Cyfarfodydd

P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd ei fod yn teimlo ei fod wedi mynd â’r mater yn ei flaen cyn belled ag y gallai a’i fod wedi cysylltu â’r deisebydd i ofyn am ragor o awgrymiadau, ond nid oedd wedi cael ateb.

 


Cyfarfod: 02/07/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i’w hysbysu bod y Pwyllgor o’r farn na all fynd dim pellach gyda’r ddeiseb hon ac, oni bai y gallant awgrymu ffordd arall ymlaen, y bydd y Pwyllgor yn cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

Geisio cael amserlen ddangosol ar gyfer cyhoeddi cynllun cyflenwi lleol Bwrdd Addysg Iechyd Powys;

Aros am adroddiad o gynnyd gan Brif Weithredwr Bwrdd Addysg Iechyd Powys unwaith y caiff y cynllun cyflenwi lleol ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 02/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

HSC(4)-04-12 papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb P-04-318, sef deiseb ar wasanaethau mamolaeth trawsffiniol, a chytunodd i adolygu’r mater hwn yn gyson, yn unol â chais y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn iddi hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau pellach unwaith y bydd cynllun cyflenwi lleol wedi’i ddatblygu.

Ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo barhau i adolygu’r mater.


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yr Amwythig a Telford ar y mater hwn, ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ei hannog i wneud cyflwyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr mewn perthynas â’r mater.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon.

Datganodd William Powell fuddiant yn y maes cysylltieidig o amseroedd ymateb ambiwlansys.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys a Chyngor Iechyd Cymuned Trefaldwyn i ofyn am eu sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb ac am fanylion am eu cyfraniad at y broses ymgynghori.