Cyfarfodydd
Adroddiad Archwilio Mewnol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/06/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd o ran gweithgarwch archwilio mewnol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
ARAC (23-03) Papur 3 - Adroddiad diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd
3.1 Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad
diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd a oedd yn amlinellu gweithgarwch
llywodraethu, sicrwydd ac archwilio ers cyfarfod mis Chwefror. Amlinellodd y
gwaith a oedd wedi’i gwblhau fel a ganlyn:
· Roedd y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol bellach wedi’i gwblhau a’i ymgorffori yn yr
Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon.
· Roedd
gwaith maes ar gyfer yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol ac
archwiliadau o’r risg sy’n gysylltiedig â’r fframwaith rheoleiddio ac o barhad
busnes hefyd wedi’u cwblhau, a byddai’r adroddiadau’n cael eu rhannu maes o
law.
· Cyflwynodd
Gareth a Kathryn eitem ar risg mewn cyfarfod diweddar o’r Tîm Arwain.
Gwahoddwyd Penaethiaid Gwasanaeth i asesu rheolaeth risgiau ar draws pob maes
gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â rhaglenni a phrosiectau. Cafwyd
trafodaeth ddefnyddiol ynghylch risgiau a ddaliwyd ar gofrestr risg y Comisiwn,
y parodrwydd i dderbyn risg a sganio’r gorwel.
3.2 Diolchodd Gareth i Clare James, Archwilio
Cymru am ddiweddaru’r Protocol Cydweithio, a oedd wedi’i ddosbarthu i’r
Pwyllgor.
3.3 Cyn iddo adael, roedd Gareth yn bwriadu
cwblhau archwiliad o fewn Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd, sy’n ymwneud â’r
Broses Penodiadau Cyhoeddus. Croesawodd y Pwyllgor hyn a’i annog i gynnwys
cyfweliadau ag unigolion sy’n mynd drwy’r broses, er mwyn canfod eu safbwynt
nhw ar y broses.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad diweddaraf Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 8 - Gwersi a Ddysgwyd -
Covid 19
8.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad ar y Gwersi
a Ddysgwyd o Covid-19 a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni busnes y Senedd, effeithiolrwydd
llywodraethu a lles staff.
8.2 Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad hwn a
nododd yn benodol effeithiolrwydd y grŵp Adrodd a Monitro am Covid (CRAM),
rheolaeth ddynamig o risg, a’r defnydd o dechnoleg ac arloesedd i alluogi
arferion parhad busnes cryf.
8.3 Roedd y Pwyllgor yn annog swyddogion i
ganolbwyntio’n barhaus ar lesiant staff, a meithrin cysylltiadau a
pherthnasoedd mewnol o fewn y sefydliad, ac roedd yn cydnabod yr heriau o
gydbwyso hyblygrwydd a thegwch. Mae’r Pwyllgor hefyd yn annog swyddogion i fod
yn ymwybodol o agweddau ymarferol fel effeithlonrwydd ynni.
8.4 Cyfeiriodd Mark at bleidleisio drwy
ddirprwy fel enghraifft o’r Senedd yn arwain y ffordd yng ngwleidyddiaeth
Prydain yn ystod y pandemig a chwestiynodd y rheolaethau sydd ar waith i
sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau, o ystyried bod yr arfer hwn i barhau.
Roedd Manon yn deall y risgiau posibl a rhoddodd sicrwydd bod y rheolaethau
cywir ar waith.
8.5 Croesawodd Manon adborth y Pwyllgor.
Amlinellodd sut roedd rheolwyr yn delio â’r heriau a achosir gan amrywiadau
mewn patrymau gwaith tra’n cynnal tegwch gyda’r timau hynny, fel Diogelwch a
Phrofiad Ymwelwyr, yr oedd angen iddynt fod ar y safle, a hyblygrwydd i dimau
eraill a oedd yn gallu gweithio’n effeithiol o bell. Roedd hi hefyd yn cydnabod
yr angen am ryngweithio personol, yn enwedig ar gyfer aelodau newydd o’r tîm ac
ar gyfer gweithgareddau datblygu staff. Byddai hyn i gyd yn cael ei ystyried
fel rhan o’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio.
8.6 Amlinellodd adroddiad Gareth fod model
hybrid bellach wedi’i hen sefydlu gyda phatrymau gweithio hyblyg yn cyd-fynd ag
anghenion y busnes. Roedd cyfarfodydd tîm ‘yn y cnawd’ achlysurol wedi dod yn
nodwedd o nifer o gynlluniau llesiant mewn gwasanaethau ar draws y Comisiwn.
8.7 Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad hwn
sy’n llawn gwybodaeth a chredai ei bod yn bwysig peidio â cholli golwg arno gan
fod y sefydliad wedi ymdrin â’r pandemig mewn ffordd mor rhyfeddol.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Polisïau Twyll a Chwythu'r Chwiban
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 7 - Chwythu’r Chwiban a
Thwyll 2023 - diweddariadau
ARAC (23-02) Papur 7 – Atodiad A – Polisi
Chwythu’r Chwiban
ARAC (23-02) Papur 7 – Atodiad B – Polisi
Llygrell Twyll a Llwgrwobrwyo – 2023
ARAC (23-02) Papur 7 - Atodiad C - Cynllun
Ymateb i Dwyll – 2023
7.1 Cyflwynodd Gareth ei ddiweddariad
blynyddol ar bolisïau Chwythu’r Chwiban a Thwyll y Comisiwn. Dywedodd na
dderbyniwyd unrhyw ddatgeliadau mewnol o dan gylch gorchwyl ein Polisi
Chwythu'r Chwiban yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, ond nododd fod yna ddulliau
eraill y gallai staff godi pryderon megis gweithdrefnau a pholisïau disgyblu a
chwyno.
7.2 Cyfeiriodd Gareth at y cyfeiriad yn ei
bapur at yr awgrym o ail-frandio’r Polisi Chwythu’r Chwiban fel ‘Codi Llais’
a’r rhesymeg dros wneud hynny. Gofynnodd am farn y Pwyllgor.
7.3 Croesawodd y Pwyllgor drafodaeth ar hyn ac
roedd yn teimlo bod fod y term ‘chwythu’r chwiban’ mor adnabyddus fel y gallai
ei newid, er bod hynny mewn ymdrech i’w symleiddio, arwain at ddryswch a cholli
dealltwriaeth o’i ystyr. Byddai angen i unrhyw newid hefyd sicrhau ei fod yn
cysylltu’n glir â'r ddeddfwriaeth ar chwythu’r chwiban (h.y. Deddf Datgelu er
Budd y Cyhoedd). Nododd aelodau’r Pwyllgor hefyd fod angen i’r polisi gydbwyso
hawliau’r rhai sy’n cwyno yn erbyn y rhai sy’n wynebu honiadau. Roeddent hefyd
yn cwestiynu sut yr oedd y polisi presennol yn cael ei gyfleu i staff.
7.4 Credai Manon fod diwylliant y sefydliad yn
golygu bod staff yn gyfforddus i godi pryderon a chwynion ond croesawodd awgrym
y Pwyllgor i ystyried cynnwys cwestiwn priodol ar ddealltwriaeth o drefniadau
chwythu’r chwiban mewn arolwg staff yn y dyfodol.
Cam gweithredu
·
Y Comisiwn i adolygu’r polisi Chwythu’r
Chwiban eto yn yr hydref yn sgil adolygiad Llywodraeth y DU.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 6 - Adroddiad Blynyddol ar
Dwyll
6.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad, gan nodi
nad oedd hyn yn ofyniad o'r PSIAS ond yn arfer da gan ei fod yn rhoi lefel
bellach o sicrwydd ar amgylchedd rheoli’r Comisiwn. Dywedodd Gareth, yn ystod
2022-23, na ddaeth unrhyw achosion i’w sylw o weithgarwch twyllodrus
gwirioneddol neu a amheuir o ran arian parod, lwfansau a threuliau neu ddwyn
asedau.
6.2 Roedd cynllun archwilio 2022-23 yn cynnwys
yr archwiliadau penodol canlynol a oedd yn ystyried risgiau posibl o dwyll fel
rhan o’r gwaith cwmpasu: Rheolaethau Ariannol Allweddol; Treuliau Aelodau a
Lwfansau Adsefydlu; a Gwersi a Ddysgwyd – Covid 19.
6.3 Parhaodd Tîm Cyllid y Comisiwn i chwarae
rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth a derbyniodd hyfforddiant rheolaidd gan
Fanc Barclays yn ogystal â darparwyr eraill. Anogwyd cydlynwyr cyllid o bob
rhan o’r Comisiwn i fynd i’r sesiynau hyn hefyd.
6.4 Yn ogystal â hyfforddiant staff,
defnyddiodd Gareth nifer o ffynonellau sicrwydd megis y partner archwilio
mewnol a gontractiwyd yn allanol ac Archwilio Cymru, a rannodd gwybodaeth am
weithgarwch twyll â Chomisiwn y Senedd.
6.5 Ar 30 Mawrth 2023, cyhoeddodd Swyddfa
Archwilio Genedlaethol y DU adroddiad ar fynd i’r afael â thwyll a llygredd yn
erbyn y Llywodraeth. Yn y misoedd nesaf byddai Gareth yn asesu’r adroddiad hwn
ac yn ystyried unrhyw bwyntiau dysgu sy’n berthnasol i’r Comisiwn.
6.6 Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol
ar Dwyll a diolchodd i Gareth amdano.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 5 - Adroddiad Blynyddol a
Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-23
5.1 Cyflwynodd Gareth ei Adroddiad Blynyddol a
Barn a nododd y gall y Swyddog Cyfrifyddu gymryd sicrwydd cymedrol bod y
trefniadau i sicrhau bod gwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol,
wedi'i gynllunio a'i gyflawni’n effeithiol.
5.2 Tynnodd Gareth sylw at y sicrwydd
sylweddol a ddarparwyd gan yr archwiliad o reolaethau ariannol allweddol a oedd
yn arbennig o foddhaol o ystyried y system gyllid newydd, effaith Covid a maint
y gwaith. Soniodd hefyd am y berthynas waith gadarnhaol ac aeddfed gyda
chydweithwyr, gan gynnwys y rhai sy’n delio â threuliau Aelodau a
seiberddiogelwch.
5.3 Gwnaeth yr adolygiad o argymhellion
archwilio heb eu gweithredu o flynyddoedd blaenorol nodi un argymhelliad nad
oedd wedi’i weithredu eto. Roedd hyn mewn perthynas ag amlygrwydd a gwelededd
risgiau a materion prosiectau a rhaglenni a byddent yn cael eu hailystyried yn
yr adolygiad archwilio a gaiff ei gynnal yn 2023-24. Roedd hyn yn arbennig o
berthnasol o ystyried y rhaglenni a’r prosiectau trawsnewid mawr parhaus ac
roedd Gareth yn cydnabod y byddai’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar y
rhain.
5.4 Byddai Kathryn Hughes, fel Rheolwr Risg y
Comisiwn, yn gweithio gyda rheolwyr rhaglen a phrosiect i’w cefnogi i reoli
risg. Roedd Kathryn wedi rhoi adborth ar gofrestr risg Rhaglen Diwygio’r
Senedd, a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor ei bod wedi’i strwythuro’n dda ar
gyfer ei chyflwyno i fwrdd y rhaglen. Byddai hefyd yn adolygu cofrestr risg y
rhaglen Ffyrdd o Weithio ac anogodd y Pwyllgor hi i sicrhau cysondeb rhwng y
ddwy raglen hyn.
5.5 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a
Barn Gareth, a dywedodd bod y farn gymedrol yn darparu lefel dda o sicrwydd.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cydymffurfiad y Siarter Archwilio Mewnol ac Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 4 – papur cwmpasu'r Siarter
Archwilio Mewnol
ARAC (23-02) Papur 4 – Atodiad A - Siarter
Archwilio Mewnol 2022
4.1 Dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor fod
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i
bob gweithgaredd archwilio mewnol weithredu a chadw ‘Siarter Archwilio Mewnol’.
Cyflwynodd ei Siarter i’r Pwyllgor, er mwyn rhoi diffiniad ffurfiol o ddiben,
awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio Mewnol.
4.2 Yn unol â PSIAS, roedd Gareth wedi
adolygu’r Siarter ar gyfer 2023-24 ac wedi cadarnhau nad oedd angen unrhyw
newidiadau i’r fersiwn a gymeradwywyd gan y Pwyllgor ar gyfer 2022-23.
Cadarnhaodd hefyd na fu unrhyw ddiwygiadau pellach i PSIAS ers 1 Ebrill 2017.
4.3 Eglurodd Gareth mai argymhelliad PSIAS
oedd cynnal Asesiad Ansawdd Allanol (EQA) ar wasanaethau archwilio mewnol bob
pum mlynedd. Cynhaliwyd yr asesiad
diwethaf yn 2017-18. Adolygodd Archwilio Cymru hefyd waith archwilio mewnol fel
rhan o’u trefniadau archwilio eu hunain ac nid oedd wedi codi unrhyw
bryderon.
4.4 Roedd Gareth wrthi’n cynnal ei
hunanasesiad ei hun yn erbyn y safonau a fyddai’n cael eu gwirio’n annibynnol
fel rhan o’r Asesiad Ansawdd Allanol nesaf. Cafodd hyn ei ohirio oherwydd y
pandemig a newidiadau staff yn y deddfwrfeydd eraill, yr oedd wedi sefydlu
gweithgor gyda nhw cyn cynnal yr asesiadau. Eglurodd Gareth, gan nad oedd
unrhyw awydd am adolygiad allanol gyda CIPFA na Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol,
yn rhannol oherwydd y gost, ei fod yn archwilio trefniadau amgen ac y byddai’n
gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor ar y dull i’w fabwysiadu. Rhoddodd sicrwydd
ychwanegol trwy gadarnhau bod y partneriaid archwilio mewnol blaenorol a
phresennol i gyd wedi sgorio'n uchel iawn yn eu Hasesiadau Ansawdd Allanol eu
hunain.
4.5 Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am ei
ddiweddariad a’i annog i sicrhau bod trefniadau ar waith i gynnal Asesiad
Ansawdd Allanol mewn pryd ar gyfer ei olynydd ac i barhau i gymryd rhan yn y
rhwydweithiau deddfwriaethol.
4.6 Dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor fod
ymgynghoriad ar y gweill ar Safonau Archwilio Mewnol byd-eang, a oedd yn rhan o
Fframwaith Arferion Proffesiynol Rhyngwladol. Roedd y safonau newydd yn debygol
o ddod i rym erbyn dechrau 2024. Byddai arweinydd archwilio mewnol CIPFA wedyn
yn gosod safonau sector cyhoeddus y DU a oedd yn debygol o ddod i rym ym mis
Ebrill 2025. Cytunodd Gareth i lunio crynodeb o’r safonau archwilio mewnol
newydd cyn iddo adael.
4.7 Cymeradwyodd y Pwyllgor y Siarter
Archwilio Mewnol ar gyfer 2023-24 yn ffurfiol, gan nodi nad oedd unrhyw
newidiadau o ran sylwedd.
Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd a wneir ar weithgarwch archwilio mewnol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
ARAC (23-02) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd
3.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd a oedd yn amlinellu gweithgarwch llywodraethu, sicrwydd
ac archwilio ers cyfarfod mis Chwefror. Amlinellodd y gwaith canlynol a gafodd
ei gwblhau:
· yn
dilyn sesiwn her y datganiad sicrwydd ym mis Mawrth, yr aeth Aled Eirug a Bob
Evans iddi, roedd fersiwn ddrafft o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi
cael ei pharatoi a’i rhannu â’r Pwyllgor;
· roedd
ei adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau wedi’i
gyhoeddi, ac roedd lincs wedi’u rhannu â'r Pwyllgor, ynghyd ag ymateb y Bwrdd;
· cafodd
yr adroddiad ar yr adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd o Covid-19 ei gynnwys yn y
papurau ar gyfer y cyfarfod hwn.
3.2 Amlinellodd Gareth hefyd y cynnydd
canlynol ar waith archwilio parhaus, y byddai adroddiadau arnynt yn cael eu
rhannu â’r Pwyllgor maes o law:
· roedd
gwaith maes ar Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol wedi'i gwblhau i
raddau helaeth ac roedd y tri chyfarwyddwr a chyfwelwyd ag aelod o dîm yr
ysgrifenyddiaeth;
· cynhaliwyd
cyfweliadau â staff y Comisiwn fel rhan o adolygiad o’n trefniadau parhad
busnes;
· roedd
yr adolygiad o reolaethau yn ymwneud â risg corfforaethol y fframwaith
rheoleiddio a oedd yn mynd rhagddo.
3.3 Roedd dilyniant i argymhellion yr
archwiliad o archwiliadau seiberddiogelwch blaenorol hefyd wedi’i gwblhau.
Roedd seiberddiogelwch yn eitem sylweddol yng nghyfarfod mis Mehefin ac roedd
Gareth yn bwriadu dosbarthu ei ddiweddariad cyn y cyfarfod.
3.4 Roedd Gareth wedi dosbarthu ei gynllun
Archwilio Mewnol ar gyfer 2023-24 i aelodau’r Pwyllgor ar 30 Mawrth. Roedd y
cynllun hwn yn cwmpasu pob un o’r tair cyfarwyddiaeth a meysydd risg allweddol.
Gwnaeth yr aelodau groesawu a chymeradwyo cynllun 2023-24.
3.5 Gofynnodd Menai Owen-Jones a oedd yna
hefyd strategaeth archwilio dros nifer o flynyddoedd. Eglurodd Gareth ei fod
wedi llunio dogfen strategaeth ar gylch tair blynedd yn flaenorol, a
chyfeiriodd at ddadl barhaus ar ôl y pandemig yn y proffesiwn archwilio mewnol
ynghylch gwneud strategaethau a chynlluniau archwilio yn fwy deinamig ac
adweithiol. Roedd yn ymwybodol bod rhai sefydliadau’n llunio cynlluniau
chwarterol yn hytrach nag yn flynyddol. Ychwanegodd mai ei ddull o ddewis oedd
cael un ddogfen gan ddileu dyblygu, a’i fod yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â
strategaeth mewn dogfennau eraill, megis y Siarter Archwilio Mewnol.
3.6 Roedd Mark Egan yn deall yr angen am
hyblygrwydd ond gofynnodd sut yr oedd Gareth yn sicrhau bod pob maes archwilio
yn cael sylw dros gyfnod o dair neu bedair blynedd. Eglurodd Gareth y
manteision o gael Pennaeth Archwilio Mewnol mewnol yn hyn o beth, gan ei fod yn
gallu sicrhau cwmpas ar draws y sefydliad trwy drafodaethau gyda Chyfarwyddwyr
a Phenaethiaid Gwasanaeth a chymhwyso ei wybodaeth am risgiau sylweddol.
Cytunodd Gareth i lunio amlinelliad o adolygiadau archwilio mewnol a gynhaliwyd
dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i’w gyflwyno yng nghyfarfod yr hydref.
Byddai hyn yn rhoi sicrwydd a dealltwriaeth i’r Pwyllgor o’r ymagwedd at
strategaethau a chynlluniau archwilio mewnol yn y dyfodol.
3.7 Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei ddiweddariad sylweddol a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 13/02/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd a wneir ar weithgarwch archwilio mewnol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
ARAC (23-01)
Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
3.1 Rhoddodd
Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch archwilio a gweithgarwch
llywodraethu ehangach. Diolchodd i Kathryn Hughes am ei gwaith ar reoli’r
broses o gael sicrwydd gan bob rhan o’r Comisiwn, a fydd yn cael ei fwydo i
mewn i Ddatganiad Llywodraethu 2022-23. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys addasu'r
dull o fapio sicrwydd, yn unol â’r arferion gorau sy’n dod i'r amlwg. Bu’r
cyfarwyddwyr yn adolygu'r datganiadau sicrwydd ar lefel gwasanaeth, a chafodd
datganiadau’r Cyfarwyddiaethau eu cyflwyno i Manon i'w hadolygu. Nodwyd y
byddai Aled a Bob yn darparu her annibynnol ynghylch Datganiadau Sicrwydd y
Cyfarwyddwyr yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 13 Mawrth.
3.2 Mewn cyfarfod
a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, gwnaeth Gareth gyflwyniad i’r Bwrdd Taliadau
Annibynnol ynghylch ei ganfyddiadau yn deillio o’r Adolygiad o Effeithiolrwydd
y Bwrdd. Bwriad y Bwrdd oedd cyhoeddi’r adroddiad ym mis Ebrill. Roedd hefyd
wrthi’n gweithio ar adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol (EB). Roedd
dadansoddiad bwrdd gwaith cychwynnol wedi'i gynnal gan Kathryn Hughes a
Victoria Paris, a nodwyd y byddai Gareth yn ymgysylltu ag aelodau o’r Bwrdd
Gweithredol a rhanddeiliaid perthnasol.
3.3 Roedd yr
archwiliad ynghylch y Rheolaethau Ariannol Allweddol wedi cael ei gwblhau cyn
ymadawiad y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Pennaeth Cyllid. Rhannwyd yr adroddiad â'r
Cadeirydd, a nodwyd y byddai'n cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor. Roedd
Gareth hefyd wrthi’n cwblhau adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil
COVID-19.
3.4 Roedd
Victoria a Gareth wedi cwrdd â Haines Watts er mwyn pennu cwmpas archwiliadau
ar barhad busnes a seiberddiogelwch, a fyddai'n dechrau ym mis Mawrth. Roedd gwaith wedi dechrau ar gynllun
archwilio mewnol 2023-24, a chafwyd trafodaethau gyda chydweithwyr a Haines
Watts. Roedd Gareth yn falch o adrodd bod rhywun wedi cysylltu ag ef parthed
cynnal archwiliad posibl yn y Gyfarwyddiaeth Busnes. Nododd y byddai'n trafod y
mater ag aelodau perthnasol y Bwrdd Gweithredol.
3.5 Yn olaf,
dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod yn cefnogi'r tîm Cyllid o ran
sicrhau bod yr archwiliad diwedd blwyddyn mor llyfn â phosibl. Bydd yn darparu
her archwilio, ynghyd ag adolygiad o’r broses, yn dilyn archwiliad prawf ym mis
10.
3.6 Ymatebodd y
swyddogion fel a ganlyn i nifer o gwestiynau penodol a ofynnwyd gan aelodau'r
Pwyllgor:
i.
Cytunodd Gareth i
rannu linc i'r adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau
Annibynnol pan gaiff ei gyhoeddi, a nodwyd y byddai'r Pwyllgor yn trafod yr
argymhellion yn y dyfodol.
ii.
Cadarnhaodd Gareth
fod Haines Watts, y partner archwilio mewnol a gaiff ei ariannu ar y cyd, wedi
cynnal yr archwiliad ynghylch y rheolaethau ariannol allweddol, a nodwyd y
byddai'n cynnal yr archwiliadau sydd i ddod ynghylch parhad busnes a
seiberddiogelwch.
iii.
Nodwyd y byddai
Gareth yn dosbarthu ei adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil
COVID-19 i aelodau’r Pwyllgor fel mater o drefn. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn
cael ei rannu â’r Pwyllgor Taliadau.
iv. Eglurodd Gareth y rheswm dros ohirio'r adolygiad ynghylch y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 4 – Cynllun Ieithoedd Swyddogol (‘y cynllun’)
5.1 Croesawodd y
Pwyllgor Mair Parry-Jones a Sarah Dafydd i'r cyfarfod.
5.2 Arweiniwyd y drafodaeth
gan Aled Eurig, gan ganolbwyntio ar fonitro cydymffurfiaeth â'r Cynllun,
sgiliau, dysgu, y broses gynefino a’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Comisiwn y
Senedd a’i defnydd gan Aelodau a'u staff cymorth.
5.3 O ran monitro
cydymffurfiaeth â'r cynllun, disgrifiodd Sarah Dafydd y gwaith sydd ar y gweill
gan y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen i gryfhau'r systemau sydd yn eu lle. Bydd y gwaith hwn yn
cynnwys trafod sut y gellir gwneud mwy o ddefnydd o gydgysylltwyr y Gymraeg ym
mhob maes gwasanaeth a chysylltu â Chomisiwn y Gymraeg a Llywodraeth Cymru i
rannu syniadau ac arferion da.
5.4 Amlinellodd
Sarah hefyd sut y byddai’r bobl sy’n dymuno dysgu Cymraeg yn gallu nodi hyn ar
y Cofnod Datblygiad Personol (PDR), a phwysleisiodd yr angen i reolwyr llinell
ddeall yr ymrwymiad amser sy’n gysylltiedig â hyn. Bu tîm y cynllun hefyd yn
gweithio gyda meysydd gwasanaeth ac Aelodau a'u staff i ddadansoddi anghenion
dysgu a nodi'r dulliau addysgu gorau i ddiwallu anghenion y dysgwyr. Nododd y
Pwyllgor y dull gweithredu cefnogol, yn hytrach na'r defnydd o dargedau ar
gyfer dysgwyr, gan fod anghenion pawb yn wahanol a bod staff uwch yn wynebu
rhwystrau posibl o ran gwneud cynnydd oherwydd cyfyngiadau amser. Bydd y tîm
hefyd yn llunio Cynllun Hyder i annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio
eu sgiliau.
