Cyfarfodydd

P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar adolygiad y polisi Dysfforia Rhywedd Cymru a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr ar yr adroddiad terfynol.  

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Glerc am ei gwaith ar y Pwyllgor Deisebau.


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniadau’r adolygiad o bolisi dysfforia rhywedd Cymru a gynhelir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar hyn o bryd.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i awgrymu i’r deisebwyr eu bod yn cysylltu â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru er mwyn cyfrannu at yr adolygiad.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-301 Cydraddoldeb i'r Gymuned Drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi’r pryderon ynghylch yr oedi o ran cyfeirio cleifion i wasanaethau iechyd hunaniaeth o ran rhywedd ac i ofyn a ellid dosbarthu’r canllawiau ar bryder ynghylch rhywedd i feddygon teulu.

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Feddygol Prydain i ofyn a oes gan feddygon teulu hyfforddiant digonol i helpu cleifion sydd o bosibl yn dioddef o bryder ynghylch rhywedd.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf i’r ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·              Ofyn am sylwadau’r deisebwr am y wybodaeth a gasglwyd hyd yn hyn.

·              Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol ar ôl i strwythurau’r pwyllgorau gael eu sefydlu a gofyn a fyddant yn ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater hwn.