Cyfarfodydd

Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Diweddariad ar STEM

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y Papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 23/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr gan Julie James at William Graham ynghylch sgiliau STEM

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 29/01/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM): Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 27 Tachwedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)

NDM5637 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 19 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

 

NDM5637 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 8)

Tystion:

 

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol

Pat McCarthy, Uwch Datblygwr Polisi a Rheolwr Gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cefnogi Mathemateg Bellach yng Nghymru.


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 6)

Tystion:

Dr Greg Walker, Dirprwy Brif Weithredwr, ColegauCymru

Mr Barry Liles,  Pennaeth, Coleg Sir Gâr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Barry Liles i ddarparu gwerthusiad gan y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (LSIS) o fyfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.

4.3 Cytunodd Dr Greg Walker i ddarparu gwybodaeth am nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru ar gyrsiau STEM i ennill cymwysterau HND, HNC a Graddau Sylfaen.


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 5)

Tyst:

Richard Spear,  Prif Swyddog Gweithredol, Gyrfa Cymru

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Richard Spear i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Richard Spear i ddarparu gwybodaeth am nifer y lleoliadau penodol sy'n ymwneud â phynciau STEM sydd ar gronfa ddata Gyrfa Cymru.


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 4)

Tystion:

Yr Athro Richard B. Davies,  Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe, Addysg Uwch Cymru

Wendy Sadler,  Swyddog Cyswllt ag Ysgolion, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Andy Evans, Cyfarwyddwr y Sefydliad, Adran Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Wendy Sadler i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor am y rhwydwaith ffiseg ysgogol yn Lloegr.


Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 2)

Tystion:

Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Emma Richards, Rheolydd Datblygu Prosiect- Addysg, Chwarae Teg

Alice Gray, Llysgennad STEM

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg, Emma Richards, Rheolwr Datblygu Prosiectau Addysg, Chwarae Teg ac Alice Gray, Llysgennad STEM.

 

3.2 Byddai Chwarae Teg yn ystyried a oes unrhyw waith ymchwil wedi'i wneud sy'n dangos bod mamau sy'n dychwelyd i'r gwaith yn cael eu gorfodi allan o gyflogaeth neu'n cael eu diswyddo o ganlyniad i fethu â chyflawni eu rhwymedigaethau yn y gwaith yn ogystal â'u rhwymedigaethau fel rhiant.

 


Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 3)

Tystion:

Donna Griffiths, Rheolwr Strategaeth Sgiliau Cymru, CITB

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Donna Griffiths, Rheolwr Strategaeth Sgiliau Cymru, CITB

 


Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 1)

Tystion:

 

Dr Anita Shaw, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Techniquest

Yr Athro Niels Jacob, Pennaeth yr Adran Fathemateg, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru

Jane Richmond, Pennaeth Dysgu a Dehongli, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Anita Shaw, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Techniquest, yr Athro Niels Jacob, Pennaeth Adran Fathemateg, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru a Jane Richmond, Pennaeth Dysgu a Dehongli Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM

Keith Davies AC

Rhun ap Iorwerth AC

Julie James AC

Joyce Watson AC

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Keith Davies AC, Rhun ap Iorwerth AC, Julie James AC a Joyce Watson AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.

 


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach

Mick Antoniw AC

Dafydd Elis-Thomas AC

William Graham AC

Eluned Parrott AC

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.

 


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad Dilynol i STEM - papur briffio ar gyfer y gwe-sgyrsiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad dilynol i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (11.20-11.45)

Dogfennau ategol:

  • EBC(4)-06-14 papur 1 (Saesneg yn unig)

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad dilynol i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Cofnodion:

 

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 

6.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad dilynol i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).