5.5 Nododd Ken
Skates y cynnydd amlwg yn y defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, sydd yn ei dro yn
debygol o gynyddu'r niferoedd sy’n defnyddio ac yn dysgu’r Gymraeg. Nododd
swyddogion fod y galw wedi cynyddu a bod Aelodau'n mynd ati'n rhagweithiol i
ofyn i'r tiwtoriaid am help i ddysgu neu loywi sgiliau.
5.6 Cododd Ann
Beynon bwynt cysylltiedig ynghylch sicrhau bod y di-Gymraeg neu ddysgwyr yn
gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn gweithio mewn amgylchedd dwyieithog ac yn
deall hunaniaeth a diwylliant Cymru. Nodwyd bod hyn yn cael ei drafod yn ystod
y broses gynefino a’r gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth a monitro
cydymffurfiaeth â'r cynllun.
5.7 Wedyn,
gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer
cyfarfodydd dwyieithog. Er ei bod bellach yn dechnegol bosibl defnyddio'r
cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams, dywedodd Arwyn fod TGCh
wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i brofi ei effeithiolrwydd a'i
ddibynadwyedd. Bydd y cyfleuster hwn wedyn yn cael ei brofi ymhellach yn ystod
cyfarfodydd mewnol cyn trafod a ddylid ei ddefnyddio ar gyfer busnes ffurfiol.
Ychwanegodd Arwyn fod y defnydd o Zoom ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog wedi
cynyddu ers i’r cwmni wella ei nodweddion diogelwch.
5.8 Roedd Mair am
nodi ei diolch i Sarah Dafydd a'i thîm am eu gwaith ac am y cynnydd sydd wedi’i
wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan bwysleisio llwyddiant y tîm wrth
ymgorffori'r cynllun fel ‘busnes arferol’ yn y sefydliad.
5.9 Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am yr adroddiad archwilio ac i Sarah a Mair am eu cyfraniadau. Roedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad diweddaru ar Lywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys cynnydd ar weithgaredd Archwilio Mewnol)
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
4.1 Rhoddodd
Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am waith archwilio a gweithgarwch
ehangach o ran llywodraethu. Roedd y wybodaeth hon yn ategu’r diweddariad a
roddodd i aelodau'r Pwyllgor ar 26 Hydref.
4.2 Nododd Gareth
ei ddiolch i Kathryn Hughes a'r tîm am gwblhau’r holl gyfarfodydd 'Mae
Llywodraethu o Bwys' gyda phob Pennaeth Gwasanaeth ac am ddiweddaru a chyhoeddi
templedi a chanllawiau ar gyfer cofnodi sicrwydd. Roedd y canllawiau wedi'u
gwella i'w gwneud yn fwy eglur o ran cofnodi sicrwydd corfforaethol. Roedd y
broses hefyd wedi'i haddasu i ymgorffori arfer gorau sy'n dod i'r amlwg drwy
brosiect "edau euraidd" o dan arweiniad Trysorlys EM ac Asiantaeth
Archwilio Mewnol y Llywodraeth. Nododd y Pwyllgor nad oedd y prosiect wedi codi
unrhyw bwyntiau i'r Comisiwn ddysgu oddi wrthynt a'i fod wedi rhoi sicrwydd
ychwanegol bod arferion gorau wedi'u dilyn. Hefyd, nodwyd bod dull gweithredu’r
Comisiwn yn cael ei rannu â sefydliadau eraill. Gallai hyn helpu i lywio arfer
gorau fel rhan o brosiect y Llywodraeth.
4.3 Rhoddodd
Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am weithgarwch arall yn y maes hwn,
fel a ganlyn:
a. roedd ef a'i dîm wedi cwblhau ymarfer bwrdd gwaith i lywio adolygiad o
effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Arwain a fyddai'n cael ei drafod ag
aelodau’r ddau grŵp
yn ystod yr wythnosau nesaf;
b. roedd wedi cwblhau adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau
Annibynnol ac wedi rhannu ei adroddiad drafft â Siwan Davies ac Anna Daniel cyn
ei drafod gyda'r Cadeirydd;
c. roedd wedi mynd i gynhadledd ddiweddar Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Cymru, lle trafodwyd risgiau byd-eang a risgiau
ledled y DU, gan nodi nad yw materion seiber bellach wedi’u nodi ymhlith y deg
risg uchaf - cynigiodd rannu ei nodiadau a'i sleidiau ag aelodau'r Pwyllgor;
d. roedd contract partner archwilio mewnol y Comisiwn, a gomisiynwyd ar y
cyd, wedi'i ddyfarnu i Haines Watts am y pedair blynedd nesaf (roedd y
gwasanaeth hwn wedi'i gynnig gan TIAA am yr wyth blynedd diwethaf) ac roedd y
cwmni bellach wedi cwblhau ei archwiliad cyntaf, gan ganolbwyntio ar y
Rheolaethau Ariannol Allweddol. Roedd Gareth yn gobeithio rhannu’r adroddiad ar
y archwiliad cyntaf hwn cyn y Nadolig;
e. roedd wedi cwblhau ei archwiliad o dreuliau'r Aelodau heb unrhyw
argymhellion, a nododd y byddai'n gweithio gyda thîm Cymorth Busnes yr Aelodau
ar oblygiadau trethiant i Aelodau yn y dyfodol.
4.4 Ychwanegodd
Gareth ei fod wedi trafod cwmpas adolygiad ymgynghorol a fydd yn cael ei gynnal
gan Haines Watts ym maes parhad busnes, gan ddefnyddio arbenigedd a
dealltwriaeth helaeth y cwmni yn y maes hwn. Bydd yr archwiliad sicrwydd
seiber-ddiogelwch yn cael ei gynnal gan Haines Watts hefyd, a bydd yr adroddiad
perthnasol yn cael ei rannu y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor. Cyfeiriodd hefyd
at ei waith arfaethedig ar sicrwydd o ran y risgiau sy’n gysylltiedig â’r
Fframwaith Rheoleiddio.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd - Mehefin 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a
Sicrwydd - Mehefin 2022
3.1 Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am
weithgarwch llywodraethu a sicrwydd cyffredinol. Roedd wedi dosbarthu’r
adroddiad dilynol ar archwiliadau seiberddiogelwch blaenorol y tu allan i’r
pwyllgor a diolchodd i aelodau’r Pwyllgor am eu cwestiynau yr oedd wedi’u
hanfon ymlaen at swyddogion perthnasol i’w hateb. Roedd yn bwriadu rhannu’r
adroddiadau ar yr archwiliad seiberddiogelwch diweddaraf a’r archwiliad
cydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn yr wythnosau nesaf.
3.2 Cadarnhaodd Gareth fod yr ymarfer tendro ar gyfer y
partner archwilio mewnol a gaiff ei rannu ar y cyd yn mynd rhagddo. Roedd yn
falch o ddangos tystiolaeth o gyflwyniadau cyflenwyr o’r profiad archwilio yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae disgwyl i’r contract newydd ddod i rym ar 1
Awst 2022.
3.3 Holodd y Pwyllgor ym mha ffyrdd yr oedd nifer y
contractau a ddyfarnwyd i gyflenwyr o Gymru yn cael eu mesur a’u hadrodd yn ôl.
Byddai Gareth yn gweithio gyda’r Pennaeth Caffael i drafod sut y gallai hyn
ymgorffori effaith economaidd Cymru ar gyflenwyr yn hytrach na phresenoldeb yng
Nghymru.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Yr adroddiad Archwilio Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 7 – Dirwyn Swyddfeydd Aelodau i ben
8.1 Cyflwynodd Gareth ei adroddiad archwilio mewnol. Nod yr
archwiliad hwn oedd asesu’r gweithdrefnau a’r rheolaethau oedd ar waith
ynghylch diddymu’r Senedd ar gyfer etholiad 2021 gan ganolbwyntio’n benodol ar
yr Aelodau hynny o’r Senedd a oedd yn ymddiswyddo neu heb gael eu hail-ethol yn
yr etholiad. Roedd hefyd yn sôn am yr heriau ychwanegol o ganlyniad i’r
pandemig ar wasgaru asedau. Cofnododd Gareth ei ddiolch i'r timau Cymorth
Busnes i’r Aelodau a TGCh am eu cydweithrediad yn ystod yr archwiliad.
8.2 Roedd yr adolygiad yn edrych ar y canllawiau, y
broses, a’r gweithdrefnau a oedd ar waith yn ystod y cyfnod diddymu, a thynnodd
sylw at y materion arwyddocaol a nodwyd, neu’r gwersi a ddysgwyd. Er nad oedd
unrhyw argymhellion ffurfiol wedi’u codi, nododd Gareth nifer o faterion y
gallai'r Comisiwn fod eisiau eu hystyried ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
8.3 Nododd a chroesawodd y Pwyllgor yr adroddiad manwl ac
roeddent wedi’u plesio gan ba mor drylwyr oedd yr adroddiad. Cofnododd
aelodau'r Pwyllgor eu canmoliaeth i Gareth a'r timau dan sylw, gan gydnabod
faint o waith a wnaed mewn cyfnod byr o amser, a gwerthfawrogi'r sensitifrwydd
dan sylw. Fe wnaethant nodi ymhellach ei bod yn amlwg bod y rheolaethau mewnol,
yn ogystal â'r diwylliant archwilio mewnol cadarnhaol, yn gweithio'n dda.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 5 - Adroddiad Blynyddol a Barn yr
adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2021-22
6.1 Cyflwynodd Gareth ei Adroddiad Blynyddol a Barn a
nododd y gall y Swyddog Cyfrifyddu gymryd sicrwydd cymedrol bod y trefniadau i
sicrhau bod gwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol wedi'i
gynllunio a'i gyflawni’n effeithiol. Roedd hyn yn adlewyrchu diwylliant y sefydliad
ac ymateb cadarnhaol y rheolwyr i'r argymhellion archwilio mewnol.
6.2 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Barn Gareth,
a dywedodd bod y farn gymedrol yn darparu lefel dda o sicrwydd.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a
Sicrwydd
4.1 Rhoddodd Gareth Watts ddiweddariad ar weithgarwch
llywodraethu a sicrwydd cyffredinol ers cyfarfod diwethaf ARAC, a thynnodd sylw
at y pwyntiau a ganlyn o’i adroddiad: -
- Roedd datganiadau sicrwydd wedi'u cwblhau,
eu hadolygu gan y Prif Weithredwr a'u herio gan Gynghorwyr Annibynnol mewn cyfarfod
ar 10 Mawrth. Roedd hyn wedi llywio'r gwaith o ddrafftio'r Datganiad
Llywodraethu a oedd wedi'i gynnwys ym mhapurau'r cyfarfod hwn.
- Cymeradwywyd Cynllun Cyflawni Corfforaethol
y Comisiwn gan y Bwrdd Gweithredol ar 22 Ebrill a byddai'n cael ei rannu â'r
Comisiwn fel papur i'w nodi ar 9 Mai. Byddai Gareth ac Ed nawr yn gweithio ar
gyfathrebiadau corfforaethol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weld ar draws y
sefydliad.
- Roedd pob maes gwasanaeth wedi cynnal
dadansoddiad o’r effaith ar fusnes ac roedd hyn yn llywio gwaith parhaus i
ddiweddaru dull y Comisiwn ar gyfer parhad busnes.
- Yn y cyfarfod rheolaidd diweddaraf gyda thîm
clercio’r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gofynnwyd i Gareth gynnal adolygiad o
effeithiolrwydd yng nghanol y tymor.
4.2 Rhoddodd Gareth ddiweddariad ar y gwaith archwilio
mewnol craidd. Trafodwyd yr adroddiad ar yr archwiliad o Ddirwyn Swyddfeydd
Aelodau i Ben o dan eitem 8. Roedd yr archwiliad seiberddiogelwch a'r adolygiad
gwerth am arian ar y Gwasanaethau Llyfrgell wedi'u cwblhau, a byddai’r
adroddiadau ar y rhain yn cael eu rhannu cyn gynted ag y byddant yn cael eu
cwblhau’n derfynol a’u cymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr perthnasol. Atgoffwyd y
Pwyllgor fod Ann Beynon ac Aled Eirug wedi adolygu cylch gorchwyl amlinellol ar
gyfer yr archwiliad o'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, yr oedd gwaith arno hefyd
yn mynd rhagddo'n dda. Byddai adroddiad dilynol ar weithredu argymhellion o’r
archwiliad seiberddiogelwch blaenorol, yr oedd pob un ohonynt yn mynd rhagddo,
hefyd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.
4.3 Fe wnaeth y Pwyllgor ganmol Gareth am ei lwyddiannau
o ran sicrhau bod y rhaglen archwilio mewn sefyllfa mor dda, yn enwedig yn
ystod y pandemig. Diolchodd Gareth i aelodau’r Pwyllgor am eu sylwadau
cadarnhaol. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch ei allu i ymgymryd â rhaglen mor
sylweddol ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau sicrwydd eraill, rhoddodd Gareth
sicrwydd bod modd gwneud hyn gyda chefnogaeth ei gydweithiwr Victoria Paris a’i
bartner archwilio mewnol presennol, TIAA, a gaiff ei ariannu ar y cyd.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 6 - Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
7.1 Dywedodd Gareth, yn ystod 2021-22, na ddaeth unrhyw
achosion i’w sylw o weithgarwch twyllodrus gwirioneddol neu a amheuir o ran
arian parod, lwfansau a threuliau neu ddwyn asedau.
7.2 Disgrifiodd sut yr oedd gwybodaeth a rennir yn
rheolaidd gan TIAA ac Archwilio Cymru ar weithgarwch twyllodrus ar draws y
sectorau cyhoeddus a phreifat wedi helpu i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau i
fod yn effro i'r tactegau a ddefnyddir gan dwyllwyr posibl.
7.3 Roedd y Pwyllgor yn falch na chanfuwyd unrhyw
weithgarwch twyllodrus yn ystod 2021-22. Mewn ymateb i gwestiynau am feincnodi
yn erbyn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, esboniodd Gareth nad oeddem
mor agored i dwyll yn yr un modd â rhai sefydliadau sy'n talu grantiau, er
enghraifft. Ychwanegodd fod y rhan fwyaf o'r gwariant drwy'r gyflogres a
chyflogau a lwfansau'r Aelodau a oedd â rheolaethau cadarn ar waith, gyda staff
yn y meysydd hynny'n cyflawni diwydrwydd dyladwy. Yn y dyfodol, byddai Gareth
hefyd yn archwilio sicrwydd ynghylch defnyddio cardiau caffael.
7.4 Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol ar Dwyll a
diolchodd i Gareth amdano.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cydymffurfiad y Siarter Archwilio Mewnol ac Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 4 – papur cwmpasu'r Siarter Archwilio
Mewnol
ARAC (22-02) Papur 4 – Atodiad A – Siarter Archwilio
Mewnol 2022
5.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y Siarter Archwilio Mewnol ar
gyfer 2022-23 yn ffurfiol, gan nodi nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol i’w
hadrodd.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Trafod yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 5 - Treuliau’r Aelodau 2021
6.1 Cyflwynodd Gareth adroddiad archwilio Treuliau'r
Aelodau. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith a wnaed ar dreuliau’r Aelodau
ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a’r gwaith ychwanegol a wnaed ar y taliadau
sy’n ymwneud ag etholiad y Senedd ym mis Mai 2021. Ni chodwyd unrhyw
argymhellion a rhoddwyd sgôr sicrwydd cyffredinol o sylweddol.
6.2 Cadarnhaodd Gareth fod gan y tîm Cymorth Busnes i’r
Aelodau (MBS) lefel dda o wybodaeth a dealltwriaeth o'r prosesau a'r systemau
sydd ar waith, a'r rheolau sy'n ymwneud â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau
Annibynnol. Amlygodd yr archwiliad fframwaith rheoli cadarn a chanfuwyd bod dyletswyddau
wedi'u gwahanu'n effeithiol ar draws y tîm i sicrhau bod pob hawliad yn cael ei
wirio gan brosesydd ac awdurdodydd ar wahân.
6.3 Cyn y broses archwilio, roedd y tîm MBS wedi
darganfod mater yn ymwneud â rheolau CThEM ynghylch cymhwysedd ar gyfer symiau
di-dreth ar gyfer taliadau Grant Ymaddasu. Mewn dau achos, roedd y cyfrifiad
o'r taliad wedi cael ei wneud yn gywir, ond nid oedd yr elfennau treth priodol
wedi mynd drwy'r system. Roedd y tîm MBS yn ymwybodol o sut yr oedd y mater hwn
wedi codi ac roedd yn cymryd camau unioni ac yn rhoi mesurau diogelu ar waith i
atal hyn rhag digwydd eto mewn etholiadau yn y dyfodol.
6.4 Soniodd Gareth hefyd am ei waith gyda’r prosiect i
ddisodli system y gyflogres a'r bwriad o ymgorffori modiwl treuliau i ofynion y
system.
6.5 Mewn ymateb i gwestiwn gan Aled ynghylch y berthynas
â'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, soniodd Gareth am ei gyfarfodydd rheolaidd gyda
thîm clercio'r Bwrdd i drafod cyfathrebu ac ymgysylltu.
6.6 Nododd y Pwyllgor hefyd fod Gareth wrthi'n cwblhau'r
adroddiad rheoli asedau a'i fod wedi ymgysylltu ag Aelodau sy’n gadael yn
ogystal â meysydd gwasanaethau mewnol megis TGCh, MBS ac Ystadau a
Chyfleusterau.
6.7 Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am yr adroddiad, a
chafodd ei galonogi gan y canfyddiadau a oedd yn rhan bwysig o’r broses
sicrwydd. Rhoddodd ganmoliaeth hefyd i bawb a fu'n ymwneud â'r archwiliad, ac
am y disgresiwn a ddangoswyd, yn enwedig o ystyried rhai o'r materion sensitif.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cynllun Archwilio Mewnol 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 4 – Cynllun Archwilio Mewnol 2022-23
5.1 Cyflwynodd Gareth ei gynllun archwilio drafft ar
gyfer 2022-23 a thynnodd sylw at eitemau allweddol i’r Pwyllgor. Croesawodd y
Cadeirydd y cynllun archwilio ac atgoffodd y Pwyllgor ei fod yn cael
cyfarfodydd rheolaidd gyda Gareth i drafod cynnydd. Derbyniodd hefyd sicrwydd
Gareth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni'r cynllun, gan gynnwys
defnyddio'r partner a gaiff ei ariannu ar y cyd. Croesawodd hefyd y ffaith ein
bod wedi dychwelyd at raglen fwy rheolaidd o waith archwilio, yn dilyn cwpl o
flynyddoedd cythryblus.
5.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, esboniodd
Gareth sut y defnyddiodd y Comisiwn TIAA, fel y partneriaid archwilio mewnol a
gaiff eu hariannu ar y cyd, i gynnal rhai o'r archwiliadau mwy generig, a hefyd
rhywfaint a oedd yn fwy technolegol eu natur lle’r oeddent yn meddu ar
arbenigedd penodol, er enghraifft ym maes TGCh. Disgrifiodd hefyd y gwerth a
ychwanegwyd gan TIAA o ran ei waith ehangach yn y sector cyhoeddus. Cynigiodd
roi rhagor o fanylion i aelodau'r Pwyllgor am yr archwiliadau a fydd yn cael eu
cynnal gan TIAA. Dywedodd hefyd fod y contract gyda TIAA i fod i ddod i ben ar
31 Gorffennaf 2022 ac y byddai'r broses dendro yn dechrau rhwng diwedd gwanwyn
a dechrau'r haf.
Camau i’w cymryd
· Bydd Gareth Watts yn rhannu manylion yr
archwiliadau mewnol sydd i'w cynnal gan TIAA.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 60
Cofnodion:
ARAC (22-01)
Paper 3 – G&A update report
ARAC (22-01) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a
Sicrwydd
4.1 Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am
weithgarwch llywodraethu a sicrwydd cyffredinol. Roedd y datganiadau sicrwydd
ar lefel gwasanaethau wedi'u cwblhau ac roedd y Cyfarwyddwyr wedi cyflwyno eu
datganiadau i'r Prif Weithredwr a'r Clerc i'w hadolygu. Cafodd y sesiwn herio
arferol, y bydd y Cadeirydd ac un aelod arall o'r Pwyllgor yn ei mynychu i
graffu'n annibynnol ar y broses a datganiadau'r Cyfarwyddwr, ei threfnu ar
gyfer 10 Mawrth.
4.2 Yn ddiweddar, roedd Gareth wedi rhannu manylion am
ddull y Comisiwn o fapio sicrwydd a chael sicrwydd lefel gwasanaeth gyda'i
gymheiriaid yn Senedd yr Alban a Thŷ'r
Arglwyddi. Cafodd ei wahodd i roi cyflwyniad i'w pwyllgorau archwilio yn y
dyfodol.
4.3 Roedd y tîm hefyd yn arwain ar adolygiad o ddull y
Comisiwn o ymdrin â pharhad busnes, ac roedd yr Asesiadau o'r Effaith ar Fusnes
wedi'u cwblhau ar gyfer gwasanaethau ar draws y Comisiwn. Roedd Gareth hefyd yn
cynnal adolygiad o ddull y Comisiwn o gynllunio gwasanaethau a chyflwynodd ei
ganfyddiadau, ei gynigion a'r camau nesaf yn ddiweddarach yn y cyfarfod.
4.4 Rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor
am waith cwmpasu a chynnydd gydag archwiliadau cyfredol, gan gynnwys
seiberddiogelwch a gwasanaethau’r llyfrgell. Roedd hefyd wedi cynnal cyfarfod
cwmpasu cychwynnol gyda chydweithwyr sy'n gyfrifol am y Cynllun Ieithoedd
Swyddogol ac, fel y cytunwyd yn flaenorol, byddai'n rhannu manylion yr
archwiliad hwn â'r Pwyllgor.
4.5 Gofynnodd y Pwyllgor a gasglwyd unrhyw ddata ar y
defnydd o'r Gymraeg gan Aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd
pwyllgorau’r Senedd. Cadarnhaodd Gareth fod y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi
wedi cofnodi'r data hyn, ac y byddai hyn, ynghyd ag effaith y pandemig ar
ddarparu pecynnau dysgu Cymraeg, yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu canllawiau Trysorlys EM/canllawiau eraill ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Oral item
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
6.1 Cadarnhaodd Gareth Watts a’r
Cadeirydd na fu diweddariadau i lawlyfr Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Trysorlys EM. Roedd Gareth a Kathryn wedi mynychu gweminar Fforwm Llywodraethu
Gwell Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a oedd yn
cyflwyno canllawiau wedi'u diweddaru i bwyllgorau archwilio’r heddlu ac
awdurdodau lleol, ond nododd Gareth nad oedd llawer yn berthnasol i'r Comisiwn.
Byddai Kathryn yn parhau i rannu erthyglau perthnasol gan y Fforwm Llywodraethu
Gwell a chyrff eraill, megis y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
6.2
Rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y safonau
swyddogaethol newydd a oedd yn gymwys i holl adrannau Llywodraeth y DU er mwyn
hyrwyddo cysondeb. Atgoffodd y Pwyllgor nad oedd y Comisiwn yn cael ei orfodi i
gymhwyso'r safonau, ond y byddai'n gweithio gyda'i gymheiriaid mewn sefydliadau
eraill a chydweithwyr ar draws y Comisiwn i benderfynu pa arfer gorau (os o
gwbl) y gellid ei fabwysiadu. Cafodd y Cadeirydd ei galonogi gan ddull y
Comisiwn o ymdrin â’r canllawiau hyn ac roedd o’r farn ei fod yn rhywbeth i
fanteisio arno.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd
4.1
Rhoddodd Gareth Watts
ddiweddariad ar weithgarwch llywodraethu a sicrwydd cyffredinol roedd ef a’i
dîm yn ymgymryd ag ef. Roedd hyn yn cynnwys gwaith paratoi cynnar ar gyfer y
Datganiad Llywodraethu eleni. Roedd Kathryn Hughes wedi cyfarfod â'r holl Benaethiaid
Gwasanaeth fel rhan o'r gyfres flynyddol o gyfarfodydd 'materion llywodraethu'
a oedd wedi rhoi cyfle i adolygu eu datganiadau o'r flwyddyn flaenorol a
thrafod y broses ar gyfer eleni. Wedyn, roedd wedi comisiynu Datganiadau
Sicrwydd drafft a oedd i'w hadolygu gan y Cyfarwyddwyr ym mis Rhagfyr.
4.2
Amlinellodd Gareth
hefyd yr adolygiadau roedd ef a'i dîm yn eu cynnal ynghylch: dull y Comisiwn o
waith cynllunio corfforaethol a gwasanaethau; rheoli perfformiad, gan gynnwys y
Dangosyddion Perfformiad Allweddol; a chynlluniau parhad busnes. Mewn ymateb i
gwestiynau ynghylch rôl y Tîm Arwain mewn perthynas â rheoli risg, esboniodd
Gareth fod ffurfioli eu mewnbwn, yn enwedig o ran cynyddu risgiau, yn cael ei
ystyried yn dilyn adolygiad o'i gylch gorchwyl.
