
Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor
gadarnhau eu bod ar gael ar gyfer cyfarfod yr hydref ar 21 Hydref 2019 ac i
gysylltu â'r tîm clercio ynghylch eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd yn
y dyfodol.
Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 25 Mawrth
2019.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
15.1
Byddai hyn yn destun newid yn dibynnu ar
awgrymiadau gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd.
Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 11 Chwefror
2019.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
ACARAC (04-18) Papur 7 -
Y flaenraglen waith
9.1
Croesawodd y Pwyllgor y
flaenraglen waith a gofynnodd i’r tîm Clercio sicrhau bod rhaglen gynefino
wedi’i chynllunio/wedi’i sefydlu ar gyfer aelodau newydd ACARAC.
Trefnwyd y byddai’r
cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 26 Tachwedd 2018.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Y
flaenraglen waith
12.1
Trafododd y Pwyllgor yr
eitemau a restrir ar y flaenraglen waith ar gyfer mis Gorffennaf.
12.2 Byddai'r tîm clercio yn rhannu agenda ddrafft gydag aelodau'r Pwyllgor cyn
gynted ag y bo modd.
13.0
Sesiwn breifat
13.1 Roedd Manon Antoniazzi yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat gydag aelodau'r
Pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn
ystod y sesiwn hon.
Trefnwyd i gynnal y
cyfarfod nesaf ar 9 Gorffennaf 2018.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 20)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Y flaenraglen waith
20.1 Cytunodd y
Pwyllgor i ychwanegu'r eitemau canlynol i'r agenda ar gyfer cyfarfod mis
Gorffennaf: sylwadau gan Keith ar ei rôl fel Cynghorydd Annibynnol i'r
Comisiwn; diweddariad ar Ddiwygio'r
Cynulliad, Brexit, a Llety; canlyniad yr ymchwiliad i
Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau; a chyflawni amcanion yr Adolygiad Capasiti. Byddai'r
tîm clercio yn diweddaru ac yn dosbarthu'r flaenraglen waith ddiwygiedig.
21.
Sesiwn breifat
21.1 Roedd
Gareth Watts yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat gydag aelodau'r Pwyllgor
unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y
sesiwn hon.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 13 - Y flaenraglen waith
11.1
Nododd
y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.
11.2
Roedd
y Cadeirydd am atgoffa'r Prif Weithredwr y byddai ei gyfnod fel Cadeirydd ac
Ymgynghorydd Annibynnol, yn ogystal â rôl Keith Baldwin fel Ymgynghorydd
Annibynnol ac aelod o'r Pwyllgor, yn dod i ben ym mis Hydref 2018.
11.3
Yn
y cyfarfod, cytunwyd i ychwanegu'r eitemau a ganlyn:
-
Pennaeth TGCh a Phennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau i gyflwyno
eitem ar Ddiogelwch Seiber yng nghyfarfod mis Ebrill.
-
Dave i gyflwyno'r meini
prawf blaenoriaethu ar gyfer prosiectau/rhaglenni yng nghyfarfod mis
Ebrill.
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i
weithio gyda'r swyddogion a'r Cadeirydd i benderfynu pa eitemau y gellir eu
cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf.
12.0
Sesiwn breifat
12.1
Bu Swyddfa Archwilio Cymru yn bresennol mewn sesiwn
breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni
chymerwyd cofnodion o’r cyfarfod.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 20 - Y flaenraglen waith
16.1
Nododd
y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.
Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 5 Chwefror 2018.
Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Blaenraglen Waith
Cofnodion:
ACARAC
(04-17) Papur 7 - Y flaenraglen waith
6.1
Nodwyd y
flaenraglen waith ac y byddai'n cael ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor.
6.2
Yn olaf, soniodd y
Cadeirydd am ei gyflwyniad o adroddiad blynyddol ACARAC mewn cyfarfod diweddar
Comisiwn y Cynulliad ddydd Llun 17 Gorffennaf.
Croesawyd yr adroddiad gan y Comisiynwyr ac roeddent yn falch o weld
ansawdd a chanlyniadau adroddiadau archwilio, a'r ffocws ar ddiogelwch
seiber.
6.3
Roedd hefyd wedi
tynnu sylw at yr angen i gasglu ac adrodd ar gynnydd prosiectau a rhaglenni
drwy'r adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol.
Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 27
Tachwedd 2017.