Cyfarfodydd

P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O gofio bod swyddogion y Gweinidog yn cynnal trafodaethau ag Estyn ynglŷn â’r mathau o ddeunydd Cymraeg sydd eu hangen i gynorthwyo dysgwyr sydd â dyslecsia, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, ar yr amod bod croeso i’r deisebydd gysylltu â’r Pwyllgor eto os na fydd y cynllun i gomisiynu deunydd yn dwyn ffrwyth.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn sut y rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gael, mynegi pryderon y deisebwyr a gofyn am roi blaenoriaeth i ymdrin â’r mater.