4.3
Yna, rhoddodd Gareth
ddiweddariad ar gynnydd yn erbyn ei raglen archwilio mewnol. Yn ogystal â
chwblhau'r adolygiad o drefniadau cyflogres y Comisiwn (gweler eitem 5), roedd
y gwaith roedd wedi bod yn ei wneud gyda’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i
brofi talu grantiau ymaddasu a dileu swyddi i’r Aelodau a oedd yn gadael a'u
staff cymorth wedi'i gwblhau i raddau helaeth. Roedd rhagor o waith ar ddirwyn
swyddfeydd yr Aelodau i ben, gan gynnwys adolygiad o ddychwelyd asedau TGCh a
chael gwared ar asedau eraill yn mynd rhagddo a byddai hyn yn cynnwys
ymgysylltu â’r Aelodau sy'n gadael. Roedd yn gobeithio bod mewn sefyllfa i
ddosbarthu ei adroddiadau cyn y cyfarfod nesaf.
4.4
Dywedodd Gareth fod
cwmpasau’r archwiliadau seiberddiogelwch a'r adolygiad gwerth am arian ar
Wasanaethau Llyfrgell wedi'u datblygu ac y byddai gwaith maes ar y rhain yn
dechrau ym mis Rhagfyr/Ionawr.
4.5
Gofynnodd Aled Eirug a
fyddai modd cynnwys archifo tapiau yng nghwmpas archwiliad y Gwasanaethau
Llyfrgell. Mewn ymateb, hysbysodd Dave y Pwyllgor am drafodaethau parhaus â
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ynghylch ei gallu i drosglwyddo’n ddigidol y data
sydd wedi’u storio ar dapiau i gyfryngau tymor hir, er mwyn sicrhau y caiff
cofnodion eu cadw’n hygyrch ac yn y tymor hir.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod yr adroddiadau Archwiliad Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 4 – Adroddiad archwiliad mewnol y gyflogres
5.1
Cyflwynodd Gareth adroddiad archwilio'r
Gyflogres gan esbonio, am fod hon yn un o systemau ariannol mwyaf perthnasol y
Comisiwn, ei fod yn cynnal adolygiad bob 2-3 blynedd. Pan oedd y cyfyngiadau'n
caniatáu, roedd wedi gallu cyfarfod wyneb yn wyneb â chydweithwyr y Gyflogres i
fynd drwy'r system. Roedd yr adolygiad wedi arwain at sgôr sicrwydd gymedrol
gyda phum argymhelliad. Roedd y prif feysydd i’w gwella a nodwyd yn ymwneud â
diweddaru polisïau a chydnerthedd yn y tîm. Byddai cynnydd ar yr argymhellion
hyn yn cael ei ailystyried ym mis Mawrth a byddai'r manylion yn cael eu cipio
yn ei Adroddiad Blynyddol a Barn, y disgwyliwyd ei drafod yn y cyfarfod ym mis
Ebrill.
5.2
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor
ynghylch meincnodi gallu cyflogres yn erbyn arfer gorau, cadarnhaodd Gareth fod
y Comisiwn wedi'i achredu â dyfarniad Cyflogres Well yn 2018, ac y
byddai’n gofyn am ddiweddariad gan y tîm Adnoddau Dynol ar gynlluniau yn y
dyfodol i adnewyddu’r achrediad hwn.
5.3
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch monitro
gwyliau ac oriau gwaith hyblyg, cadarnhaodd Gareth fod system ar wahân yn cael
ei defnyddio ar gyfer y rhain, yn ogystal ag Adroddiadau Datblygiad Personol.
Ychwanegodd fod y tîm Adnoddau Dynol wedi gweithredu system ffurflenni
Microsoft yn ddiweddar i gipio balansau credyd/debyd oriau hyblyg misol, a
fyddai'n wybodaeth reoli hynod ddefnyddiol i'r tîm Cyllid ddiwedd y flwyddyn.
5.4
Roedd y Cadeirydd yn fodlon ar yr adroddiad
manwl a chroesawodd ddiweddariad ar yr argymhellion maes o law.
Camau gweithredu
· Rhannu
manylion am achrediad presennol y swyddogaeth gyflogres ag ARAC a thrafod â'r
tîm Adnoddau Dynol am gynlluniau ar gyfer meincnodi/achredu yn y dyfodol.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf o ran Llywodraethu a Sicrwydd
Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem lafar
3.1
Rhoddodd Gareth Watts
y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar o ran cynnydd yn erbyn gwaith archwilio a oedd
yn weddill. Roedd gwaith maes ar gyfer archwilio treuliau'r Aelodau
wedi'i gwblhau a'i ddefnyddio gan Archwilio Cymru fel rhan o'i arolwg o
gyfrifon y Comisiwn. Byddai'n dosbarthu adroddiad i'r Pwyllgor ar ôl iddo gael
ei gwblhau. Byddai hefyd yn gweithio ar adolygiad ehangach o reoli asedau yn
ogystal ag archwiliad i roi sicrwydd sy'n ofynnol gan y Prif Weithredwr fel
Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â Chronfa Gyfunol Cymru. Roedd hefyd wedi
cytuno â'r Cadeirydd y byddai'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu
argymhellion archwilio i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
3.2
Gwahoddodd y Cadeirydd
Gareth Watts i amlinellu ei sicrwydd mewn cysylltiad â'r Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon. Cadarnhaodd y lefel gymedrol
o sicrwydd ar lywodraethu, rheoli risg ac archwilio mewnol a ddarparwyd yn ei
Adroddiad Blynyddol a'i Farn ym mis Ebrill. Cadarnhaodd ei fod yn fodlon o
safbwynt archwilio mewnol y gellid llofnodi'r cyfrifon.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiadau archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 7 – Rheoli asedau TGCh
ARAC (02-21) Papur 8 – Seiberddiogelwch
9.1
Cyflwynodd Gareth yr adroddiad archwilio mewnol ar reoli
asedau TGCh. Prif ffocws yr adolygiad hwn oedd rheoli dyfeisiau cyfryngau cludadwy,
sydd wedi’u nodi gan y tîm TGCh fel risg bosibl, yn enwedig oherwydd y ffyrdd
newydd o weithio. Rhoddwyd sgôr ‘sicrwydd sylweddol’, gyda’r tîm TGCh yn derbyn
dau argymhelliad. Amlinellodd Gareth y gwaith ychwanegol i wella’r defnydd o
wybodaeth reoli a’r broses adolygu gydag Aelodau newydd a’u staff, y disgwylir
iddi fynd rhagddo yn ystod y flwyddyn.
9.2
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch cael gwared ar asedau
mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy, nododd Gareth ei fod wedi cael sicrwydd gan
Reolwr Cynaliadwyedd y Comisiwn, y tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau a’r tîm
TGCh ynghylch effeithiolrwydd y trefniadau sydd wedi’u gwneud â chyflenwr
trydydd parti.
9.3
Cyflwynodd Gareth yr adroddiad archwilio ar
seiberddiogelwch a luniwyd gan TIAA. Eglurodd fod archwiliad o’r maes hwn, sy’n
uchel o ran risg, yn cael ei gynnal bob blwyddyn, a bod cwmpas pob archwiliad
o’r fath wedi’i seilio ar drafodaethau â’r Pennaeth TGCh. Nodwyd mai’r ffocws
eleni oedd trefniadau wrth gefn ac adfer, a oedd yn cynnwys gwneud cymhariaeth
â’r canllawiau ynghylch arfer gorau a ddarparwyd gan y Ganolfan
Seiberddiogelwch Genedlaethol.
9.4
Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y Comisiwn wedi
gwneud cynnydd sylweddol wrth weithredu datrysiad wrth gefn a oedd yn welliant
sylweddol ar y datrysiad blaenorol. Rhoddwyd sgôr gyffredinol o ‘sicrwydd
cymedrol’ a derbyniodd y tîm rheoli chwe argymhelliad. Croesawodd y Pwyllgor pa
mor drylwyr oedd yr adroddiad.
9.5
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor,
cadarnhaodd Mark Neilson y sicrwydd a roddwyd o ran diogelwch y rhwydwaith, y
camau sylweddol sydd wedi’u cymryd i ddiogelu gweinyddion oddi ar y safle a
threfniadau ar gyfer parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a gwneud copïau wrth
gefn, gan gynnwys tapiau gwaddol wrth gefn. Roedd hyn yn cynnwys rhoi sicrwydd i’r
tîm rheoli ynghylch y risgiau o ran maleiswedd a datrys problemau y tu hwnt i
oriau gwaith arferol. Hefyd, nododd fod gwydnwch y system wedi’i gynyddu drwy
aelodaeth o drefniadau ehangach y sector cyhoeddus, a chytunodd i wahodd
cynrychiolydd i ddod i gyfarfod yn y dyfodol.
9.6
Diolchodd y Pwyllgor i Mark am y sicrwydd ychwanegol, a
nododd yr aelodau eu bod yn falch o ymateb y tîm rheoli, er nad oedd lefelau’r
sicrwydd mor uchel ag yr oeddent wedi eu disgwyl. Roeddent yn gwerthfawrogi bod
y seilwaith TGCh o dan fygythiad drwy’r amser ac roeddent yn ddiolchgar am holl
ymdrechion Mark a’i dîm i reoli risgiau o ran seiberddiogelwch. Nodwyd y
byddai’r Pwyllgor yn croesawu cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i
weithredu’r datrysiad wrth gefn.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad blynyddol ar dwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 6 – Adroddiad blynyddol ar dwyll
8.1
Cyflwynodd Gareth ei adroddiad blynyddol ar dwyll i’r
Pwyllgor. Roedd y camau i roi sicrwydd yn y maes hwn, yn ogystal â’r manylion
am hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o dwyll, eisoes wedi’u trafod yn ystod
eitem 5 ar yr agenda.
8.2
Nododd y Pwyllgor yr achos diweddar pan roedd rheolaethau
mewnol a’r camau i fonitro gwariant gan Aelodau wedi helpu staff i ganfod bod
asedau’r Comisiwn yn cael eu dwyn, gan arwain at ymchwiliad gan yr awdurdodau
priodol. Disgrifiodd Arwyn sut oedd y rheolaethau sy’n llywio’r broses o
archebu offer swyddfa ar gyfer swyddfeydd yr Aelodau wedi’u cryfhau ymhellach i
atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol. Ychwanegodd fod y rheolaethau
ychwanegol hyn wedi cryfhau gwaith arolygu’r Bwrdd Taliadau ac wedi arwain at
ragor o dryloywder.
8.3
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y diweddariad a chafodd
yr adroddiad ei nodi gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Datganiad ac Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 5 – Datganiad ac
Adroddiad Blynyddol ar Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21
7.1
Cyflwynodd Gareth ei bapur, sy’n rhoi trosolwg o’r gwaith
a wnaed gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod y flwyddyn yn gorffen ar 31
Mawrth 2021. Nododd y Pwyllgor fod rhai archwiliadau a gynlluniwyd wedi’u
gohirio oherwydd COVID-19, ond cafodd y gwaith a wnaed ar sicrwydd mewn amser
real ei groesawu. Roedd y gwaith hwn wedi cynnwys llunio adroddiadau i fyfyrio
ar ymateb y Comisiwn i’r pandemig COVID-19 ac adolygiad o’r camau a gymerwyd
gan y Comisiwn i reoli risgiau a materion eraill yn ystod y pandemig.
7.2
Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Comisiwn wedi parhau
i ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion ar archwilio, a oedd yn deyrnged i’r
diwylliant corfforaethol yn ehangach.
7.3
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei ddiweddariad, gan
nodi faint o waith a wnaed a’r sicrwydd a roddwyd ynghylch y rheolaethau sydd
yn eu lle.
7.4
Wrth ymateb i gwestiynau ar y sgôr gymedrol o ran
sicrwydd yn gyffredinol yn ei adroddiad blynyddol, nododd Gareth fod hyn yn
asesiad teg o’r sefyllfa yng ngoleuni’r archwiliadau a gynhaliwyd. Cafwyd sgôr
sylweddol o ran sicrwydd mewn rhai o’r archwiliadau hyn, ond roedd rhai eraill
wedi’u gohirio oherwydd yr amgylchiadau heriol.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Siarter Archwilio Mewnol a chydymffurfiaeth y broses archwilio mewnol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
- Cyfyngedig 84
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 4 – Papur eglurhaol i gyd-fynd â’r Siarter Archwilio Mewnol
ARAC (02-21) Papur 4 – Atodiad A – Siarter Archwilio Mewnol 2021
6.1
Cyflwynodd Gareth ei bapur, gan bwysleisio bod gwasanaeth
Archwilio Mewnol Comisiwn y Senedd yn gyffredinol yn cydymffurfio â Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Yn unol â gofynion Safonau Archwilio
Mewnol y Sector Cyhoeddus, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’n ffurfiol Siarter
Archwilio Mewnol y Comisiwn. Cadarnhaodd Gareth nad oedd ei adolygiad blynyddol
o’r siarter wedi arwain at unrhyw newidiadau sylweddol.
6.2
Wrth ymateb i gwestiynau ar ganfod twyll a chynnig
hyfforddiant priodol, eglurodd Gareth a Nia eu dull cydweithredol o roi
sicrwydd i Manon, fel y Swyddog Cyfrifyddu, ynghylch y rheolaethau sydd yn eu
lle. Cafodd y Pwyllgor ei atgoffa am yr hyfforddiant a’r gweithgarwch parhaus i
godi ymwybyddiaeth ymhlith y swyddogion perthnasol, gan gynnwys aelodau o’r tîm
Cyllid a’r cydgysylltwyr cyllid ym mhob maes gwasanaeth. Ychwanegodd Mark
Neilson fod hyfforddiant cyffredinol ynghylch seiberddiogelwch, sy’n cynnwys
canfod twyll, hefyd yn cael ei gynnig i staff drwy gydol y flwyddyn. Hefyd,
cafodd y Pwyllgor ei atgoffa gan Archwilio Cymru o’i ganllawiau ei hun ynghylch
arfer da o ran twyll, gan amlinellu astudiaeth achos ddiweddar lle’r oedd
twyllwyr yn camddefnyddio e-byst gan gyflenwyr. Cynigiodd Gareth i rannu’r
amryw ganllawiau ynghylch twyll ag aelodau’r Pwyllgor.
6.3
Nododd y Cadeirydd fod dull sy’n seiliedig ar rannu
cyfrifoldeb yn arfer cyffredin yng nghyrff y sector cyhoeddus, ond awgrymodd y
dylid parhau i ganolbwyntio ar y mater hwn yn y dyfodol.
6.4
Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am y diweddariad a
chymeradwyodd y Siarter Archwilio Mewnol ar gyfer 2021.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am lywodraethu ac archwilio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 87
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 3 – Adroddiad yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am
lywodraethu ac archwilio
5.1
Cyflwynodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar
lywodraethu ac archwilio, gan bwysleisio’r gwaith sydd wedi’i flaenoriaethu, a
nododd y byddai rhagor o ddiweddariadau’n dilyn maes o law.
5.2
Er gwaethaf yr amhariad a achoswyd gan y pandemig
COVID-19, roedd Gareth yn falch bod yr adroddiadau ar reoli asedau TGCh y
Comisiwn ac ar seiberddiogelwch wedi’u cwblhau a’u bod wedi’u cynnwys yn y
pecyn papurau ar gyfer y cyfarfod hwn.
5.3
Roedd y gwaith maes ar gyfer archwilio treuliau’r Aelodau
hefyd wedi’i gwblhau a’r adroddiad drafft wedi’i rannu â’r tîm Cymorth Busnes
i’r Aelodau. Nododd Gareth mai hon oedd y flwyddyn gyntaf i’r archwiliad gael
ei gynnal o bell, gan ddefnyddio cofnodion electronig, a nododd y byddai’r dull
hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer archwiliadau’r dyfodol oherwydd y llwyddiant
a gafwyd. Mewn ymateb i awgrym gan Suzy, cytunodd Gareth i ystyried ffyrdd o
wahodd mewnbwn gan Aelodau ar gyfer archwiliadau o dreuliau yn y dyfodol i
helpu i gynyddu eu dealltwriaeth o’r broses.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adolygu canllawiau Trysorlys EM/canllawiau eraill ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (y Cadeirydd a'r Pennaeth Archwilio Mewnol)
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
5.1
Cadarnhaodd
y Cadeirydd a Gareth Watts na fu unrhyw newidiadau i Lawlyfr Pwyllgor Archwilio
a Sicrwydd Risg Trysorlys EM ers mis Mawrth 2016. Teimlai'r Cadeirydd y gallai
fod yn ddefnyddiol rhannu adran rolau a chyfrifoldebau 'Llyfr Oren' Trysorlys
EM, Rheoli Risg - Trosolwg Strategol gydag aelodau'r Pwyllgor.
5.2
Rhannodd
Gareth ddiweddariad gan Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar y model 'Tair Llinell
Amddiffyn' ar gyfer fframweithiau sicrwydd. Gollyngwyd y defnydd o’r gair
“amddiffyn” er mwyn cynnwys ffocws ar rôl rheoli risg wrth wneud penderfyniadau
ar sail risg ynghylch cyfleoedd, yn ogystal â materion amddiffyn. Pwysleisiodd
y model newydd bwysigrwydd cyfathrebu ar draws pob llinell sicrwydd ac roedd
Gareth yn teimlo bod gan y Comisiwn ymagwedd aeddfed tuag at hyn.
5.3
Roedd
rhywfaint o ganllawiau ychwanegol hefyd ar y parodrwydd i dderbyn risg y
byddai'r Comisiwn yn eu hystyried. Er ei fod yn cydnabod mai mater i'r Comisiwn
oedd penderfynu ar ei barodrwydd i dderbyn risg, gofynnodd y Cadeirydd am i hyn
gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol o ran sut y byddai hyn yn cael ei
gyflwyno i'r Comisiwn newydd ar ôl Etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.
Camau gweithredu
·
(5.1)
Rhannu adran rolau a
chyfrifoldebau 'Llyfr Oren' Trysorlys EM, Rheoli Risg - Trosolwg Strategol gydag
aelodau'r Pwyllgor.
·
(5.3)
Ychwanegu parodrwydd i
dderbyn risg i'r agenda ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol i ystyried sut y bydd
hyn yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn newydd.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
Cofnodion:
ARAC (05-20) Paper 3 – Governance and Assurance
update report
ARAC (05-20)
Papur 3 - Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
4.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd. Roedd wedi cymryd rhan mewn Fforwm Penaethiaid
Archwilio Mewnol gyda'i gymheiriaid o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru lle
roedd y drafodaeth wedi canolbwyntio ar wahanol ddulliau o roi sicrwydd yn
ystod Covid-19 a'r effaith a gafodd hyn ar gynlluniau archwilio mewnol. Roedd
adolygiadau archwilio mewnol craidd wedi ildio i ddarnau o waith mwy
ymgynghorol a ffocws ar yr heriau o gynnal trefniadau llywodraethu a sicrwydd
effeithiol. Nodwyd y byddai'r rhan fwyaf o adroddiadau archwilio mewnol craidd
yn cael eu cyflwyno yn y chwarter olaf.
4.2
Roedd y paratoadau ar gyfer casglu sicrwydd i
lywio'r Datganiad Llywodraethu blynyddol ar gyfer 2020-21 bellach wedi mynd yn
eu blaenau’n dda. Diolchodd Gareth i'w dîm am gwrdd â phob Pennaeth Gwasanaeth
i drafod materion llywodraethu a sicrhau eu bod yn hollol barod ar gyfer
drafftio eu Datganiadau Sicrwydd. Cynhaliwyd cyfarfod dilynol gyda'r tri
Chyfarwyddwr ac anfonwyd e-bost comisiynu at y Penaethiaid Gwasanaeth. Roedd y
templedi a'r canllawiau ar gyfer y datganiadau wedi'u haddasu i bwysleisio'r
ffocws ar effaith Covid-19. Byddai cyfarwyddwyr yn drafftio eu datganiadau
erbyn dechrau mis Ionawr a byddai diweddariad ar y cynnydd yn cael ei ddarparu
yng nghyfarfod mis Chwefror 2021.
4.3
Cadarnhaodd Gareth ei fod wedi parhau i
gydymffurfio â safonau archwilio mewnol a bod gwaith ar raglen archwilio fewnol
2020-21 yn mynd rhagddo. Roedd yr archwiliadau ar reoli risg a materion a
rheoli asedau bron â chael eu cwblhau a byddai'r adroddiadau'n cael eu dosbarthu
y tu allan i'r pwyllgor pan fyddant yn derfynol. Roedd Gareth yn hyderus y
byddai'n cwblhau'r cynllun archwilio y cytunwyd arno erbyn mis Ebrill 2021 gan
nodi, fel gyda sefydliadau eraill, y byddai'r rhan fwyaf o'r adroddiadau'n cael
eu cyflwyno yn y chwarter olaf. Amlinellodd y byddai ei feysydd ffocws
allweddol yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys seiberddiogelwch a chwmpasu'r
archwiliad ar ddiwylliant cydymffurfio.
4.4
Mewn perthynas â'r archwiliad ar ddiwylliant
cydymffurfio, cafodd aelodau'r Pwyllgor eu calonogi gan yr offeryn meta
cydymffurfio a ddefnyddiwyd i fonitro derbyn y Rheolau Diogelwch TGCh wedi'u
diweddaru. Gofynnodd aelodau'r pwyllgor am ehangu'r defnydd o offer
cydymffurfio i Aelodau'r Senedd a'u staff. Mewn ymateb, dywedodd Gareth, gan
fod y Comisiwn ond yn darparu gwasanaeth ymgynghorol i’r Aelodau mewn perthynas
â pholisïau a gweithdrefnau na fyddai’n bosibl gorfodi hyn. Eglurodd hefyd fod
yr archwiliad cydymffurfio mewn perthynas â staff y Comisiwn yn unig.
4.5
Hysbysodd Gareth y Pwyllgor ei fod, ar gais y Prif
Weithredwr a'r Clerc, hefyd yn gwneud darn ychwanegol o waith ar adolygu'r set
ddiwygiedig o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol er mwyn i'r Comisiwn roi
sicrwydd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu bod yn parhau i fod yn gadarn ac yn
addas at y diben. Roedd yn rhagweld y byddai'n cwblhau'r gwaith hwn erbyn mis
Chwefror 2021.
4.6 Yn gysylltiedig â'r archwiliad o reoli asedau, cwestiynodd aelodau'r Pwyllgor y canllawiau a roddwyd i’r Aelodau ynghylch diddymu, yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Trafod y strategaeth Archwilio Mewnol arfaethedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 95
Cofnodion:
ACARAC
(01-20) Papur 4 – Cynllun Archwilio Mewnol 2020-21
4.1
Amlinellodd Gareth y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21 gan nodi
bod archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod 2019-20 wedi helpu i nodi meysydd i'w
cwmpasu. Roedd Gareth yn croesawu awgrymiadau pellach gan y Pwyllgor.
4.2
Amlinellodd Gareth yr adolygiad sydd i ddod o’r trefniadau sydd ar waith
ar gyfer cofnodi, diogelu ac amddiffyn asedau diriaethol y Comisiwn. Amlinellodd hefyd fod yr archwiliad i reoli
risg yn adolygiad cyfnodol o effeithiolrwydd trefniadau rheoli risg ar lefel gorfforaethol,
gwasanaeth a phrosiect.
4.3
Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r
archwiliad arfaethedig o ddiwylliant cydymffurfio, a gynhelir ym mis Tachwedd
2020. Eglurodd Gareth fod hwn yn ddilyniant i waith archwilio penodol blaenorol
i roi sicrwydd ehangach ar gydymffurfiad yn gyffredinol. Byddai'n cynnwys nodi
meysydd allweddol o ofynion statudol, polisi a phroses ar gyfer yr archwiliad i
ganfod sut y cafodd cydymffurfiad ei fesur a lefelau hyder mewn mesurau.
4.4
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei waith yn llunio’r Cynllun Archwilio
Mewnol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor.
Cam gweithredu:(4.3) Gareth Watts i rannu'r cwmpas ar gyfer yr archwiliad i
ddiwylliant cydymffurfio.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu HMT/canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg (Cadeirydd a Phennaeth Archwilio Mewnol)
Cofnodion:
6.1 Dywedodd
Gareth na fu unrhyw ddiweddariadau i Lawlyfr Pwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd
Trysorlys EM.
6.2 Roedd
Kathryn wedi dosbarthu fersiwn wedi'i diweddaru o Lyfr Oren Trysorlys EM ar
Reoli Risg i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Dywedodd Gareth ei fod wedi
darganfod, mewn Fforwm Archwilio Mewnol Penaethiaid diweddar, y gallai hyn
newid gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddo gael ei
gyhoeddi’n llawn yn gynnar yn 2020. Byddai'n gweithio gyda'i gymheiriaid i
lunio ymateb i'r ymgynghoriad, a chadarnhaodd nad oedd dim a fyddai'n effeithio
ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.
6.3 Cafodd y
Pwyllgor wybod bod disgwyl i ganlyniadau ymgynghoriad gan Sefydliad yr
Archwilwyr Mewnol ar dair llinell y model amddiffyn ar gyfer fframweithiau
sicrwydd gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Byddai Gareth yn ystyried hyn, ynghyd
â chanllawiau newydd Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar gyfer archwiliadau
mewnol yn y sector gwasanaethau ariannol i asesu unrhyw effaith ar gyfer
dulliau'r Comisiwn.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 100
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 4 - Rheoli Absenoldeb
5.1
Gwahoddodd y Cadeirydd Gareth a Lowri
Williams, Pennaeth AD, i gyflwyno'r adroddiad archwilio mewnol ar Reoli
Absenoldeb. Esboniodd Gareth fod yr archwiliad wedi dod i'r casgliad bod y
rheolaethau a'r mecanweithiau sylfaenol ar waith yn gweithio, ac yn cynnwys
nifer fach o argymhellion cymharol fach. Disgrifiodd Lowri sut yr oedd AD yn
gweithio gyda'r Tîm Arwain a'r meysydd gwasanaeth i sicrhau bod digon o
ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i staff drwy'r polisïau a'r
gweithdrefnau sydd ar waith a bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol.
5.2
Trafododd aelodau a swyddogion y Pwyllgor
amrywiol agweddau ar yr adroddiad gan gynnwys defnyddio data am absenoldebau.
Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth ynghylch pa mor ddefnyddiol yw meincnodi
cyfraddau absenoldeb yn erbyn sefydliadau eraill y gwasanaeth sifil/sector
cyhoeddus ac a oedd lle i feincnodi yn erbyn deddfwrfeydd eraill. Gwnaeth Hugh
annog swyddogion i barhau i fonitro data am absenoldebau, yn enwedig pan oedd
pwysau parhaus ar adnoddau staff.
5.3
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth a Lowri am
gyflwyno a thrafod manylion yr adroddiad gyda'r Pwyllgor, a chytunwyd ar y cyd
eu bod yn adlewyrchiad cadarnhaol o'r rheolaethau sydd ar waith, gan gydnabod y
rhai y gellid eu cryfhau. Gofynnodd i gael diweddariad o’r gwaith o weithredu’r
argymhellion yn gynnar yn 2020.
Camau
i’w cymryd: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o weithredu argymhellion yr
adolygiad ar Reoli Absenoldeb.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 103
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 3 - Adroddiad Diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd Mehefin 2019
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad sy'n
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am archwilio mewnol a gweithgareddau
eraill a gynhaliwyd ganddo ef a'i dîm. Dywedodd fod cynllun archwilio 2018-19
wedi cael ei gwblhau, amlygodd yr ymatebion cadarnhaol gan y rheolwyr a nododd
yr eid ar ôl unrhyw argymhellion sy'n weddill drwy gydol y flwyddyn. Gofynnodd
y Pwyllgor am gael trafod y goblygiadau i lywodraethu Comisiwn y Cynulliad yn
deillio o gynigion yn ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
3.2
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor,
dywedodd Gareth nad oedd risgiau na ellir eu rheoli yn deillio o oedi tan ar ôl
Etholiad 2021 cyn cynhyrchu cytundebau prosesu data rhwng Comisiwn y Cynulliad
a'r Aelodau. Hyn hefyd fyddai'r cyfle gorau i gynnwys yr Aelodau newydd. Rhoes
Gareth sicrwydd i aelodau'r Pwyllgor fod hyn yn gyson â seneddau eraill y DU.
Camau i'w cymryd
Goblygiadau i'r Comisiwn yn deillio o gynigion yn ymwneud â'r Comisiwn
Etholiadol i'w hychwanegu at y flaenraglen waith.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Archwilio Mewnol Diweddaraf/Adroddiad Archwilio Mewnol a ddosbarthwyd yn flaenorol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 106
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
ACARAC (03-19)
Papur 6 - Seiberddiogelwch 2019
ACARAC (03-19)
Papur 7 - Treuliau Aelodau'r Cynulliad 2019
6.1
Cytunodd
y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad archwilio Seiberddiogelwch o dan eitem 9
ynghyd â'r risg gorfforaethol.
6.2
Cyflwynodd Gareth yr adroddiad ar Dreuliau Aelodau'r Cynulliad a
gofynnodd i aelodau'r Pwyllgor am eu sylwadau. Roedd yr holl argymhellion
blaenorol wedi cael eu gweithredu ac roedd un argymhelliad bychan yn yr
adroddiad eleni. Sicrhaodd Gareth y Pwyllgor fod ei ganfyddiadau yn dangos
tystiolaeth bellach o well cyfathrebu rhwng Aelodau'r Cynulliad a thîm Cymorth
Busnes i'r Aelodau mewn perthynas â'u lwfansau.
6.3
Gofynnodd Suzy a ddaethai unrhyw faterion i
sylw Gareth yn ystod yr archwiliad ynghylch argymhelliad diweddar y Bwrdd
Taliadau yn ymwneud ag Aelodau'r Cynulliad yn prynu eu hoffer eu hunain. Nododd
Gareth fod canllawiau da ar waith ar hyn o bryd o ran rheoli asedau ond y
byddai'n rhoi sicrwydd pellach ar y mater hwn ar gyfer archwiliad y flwyddyn
nesaf.
6.4
Roedd y Cadeirydd yn falch o ganfyddiadau'r
adroddiadau a chafwyd sicrwydd wrth nodi na nodwyd unrhyw faterion o bwys.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
ACARAC (03-19)
Papur 5 - Adroddiad Blynyddol ar Dwyll 2019
5.1
Cyflwynodd Gareth yr Adroddiad Blynyddol ar Dwyll.
Roedd aelodau'r Pwyllgor yn fodlon â'r sicrwydd a ddarparwyd gan yr adroddiad.
Roeddent yn falch bod Gareth a Nia wedi parhau i gysylltu yn rheolaidd â
swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru ac Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth, gan
dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am dwyll cyfredol a
gweithgarwch twyllodrus ledled y DU.
5.2
Nododd Suzy mewn perthynas â'r archwiliad mewnol i dreuliau Aelodau
Cynulliad
fod Aelodau'n cael eu herio'n gyson ynglŷn â'u gwariant gan Gymorth Busnes
yr Aelodau. Nododd y Pwyllgor fod rheolaethau yn dynn a'i bod yn ymddangos bod
rheolau a gweithdrefnau yn cael eu deall yn dda.
5.3
Cydnabu'r
Cadeirydd yr anhawster i rai sefydliadau sector cyhoeddus o ran rheoli twyll
fel risg ond roedd yn falch o weld y sicrwydd a ddarparwyd gan yr adroddiad.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Barn ac Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
Cofnodion:
ACARAC (03-19)
Papur 4 - Barn ac Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2019
4.1
Ystyriodd y Pwyllgor Farn ac Adroddiad yr Archwiliad Mewnol a gyflwynwyd
gan Gareth a'i nodi. Roeddent yn falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am
gynnydd Victoria Paris tuag at ei chymhwyster Archwilydd Mewnol Ardystiedig
(CIA) a fyddai'n helpu i ddarparu gwytnwch archwilio pellach yn y Comisiwn.
4.2
Cadarnhaodd Gareth nad oedd lefel y sicrwydd wedi newid ers y flwyddyn
flaenorol ond ei bod bellach yn cael ei disgrifio fel “Cymedrol” er mwyn
sicrhau cysonder â model sicrwydd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
(GIAA).
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y Siarter Archwilio Mewnol a Chydymffurfiad Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 116
- Cyfyngedig 117
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 5 – Y
Siarter Archwilio Mewnol
3.10 Dywedodd Gareth nad oedd y Siarter Archwilio Mewnol na Safonau Archwilio
Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) wedi’u diweddaru. Cadarnhaodd hefyd fod
Archwilio Mewnol yn parhau i gydymffurfio â PSIAS a bod yr Asesiad Ansawdd
Allanol nesaf i'w gynnal erbyn Ebrill 2022.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y Cynllun Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 120
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 4 – Cynllun Archwilio Mewnol 2019-20
3.1 Cyflwynodd
Gareth Watts ei adroddiad yn rhoi braslun o’r gwaith roedd wedi’i gyflawni’r tu
hwnt i archwilio mewnol.
3.2 Oherwydd bod y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal mor fuan ar ôl y cyfarfod
ym mis Chwefror, nid oedd dim adroddiadau archwilio mewnol i'w cyflwyno. Byddai unrhyw adroddiadau a gymeradwyir cyn y
cyfarfod ym mis Mehefin yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor ymlaen llaw.
3.3 Cadarnhaodd Gareth ei fod yn gweithio dros dro fel Swyddog Diogelu Data
dynodedig y Comisiwn ac eglurodd y trefniant a roddwyd ar waith gyda swyddfa
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru iddo ymgymryd â’r swyddogaeth diogelu
data a GDPR yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth.
3.4 Roedd Gareth hefyd wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r Comisiwn
Etholiadol ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau llywodraethu sydd
wedi’u cynnwys yn y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cytunodd i baratoi nodyn
yn egluro’r goblygiadau posibl i Gomisiwn y Cynulliad pan fyddai rhagor o
wybodaeth ar gael.
3.5 Mewn perthynas â'r adolygiad o gaffael, trafododd
aelodau'r Pwyllgor sut y gallai'r Comisiwn ymgysylltu'n well â chyflenwyr bach
o Gymru. Dywedodd un aelod o'r Pwyllgor ei fod yn bresennol mewn cyfarfod o
Siambr Fasnach leol pan drafodwyd y mater hwn. Cytunodd Dave Tosh i gwrdd ag
Ann Beynon a Jan Koziel (Pennaeth Caffael) i drafod sut y gellid ymgysylltu â’r
sefydliadau perthnasol wrth ddatblygu strategaeth gaffael y Comisiwn er mwyn
cael darlun cliriach o’r hyn sy’n rhwystro’r gadwyn gyflenwi rhag ymgysylltu
â'r sector cyhoeddus.
3.6 Roedd y Pwyllgor yn amau a ddylai’r gwaith archwilio ganolbwyntio ar y
Gyfarwyddiaeth Fusnes. Roedd Gareth a Siwan Davies wedi trafod amseriad
archwiliadau yn y dyfodol a chwmpas y gwaith hwnnw, ond roedd Siwan yn y broses
o benodi Pennaeth Gwasanaeth Pwyllgorau a fyddai'n gyfrifol am arwain y gwaith
hwn.
3.7 Roedd y Cadeirydd yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o’r trafodaethau gyda
Gareth a Siwan ynghylch cylch gorchwyl adolygiad cynhwysfawr y Pwyllgor.
3.8 Diolchodd Gareth i aelodau'r Pwyllgor am eu sylwadau a
dywedodd y byddai’n falch o gael
awgrymiadau ychwanegol drwy’r e-bost am ei gynllun archwilio. Cytunodd i anfon yr
adolygiad o'r Tîm Arweinyddiaeth a'r Bwrdd Gweithredol at y Cadeirydd ac roedd
yn hapus i aildrefnu'r adolygiad o absenoldeb salwch i sicrhau bod adroddiad yn
cael ei gymeradwyo erbyn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC).
3.9 Cadarnhaodd Gareth y byddai ei adroddiad blynyddol, i'w gyflwyno ym mis
Mehefin, yn cofnodi unrhyw argymhellion na chawasant eu rhoi ar waith.
3.10 Dywedodd Gareth nad oedd y Siarter Archwilio Mewnol na Safonau Archwilio
Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) wedi’u diweddaru. Cadarnhaodd hefyd fod
Archwilio Mewnol yn parhau i gydymffurfio â PSIAS a bod yr Asesiad Ansawdd
Allanol nesaf i'w gynnal erbyn Ebrill 2022.
Camau i'w
cymryd
– (3.4)
Gareth i baratoi nodyn am y goblygiadau posibl ar gyfer trefniadau llywodraethu
Comisiwn y Cynulliad sy'n deillio o gynigion yn y Bil Senedd ac Etholiadau
(Cymru) sy’n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol.
– (3.5) Dave i gwrdd ag Ann Beynon ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad diweddaru Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 123
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 3 – adroddiad diweddaru
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad yn rhoi braslun o’r
gwaith roedd wedi’i gyflawni’r tu hwnt i archwilio mewnol.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Partner archwilio mewnol TIAA a'r adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 126
- Cyfyngedig 127
- Cyfyngedig 128
Cofnodion:
Eitem
lafar - partner archwilio mewnol TIAA
4.1
Croesawodd y
Pwyllgor Clive Fitzgerald o TIAA, partner archwilio mewnol y Comisiwn a
ariennir ar y cyd, i'r cyfarfod. Er budd aelodau newydd y Pwyllgor, rhoddodd
Clive rywfaint o gefndir i'r cwmni, sef y darparwr archwilio, sicrwydd busnes a
gwrth-dwyll mewnol annibynnol mwyaf y wlad, gan ymdrin ag ystod eang o
sefydliadau sector cyhoeddus. Disgrifiodd Gareth sut mae'r trefniant a ariennir
ar y cyd yn gweithio'n ymarferol, gan ddod ag arbenigedd a gwybodaeth benodol
ac amddiffyn annibyniaeth y swyddogaeth archwilio mewnol.
ACARAC
(01-19) Papur 4 - Cynllun Dirprwyo
4.2
Dywedodd y Pwyllgor
fod y sicrwydd sylweddol yn adlewyrchiad cadarnhaol ar waith ymgysylltiad y Tîm
Cyllid â deiliaid cyllideb ac aeddfedrwydd y cynllun dirprwyo. Mewn ymateb i
gwestiynau ynghylch lefelau dirprwyo, disgrifiodd Nia Morgan yr ymdeimlad
cynyddol o berchnogaeth a diddordeb mewn rheoli cyllideb, yn rhannol o ganlyniad
i ganiatáu i ddeiliaid cyllideb osod dirprwyaethau priodol yn eu meysydd.
ACARAC
(01-19) Papur 5 - Dilyniant Cydymffurfiaeth GDPR
4.3
Croesawodd y
Pwyllgor yr adolygiad dilynol hwn o sicrwydd ynghylch cydymffurfiaeth GDPR.
Dywedodd Dave fod Polisi Diogelu Data diwygiedig wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd
Gweithredol, ac y byddai pecyn hyfforddi staff electronig yn barod i'w gyflwyno
yn yr wythnosau nesaf. Cafodd ei ddatblygu'n fewnol gan nad oedd dim ar gael yn
fasnachol a oedd yn addas. Cytunodd y Comisiwn i ystyried y ffordd orau o gael
tystiolaeth o faint sydd wedi dilyn yr hyfforddiant hwn.
4.4
Roedd y Comisiwn yn
ystyried opsiynau ar gyfer penodi Swyddog Diogelu Data dros dro i gyflenwi yn
ystod cyfnod mamolaeth. Byddai gwytnwch
y tîm yn cael ei gynyddu drwy hyfforddi aelod arall o staff.
4.5
Roedd y materion
ymarferol ynghylch cytundebau diogelu data ar gyfer aelodau etholedig yn cael
eu trafod ymhellach mewn fforwm rhyng-seneddol ar ddiwedd mis Chwefror a gallai
hyn lywio penderfyniadau ynghylch dull y Comisiwn.
4.6
Trafododd y
Pwyllgor y gwaith o brofi diogelwch gwybodaeth bersonol sensitif a gedwir gan y
Comisiwn a rôl a phwysigrwydd Cofrestrau Asedau Gwybodaeth a Chofrestrau Data
Personol. Nodwyd y byddai symud i SharePoint fel system rheoli dogfennau yn
lliniaru risgiau sy'n gysylltiedig â gwybodaeth ymhellach ac y byddai'r
adolygiad sydd ar y gweill o seiber-ddiogelwch yn helpu i brofi'r rheolaethau.
Cytunwyd y dylai Dave a Bob ystyried hyn ymhellach.
4.7
Gofynnodd aelodau'r
pwyllgor i gydymffurfiaeth GDPR gael ei adolygu mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.8
Gofynnodd y
Pwyllgor i ailedrych ar y mater cytundeb diogelu data gydag Adnoddau
Dynol/darparwr system y gyflogres, ac awgrymodd y dylid rhoi gwybod i ICO.
ACARAC (01-19) Papur 6 – y Gyflogres
4.9 Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod yr argymhellion o'r archwiliad blaenorol wedi cael eu gweithredu'n effeithiol. Eglurodd Gareth fod yr adolygiad yn canolbwyntio ar y systemau sydd ar waith tra bod yr adolygiad blaenorol wedi canolbwyntio ar ddadansodded data lle darparwyd sicrwydd o adolygiadau rheolaidd a thrylwyr gan Swyddfa Archwilio Cymru wrth archwilio'r cyfrifon. Trafodwyd effeithiolrwydd dadansoddeg data yn rheolaidd mewn cyfarfodydd rhyng-seneddol. Dywedodd hefyd fod aneffeithlonrwydd o ran ymyriadau â llaw ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 131
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 3 – Adroddiad diweddaru archwilio mewnol
3.1 Roedd
Gareth a Dave Tosh wedi cwrdd â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn
sicrhau adlewyrchiad cywir o waith y Cynulliad yn yr adroddiad sydd ar ddod ar
baratoad y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit. Disgrifiodd Dave y
gwaith yn gryno o ran deddfwriaeth a chynllunio senarios. Gofynnodd y Pwyllgor
am ddiweddariad yn dilyn sesiwn gynllunio arall a gynhelir yn ddiweddarach yr
wythnos honno.
3.2 Roedd Gareth wedi cwrdd â'r Pennaeth Caffael i drafod amseru'r archwiliad
i ddull caffael y Comisiwn o ran cyfleoedd i gyflenwyr Cymru ennill contractau.
Cytunwyd i ohirio'r archwiliad tan hydref 2019 pan fyddai mwy o dystiolaeth ar
gael i werthuso effeithiolrwydd y dull. Yn y cyfamser, disgwylir i bapur gael
ei gyflwyno i'r Comisiwn yn amlinellu'r dull o ymgysylltu â chyflenwyr Cymru. O
ystyried y risgiau gwleidyddol ac enw da posibl, a'r gwaith craffu diweddar ar
weithdrefnau caffael Llywodraeth Cymru, cytunodd Gareth i ystyried a thrafod yr
amseriadau ymhellach.
3.3 Nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gweithredu argymhellion sydd heb eu
cyflawni a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod
nesaf.
3.4 Byddai Gareth yn trafod amseriad yr archwiliad i gymorth pwyllgor
integredig gyda Siwan Davies.
Camau i'w
cymryd
– (3.1) Siwan
Davies i rannu'r adroddiad diweddaru ar gyfarfodydd Brexit dilynol gyda'r
Pwyllgor.
– (3.2) Gareth i
ystyried a thrafod ymhellach amseriad yr archwiliad caffael.
– (3.3) Gareth i
gyflwyno adroddiad ar weithredu argymhellion i gyfarfod mis Mawrth.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu Trysorlys Ei Mawrhydi/canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg
Cofnodion:
Eitem lafar
7.1
Llawlyfr Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg a Trysorlys Ei Mawrhydi, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth
2016, yw'r fersiwn ddiweddaraf o hyd.
Cadarnhaodd y tîm Clercio fod y cylch gwaith a'r flaenraglen waith yn
seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y llawlyfr.
Roedd y Cadeirydd yn dal i fod yn aelod o fforwm Cadeiryddion Pwyllgor
Swyddfa Archwilio Cymru ac anogodd gadeirydd nesaf y Pwyllgor i gymryd rhan y
flwyddyn nesaf. Byddai'n rhannu papurau diweddaraf Fforwm
Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa
Archwilio Cymru gydag aelodau'r Pwyllgor a swyddogion. Tynnodd sylw hefyd at ganllawiau'r Swyddfa
Archwilio Genedlaethol ar gyfer rhaglenni trawsnewid digidol, costau heriol
sy'n ymwneud â phrosiectau mawr, a rhagoriaeth wrth adrodd.
7.2
Roedd Gareth Watts
eisoes wedi rhannu diweddariadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a TIAA gydag aelodau'r Pwyllgor,
a chroesawodd gwestiynau ar y wybodaeth a rannwyd.
7.3
Gofynnodd aelodau'r
Pwyllgor a oedd gan Swyddfa Archwilio Cymru unrhyw enghreifftiau o arfer da i'w
rhannu gyda'r Pwyllgor. Disgrifiodd
Gareth Lucey hwb Arfer Da ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer
sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau.
Byddai'r tîm Clercio'n sicrhau bod linc yn cael ei rannu.
Camau i’w cymryd
– Bydd Eric
Gregory yn rhannu papurau diweddaraf Fforwm Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru ag aelodau'r
pwyllgor a swyddogion (wedi'i gwblhau).
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod yr adroddiadau Archwiliad Mewnol diweddaraf a Adroddiad Archwiliad Mewnol blaenorol a ddosbarthwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 136
- Cyfyngedig 137
- Cyfyngedig 138
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 4 - Adolygiad o ddigwyddiadau (Sicrwydd Cymedrol)
5.1
Croesawodd y
Pwyllgor yr adroddiad hwn. Sbardunwyd yr
adolygiad gan newidiadau i'r system archebu ac i strwythur y tîm.
5.2
Disgrifiodd Manon
Antoniazzi y system archebu a oedd wedi'i sefydlu ers dros flwyddyn a'r angen
parhaus i gyfathrebu ac ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad.
Camau i’w cymryd
– Bydd
Gareth yn cylchredeg y cynllun gweithredu ar gyfer cyfathrebu a gwireddu
buddion.
ACARAC
(05-18) Papur 5 - Rheoli Risg (Sicrwydd Sylweddol)
5.3
Anogwyd y Pwyllgor gan ganlyniad yr
archwiliad hwn a soniodd am waith Kathryn Hughes a Jane Legge wrth ddatblygu'r
system.
5.4
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Comisiynydd
wedi dangos aeddfedrwydd cynyddol o ran rheoli risg yn ystod ei ddaliadaeth,
a'i fod yn cael ei annog gan y fforymau a'r rhwydweithiau rheoli risg sydd ar
waith, ynghyd â chyfranogiad y staff ar bob lefel.
5.5
Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau ynghylch y system rheoli risg newydd a oedd yn cael ei
chyflwyno, yr hyfforddiant cysylltiedig, a pha mor effeithiol oedd y fforwm
risg o ran ymgysylltu, yn enwedig os nad oedd hyrwyddwyr risg yn bresennol yn
ystod y cyfarfod. Disgrifiodd Gareth a
Kathryn yr hyfforddiant cysylltiedig a oedd yn cynnwys hyfforddiant diweddaru
llawn ar reoli risg ar gyfer yr holl benaethiaid gwasanaethau a hyrwyddwyr
risg. Gwnaethant gytuno y dylid annog
hyrwyddwyr risg i fynychu, ond roeddent yn teimlo bod y fforwm wedi'i sefydlu
ac yn ddigon cadarn i ymdopi â newidiadau cyson mewn aelodaeth. Dosbarthwyd cofnodion y fforwm i'r
Penaethiaid Gwasanaeth ac fe'u cyhoeddwyd yn fewnol, ac roedd Kathryn o'r farn
bod hyn yn sicrhau y rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai a oedd yn cymryd
rhan.
5.6
Gofynnodd y
Pwyllgor pam nad oedd adroddiad ar reoli problemau ar gael Roedd
hyn yn cael ei ddatblygu a byddai'n cael ei gyflwyno gan Dave ar ddiwedd
cyfarfod mis Chwefror.
Camau gweithredu
– Bydd Dave Tosh
yn cyflwyno log rheoli problemau i'r Pwyllgor.
ACARAC
(05-18) Papur 6 - Fframwaith Sicrwydd (Adolygiad Cynghori, dim barn sicrwydd)
6.1
Croesawodd y
Pwyllgor yr adolygiad cadarnhaol. Awgrymwyd
y byddai siart llif o'r broses wedi helpu i egluro'r adroddiad, a dylai
sicrwydd drydedd linell gynnwys adolygiad yr Ymgynghorydd Annibynnol o
ddatganiadau llywodraethu cyfarwyddiaethau.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Diweddaru ar Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 141
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 3 – adroddiad diweddaru
4.1
Cyflwynodd Gareth
Watts ei grynodeb diweddaraf o waith y tîm Llywodraethu a Sicrwydd. Cyfeiriodd at gwrs hyfforddi GDPR a fynychwyd
gan y Swyddog Diogelu Data, cynhadledd Fforwm Llywodraethu Gwell gan y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a fynychwyd gan y
Rheolwr Llywodraethu, a datblygiad proffesiynol pellach yr archwilydd mewnol
dan hyfforddiant.
4.2
Roedd Gareth wedi
trafod yr elfennau hynny yn ei gynllun, a oedd o'r pwys mwyaf i Swyddfa
Archwilio Cymru, yn enwedig o ran y datganiadau ariannol. Byddai'n parhau i
gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau bod y naill ochr yn
cefnogi'r llall yn unol â'u protocol cydweithio.
4.3
Pan holodd y
Pwyllgor ynglŷn â defnyddio TIAA, eglurodd Gareth, fel Pennaeth
Llywodraethu a Sicrwydd, pan fydd meysydd sy'n rhan o'i gyfrifoldeb yn cael eu
harchwilio, fod y Siarter Archwilio Mewnol yn nodi bod yn rhaid i'r
archwiliadau hyn gael eu hariannu'n allanol er mwyn sicrhau niwtraliaeth. Byddai'n diweddaru aelodau newydd y Pwyllgor
ynghylch TIAA ac yn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod mis Chwefror.
4.4
Cadarnhaodd nad
oedd unrhyw argymhellion dros ben o 2016-17.
Camau i’w
cymryd
– Bydd Gareth yn rhoi rhagor o wybodaeth i aelodau newydd y Pwyllgor am
TIAA ac yn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod mis Chwefror.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad Archwilio Lwfansau Aelodau’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 144
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 147
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 150
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 153
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 3 – Adroddiad diweddaru archwilio mewnol
Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2017-18
ACARAC (03-18) Papur 4 – Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol a Barn
2017-18
Eitem 5 – Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
ACARAC (03-18) Papur 5 – Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
Eitem 6 - Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
ACARAC (03-18) Papur 6 – Adroddiad Archwilio Lwfansau Aelodau’r Cynulliad
5.1
Cyflwynodd Gareth Watts
y pedair eitem hyn i'r Pwyllgor. Cafodd ei adroddiad diweddaru ei nodi ac
amlinellodd fod ei Adroddiad Blynyddol yn cynnig barn gyffredinol ar gyfer
2017-18 fod y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth yn ddigonol
ac yn effeithiol sy'n unol â disgrifiadau Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS).
5.2
Tynnodd Gareth sylw at
feysydd lle roedd ei waith wedi ychwanegu gwerth at y sefydliad, er enghraifft:
sefydlu meini prawf blaenoriaethu; adolygiad o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a
arweiniodd at newidiadau i'r strwythur llywodraethu; a'r Adolygiad Capasiti.
Ychwanegodd fod cydnabyddiaeth dda yn gyffredinol o rôl cynghori yr Archwiliad
Mewnol.
5.3
Hefyd, soniodd Gareth
wrth y Pwyllgor am archwilydd dan hyfforddiant yn y tîm Llywodraethiant a
Sicrwydd a ddylai fod yn gymwys erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd y Pwyllgor yn
croesawu hyn gan fod angen cymorth i Gareth ochr yn ochr â'r contract TIAA.
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch cymeradwy'r gwaith a gynhyrchwyd gan TIAA,
eglurodd Gareth, fel y rheolwr contract, ei fod yn sicrhau ansawdd yr holl
adroddiadau a gynhyrchir gan TIAA. Ychwangodd y byddai ef a Dave yn
cymeradwyo'r archwiliadau am feysydd o fewn ei gylch gwaith, fel rheoli risg a
llywodraethu gwybodaeth.
5.4
Roedd y Pwyllgor yn
canmol y ffaith bod y rheolwyr wedi cwblhau'r holl argymhellion, gan gynnwys yr
argymhellion yn ymwneud ag archwilio'r Rheolaethau Ariannol Allweddol, a gafodd
eu gweithredu cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.
5.5
Gwnaeth y Pwyllgor annog
Gareth i ganolbwyntio'n ychwanegol ar y Gyfarwyddiaeth Fusnes yn y dyfodol a
pharhau i sicrhau nad oedd ei raglen archwilio ac annibyniaeth yn cael eu
cyfaddawdu.
5.6
Rhoddodd Gareth a Dave
sicrwydd i'r Pwyllgor drwy ddisgrifio sut caiff annibyniaeth ei ddiogelu, fel
yr amlinellir yn niweddariad y Siarter Archwilio Mewnol a gyflwynwyd yn
flaenorol. Ychwanegodd Dave, yn ystod eu sesiynau dal i fyny wythnosol,
trafodwyd gwaith Gareth yn drylwyr i sicrhau nad oedd unrhyw wrthdaro
buddiannau a bod ei annibyniaeth wedi'i ddiogelu.
5.7
O ran yr Adroddiad
Blynyddol ar Dwyll, cadarnhaodd Gareth fod yr adroddiad yn cwmpasu contractwyr
trydydd parti a systemau cerdyn ar-lein. Yn ystod 2017-18, ni chafodd unrhyw
achosion o weithgareddau twyllodrus eu cyfeirio at sylw Gareth.
5.8
Yn dilyn gweithredu'r
system ar-lein cerdyn caffael, ac yn dilyn yr archwiliad Rheolaethau Ariannol
Allweddol, parhaodd Nia i sicrhau bod Penaethiaid Gwasanaeth yn cymeradwyo
pryniannau a wneir gan ddefnyddio'r cardiau i leihau unrhyw oedi.
5.9 Eitem olaf Gareth oedd adroddiad archwilio Lwfansau Aelodau’r Cynulliad. Roedd ei sgôr sicrwydd yn gymedrol, gyda phob un o'r pedwar argymhelliad yn cael eu derbyn. Roedd wedi'i sicrhau bod y tîm Cymorth Busnes i Aelodau (MBS) yn dilyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Diweddariad o bresenoldeb yng Nghynhadledd Cadeiryddion Archwilio TIAA
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 156
- Cyfyngedig 157
Cofnodion:
Eitem lafar
15.1 Gohiriwyd
yr eitem hon tan gyfarfod mis Gorffennaf.
Camau i’w cymryd
Y wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ac
Archwilio Mewnol, gan gynnwys adborth o Gynhadledd Cadeiryddion TIAA, i'w
hychwanegu i'r agenda ym mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adolygu'r Siarter Archwilio Mewnol a chydymffurfiad Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 160
- Cyfyngedig 161
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 15 – papur cwmpasu'r Siarter Archwilio Mewnol
ACARAC (02-18) Papur 15 – Y Siarter Archwilio Mewnol
14.1 Nododd y
Pwyllgor y mân newidiadau i'r Siarter Archwilio Mewnol a gafodd ei diweddaru yn
unol â PSIAS, a chymeradwyodd y Siarter ar gyfer 2018-19.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf a Adroddiadau IA a ddosbarthwyd yn flaenorol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 164
- Cyfyngedig 165
- Cyfyngedig 166
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 11 - Seiber-ddiogelwch
Adroddiadau IA a ddosbarthwyd yn flaenorol
ACARAC (02-18) Papur 12 - Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad
ACARAC (02-18) Papur 13 – GDPR
ACARAC (02-18) Papur 14 - Adolygiad Sicrwydd Ansawdd
13.1
Roedd y Pwyllgor wedi trafod ACARAC (02-18) Papur 11 -
Seiber-Ddiogelwch o dan eitem 3 ar yr agenda. Nododd y Pwyllgor y papurau a
ddosbarthwyd yn flaenorol a chytunodd i drafod adborth gyda Gareth yn y sesiwn
breifat a oedd yn dilyn y cyfarfod hwn.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Trafod yr amlinelliad o'r cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 169
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 10 – Cynllun Archwilio Mewnol 2018-19
12.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor y cynllun archwilio ar gyfer 2018-19.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Sicrhau Ansawdd Allanol Archwilio Mewnol (EQA)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 172
- Cyfyngedig 173
Cofnodion:
ACARAC (02-18) - Papur 9 – papur esboniadol EQA
ACARAC (02-18) Papur – cynnydd cynllun gweithredu EQA
11.1 Nododd y
Pwyllgor y cynnydd da a wnaed yn erbyn yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad
2017.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio allanol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 176
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 8 – Adroddiad diweddaru archwilio mewnol
10.1
Cyflwynodd Gareth ei adroddiad diweddaru.
Tynnodd sylw at y cynnyd a wnaed ers cyfarfod mis Chwefror, a oedd yn cynnwys
cwblhau pedwar adroddiad archwilio mewnol. Roedd ei ymrwymiadau ychwanegol yn
ystod 2017-18 yn golygu bod peth gwaith archwilio mewnol yn parhau heb eu
cwblhau. Llongyfarchodd Victoria Paris, a oedd wedi pasio Rhan 1 o'r cymhwyster
Archwilio Mewnol Ardystiedig yn ddiweddar.
10.2 Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda'r adroddiad ac
yn cydnabod y gwaith ychwanegol a wnaeth Gareth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Gofynnwyd, o ystyried llwyth gwaith ychwanegol Gareth, pe gallai'r Comisiwn
wneud mwy o ddefnydd o TIAA. Roedd Gareth yn cydnabod bod hyblygrwydd o hyd yn
y contract ar gyfer hyn, ac amlygodd y cynnydd mewn gwytnwch a chapasiti mewnol
ar gyfer archwilio mewnol a oedd hefyd yn cael ei gyflwyno drwy hyfforddi
Victoria. Cadarnhaodd ei fo dyn dal mewn sefyllfa i gyflwyno barn flynyddol yn
y cyfarfod ym mis Mehefin 2018. Ymrwymodd i barhau i adolygu capasiti ac
adnoddau gweithgareddau archwilio mewnol.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 179
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 3 - Adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol, ac
argymhellion monitro
3.1
Cwestiynodd
y Pwyllgor gapasiti Gareth i fodloni'r ymrwymiadau sydd wedi'u hamlinellu yn ei
gynllun archwilio. Cadarnhaodd fod y cynllun diwygiedig yn rhoi ystyriaeth i'w
waith ar yr Adolygiad Capasiti a'i fod yn dal i fod ar y trywydd iawn. Roedd ei amser wedi'i dreulio yn llwyr bron
ar yr Adolygiad Capasiti ers cyfarfod mis Tachwedd a byddai nifer yr
adroddiadau yn cael eu dosbarthu cyn cyfarfod mis Ebrill fodd bynnag.
3.2
Cwestiynodd
y Pwyllgor barodrwydd y Comisiwn am Reoliad Cyffredinol Diogelu Data ym mis Mai
2018. Roedd Dave a Gareth yn credu bod lefel yr ymgysylltiad â'r Rheolwr
Llywodraethu Gwybodaeth a faint o ganllawiau a luniwyd ganddo, ynghyd â rhannu
dogfennaeth ac arferion â sefydliadau eraill, yn dangos bod Comisiwn y
Cynulliad wedi'i baratoi'n dda.
3.3
Cafodd
y Pwyllgor argraff dda gan ddull rhagweithiol y Pwyllgor, a rhoddwyd sicrwydd
iddo yn hyn o beth, yn enwedig o ran y canllawiau a luniwyd ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad gyda'r diffyg canllawiau ar gyfer cynrychiolwyr etholedig gan
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Awgrymwyd y gwellid rhannu'r canllawiau hyn a
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gwnaethant groesawu'r Rheoliad Cyffredinol
Diogelu Data - Adolygiad Paratoi yr oedd disgwyl ei
gynnal ym mis Chwefror.
3.4
Nododd
Gareth, yn ogystal â'r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data, fod y trafodaethau yn
y Fforwm Rhyngseneddol yn cynnwys Brexit a'r datganoli pwerau yn sgil Brexit.
Cytunodd aelodau'r Pwyllgor fod gallu'r Comisiwn i lywio risgiau sylweddol a
sicrwydd cysylltiedig o fewn amgylchedd gwleidyddol i'w ganmol.
3.5
Roedd
adolygiad Sicrwydd Ansawdd Allanol o Gynulliad Gogledd Iwerddon eto i'w drefnu
gan Gareth. Byddai'n cyflwyno'r cynnydd yn erbyn ei gynllun gweithredu Sicrwydd
Ansawdd Allanol yn y cyfarfod nesaf.
Camau i’w cymryd
-
Gareth i gyflwyno'r cynnydd yn erbyn ei gynllun gweithredu Sicrwydd
Ansawdd Allanol yn y cyfarfod fis Ebrill.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu HMT / canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 182
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
ACARAC (05-17) Papur 9 - Canllawiau
NAO - Diogelwch Seiber a Gwybodaeth
6.1
Rhoddodd Dave y
wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diogelwch seiber a gwybodaeth a
chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o
bryd roedd ffocws ar godi ymwybyddiaeth gyda Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad
(AMSS) yn y swyddfeydd etholaeth. Bu ymarferion gwe-rwydo prawf ar staff
Comisiwn y Cynulliad yn gadarnhaol wrth amlygu gwendidau, a bu ymarferiad o ran
rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau allanol yr oedd Dave a’i gydweithwyr yn
ymwneud â hwy hefyd yn ddefnyddiol. Trafodwyd rhagor o wybodaeth am weithdrefnau
profi ac adennill, ond oherwydd natur y drafodaeth, ni chymerwyd cofnodion
manwl.
Camau i’w cymryd
-
Dave i rannu manylion y
cynllun gwendidau a datrysiadau presennol gydag aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 185
- Cyfyngedig 186
- Cyfyngedig 187
- Cyfyngedig 188
Cofnodion:
Adroddiadau / diweddariadau wedi’u dosbarthu y tu allan i’r pwyllgor
ACARAC (05-17) Papur 5 - Rheolaethau System Gyllid Newydd
ACARAC (05-17) Papur 6 -
Adolygiad o Dimau Integredig y Pwyllgor
ACARAC (05-17) Papur 7 – Argymhellion Archwilio Mewnol – adroddiad dilynol
yr Adran Cymorth Busnes i’r Aelodau
ACARAC (05-17) Papur 8 - Atal a Chanfod Twyll
5.1
Nodwyd y pedwar
adroddiad archwilio ac roedd Gareth wedi ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y
Pwyllgor ar yr adroddiadau a ddosbarthwyd ymlaen llaw. Roedd y Pwyllgor yn
hapus iawn ynghylch y gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad ar
Reolaethau’r System Gyllid.
5.2
Roedd Nia yn siomedig
iawn â’r sgôr Sicrwydd Cyfyngedig, yn enwedig o’i gymharu â’r radd gref a
roddwyd y tro diwethaf. Sicrhaodd y Pwyllgor nad oedd hyn yn adlewyrchiad o’i
thîm na’r system newydd a oedd ar waith, ac ni fu dirywiad o ran gwasanaethau.
Roedd argymhellion ynglŷn â dogfennu tasgau wedi’u tynhau, ynghyd â’r
broses o fonitro’r amser a gymerwyd i gymeradwyo’r hyn a brynwyd â chardiau
credyd. Bellach, byddai Nia yn gweld rhestr o gamau nad ydynt wedi’u gweithredu
bob mis, i sicrhau na fyddai’r lefel byth yn codi i’r hyn a nodwyd gan yr
archwiliad. Trefnwyd ymarferiad i adolygu’r defnydd o’r cardiau credyd a nifer
y cardiau ar gyfer mis Rhagfyr.
5.3
Nododd y Pwyllgor hefyd
yr ymatebion i’r argymhellion yn yr Adolygiad o Dimau Integredig y Pwyllgor a
thrafododd hwy, yn benodol, derbyn a phrydlondeb gweithredu ar yr argymhellion.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 191
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 4 - Adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol, ac
argymhellion monitro
4.1
Cyflwynodd
Gareth ei adroddiad gweithgarwch a’r wybodaeth ddiweddaraf o ran yr
argymhellion. Roedd yr Adolygiad
Capasiti yn cymryd llawer o amser Gareth ac efallai y byddai angen gwneud newidiadau
i’w gynllun archwilio 2017-18 o ganlyniad i’r gwaith hwn. Nododd y Pwyllgor y cynllun i ohirio’r
archwiliad ar reoli newid.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol yr adran Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 194
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 10 – Adroddiad blynyddol a barn yr adran Archwilio
Mewnol 2016-17
6.1
Cymeradwyodd
y Pwyllgor adroddiad blynyddol Gareth, a oedd yn cydnabod bod prosesau digonol
ac effeithiol ar waith o ran rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu. Estynnwyd
llongyfarchiadau i Gareth am ei waith a chyfraniad parhaus yr adran archwilio
mewnol o ran darparu sicrwydd. Roeddent
yn croesawu'r ffocws ar effaith a chanlyniadau'r gwaith archwilio yn arbennig
ac yn annog canolbwyntio ymhellach ar hyn yn adroddiadau'r dyfodol. Roeddent yn
falch o glywed hefyd fod aelod o'r tîm i fod i ddechrau hyfforddiant archwilio
mewnol er mwyn cefnogi ei waith ymhellach.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Ystyried unrhyw sylwadau yn sgil yr adroddiadau a ddosbarthwyd y tu allan i'r Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 197
- Cyfyngedig 198
- Cyfyngedig 199
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 7 – Adroddiad ar yr Adolygiad o'r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau
ACARAC (03-17) Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o'r Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau
ACARAC (03-17) Papur 9 – Adolygiad o’r balansau terfynol (trosglwyddo data
o CODA i NAV)
5.1 Croesawodd y Pwyllgor y tri adroddiad, ac roeddent wedi rhannu eu sylwadau
arnynt â Gareth y tu allan i'r cyfarfod.
5.2 Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar swyddogaethau a chyfrifoldebau Bwrdd
Rheoli'r Comisiwn a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau. Dywedodd Manon ei bod hi a'r Cyfarwyddwyr ar
fin adolygu aelodaeth a rolau pob bwrdd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n
addas i'r diben a sicrhau bod y cyfrifoldebau a'r prosesau o ran gwneud
penderfyniadau yn glir.
5.3 Wrth ymateb i gwestiynau am faint y mae penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau yn cael eu herio, cyfeiriodd Dave at faint y mae'r cynigion sy'n cael
eu cyflwyno i'r bwrdd yn cael eu herio, ac roedd y Pwyllgor o'r farn y gallai'r
broses honno fod yn gliriach. Cytunodd
Manon i ystyried ffyrdd amgen o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau yn ehangach, gan gynnwys gyda'r Comisiynwyr, a byddai'n rhannu
canlyniadau'r adolygiad o'r strwythurau llywodraethu yn dilyn diwrnod cwrdd i
ffwrdd.
5.4 Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad cadarnhaol hwn, y camau gweithredu y
cytunwyd arnynt a'r ffordd ragweithiol yr aed ati i wahodd gwaith craffu
allanol.
Camau i’w cymryd
-
Manon i ystyried ffyrdd
o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn ehangach.
-
Manon i rannu
canlyniadau'r adolygiad o strwythurau llywodraethu ar ôl diwrnod cwrdd i ffwrdd
y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 202
- Cyfyngedig 203
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 3 – Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol
ACARAC (03-17) Papur 4 – Adroddiad ar Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS)
3.1 Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf. Roedd
gwaith maes yn mynd rhagddo ar yr archwiliad o bwyllgorau integredig, a oedd yn
ystyried gwaith gan chwe gwasanaeth gwahanol.
Oherwydd cwmpas yr archwiliad hwn, dywedodd Gareth nad oedd y gwaith yn
debygol o gael ei gwblhau tan yr hydref.
3.2 Croesawodd y Pwyllgor adroddiad Gareth ar Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS), a gyflwynwyd er mwyn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am y
newidiadau diweddaraf i'r safonau. Dywedodd Gareth na fyddai angen gwneud
unrhyw newidiadau i brosesau'r Comisiwn.
3.3 Dywedodd Gareth y byddai'n gallu rhannu canlyniad yr ymarfer tendro a
gwblhawyd ar gyfer y contract Archwilio Mewnol yn fuan.
3.4 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad Asesu Ansawdd allanol, a ddosbarthwyd y tu
allan i'r pwyllgor. Cadarnhaodd Dave Tosh, y Cyfarwyddwr Adnoddau, ei fod yn
fodlon ar y sicrwydd a roddwyd. Cadarnhaodd Gareth fod yr asesiad hwn yn
seiliedig ar y fersiwn flaenorol o Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
ac y byddai asesiadau yn y dyfodol yn seiliedig ar y fersiwn ddiwygiedig.
3.5 Estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i Nia Morgan a'i thîm am drosglwyddo
data yn llwyddiannus i'r system gyllid newydd.
Rhoddodd Nia ddiolch i'w thîm am eu gwaith caled wrth roi'r prosiect hwn
ar waith, yn enwedig o gofio'r rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn a'r ffaith
bod llai o adnoddau ar gael.
Cam i’w gymryd
-
Gareth Watts i rannu
canlyniadau'r ymarfer tendro Archwilio Mewnol ag aelodau Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad drwy e-bost.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr Adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 206
- Cyfyngedig 207
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 5 – Adroddiad Archwilio ar Lwfansau Aelodau'r
Cynulliad
ACARAC (03-17) Papur 6 – Adroddiad ymgynghorol yr adran Archwilio Mewnol ar
y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (TIAA)
4.1 Cyflwynodd Gareth ddau adroddiad archwilio a groesawyd gan y Pwyllgor.
4.2 O ran yr archwiliad o lwfansau Aelodau'r Cynulliad, rhoddodd Gareth wybod
fod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer hawliadau treuliau Aelodau'r
Cynulliad. Dywedodd hefyd fod y gwaith o
ddirprwyo awdurdod yn ffurfiol i reolwyr swyddfa, fel y gallent gyflwyno
hawliadau ar ran Aelodau'r Cynulliad, wedi gwella effeithlonrwydd. Cadarnhaodd Suzy Davies fod Aelodau'r
Cynulliad yn llwyr ddeall eu bod yn atebol am y treuliau y byddant yn eu
hawlio, er gwaetha'r ffaith y gallant ddirprwyo'r awdurdod hwn.
4.3 Yn ogystal â phrofi'r grantiau adsefydlu a dalwyd i Aelodau'r Cynulliad a
adawodd yn dilyn etholiad 2016 a'r taliadau dileu swydd a dalwyd i'w staff
cymorth, bu Gareth hefyd yn profi prosesau recriwtio staff. Mae'r rheolwyr wedi derbyn pob un o'r tri
argymhelliad a wnaed ganddo.
4.4 O ran yr archwiliad ymgynghorol o'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, dywedodd Gareth fod natur ddibwys yr
argymhellion yn galonogol, ac yn brawf o'r holl waith paratoi a wnaed gan y
Comisiwn. Cyfeiriodd hefyd at weithgor
a oedd wedi'i sefydlu a chynllun gweithredu lefel uchel a oedd yn cael ei
fonitro'n agos gan Alison Bond, Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Comisiwn. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn canmol y cynllun
gweithredu cynhwysfawr a ddosbarthwyd.
4.5 Dywedodd Dave fod y Cynulliad, ynghyd â deddfwrfeydd a sefydliadau eraill,
yn disgwyl canllawiau manwl pellach gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a bod
disgwyl i hynny gyrraedd yn yr hydref. Unwaith y bydd y canllawiau hyn yn
barod, câi'r cynllun gweithredu ei adolygu a byddai'n cynnwys ffocws ar roi
cyngor i Aelodau'r Cynulliad fel rheolwyr data.
4.6 Roedd y Pwyllgor yn fodlon iawn ar yr holl waith paratoi a wnaed a
chanlyniad yr adroddiad ymgynghorol, ond gwnaethant annog y swyddogion i beidio
â llaesu dwylo. Cytunwyd y dylid atgoffa
Aelodau Cynulliad a'u staff am eu rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth diogelu
data presennol yn ogystal ag unrhyw newidiadau yn y dyfodol.
Cam gweithredu
-
Gareth i baratoi
diweddariad ar argymhellion yr archwiliad o lwfansau Aelodau'r Cynulliad yng
nghyfarfod yr hydref.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod yr amlinelliad o'r cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 210
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 6 – Cynllun Archwilio Mewnol 2017-18
5.1
Cymeradwyodd y Pwyllgor gynllun archwilio
Gareth ar gyfer 2017-18. Sicrhaodd
Gareth y Pwyllgor fod y prif feysydd ffocws yn unol â risgiau corfforaethol y Comisiwn.
Cwestiynodd y Pwyllgor a oedd digon o ffocws ar swyddogaeth Busnes y Cynulliad
gan mai dyma lle byddai'r newidiadau sydd i ddod yn digwydd. Roedd y Pwyllgor
yn fodlon ar ymateb Gareth ynghylch cwmpasu'r elfennau rheoli newid yn yr
adolygiad ym mis Medi 2017, ac ar gyfer addasu ei gynllun i ddarparu ar gyfer
meysydd penodol sy'n peri pryder yn ystod y flwyddyn.
5.2
Byddai Gareth yn defnyddio adnoddau mewnol
i'w helpu gyda'i adolygiad o gymorth integredig ar gyfer y Pwyllgorau. Roedd hefyd wedi ychwanegu diwrnodau dangosol
i'r cynllun archwilio i sicrhau bod y Pwyllgor yn deall ei ymrwymiadau.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 213
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 3 – Adroddiad diweddaru archwilio
mewnol
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts
ei adroddiad diweddaru. Amlinellodd y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr
archwiliad o dreuliau Aelodau'r Cynulliad, y byddai'r adroddiad terfynol yn
cael ei ddosbarthu cyn y cyfarfod ym mis Mehefin.
3.2
Roedd hefyd wedi gweithio
gyda swyddogion i gwmpasu'r archwiliad sydd ar ddod o gymorth integredig ar
gyfer Pwyllgorau'r Cynulliad a chwblhaodd adolygiad o symud data o'r system
ariannol CODA i'r system Microsoft Dynamics NAV newydd.
3.3
Bydd yr adolygiad a
gynhaliwyd o Fwrdd Buddsoddi ac Adnoddau y Comisiwn yn cael ei drafod gan y
Bwrdd ar 21 Mawrth. Cytunodd Gareth i ddosbarthu'r adroddiad, ynghyd â manylion
am y camau gweithredu y cytunodd y Bwrdd arnynt, i'r Pwyllgor cyn y cyfarfod ym
mis Mehefin.
