Cyfarfodydd

P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Dynnu sylw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol at sylwadau ychwanegol y deisebwyr: a

·         Chau’r ddeiseb o ystyried bod y ddwy ochr yn derbyn bod gan Gymru hanes da o ran hwsmonaeth anifeiliaid, a’i bod yn hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid fferm, ac nad oes tystiolaeth glir sy’n dangos bod unrhyw broblem neilltuol yng Nghymru y tu hwnt i’r angen am wyliadwriaeth barhaus.

 


Cyfarfod: 22/01/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Deiseb P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

E&S(4)-02-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The Committee considered correspondence on the petition and agreed to:

·         Seek the Minister for Natural Resources’ views on the petitioner’s further comments and asking him to clarify why it is not appropriate to read across the findings and conclusions from the PCIFAP study in the USA and to provide further evidence for his view that larger farms don’t affect the viability of smaller farms; and

·         Write again to the Chair of the Environment and Sustainability Committee asking whether they could consider looking at these issues as part of their forward work programme.


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a allai ystyried edrych y materion fel rhan o'i flaenraglen waith, ac yn dibynnu ar ei ymateb;

·         ystyried cyflawni darn o waith ar y ddeiseb fel rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor Deisebau; ac

  • ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio a Cyfoeth Naturiol Cymru gan roi cyfle iddynt ymateb i'r materion a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio cyfreithiol ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drafod y ddeiseb ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ohirio ystyried yr eitem tan y cyfarfod nesaf, gan aros am gyngor cyfreithiol; ac

·         wrth wneud hynny, tynnu sylw'r Deisebydd at y pwynt a wnaed gan y Gweinidog yn ei lythyr sef fod y gofynion o ran iechyd a lles anifeiliaid fferm yr un fath i fuches neu ddiadell o 10 anifail ag ydyw i 1000.

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-536 Rhoi'r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio; ac

·         y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb.