Cyfarfodydd

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd. Oni cheir ymateb gan y deisebydd cyn pen pedair wythnos, cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried y ffordd orau i symud ymlaen.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, gan amlygu nifer o bwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a mynegodd rhywfaint o bryder ynghylch rhai datganiadau yn llythyr y deisebwr.  Cytunodd y Pwyllgor i:

 

·         aros am ymateb llawn y deisebydd ac i ystyried yr holl bapurau mewn cyfarfod yn y dyfodol;

·         ceisio barn Cymorth i Ferched Cymru ar ohebiaeth y deisebydd; ac

·         yng ngoleuni'r ymatebion, gwneud penderfyniad ynghylch cau'r ddeiseb.

 

Cyn cau'r cyfarfod, atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 23 Medi 2014.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am ymateb gan Cymorth i Fenywod; a

·         Rhoi gwybod i'r deisebydd am drefniadau i graffu ar y Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1, a'i wahodd i gyfrannu at y broses honno.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

1.   y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn a fydd y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig yn mynd i'r afael a'r materion a godwyd;

2.   Cymorth i Fenywod Cymru am ei farn ar yr ystadegau a ddarparwyd gan y deisebydd.