3.4
Byddai'r contract
Archwilio Mewnol gyda TIAA yn dod i ben yn 2017 ac roedd Gareth a'r tîm caffael
wedi gorffen y ddogfen manyleb i ddechrau'r broses dendro. Roedd y panel ar
gyfer adolygu tendrau yn cynnwys y Pennaeth Archwilio Mewnol, y Cyfarwyddwr
Cyllid a'r Uwch-swyddog Caffael.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 216
- Cyfyngedig 217
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 4 - Adolygiad dadansoddeg data (y gyflogres)
ACARAC
(02-17) Papur 5 – Rheoli prosiect
4.1
Cyflwynodd Gareth ddau adroddiad archwilio, y
cafodd y ddau eu croesawu gan y Pwyllgor.
4.2
Dangosodd yr adolygiad dadansoddeg data gywirdeb
a chadernid data'r gyflogres a nodwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw
ymddygiad twyllodrus. Cwestiynodd y Pwyllgor y dilysrwydd angenrheidiol i brofi
cywirdeb y data yn y system Adnoddau Dynol/y gyflogres. Sicrhaodd Gareth y
Pwyllgor fod y data yn cael eu gwirio yn drylwyr a bod adroddiadau eithriadau
yn cael eu defnyddio lle bo angen. Yna disgrifiodd rai o swyddogaethau adrodd y
system gyllid newydd a oedd yn cynnwys dadansoddeg gwariant contract.
4.3
Cyflwynodd Gareth ei ail adroddiad ar yr
adolygiad o ymagwedd y Comisiwn at reoli prosiect lle mae pedwar argymhelliad
wedi'u nodi a'u cytuno gan y tîm reoli.
4.4
O ystyried yr heriau sy'n wynebu'r Comisiwn i
gyflwyno cyfres uchelgeisiol o amcanion, roedd y Pwyllgor yn annog swyddogion i
ddatblygu meini prawf clir ar gyfer blaenoriaethu prosiectau, ac i ganolbwyntio
ar wireddu buddiannau.
4.5
Cwestiynodd y Pwyllgor eto y diffyg adrodd ar
gynnydd y prosiect o fewn yr Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol. Cytunodd
Dave i ystyried cynnwys diweddariadau'r Cyfarwyddwyr ar gynnydd prosiectau, a
oedd yn cael eu darparu bob chwarter i'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau, fel
atodiadau i Adroddiadau ar Berfformiad Corfforaethol yn y dyfodol.
4.6
Roedd Dave yn falch o weld cynnydd
gwirioneddol ers adolygiad blaenorol Gareth yn 2015. Disgrifiodd y broses sydd
ar waith yng nghyfarfodydd y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi bob pythefnos i asesu
goblygiadau prosiectau o ran adnoddau a chyllideb, yn ogystal â sut y maent yn
cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau a nodau strategol y Comisiwn. Byddai'n
ystyried awgrym y Pwyllgor o nodi manylion am feini prawf blaenoriaethu mewn
ffordd fwy ffurfiol.
4.7
Cwestiynodd y Pwyllgor y gwaith o graffu ar
achosion busnes ac roedd y swyddogion yn cydnabod bod angen gwelliannau i ddal
y gwersi a ddysgwyd ac i fonitro'r broses o wireddu buddiannau. Cytunwyd fod
angen arweiniad pellach, gan gynnwys ynghylch datblygu ac ailadrodd achosion
busnes. Cytunodd Gareth hefyd i ddosbarthu adroddiad defnyddiol yr oedd wedi
dod o hyd iddo yn ddiweddar ar fethodoleg rheoli prosiect mewn ffordd ystwyth i
aelodau'r Pwyllgor.
4.8
Croesawodd y swyddogion y drafodaeth ar reoli
rhaglenni a phrosiectau a chroesawodd y Pwyllgor adolygiad o brosesau ac
egwyddorion rheoli newid a oedd wedi'i drefnu ar gyfer mis Medi 2017. Byddai'r
canllawiau prosiect presennol yn cael eu diweddaru a'u datblygu ar y cyd gan
aelodau'r Gymuned Ymarfer a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Camau gweithredu
Archwiliad dadansoddeg data (y
gyflogres)
-
Gareth i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor
am faint y samplau a ddefnyddir ar gyfer dadansoddeg data.
Archwiliad rheoli prosiectau
-
Gareth i
ddosbarthu canlyniad y drafodaeth ar adolygiad y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi cyn
y cyfarfod ym mis Mehefin.
-
Dave i ystyried
meini prawf blaenoriaethu ar gyfer prosiectau.
-
Dave i
ystyried cynnwys 'diweddariadau'r Cyfarwyddwyr' fel atodiadau i'r Adroddiad ar
Berfformiad Corfforaethol.
- Gareth i ddosbarthu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu'r Siarter Archwilio Mewnol a chydymffurfiad Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 220
- Cyfyngedig 221
- Cyfyngedig 222
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 7 – papur cwmpasu'r Siarter Archwilio Mewnol
ACARAC
(02-17) Papur 7 – Y Siarter Archwilio Mewnol
ACARAC
(02-17) Papur 8 – Adroddiad interim ar yr Asesiad Ansawdd Allanol
6.1
Nododd y Pwyllgor y
Siarter Archwilio Mewnol diwygiedig ar gyfer 2017-18 a chroesawodd yr Adroddiad
ar yr Asesiad Ansawdd Allanol interim, a gynhyrchwyd gan Andrew Munro, Pennaeth
Archwilio Mewnol yn Senedd yr Alban. Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod y
gwasanaeth archwilio mewnol yn gyffredinol yn cydymffurfio â safonau archwilio
mewnol fel y nodir gan, ac yn unol â, Fframwaith Asesu Ansawdd Archwilio Mewnol
Trysorlys EM. Llongyfarchodd y Pwyllgor Gareth ar ganlyniad mor gadarnhaol a
gofynnwyd i'r adroddiad terfynol gael ei ddosbarthu y tu allan i'r pwyllgor.
Cam gweithredu
-
Gareth i
ddosbarthu Adroddiad Terfynol yr Asesiad Ansawdd Allanol i aelodau'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 225
Cofnodion:
ACARAC (01-17) Papur 5 - Seiber-ddiogelwch
4.1
Canlyniad yr archwiliad o Seiber-ddiogelwch oedd bod 'angen ei
wella'. Roedd hyn oherwydd maint y gwaith a oedd yn dal ar y gweill i
wella trefniadau Comisiwn y Cynulliad o ran seiber-ddiogelwch. Cafodd 12
argymhelliad eu gwneud i i wella'r trefniadau presennol ond nid oedd gan yr un
o'r rhain flaenoriaeth Uchel/Critigol.
4.2 Teimlai'r Cadeirydd fod yr adroddiad yn un trylwyr a bod y Comisiwn yn
awyddus i roi’r argymhellion ar waith yn fuan. Cytunodd â phenderfyniad y
Comisiwn i wrthod un o'r argymhellion.
4.3 Disgrifiodd Dave y gwaith a oedd yn digwydd ar lefel y DU
a chadarnhaodd y byddai pob un o'r 12 o argymhellion wedi'i gwblhau erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol 2016-17.
Byddai penodi arbenigwr rhwydweithiau diogelwch seiber i dîm TGCh yn
cryfhau'r maes hwn ymhellach, ond roedd yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r
sefydliad a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ymysg staff y Comisiwn, yr Aelodau
a’u staff cymorth. Byddai Gareth yn ymgymryd â gwaith dilynol ynghylch
adolygiad ISO27001:2013 ac yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â Phennaeth TGCh
cyn cynnal archwiliad dilynol a rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor pan fo hynny'n
briodol.
4.4 Cadarnhaodd Dave fod seiber-ddiogelwch ar fin cael ei
ychwanegu at Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Comisiwn a gofynnodd y Pwyllgor a
oedd gwneud TGCh yn swyddogaeth fewnol wedi amlygu methiannau hanesyddol o ran
diogelwch y rhwydwaith. Cadarnhaodd Dave fod y penderfyniad i ddarparu
gwasanaethau TGCh yn fewnol wedi amlygu rhai gwendidau yn y contract allanol,
ond mae'r sefyllfa wedi gwella ar ôl ennill rheolaeth dros y gwasanaethau yn
dilyn y penderfyniad hwnnw.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad ar Waith Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 228
- Cyfyngedig 229
Cofnodion:
ACARAC (01-17) Papur 3 – Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
ACARAC (01-17) Papur 4 - Argymhellion Monitro Archwilio Mewnol
3.1 Croesawodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd a dogfennau monitro Gareth. Roedd archwiliad o'r Gyflogres wedi dechrau a
byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r pwyllgor,
ynghyd â’r adolygiad yr IRB.
3.2 Byddai Gareth yn archwilio'r taliadau a wnaed i Aelodau'r Cynulliad o ran
grantiau adsefydlu, taliadau diswyddo i staff cymorth, a'r gwaith o sefydlu
swyddfeydd rhanbarth ac etholaeth Aelodau newydd ar ôl etholiad y Pumed
Cynulliad.
3.3 Dywedodd Gareth y byddai'r contract ar gyfer trefniadau Archwilio Mewnol ar
y cyd yn cael ei ddyfarnu ym mis Mehefin 2017.
3.4 Ar ôl trafod yr archwiliadau penodol yr oedd
Gareth ar fin eu cynnal, o ran eu cwmpas a maint eu samplau, awgrymodd y
Pwyllgor y dylai Gareth ystyried y ffordd orau o roi gwybod i’r Comisiwn am
ganlyniadau a buddion ei adroddiadau
archwilio, yn ogystal ag argymhellion a oedd wedi eu gwrthod gan y
Rheolwyr.
Camau i’w cymryd:
-
Roedd Gareth i
gylchredeg yr argymhellion a'r camau i’w cymryd yn dilyn adolygiad yr IRB ,
wedi i’r IRB eu hystyried.
-
Bydd Gareth yn cynnwys canlyniadau argymhellion
adolygiadau archwilio mewn adroddiadau yn y dyfodol.
-
Bydd Gareth yn cynnwys yr argymhellion hynny yn adroddiadau Archwiliadau
Mewnol nas derbynnir gan y tîm Rheoli, a'r rhesymau dros hynny.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad ar Weithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 232
- Cyfyngedig 233
Cofnodion:
Archwilio
Mewnol
3.0
Eitem 3 –
Adroddiad ar Weithgarwch Archwilio Mewnol
ACARAC (05-16) Papur 3 –
Adroddiad Diweddaru Archwilio Mewnol
ACARAC (05-16) Papur 4 - Argymhellion
Monitro Archwilio Mewnol
3.1
Cyflwynodd Gareth
ei ddogfennau diweddaru arferol a oedd yn nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt yn
ystod 2016-17. Gwnaeth hefyd roi manylion am ei Ddatblygiad Proffesiynol
Parhaus gan gynnwys mynd i gyfarfod rhyngseneddol ar gyfer penaethiaid
archwilio mewnol, a chyfleoedd rhwydweithio eraill megis cyfarfodydd gyda
phenaethiaid archwilio mewnol o sefydliadau sector cyhoeddus eraill ledled
Cymru.
3.2
Gofynnodd
y Pwyllgor sut y byddai Gareth yn delio â'r broses ail-dendro ar gyfer y
contract archwilio mewnol, gan fod y contract gyda TIAA yn dod i ben ym mis
Gorffennaf 2017. Cynigiodd Gareth barhau gyda'r trefniadau ar y cyd, gyda'r
disgwyl y byddai sawl tendr yn dod i law, ond dywedodd y byddai hefyd yn
cynyddu gwytnwch o fewn y tîm, gyda'r bwriad o gynnal rhagor o adolygiadau
mewnol.
3.3
Diolchodd
y Cadeirydd i Gareth am roi diweddariadau cynhwysfawr ac atgoffodd y Pwyllgor
fod Gareth yn dibynnu ar bartner wedi'i ariannu ar y cyd i'w helpu i gyflawni'r
gwaith archwilio mewnol. Hefyd dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai gystadleuaeth
gref ar gyfer yr ymarfer caffael .
3.4
Yna
eglurodd Gareth sut yr oedd wedi ystyried y broses archwilio treuliau Aelodau'r
Cynulliad a fyddai bellach yn cael ei gwneud yn fewnol. Roedd wedi trafod yr
archwiliad gyda Swyddfa Archwilio Cymru a chyda Chymorth Busnes i Aelodau, yn
bennaf er mwyn cael deall eu gwaith a'r systemau sydd ar waith. Byddai ei brif
ffocws ar y grant ymaddasu a chost sefydlu'r swyddfa yn dilyn yr etholiad.
Roedd yr archwiliad ar y trywydd iawn i'w adrodd i'r Pwyllgor ym mis Ebrill.
3.5
Yn unol â
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, bob pum mlynedd mae'n ofynnol i'r
Pennaeth Archwilio Mewnol gyflawni Adolygiad Sicrhau Ansawdd Allanol. Mewn
cyfarfod diweddar o'r Fforwm Rhyngseneddol (17 Tachwedd), roedd Gareth wedi crybwyll y posibilrwydd o gynnal
yr adolygiad hwn drwy drefniadau cyfatebol gyda'r deddfwrfeydd eraill. Roedd
hefyd wedi derbyn cyngor ar hyn gan ei swyddog cyfatebol yn Llywodraeth Cymru a
oedd yn ymwneud â gosod y canllawiau a safonau ar gyfer adolygiadau o'r fath.
3.6
Cwestiynodd
y Pwyllgor ddidueddrwydd ac annibyniaeth trefniant o'r fath ac esboniodd Gareth
y byddai'n cael ei seilio ar hunanasesiad cychwynnol gyda dilysiad allanol gan
un o'r swyddogion cyfatebol. Gwanaethant awgrymu y dylai'r fframwaith adolygu
safonol gael ei haddasu i ganfod sut mae pob un o'r deddfwrfeydd yn gweithio
mewn ffordd wahanol. Dylai'r adolygydd hefyd fod yn gymwys i gyflawni'r
adolygiad.
3.7
Rhoddodd
Claire Clancy sicrhad i'r Pwyllgor y ceisid sicrwydd ar y dilysiad allanol fel
y bo'n briodol.
3.8 Holodd y Pwyllgor pam roedd y nifer o argymhellion blaenoriaeth uchel wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Awgrymodd Gareth ei fod yn ddibynnol ar y pwnc, a bod sawl archwiliad wedi bod yn ystod y blynyddoedd blaenorol yn cynnig nifer o argymhellion archwilio fel y rhai ar gyfer Recriwtio, Diogelwch a'r prosiect Adnoddau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiadau Archwilio Mewnol a ddosbarthwyd ym mis Hydref
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 236
- Cyfyngedig 237
- Cyfyngedig 238
- Cyfyngedig 239
- Cyfyngedig 240
Cofnodion:
5.0
Eitem 5 -
Adroddiadau Archwilio Mewnol a ddosbarthwyd ym mis Hydref
ACARAC
(05-16) Papur 6 - Adolygiad Sicrwydd o'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol
ACARAC
(05-16) Papur 7 - Nodyn briffio ar Seiber-ddiogelwch - (i'w drafod o dan eitem
8)
ACARAC
(05-16) Papur 8 - Archwiliad Caffael - adroddiad diweddaru
ACARAC
(05-16) Papur 9 - Papur eglurhaol adroddiad Archwiliad Mewnol Rheoli Risg
ACARAC
(05-16) Papur 9 - Atodiad A - Adroddiad Archwilio Rheoli Risg
5.1
Diolchodd
y Pwyllgor i Gareth am ddosbarthu nifer o bapurau y tu allan i'r pwyllgor ac am
rannu ei ymatebion i'r sylwadau a ddaeth i law. Cytunodd Gareth y byddai'n
ailgyflwyno derbyn neu wrthod argymhellion Archwilio Mewnol yn ei adroddiadau.
5.2
Cadarnhaodd
y tîm clercio bod y papurau yn y pecyn yr un fath â'r rhai a ddosbarthwyd ym
mis Hydref ac y byddent yn ystyried cyfeirnodi'r papurau hyn yn wahanol yn y
dyfodol.
Camau
gweithredu i’w cymryd
-
Cytunodd
Gareth y byddai'n ailgyflwyno derbyn neu wrthod argymhellion Archwilio Mewnol
yn ei adroddiadau.
-
y tîm clercio i egluro cyfeirnodi papurau sydd wedi cael eu dosbarthu y
tu allan i'r pwyllgor.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 243
Cofnodion:
4.0
Eitem 4 -
Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf
ACARAC (05-16) Papur 5 - Gweinyddu Pensiynau
4.1
Canlyniad
yr archwiliad Gweinyddu Pensiynau oedd cael sgôr 'cryf'. Adroddwyd bod yna drefniadau cadarn ar waith
ar gyfer gweinyddu Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau
pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad. Nodwyd cyfleoedd i wella effeithlonrwydd
a lleihau'r angen am ragor o ymyrraeth â llaw.
4.2
Cadarnhaodd Gareth fod
argymhellion wedi cael eu derbyn a bod y broses weithredu yn mynd rhagddo.
Byddai'r angen i ymyrryd â llaw yn cael ei ddisodli erbyn mis Ionawr pan fyddai
ymarfer dilysu yn cael ei wneud.
Cyfarfod: 13/06/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Cofnodion:
ACARAC (03-16) Papur 3 – Adroddiad sy’n
rhoi’r wybodaethddiweddaraf am Archwilio Mewnol 2015-16
3.1
Rhoddodd Gareth Watts y
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am waith archwilio a wnaed yn ddiweddar. Roedd
wedi cwblhau pob un o archwiliadau 2015-16 ac wedi cwblhau ei Adroddiad
Blynyddol a’r Adroddiad Blynyddol ar Dwyll. Roedd hefyd wedi cynnal
hunanasesiad yn ôl Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS).
3.2
Roedd Gareth wedi trafod ei gynllun archwilio ar gyfer 2016-17 gyda’r TIAA,
darparwr gwasanaeth archwilio mewnol ar gontract allanol y Comisiwn, ac roedd
archwiliad rheoli risg wedi dechrau ddydd Llun 13 o Fehefin.
3.3
Er y byddai’r ffocws ar archwiliadau yn y dyfodol, a allai gael eu newid yn
dibynnu ar beth fyddai blaenoriaethau Comisiwn newydd y Cynulliad, sicrhaodd
Gareth y Pwyllgor y byddai ef yn parhau i ddilyn yr argymhellion a wnaed fel
rhan o’r archwiliadau yn y blynyddoedd blaenorol. Croesawodd y Pwyllgor hyn, yn
enwedig mewn perthynas â’r archwiliad dilynol o ran caffael. Byddai Gareth
hefyd yn parhau i ddarparu sicrwydd ar: y Cynllun Ymadael Gwirfoddol; byddai’n
aelod gweithredol o’r bwrdd prosiect ar gyfer y system gyllid newydd; a
byddai’n cynnal adolygiad o’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau (IRB).
3.4
Mewn perthynas â Llawlyfr Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg diwygiedig
Trysorlys EM, awgrymodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ba mor
berthnasol yw’r canllawiau yn yr atodiadau newydd ar seiberddiogelwch a
chwythu’r chwiban.
3.5
Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar amseriad yr ymarferiad Sicrhau Ansawdd
Allanol (EQA) gwasanaethau archwilio mewnol a chanlyniad adolygiad o’r tîm
Llywodraethu ac Archwilio. Eglurodd Gareth, er bod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol
i’r ymarferiad Sicrhau Ansawdd Allanol gael ei gwblhau erbyn 2018, ei nod ef
oedd ei gwblhau yn gynt. Disgrifiodd hefyd sut yr oedd diwrnod cwrdd i ffwrdd
wedi darparu cynigion clir ar sut i fynd â’r tîm ymlaen. Cytunodd i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am unrhyw newidiadau.
Camau i’w cymryd
-
Gareth i adolygu atodiadau Llawlyfr Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
diwygiedig Trysorlys EM ynghylch seiberddiogelwch a chwythu’r chwiban ac adrodd
ynghylch ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor.
-
Gareth i ddiweddaru’r Pwyllgor ym
mis Tachwedd ynghylch newidiadau i’r tîm Llywodraethu ac Archwilio.
Cyfarfod: 13/06/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
Cofnodion:
ACARAC (03-16) Papur 4 –
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
4.1
Cyflwynodd Gareth Farn ac Adroddiad
Blynyddol yr Archwiliwr Mewnol ar gyfer 2015-16. Mae’r adroddiad
yn rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ystod
y flwyddyn ac yn rhoi barn ar sail y gwaith hwnnw ac arsylwadau ehangach
eraill.
4.2
Mewn ymateb i gwestiynau
gan aelodau’r Pwyllgor am yr argymhellion sy’n weddill, esboniodd Gareth fod y
rhain yn ymwneud â dogfennu prosesau ar gyfer dangosyddion perfformiad
allweddol yr oedd adolygiad ohonynt yn parhau gan aelodau ei dîm. Byddai’r
adolygiad, a oedd yn ystyried y broses o gasglu dangosyddion perfformiad
allweddol ac adrodd yn eu cylch, yn ogystal â pha mor ystyrlon yr oeddent, yn
mynd i’r afael â’r argymhellion hyn. Cadarnhaodd fod yr ymgysylltu â’r
Penaethiaid Gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol hyd yma.
4.3
Roedd barn Gareth yn nodi, “roedd gan
Gomisiwn y Cynulliad drefniadau rheoli a llywodraethu risg digonol ac
effeithiol i reoli’r gwaith o gyflawni ei amcanion”.
4.4
Roedd Gareth wedi dangos ei adroddiad i Ann-Marie Harkin a Matthew Coe cyn
y cyfarfod hwn. Roedd y ddau yn canmol yr adroddiad am ei fanylder a rhoddwyd
gwybod i’r Pwyllgor eu bod wedi defnyddio’r archwiliad rheolaethau ariannol
allweddol i’w cynorthwyo wrth archwilio’r cyfrifon.
4.5
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cynhwysfawr hwn a barn archwilio Gareth.
Anogwyd Gareth i rannu adroddiadau a diweddariadau gyda nhw drwy gydol y
flwyddyn, ac roedd yn fodlon iawn i wneud hynny.
4.6
Mewn perthynas â’r adolygiad o bolisi Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd y
Comisiwn, awgrymodd y Pwyllgor y dylid gwirio pa mor berthnasol yw canllawiau diweddar
y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar dwyll a llwgrwobrwyo.
Cam i’w gymryd
-
Gareth i wirio canllawiau diweddar y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar asesiadau
risg o ran twyll a llwgrwobrwyo ac adrodd ar
unrhyw ganfyddiadau i’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr Adroddiad Archwilio Mewnol diweddaraf ac adroddiadau Archwilio Mewnol a ddosbarthwyd yn flaenorol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 250
- Cyfyngedig 251
- Cyfyngedig 252
- Cyfyngedig 253
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 4 -
Gwneud y gorau o Ystâd y Cynulliad
4.1
Cyflwynodd Gareth yr adolygiad hwn a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o
ran un o flaenoriaethau corfforaethol y Comisiwn. Dywedodd wrth y Pwyllgor i Reolwr Profiad
Ymwelwyr a Lleoliad newydd gael ei benodi'n ddiweddar ac y byddai hwnnw'n bwrw
ymlaen â'r argymhellion.
4.2
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor ar adnewyddu swyddfeydd yr
Aelodau, esboniodd Gareth a Dave i'r gwaith gael ei wneud fel rhan o'r rhaglen
cynnal a chadw a gynlluniwyd.
4.3
Canolbwyntiodd trafodaeth bellach ar werth am arian yn y tymor hir o ran
defnyddio ystâd y Cynulliad, gan gynnwys y potensial i brynu Tŷ
Hywel. Cytunodd Dave i ailedrych ar y mater. Cytunwyd bod ystyriaethau ehangach ynghylch
materion hygyrchedd yn ardal Bae Caerdydd yn bwysig, ond eu bod i raddau
helaeth y tu allan i reolaeth y Comisiwn.
4.4
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad cynhwysfawr hwn, yn enwedig o ran mynd
i'r afael ag amcanion y Comisiwn. Anogwyd parhau i ddefnyddio adborth am
brofiad ymwelwyr.
Camau gweithredu
-
Dave i ymchwilio i opsiynau ar gyfer prynu Tŷ Hywel.
Yr adroddiadau Archwilio
Mewnol a ddosbarthwyd yn flaenorol
ACARAC (32) Papur 5 -
Gwasanaethau Dwyieithog
ACAC (32) Papur 6 –
Dadansoddi Data
ACARAC (32) Papur 7 -
Rheolaeth Gyllidebol
4.5
Cafodd tri adroddiad archwilio mewnol eu cylchredeg y tu allan i'r pwyllgor
ar 30 Mawrth a rhoes Gareth grynodeb o'r sylwadau/ymholiadau a ddaeth i
law. Amlygwyd y ffaith y dylid canmol y
gefnogaeth ar gyfer unigolion a'r defnydd o dechnoleg a nodwyd yn yr archwiliad
o'r Gwasanaethau Dwyieithog Ehangach.
4.6
Yn yr archwiliad Dadansoddi
Data, a gynhaliwyd gan TIAA, cadarnhawyd nad oedd arwydd o ymddygiad twyllodrus
yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw. Awgrymodd aelodau Pwyllgor y dylai
archwiliadau yn y dyfodol ddatgan yn glir mai nodi unrhyw dystiolaeth o
ymddygiad twyllodrus yw eu hamcan.
4.7
Nododd yr archwiliad o Reolaeth Gyllidebol feysydd y gallai system ariannol
newydd eu gwella. Cadarnhaodd Nia fod y datrysiadau a wneir â llaw yn
effeithiol ond eu bod yn defnyddio llawer o adnoddau.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 256
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 3 – Adroddiad Archwilio Mewnol
2015-16
3.1
Rhoes Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith archwilio
diweddar. Ym mis Chwefror, aeth i
Fforwm Archwilio Mewnol Rhyngseneddol lle y trafodwyd dulliau o ran cynllunio,
diogelwch seiber a threuliau Aelodau.
3.2
Roedd Gareth wedi rhoi manylion y trafodaethau diogelwch seiber yn y fforwm
i Bennaeth TGCh a Darlledu'r Comisiwn a fyddai'n rhoi sylw i'r wybodaeth hon.
3.3
Cytunwyd hefyd mai Gareth a fyddai'n cynnal archwiliadau o dreuliau Aelodau
yn lle Swyddfa Archwilio Cymru yn y dyfodol, gan y byddai hyn yn fwy
cost-effeithiol.
3.4
Mewn cyfarfod diweddar
o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau, cymeradwywyd yr achos busnes ar gyfer
disodli'r system cyllid, a chadarnhaodd Gareth y byddai'n mynd i gyfarfodydd y
bwrdd prosiect.
3.5
Yn ogystal â'r adolygiad arfaethedig o effeithiolrwydd y Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau, dywedodd Gareth ei fod wedi bod yn ystyried opsiynau fel y gallai'r
tîm llywodraethu roi cefnogaeth ychwanegol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau.
Anogodd y Cadeirydd iddo ystyried technegau ystwyth fel rhan o'r adolygiad hwn.
3.6
Ac yntau wedi cael ei benodi yn aelod o Bwyllgor Archwilio Coleg Gwent yn
ddiweddar, disgrifiodd Gareth ei gyfraniadau a'r cyfleoedd rhwydweithio a
gafwyd yn sgil hyn. Gan i Goleg Gwent
weithredu system ariannol newydd yn ddiweddar, byddai'n rhannu gwybodaeth
gyswllt â Nia Morgan.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Protocol ar gyfer Cydweithio gydag Archwilio Mewnol: y Wybodaeth Ddiweddaraf
Cofnodion:
Eitem lafar
7.1
Dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor i'r protocol gweithio wedi'i ddiweddaru a
gymeradwywyd ym mis Ebrill 2015 gael ei adolygu a chafwyd ei fod yn ddilys o
hyd. Mae'n cwrdd yn rheolaidd ag
Arweinydd Tîm yn Swyddfa Archwilio Cymru i drafod y berthynas weithio barhaus. Croesawodd y Pwyllgor y dystiolaeth hon o
barhad yn y berthynas weithio gref ag archwilwyr allanol.
7.2
Nododd y Pwyllgor hefyd y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal yr
adolygiad allanol o gydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 261
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 8 – Cynllun Amlinellol Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17
5.1
Cymeradwyodd y Pwyllgor strategaeth Gareth yn ei gyfarfod ym mis Chwefror
gan groesawu ei gynllun amlinellol ar gyfer 2016-17.
5.2
Pan ofynnwyd iddo a ddylai ei gynllun gynnwys system gyllid newydd,
cytunodd Gareth i drafod y mater â Nia i bennu lefel y sicrwydd yr oedd y bwrdd
prosiect yn gofyn amdano.
5.3
Hefyd, cafodd y Pwyllgor rywfaint o wybodaeth bellach gan Gareth am yr
adolygiad arfaethedig o ddiogelwch. Yn
dilyn cyfnod o ailstrwythuro yn y tîm, roedd Gareth am sicrhau bod y newidiadau
yn rhan annatod o'r maes gwasanaeth cyn iddo gynnal ei adolygiad.
5.4
Canolbwyntiodd trafodaeth ehangach ar y gwasanaeth diogelwch a ddarperir
gan Heddlu De Cymru. Rhoes Claire
sicrwydd i'r Pwyllgor fod y goblygiadau ariannol o gynyddu presenoldeb yr
heddlu wedi cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau eu bod yn angenrheidiol ac yn
gost effeithiol.
5.5
Hefyd, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Dave am y gwaith i asesu pa mor
agored yw'r Comisiwn i risgiau diogelwch seiber, gan gynnwys cyflogi arolygydd
o ogledd Cymru i helpu i nodi a rheoli risgiau o ran ymosodiadau i'n System
Rheoli Adeilad.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 264
Cofnodion:
ACARAC
(31) Papur 7 – Strategaeth Archwilio Mewnol 2016-17
5.1
Cyflwynodd
Gareth ei dogfen strategaeth ar gyfer 2016-17 a fyddai’n newid, o bosibl, ar ôl
i Gomisiwn newydd y Cynulliad gael ei benodi.
Fel bob amser, byddai’n parhau i rannu enghreifftiau o arferion da a
diwygio ei ffordd o weithio os oedd yn teimlo y byddai o fudd i waith archwilio
mewnol.
5.2
Wrth
ddisgwyl newid i gynnwys linc i’r protocol gweithio rhwng Archwilio Mewnol ac
Archwilio Allanol, cymeradwyodd y Pwyllgor y strategaeth.
Cam i’w gymryd
-
Gareth i
gyfeirio at y protocol gweithio rhwng Archwilio Mewnol ac Archwilio Allanol yn
adran Siarter Archwilio Mewnol y strategaeth.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr adroddiadau archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 267
Cofnodion:
ACARAC
(31) Papur 6 - Rheolaethau Ariannol Allweddol
4.1
Gwnaed
archwiliad o’r Rheolaethau Ariannol Allweddol gan TIAA a rhoddwyd sgôr
cryf. Dywedodd Gareth fod cyflenwad
llawn o staff yn y tîm Cyllid wedi cynyddu cadernid a chryfder y rheolaethau a
oedd ar waith yn sylweddol. Cymeradwyodd
aelodau’r Pwyllgor y tîm Cyllid ar gadernid y rheolaethau.
4.2
Roedd Swyddfa
Archwilio Cymru yn fodlon ar yr asesiad, a gobeithio y gallai osod rhywfaint o
ddibyniaeth ar hyn yn ystod yr archwiliad o’r cyfrifon.
4.3
Sicrhawyd
aelodau’r Pwyllgor, er gwaethaf y cyfyngiadau a nodwyd eisoes yn y system
gyllid bresennol, fod y rheolaethau angenrheidiol ar waith.
4.4
Yna bu
aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu dosbarthu gwybodaeth i bobl y tu allan i’r tîm
cyllid. Rhoddodd swyddogion wybod i’r
pwyllgor fod Cydlynwyr Cyllid ar gael ym mhob gwasanaeth a defnyddiwyd
cyfarfodydd misol i rannu gwybodaeth, yn ogystal â chyfarfodydd rheolaidd gyda
deiliaid cyllidebau i drafod materion o ran rhagweld a staffio.
4.5
Yn olaf,
awgrymodd y Pwyllgor y dylai swyddogion edrych ar y broses sydd ar waith ar
gyfer adennill gordaliadau.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 270
- Cyfyngedig 271
- Cyfyngedig 272
Cofnodion:
ACARAC (31)
Papur 3 – Adroddiad Diweddaru IA 2015-16
ACARAC
(31) Papurau 4 a 5 - Monitro’r Argymhellion Archwilio Mewnol
3.1
Rhoddodd
Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am waith archwilio a wnaed yn
ddiweddar. Roedd yr archwiliadau ar
Wasanaethau Dwyieithog Gwell ac ar Reolaeth Ariannol a Rheoli Cyllidebol yn
gyflawn a byddent yn cael eu dosbarthu y tu allan i’r cyfarfod, unwaith y
byddai ymatebion rheolwyr wedi dod i law.
Mae gwaith ar Ddadansoddeg Data wedi’i drefnu ar gyfer diwedd mis
Chwefror ac unwaith eto, roedd Gareth am ddosbarthu adroddiad hwn y tu allan
i’r pwyllgor.
3.2
Roedd
Claire Clancy a Dave Tosh wedi cymeradwyo papur yn amlinellu strwythur tîm
Llywodraethu ac Archwilio diwygiedig yn ddiweddar. Er nad oedd wedi’i ddosbarthu i aelodau’r
pwyllgor, byddai Gareth yn trafod ei gynnig yn ystod y sesiwn breifat rhwng
aelodau’r pwyllgor a’r Pennaeth Archwilio Mewnol.
3.3
Yna
rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am waith yr oedd ef a
Kathryn Hughes wedi’i wneud ar y Fframweithiau Llywodraethu a Sicrwydd. Roeddent wedi cwrdd â Chyfarwyddwyr a
Phenaethiaid Gwasanaeth ac roeddent yn y broses o ddadansoddi’r tablau Mapio
Sicrwydd a oedd wedi’u cwblhau, a byddai’r cynnydd arnynt yn cael ei gyflwyno
i’r pwyllgor ym mis Ebrill.
3.4
Gan gyfeirio’n
benodol at yr archwiliad ymgysylltu â’r cyhoedd yn ddiweddar, anogodd y
pwyllgor swyddogion i rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd â phwyllgorau a
Chomisiynwyr y Cynulliad yn y dyfodol.
3.5
Pan holwyd
ef ynghylch nifer yr argymhellion a wnaed yn ystod ei gyfnod yn y Comisiwn,
credai Gareth fod yr amrywiad o ran niferoedd o un flwyddyn i’r llall yn
adlewyrchu’r gwahanol bynciau a archwiliwyd a swm y materion a nodwyd gyda'r
pynciau gwahanol. Er enghraifft, gallai nifer
fawr yr argymhellion yn 2014-15 i raddau helaeth gael ei briodoli i’r
archwiliadau Recriwtio a Diogelwch. Bu
2012-13, o ganlyniad i newidiadau o ran trefniadau Archwilio Mewnol, yn
flwyddyn o drawsnewid, a bu mwy o ffocws ar ddilyn argymhellion blynyddoedd
blaenorol’.
3.6
Nododd y
Cadeirydd fod prosesau Archwilio Mewnol ar gyfer monitro ac adrodd ar
argymhellion bellach yn fwy syml a rhagweithiol, a dywedodd Claire ei bod hi’n
hapus â’r dull cyfredol o waith Archwilio Mewnol sy’n canolbwyntio ar feysydd
sydd â’r risg a’r pryder mwyaf, a fyddai weithiau’n arwain at nifer fawr o
argymhellion.
3.7
Roedd yn fater
calonogol iawn i’r aelodau nad oedd dim pryderon am unrhyw un o ymatebion y
rheolwyr i argymhellion archwilio, na’r cynnydd ar yr argymhellion hynny.
Cam i’w
gymryd
-
Gareth i
ddosbarthu adroddiadau archwilio ar Wasanaethau Dwyieithog, Rheolaeth Ariannol
a Rheoli Cyllidebol ac ar Ddadansoddeg Data y tu allan i’r pwyllgor.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr adroddiadau archwilio mewnol diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 275
- Cyfyngedig 276
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 5 - Adroddiad Archwilio - Ymgysylltu â'r Cyhoedd
ACARAC (30) Papur 6 -
Sicrhau Ansawdd a’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddatblygiad Proffesiynol
Parhaus
4.1
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad archwilio ar Ymgysylltu â'r Cyhoedd, gan
nodi bod y Cynulliad yn canolbwyntio'n llwyr ar ymgysylltu â'r cyhoedd. Wedi
dweud hynny, teimlai'r Pwyllgor fod angen adolygu dulliau cyfranogi. Roedd
angen i’r sefydliad fod yn fwy gwydn i sylw negyddol yn y wasg a dylai ymdrechu
i gael sylw mwy cadarnhaol i’w weithgareddau.
4.2
Yn dilyn adborth negyddol o nifer o ffynonellau, hysbysodd Claire Clancy y
Pwyllgor fod angen gwella’r wefan yn sylweddol.
Roedd y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau wedi dyrannu cronfeydd i wneud y
wefan yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio.
Croesawodd y Pwyllgor yr ymrwymiad hwn a phwysleisiwyd y dylai
gwelliannau fod yn barhaus.
4.3
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r Strategaeth Ymgysylltu’n flaenoriaeth
uchel a fyddai’n cael ei datblygu gan y Pumed Cynulliad. Dylai'r strategaeth ystyried pa ddangosyddion
fyddai'n cael eu defnyddio i fesur perfformiad.
Awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried
ymgysylltu yn gyffredinol wrth drafod y risgiau’n ymwneud â newid
cyfansoddiadol yn y dyfodol.
4.4
Fel y cytunwyd gan y Cadeirydd, cyhoeddodd Gareth yr adroddiadau archwilio
Caffael ac Adolygiad o Ddyfodol TGCh ym mis Hydref.
4.5
Ers yr archwiliad Caffael, roedd sesiynau hyfforddi wedi’u trefnu gyda
niferoedd cadarnhaol yn manteisio arnynt.
Roedd echdynnu gwybodaeth reoli o CODA (y system ariannol) yn broblem,
ond roedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi darparu dadansoddiad o
wybodaeth am wariant ar brynu nwyddau a fyddai'n gwella ansawdd y wybodaeth
reoli sydd ar gael i'r Tîm Caffael at ddibenion monitro. Sicrhaodd Gareth y Pwyllgor fod diffyg cydymffurfio
â rheolau caffael yn cael ei gymryd o ddifrif gan y rheolwyr ac roedd yn
gyfforddus â’r cynnydd a oedd yn cael ei wneud ynghyd â’r camau gweithredu y
mae’r rheolwyr yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau.
4.6
Holodd y Pwyllgor ynglŷn â’r diffyg adroddiad gwireddu buddion ar
gyfer yr Adolygiad o Ddyfodol TGCh.
Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd adolygiad llawn o'r buddion yn cael ei
gynnal ar ddiwedd y prosiect a chafodd hyn ei gytuno ar wahanol adegau gwirio, drwy
gydol oes y prosiect. Roedd canllawiau
rheoli prosiect ehangach ynghyd â fframwaith buddion bellach ar waith i sicrhau
bod ffocws priodol ar wireddu buddion yn y dyfodol.
4.7
Llongyfarchodd y Cadeirydd Gareth ar ei benodiad diweddar i Bwyllgor
Archwilio Coleg Gwent.
Camau gweithredu
-
Gareth i fynd ar drywydd yr argymhellion ynglŷn ag Ymgysylltu â'r
Cyhoedd.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 279
- Cyfyngedig 280
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 3 –
Adroddiad diweddaru ar Archwilio Mewnol 2015-16
ACARAC (30) Papur 4 –
Argymhellion Archwilio Mewnol - Monitro
3.1
Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd yn
erbyn ei gynllun archwilio ar gyfer 2015-16.
Sicrhaodd y Pwyllgor fod yr amserlen waith a gynlluniwyd ganddo ar y
trywydd iawn ac y byddai'n parhau i fonitro'r argymhellion sy'n weddill. Roedd cynnydd da yn cael ei wneud o ran
gweithredu’r argymhellion o archwiliadau blaenorol, gan gynnwys Gwerth am Arian
a Chynghorwyr Arbenigol. Cytunodd Gareth
i gyflwyno adroddiad yn rhestru’r camau gweithredu sy’n weddill ym mis Chwefror
2016.
3.2
Croesawodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Gareth am gyfres o
gyfarfodydd y bu’n bresennol ynddynt gyda Kathryn Hughes (Rheolwr Risg) a
Phenaethiaid Gwasanaeth. Roedd y
cyfarfodydd 'Materion Llywodraethu' yn rhan o'r Fframwaith Sicrwydd, gan
adeiladu ar y datganiad Sicrwydd a Llywodraethu a chodi proffil y tîm
Llywodraethu ac Archwilio. Ar ôl ei
gymeradwyo, cytunodd Gareth i rannu copi wedi’i ddiweddaru o strwythur y tîm
Llywodraethu ac Archwilio i'r Pwyllgor.
3.3
Yn ystod y misoedd nesaf, byddai'n canolbwyntio ar sicrhau gwasanaethau
dwyieithog gwell yn y Comisiwn a rheolaethau ariannol allweddol. Yn ogystal â’r cynllun a gymeradwywyd, mae
wedi cytuno ar ddarn ychwanegol o waith gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid ar reolaethau
dros ddatgeliadau pensiwn.
Camau gweithredu
-
Gareth i ddarparu adroddiad manwl o’r argymhellion sy’n weddill o'r pedair
blynedd diwethaf.
-
Gareth i gyflwyno Fframwaith Llywodraethu wedi'i ddiweddaru.
-
Gareth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
am strwythur diwygiedig y tîm Llywodraethu ac Archwilio.
Cyfarfod: 08/06/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Archwilio Mewnol - y wybodaeth ddiweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 283
Cofnodion:
ACARAC (28) Papur 3 - Adroddiad Cynnydd ar Archwilio Mewnol
3.1
Rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am weithgarwch ers
cyfarfod mis Ebrill. Penderfynwyd ar gwmpas terfynol yr archwiliad caffael a
bydd adroddiad yn cael ei lunio dros yr haf.
3.2
Gofynnodd y Pwyllgor pa weithgarwch sydd wedi'i gynllunio ar gyfer mis
Ionawr 2016 - 'Astudiaeth o Werth am Arian o ran Defnyddio Ystâd y Cynulliad',
yn sgil cynigion i edrych yn ehangach ar effeithlonrwydd busnes. Esboniodd
Gareth fod hyn yn gysylltiedig ag un o flaenoriaethau allweddol Comisiwn y
Cynulliad. Byddai Dave Tosh a Mike Snook yn arwain y gwaith hwn, a fyddai'n
bwydo i mewn i'r adolygiad ehangach o effeithlonrwydd busnes. Holodd y Pwyllgor
hefyd am ganlyniadau'r gwaith o feincnodi’r Datganiad Llywodraethu yn erbyn
canllawiau SAC. Esboniodd Gareth fod y gwaith yn dangos bod yr holl ganllawiau
wedi cael eu hystyried.
3.3
Dywedodd Nicola Callow wrth y Pwyllgor fod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau
(BBA) a Keith Baldwin wedi craffu ar achos busnes prosiect y
system cyllid newydd. Byddai achos busnes diwygiedig yn cael ei gyflwyno i'r
BBA cyn yr ymarfer caffael.
Cyfarfod: 08/06/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Fframwaith Asesu Ansawdd Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 286
- Cyfyngedig 287
Cofnodion:
ACARAC (28) Papur 5 -
Fframwaith Asesu Ansawdd - papur eglurhaol
ACARAC (28) Papur 6 - Fframwaith Asesu Ansawdd
5.1
Rhoddodd Gareth grynodeb i’r Pwyllgor o ganlyniadau hunanasesiad yn erbyn
Rhaglen Sicrhau Ansawdd a Gwella yr adran Archwilio Mewnol, a gynhaliwyd yn
unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
5.2
Soniodd am ei waith i godi proffil Archwilio Mewnol yn y sefydliad ac roedd
yn teimlo bod prosesau ymgysylltu wedi gwella ers iddo gael ei benodi. Roedd angen cynnal ymarfer cwmpasu cyn ystyried
llwybrau caffael a chyflenwyr posibl i gynnal adolygiad allanol.
5.3
Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar i Gareth am y wybodaeth ac yn croesawu ei
awgrym y gallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn
camau gweithredu yn y dyfodol. Hefyd, croesawodd aelodau'r Pwyllgor ei ddull
hunanfeirniadol.
Camau gweithredu
-
Gareth Watts i roi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y camau
gweithredu a geir yn Fframwaith Asesu Ansawdd yr adran Archwilio Mewnol.
Cyfarfod: 08/06/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 290
Cofnodion:
ACARAC (28) Papur 4 -
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
4.1
Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yr adroddiad yn asesiad da o’r gwaith a wnaed
gan Gareth yn ystod y flwyddyn. Roedd Aelodau'r pwyllgor wedi’u calonogi o weld
y fforymau a’r digwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu yn ddiweddar a’i ymagwedd
ragweithiol wrth geisio dod o hyd i gysylltiadau ac enghreifftiau o arfer da.
Cytunodd Gareth i rannu'r dulliau arfer gorau hyn â'r Pwyllgor.
Camau gweithredu
-
Gareth Watts i rannu ei brofiadau o arfer gorau ym maes archwilio mewnol yn
y sector cyhoeddus
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiadau diweddaraf Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 293
- Cyfyngedig 294
- Cyfyngedig 295
Cofnodion:
ACARAC (27)
Paper 6 – Adolygu’r drefn ar gyfer penodi Cynghorwyr Arbenigol ar bwyllgorau.
4.1
Croesawodd y Pwyllgor yr
adroddiad hwn a’r argymhellion pendant i gryfhau’r broses. Roedd yr aelodau’n
gobeithio y byddai’r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith er mwyn i bwyllgorau
fedru defnyddio cynghorwyr arbenigol yn fwy eang ac yn fwy effeithiol yn y
dyfodol. Fel rhan o hyn, awgrymwyd y dylai swyddogion archwilio’r angen i
hyfforddi cadeiryddion a chlercod pwyllgorau i ddefnyddio cynghorwyr
arbenigol. Ystyriwyd achosion posibl o
wrthdaro buddiannau gan gydnabod mai prin yw nifer yr arbenigwyr sydd ar gael i
rai pwyllgorau. Teimlwyd hefyd fod angen pwyso a mesur pa mor effeithiol oedd
cynghorwyr. Nododd yr aelodau y dylai’r Comisiwn ystyried Adroddiad y Swyddfa
Archwilio Genedlaethol a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2014 ac unrhyw ganllawiau
ychwanegol gan Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli achosion o wrthdaro yn y
dyfodol.
Camau i’w
cymryd
-
Penodi cynghorwyr arbenigol ar bwyllgorau – sicrhau bod yr argymhellion y
cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith ac nad oes unrhyw rwystrau sy’n atal
pwyllgorau rhag defnyddio cynghorwyr arbenigol yn y dyfodol.
-
Archwilio’r angen i
hyfforddi cadeiryddion neu glercod a dirprwy glercod i ddefnyddio cynghorwyr
arbenigol a sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw ar gael os yw hynny’n briodol.
ACARAC (27)
Paper 7 – Adroddiad Gwerth am Arian
4.2
Roedd Gareth yn falch o ddweud bod diwylliant cryf o ran sicrhau Gwerth am
Arian drwy’r sefydliad, er y gellid cynyddu effeithlonrwydd.
4.3
Holodd y Pwyllgor a ddylai oedi cyn recriwtio gael ei ystyried yn arbedion
Gwerth am Arian. Cadarnhaodd Claire fod oedi cyn penodi staff yn anorfod
weithiau, a bod y broses yn cael ei gohirio weithiau er mwyn arbed arian.
4.4
Roedd tîm Nicola wedi trafod dulliau o arbed arian gyda Phenaethiaid
Gwasanaeth drwy’r sefydliad a byddai arbedion Gwerth am Arian yn cael eu dangos
yn y Cyfrifon Blynyddol.
4.5
Croesawodd y Cadeirydd y ffaith y byddai’r wybodaeth yn cael ei chynnwys yn
y cyfrifon ac anogodd swyddogion i ganolbwyntio ar ddulliau o weithio’n fwy
effeithlon/symleiddio prosesau ac arbed arian drwy’r broses gaffael.
ACARAC (27)
Paper 8 – Adolygu trefniadau rheoli prosiectau Comisiwn y Cynulliad (eitem 12
hefyd)
4.6
Cadarnhaodd archwiliad Gareth nad oedd unrhyw beth annisgwyl wedi codi yn y
maes hwn. Byddai’r Comisiwn yn parhau i
ymdrin â nifer o’r problemau hanesyddol a nodwyd. Gellid gwella achosion busnes
ynghyd ag adolygiadau ar ôl gweithredu a’r gwaith o ddadansoddi’r buddion a
sicrhawyd.
4.7
Dywedodd Dave fod
dadansoddwyr busnes yn cael eu defnyddio’n gynyddol fel rhan o brosiectau a’r
gwaith sy’n mynd rhagddo’n ymwneud â rheoli buddion. Tanlinellodd y diwylliant
sydd eisoes wedi ymwreiddio mewn rhai meysydd yng ngwaith y Cynulliad lle mae
prosesau rheoli prosiectau ffurfiol ar waith eisoes.
4.8
Anogodd aelodau’r Pwyllgor y swyddogion i sicrhau bod digon o sylw’n cael
ei roi ar gyflenwi, bod amcanion clir yn cael eu gosod, bod adolygiadau’n cael
eu cynnal ar ôl cwblhau prosiect a bod gwersi’n cael eu dysgu.
4.9 Croesawodd y Cadeirydd y ddau bapur, roedd yn fodlon â’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 298
- Cyfyngedig 299
- Cyfyngedig 300
Cofnodion:
ACARAC (27)
Papur 3 - Adroddiad Cynnydd y Rhaglen Archwilio Mewnol 2014-15
ACARAC (27)
Papur 4 – Monitro Argymhellion Archwilio Mewnol
ACARAC (27)
Papur 5 – Strategaeth Archwilio Mewnol 2013-16
3.1
Roedd Gareth Watts wedi cwblhau ei raglen waith ar gyfer 2014-15 a
chanolbwyntiodd ar y cynnydd da a wnaed o ran argymhellion 2014-15.
3.2
Holodd y Pwyllgor ynghylch archwiliad cyfrifon
taladwy Data Analytics na roddwyd sgôr cwblhau iddo. Cadarnhaodd
Gareth nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb y data na’r perygl o
ran twyll.
3.3
Gofynnwyd hefyd am fanylion cynllun Gareth i archwilio System Gyfrifyddu’r Adran Gyllid. Cadarnhaodd Nicola Callow
a Gareth y byddai pob prosiect a sefydlwyd yn cael ei ychwanegu at ei raglen
waith. Roedd Nicola wedi cael sylwadau gwerthfawr ar yr achos busnes gan TIAA.
Byddai hefyd yn adolygu’r fenter gyda
Keith Baldwin.
3.4
Cadarnhaodd Gareth y byddai’n cynnwys ei weledigaeth ar gyfer rôl Archwilio
Mewnol yn y Cynulliad fel rhan o’i flaenraglen waith. Byddai hefyd yn trafod yr
archwiliad, Ymgysylltu’n Well, gyda’r Pennaeth Cyfathrebu gan holi a ellid
cyflwyno’r adroddiad ynghynt.
3.5
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei strategaeth ddiwygiedig gan groesawu
ei hyblygrwydd, yn enwedig y sylw cynyddol roedd yn ei roi i feysydd yn ymwneud
â Busnes y Cynulliad.
3.6
Yna cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Mike Snook am archwiliad Fetio’r Tîm
Diogelwch. Roedd ei dîm wedi nodi’r gweithwyr hynny roedd angen eu fetio at
ddibenion diogelwch (SC) ac roedd wedi bod yn gweithio i sicrhau y byddent i
gyd wedi’u fetio erbyn dechrau toriad yr haf ym mis Gorffennaf 2015.
3.7
O ran clirio gweithwyr ar lefel is (CTC), roedd y trafodaethau â’r undebau
llafur yn parhau a dylid cwblhau’r broses fetio erbyn mis Mai 2016. Roedd Mike
a Dave Tosh hefyd wedi siarad â Llywodraeth Cymru am eu dull o weithredu.
3.8
Sicrhawyd aelodau’r Pwyllgor bod cysylltiadau agos â Heddlu De Cymru ond
holwyd a oedd yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu â swyddogion y Cynulliad ar
yr adegau priodol.
3.9
Cadarnhaodd Dave fod Heddlu De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y
trafodaethau diweddaraf ac roeddent yn darparu gwybodaeth i Gomisiwn y
Cynulliad. Byddai Comisiwn y Cynulliad yn trafod diogelwch yn gyffredinol yn eu
cyfarfod ar 23 Ebrill.
3.10 At ei gilydd,
roedd aelodau’r Pwyllgor ac Archwiliad Mewnol yn fodlon â’r cynnydd a
wnaed.
Camau i’w cymryd
-
Holi Heddlu Gogledd Cymru a oedd ganddynt wybodaeth ychwanegol ar gael am fygythiadau
lleol i’w rhannu a sut y gellid dosbarthu’r wybodaeth hon yn ehangach.
-
Strategaeth Archwilio Mewnol 2013-16 – sicrhau bod y ddogfen yn cyflwyno’r
weledigaeth ar gyfer rôl Archwilio Mewnol yn y Cynulliad yn y dyfodol.
-
Sicrhau bod y wybodaeth yn
nhablau Strategaeth Archwilio Mewnol yn cyd-fynd â’r wybodaeth yn y Siarter
Archwilio Mewnol.
-
Ymgysylltu’n Well – asesu a ellid
cyflwyno’r adroddiad terfynol yn nhymor yr hydref 2015 yn hytrach na mis Ionawr
2016.
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adolygu’r Siarter Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 303
Cofnodion:
ACARAC (27)
Papur 9 – Y Siarter Archwilio Mewnol
5.1
Tynnodd Gareth sylw at yr unig newid yn y siarter, sef ei bod yn awr yn
atebol i Claire Clancy yn uniongyrchol.
5.2
Roedd y Pwyllgor yn
fodlon â’r siarter.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Hyrwyddo cydweithredu rhwng archwilwyr a chyrff adolygu eraill
Cofnodion:
17.1
Byddai Gareth yn cyflwyno protocol gweithio gyda Swyddfa
Archwilio Cymru yng nghyfarfod mis Ebrill, a hynny'n dynodi rhai
diweddariadau. Gofynnodd y Cadeirydd i
Gareth hefyd ystyried a chrynhoi ffynonellau o sicrwydd allanol, neu
ffynonellau posibl, i ategu'r rhai a nodir yn y Fframwaith Sicrwydd.
Camau gweithredu
-
Gareth i grynhoi ffynonellau,
neu ffynonellau posibl, o sicrwydd allanol.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Gwaith Achlysurol Arfaethedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 308
Cofnodion:
ACARAC
(26) Papur 8 – Strategaeth Archwilio Mewnol ddiwygiedig ar gyfer 2013-16
5.1
Croesawodd Eric yr wybodaeth ddiweddaraf gan Gareth a'i
longyfarch ar godi proffil Archwilio Mewnol yn y Comisiwn. Hoffai gael sicrwydd bod modd ystwytho'r
strategaeth gan ddibynnu ar flaenoriaethau.
Gofynnodd hefyd am grynodeb o adborth Penaethiaid Gwasanaethau a oedd yn
rhan o'r archwiliadau.
5.2
Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am eglurhad ynghylch sut y byddai'r archwiliad
ar Well Ymgysylltu gyda Phobl Cymru yn ychwanegu gwerth gan nad oedd y mesur o
lwyddiant mor ddiriaethol ag y mae mewn meysydd eraill. Gwnaethant hefyd ail-bwysleisio pwysigrwydd
canolbwyntio ar y Gyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad a gofynnwyd i Gareth ddisgrifio'r
archwiliad o'r Gwasanaeth Llywodraethu ac Archwilio.
5.3
Diolchodd Gareth i'r Pwyllgor am y sylwadau a chytunodd i
ddarparu rhagor o fanylion ym mis Ebrill, ynghyd â chrynodeb o'r sylwadau a
gafwyd gan Benaethiaid Gwasanaeth.
Byddai ei archwiliad o wasanaethau Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys
meincnodi yn erbyn sefydliadau eraill ac, o bosibl, canfod ffyrdd gwahanol o
ddarparu gwasanaethau.
Camau
gweithredu
-
Rhoi sylw i sylwadau'r Pwyllgor am Strategaeth Archwilio
Mewnol 2013-16 a chyflwyno fersiwn derfynol i'r Pwyllgor ym mis Ebrill. Gan gynnwys:
o
hyblygrwydd a sut y gellir adnewyddu'r cynllun,
o
ffocws cytbwys ar feysydd busnes,
o
amserlen fanwl ar gyfer 2014-15.
-
Cynnwys adborth gan noddwyr
archwilio yn Adroddiad Blynyddol yr Archwiliad Mewnol.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr Adroddiadau Archwilio Mewnol Diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 311
- Cyfyngedig 312
- Cyfyngedig 313
Cofnodion:
ACARAC
(26) Papur 5 - Archwilio Fetio Diogelwch
ACARAC
(26) Papur 6 - Archwilio'r Gyflogres
ACARAC (26) Papur 7 - Meddalwedd Drafftio
Deddfwriaeth
4.1
Cyflwynodd
Gareth y tri adroddiad a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor ei fod yn fodlon ar ymatebion
y Bwrdd Rheoli.
4.2
Amlygodd
archwiliad y Gyflogres fod rheolaethau ar waith a'u bod yn gweithio'n
effeithiol, ond bod lle i wella polisïau a gweithdrefnau. Byddai Gareth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn y dyfodol fel rhan o'i adroddiadau monitro
argymhellion.
4.3
Amlygodd
yr archwiliad o'r Meddalwedd Drafftio Deddfwriaeth rai materion hanesyddol o
ran arferion rheoli prosiect, ond canolbwyntiodd yr archwiliad ar brofiad y
defnyddiwr yn hytrach nag ar weithredu'r system. Defnyddiodd swyddogion yn y Comisiwn y system
yn dda. Mae'r contract ar y cyd â
Llywodraeth Cymru yn dod i ben yn 2017 a'r Llywodraeth a fydd yn penderfynu yn
y pen draw a gedwir y system ynteu ei hamnewid.
4.4
Roedd y
Pwyllgor yn fodlon ar yr adroddiad a chroesawodd yr amserlenni arfaethedig ar
gyfer gweithredu'r argymhellion a'r dylanwad posibl a allai fod gan swyddogion
ar grŵp y defnyddwyr.
4.5
Maent
hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod swyddogion yn gwsmeriaid deallus ac at
archwilio pob opsiwn, gan gynnwys rhoi swyddogaethau di-graidd ar gontract
allanol. Esboniodd Dave fod y
Dadansoddwyr Busnes yn cymryd rhan yn gynnar ym mhroses y prosiect ond nid o
ran pennu manylebau atebion penodol.
Ategid y defnydd o wybodaeth ac arbenigedd mewnol gan ymchwil i'r farchnad
lle y bo hynny'n briodol. Byddai'r tîm
Caffael yn cynghori ar y fframwaith priodol cyn i achos busnes gael ei
baratoi.
4.6
Trafodwyd
yr archwiliad o Fetio Diogelwch yn helaeth.
Cadarnhaodd Gareth fod y rheolwyr wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â'r archwiliad
a'u bod wedi derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
Camau gweithredu
-
Byddai Dave yn cyflymu'r broses o roi'r argymhellion ar
gyfer archwiliad Fetio Diogelwch ar waith.
-
Byddai Gareth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am
weithredu'r holl argymhellion i'r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Ebrill cyfarfod
fel rhan o'r monitro argymhellion Archwilio Mewnol.
-
Byddai Dave yn adolygu ffordd Llywodraeth Cymru o
atgyfnerthu gweithdrefnau fetio.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 316
- Cyfyngedig 317
Cofnodion:
ACARAC (26) Papur 3 - Adroddiad cynnydd o ran Rhaglen
Archwilio Mewnol 2014-15
ACARAC (26) Papur 4 – Argymhellion Archwilio Mewnol -
Monitro
3.1
Rhoddodd
Gareth Watts yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn rhaglen archwilio
2014-15. Cytunodd y Pwyllgor fod cynnydd
yn gadarnhaol ond awgrymodd y dylai Gareth sicrhau ffocws priodol ar
Gyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad yng nghynllun archwilio 2015-16.
Cyfarfod: 10/11/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr Adroddiadau Archwilio Mewnol Diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 320
- Cyfyngedig 321
- Cyfyngedig 322
- Cyfyngedig 323
- Cyfyngedig 324
- Cyfyngedig 325
Cofnodion:
4.1
Cyflwynodd Gareth yr adroddiad ar yr adolygiad o reoli
asedau sefydlog. Mae'r holl argymhellion wedi cael eu derbyn ynghyd â'r
adroddiad dilynol ar yr adolygiad o reoli contractau cyfleusterau.
4.2
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor mewn
perthynas ag asedau sefydlog, sicrhaodd Nicola Callow y pwyllgor:
a.
y byddai cyfrifydd y Comisiwn yn gweithio gyda TGCh i
nodi asedau yr oedd angen eu cyfalafu;
b.
y byddai asedau dros £5,000 yn cael eu cynnwys fel rhan
o'r adolygiad interim o'r cyfrifon;
c.
y byddai rhifau cyfresol pob ased yn cael eu cofnodi cyn
diwedd y flwyddyn; a
d.
bod asesiad o fod yn agored i risg o ran prydlesi wedi ei
gynnal i baratoi ar gyfer unrhyw effaith.
4.3
Cyflwynodd Gareth yr adroddiad ar yr adolygiad recriwtio
a gynhaliwyd mewn ymateb i gais gan y Prif Weithredwr.
4.4
Sicrhaodd Claire y Pwyllgor fod canlyniadau'r archwiliad
yn cael eu defnyddio i lywio cyfres o welliannau. Byddai hyn yn cynnwys:
a.
datblygiad, gan y Bwrdd Rheoli, set o egwyddorion yn
ymwneud â gwneud penderfyniadau ar gyfer recriwtio;
b.
sicrhau bod y polisïau, y prosesau a'r canllawiau yn
gydlynol, yn hygyrch, yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a bod staff yn eu deall;
c.
sicrhau bod y broses o fabwysiadu'r egwyddorion a'r
polisïau, a'r rhesymau dros benderfyniadau'n ymwneud ag ymarferion recriwtio yn
dryloyw;
d.
sicrhau bod adolygiadau trylwyr yn cael eu cynnal ar
gyfer pob ymarfer recriwtio a fyddai'n cynnwys gwiriadau bod cofnodion wedi eu paratoi
a'u cadw yn unol â'r rheolau rheoli cofnodion a deddfwriaeth diogelu data; ac
e.
annog gwell perchnogaeth o faterion yn ymwneud â
recriwtio, datblygu a pherfformiad gan Benaethiaid Gwasanaeth.
4.5
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr ymagwedd hon a phwysleisiwyd
pwysigrwydd tryloywder, tegwch, a chadw cofnodion effeithiol.
4.6
Cynigiodd y Cadeirydd hefyd weithio gyda'r Pennaeth
Adnoddau Dynol i ddatblygu'r egwyddorion recriwtio ac adolygu'r polisïau a'r
prosesau sylfaenol. Byddai'r templed
achos busnes recriwtio yn cael ei rannu gydag aelodau'r Pwyllgor.
4.7
Rhoddodd Gareth gyflwyniad am yr adroddiad ar y prosiect
Cyflogres/Adnoddau Dynol. Cynhaliwyd yr
adolygiad gan Gareth a Gwyn Thomas, arbenigwr annibynnol.
4.8
Roedd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar lywodraethu'r prosiect,
yn hytrach na swyddogaeth graidd y system.
Daeth Gareth i'r casgliad bod y cwmpas yn uchelgeisiol, yr adnoddau'n
gyfyngedig, a'r amserlenni'n sefydlog.
Roedd y ffactorau hyn yn cyfrannu at oedi wrth gyflwyno cam 1 y prosiect
Cyflogres/ Adnoddau Dynol.
4.9
Nid oedd ei adroddiad yn tynnu sylw at unigolion, ond yn amlygu argymhellion
ynghylch cwestiynau a allai fod wedi cael eu codi gan y Bwrdd Buddsoddi a'r
Bwrdd Rheoli.
4.10
Roedd aelodau'r Pwyllgor yn synnu bod unigolion a oedd ag
ychydig neu ddim profiad o reoli prosiectau wedi'u haseinio i'r prosiect pwysig
a chymhleth hwn a bod atebion a oedd yn gwrth-ddweud ei gilydd gymaint yn cael
eu rhoi i rai o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r tîm prosiect.
4.11 Roedd Claire yn siomedig ac yn rhwystredig nad oedd y prosiect hwn yn cael ei gyflawni i safon arferol prosiectau cymhleth, proffil uchel eraill o fewn y Comisiwn. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 10/11/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 328
- Cyfyngedig 329
Cofnodion:
3.1
Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am y
cynnydd yn erbyn rhaglen waith 2014-15 a oedd ar y trywydd iawn ar gyfer ei
chyflwyno. Hefyd, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am
weithgareddau eraill fel presenoldeb yng nghyfarfodydd y bwrdd prosiect.
3.2
Dywedodd fod cynnydd da wedi ei wneud o ran gweithredu'r
argymhellion a fyddai'n cael eu dilyn maes o law.
3.3
Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd
yn erbyn argymhellion yr adolygiad o lywodraethu gwybodaeth, lle canolbwyntiwyd
ar ddatrys materion ymarferol fel diogelwch asedau symudol a storio gwybodaeth.
Gofynnodd y Pwyllgor am gyflwyniad ar y Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth yn y
cyfarfod nesaf.
3.4
Cadarnhaodd Gareth fod yr adolygiad o ddiogelwch ffisegol
ar fin cael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf a chytunodd i ddosbarthu'r
adroddiad i aelodau'r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gymeradwyo.
3.5
Llongyfarchodd y Cadeirydd Kathryn Hughes, Rheolwr Risg y
Comisiwn, ar y farn "gref" ar reolaethau'n ymwneud â rheoli risg.
Camau gweithredu
-
Gareth Watts i ddogfennu'n ffurfiol yr adborth a gafwyd
gan aelodau'r Pwyllgor ar adroddiadau a ddosbarthwyd yn ystod yr haf, a'i
ymatebion i hyn. Yr adborth a'r
ymatebion i gael eu cadw fel mater o drefn yn y dyfodol ar gyfer adroddiadau a
ddosberthir y tu allan i'r pwyllgor.
-
Dave Tosh i roi cyflwyniad ar y Fframwaith Llywodraethu
Gwybodaeth yng nghyfarfod mis Chwefror.
-
Gareth Watts i ddosbarthu'r adroddiad ar yr adolygiad o
ddiogelwch ffisegol pan fydd wedi'i gwblhau.
Cyfarfod: 07/07/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Cofnodion:
3.1
Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor
ar lafar. Roedd yr adroddiadau archwilio
Rheoli Risg a Llywodraethu Gwybodaeth wedi’u cwblhau ers mis Mehefin, ond
roeddent yn aros i gael eu clirio.
Cytunodd y Pwyllgor fod yr adroddiadau hyn ac adroddiadau eraill yn cael
eu dosbarthu yn ystod toriad yr haf, ynghyd â’r archwiliad Recriwtio, a oedd
wedi ennyn llawer o ddiddordeb ar draws y sefydliad. Roedd yr archwiliad Cydraddoldeb
hefyd wedi cael ei gwmpasu a byddai gwaith yn dechrau cyn bo hir.
3.2
Roedd wedi bod yng nghyfarfod Comisiwn y Cynulliad ar 18
Mehefin, a chyflwynodd ei adroddiad ar effeithiolrwydd y Comisiwn. Cafodd yr holl argymhellion eu derbyn, a,
dros yr wythnosau nesaf, byddai’n cwrdd â’r Ysgrifenyddiaeth i drafod cynllun
gweithredu. Aeth ymlaen i dynnu sylw at
rai canfyddiadau allweddol yn ei adroddiad, gan gynnwys yr heriau effeithiol yr
oeddent yn eu nodi o ran rhaglen TGCh y Dyfodol a’r prosiect Cyfieithu
Peirianyddol, ond nododd y gallai’r broses o gyfathrebu’r canfyddiadau hyn o
fewn y sefydliad gael ei gwella.
3.3
Ar 18 Gorffennaf, byddai Gareth yn cynnal Fforwm
rhyng-Seneddol Penaethiaid Archwilio Mewnol gyda’i gymheiriaid o bob rhan o’r
DU. Byddai’n adrodd ar hyn yn y cyfarfod
ym mis Tachwedd.
Cyfarfod: 09/06/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Yr Adroddiadau Archwilio Mewnol Diweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 334
Cofnodion:
4.1
Cyflwynodd Vicky Davies yr eitem hon a oedd yn adroddiad
ar fudo data’r gyflogres yn sgil y prosiect Adnoddau Dynol a’r Gyflogres. Roedd hwn yn adolygiad cwmpas cyfyngedig,
gyda sampl o 30 o gofnodion staff wedi’u gwirio.
4.2
Yn dilyn asesiad gan TIAA, nodwyd fod y Gyflogres – Mudo
Data yn ‘rhesymol’. Roedd yr asesiad yn
ymwneud â Mudo Data’r Gyflogres yn unig, ac roedd prosiect ehangach y system
Adnoddau Dynol a’r Gyflogres newydd wedi’i eithrio. Gwnaethpwyd a derbyniwyd 9 o
argymhellion.
4.3
Soniodd Dave Tosh, fel aelod o fwrdd prosiect Adnoddau
Dynol a’r Gyflogres, am rai materion yn ymwneud â pherthynas y Comisiwn gyda’r
cyflenwr a bod yr adnoddau ychwanegol o Gyngor Sir Fynwy yn gweithio’n dda i
ddatrys materion sy’n weddill. Roedd
camau gweithredu ac adnoddau yn cael eu hailgynllunio a byddai’r Bwrdd
Buddsoddi yn adolygu’r cynlluniau diwygiedig.
4.4
Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad dilynol yn yr hydref i
amlinellu cynnydd y prosiect.
Camau Gweithredu
-
Mike Snook (Uwch-swyddog Cyfrifol, prosiect Adnoddau
Dynol a’r Gyflogres) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yng nghyfarfod
mis Tachwedd.
Cyfarfod: 09/06/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 337
- Cyfyngedig 338
- Cyfyngedig 339
- Cyfyngedig 340
- Cyfyngedig 341
Cofnodion:
3.1
Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am raglen
waith 2014-15. Cafodd manylion y gwaith
yn 2013-14 eu nodi yn ei adroddiad blynyddol.
3.2
Ers mis Ebrill 2014, eglurodd ei fod wedi parhau i
weithio gyda Dave Tosh ac Alison Rutherford ar yr adolygiad o Lywodraethu
Gwybodaeth. Mewn ymateb i arolwg staff
diweddar, roedd yn cynnal archwiliad o Weithdrefnau Recriwtio ac yn anelu at
gynhyrchu adroddiad cyn toriad yr haf.
Ar y pryd, roedd TIAA yn cwmpasu’r archwiliad o’r Fframwaith Rheoli
Risg.
3.3
Hefyd, dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod wedi cwblhau
gwaith dilynol ar y Cynllun Dirprwyo Ariannol a siop Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Byddai’n adrodd yn ôl i Gomisiwn y Cynulliad ar 18 Mehefin yn dilyn
adolygiad o’u heffeithiolrwydd.
3.4
Yn dilyn trafodaeth fer ynghylch Parhad Busnes, anogodd y
Pwyllgor swyddogion i gyflymu’r gwaith hwn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
amdano erbyn mis Tachwedd 2014.
3.5
Eglurodd Dave Tosh fod cyfarfod llawn ffug wedi cael ei
gynnal dros doriad y Pasg a oedd yn gyfle penodol i brofi gweithdrefnau
pleidleisio â llaw. Mae meysydd
gwasanaeth wedi drafftio cynlluniau, ond nid ydynt wedi’u profi a’u mireinio
eto. Hefyd, mae’n bosibl y bydd gwaith
yn cael ei ohirio dros doriad yr haf oherwydd bod llawer o’r meysydd gwasanaeth
yn cymryd eu gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.
3.6
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad blynyddol o waith yn
ystod y flwyddyn ariannol 2013-14.
Cafodd y rhaglen waith ei chyflawni’n llwyddiannus, er gwaethaf y
newidiadau i archwilio mewnol yn ystod y flwyddyn, a oedd yn cynnwys Pennaeth
Archwilio Mewnol newydd a chontractwr allanol newydd.
3.7
Bu aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu’r diffiniad o’r farn
‘Resymol’. Eglurodd Gareth fod y sgôr yn
un cymedrol, ac mai dyma’r sgôr uchaf posibl o ystyried cwmpas yr
archwiliadau.
3.8
Cadarnhaodd ei fod yn bwriadu cynnal rhagor o
archwiliadau cwmpas llawn eleni a allai, o bosibl, roi lefel uwch o
sicrwydd.
3.9
Cafodd maes Llywodraethu Gwybodaeth ei grybwyll gan Dave
Tosh fel enghraifft o welliant mawr yn y 2-3 blynedd diwethaf. O’r 12 argymhelliad gwreiddiol, mae 4 yn
parhau i fod heb eu gweithredu yn 2013-14.
Roedd rheolaethau tynnach, polisïau clir a strwythurau bellach yn eu
lle. Roedd yn obeithiol y byddai’r
sefyllfa well hon yn cael ei hadlewyrchu yn y wybodaeth ddiweddaraf ym mis
Tachwedd.
3.10
Hefyd, bu aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu sut y cafodd yr
adolygiadau archwilio mewnol penodol eu dethol.
Cadarnhaodd y swyddogion fod archwiliadau mewnol, yn ôl eu natur, wedi
canolbwyntio ar feysydd o wendid er mwyn i welliannau gael eu nodi. Byddai gwaith Gareth yn parhau i ganolbwyntio
ar y meysydd hyn.
3.11
Cytunodd y Cadeirydd fod hwn yn ddull adeiladol, a bod y
Bwrdd Rheoli yn cymryd yr argymhellion o ddifrif ac yn gweithredu mewn ffordd
gadarnhaol i wella’r swyddogaethau o fewn y sefydliad.
3.12
Cafodd yr Adroddiad Blynyddol ar Dwyll ei gwblhau ganol
mis Mai ac, ar adeg ysgrifennu’r cofnodion hyn, roedd yn adlewyrchiad teg o’r
sefyllfa.
3.13 Roedd llawer o waith cadarnhaol wedi’i wneud ers i’r maes hwn gael ei archwilio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3