Cyfarfodydd

P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-295: Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

HSC(4)-18-12 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd nad oedd ei amserlen yn caniatáu ystyriaeth ddi-oed o wasanaethau niwroadsefydlu paediatrig, ond y byddai’n eu hystyried fel pwnc posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb hon at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yna ei chau.


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafodaeth

Katherine Simmons, Deisebydd (Kyle’s Goal)

Frances Gibbon, Deisebydd (Kyle’s Goal)

Julie Smith, Headway

Cerilan Rogers, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Daniel Phillips, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru

Dr Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Datgannodd Bethan Jenkins fuddiant gan iddi helpu i sefydlu’r gwasanaeth Headway ym Mhort Talbot. 


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Deiseb P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

HSC(4)-07-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Deisebau cyn gweithredu ymhellach.


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i:

Gynnal sesiwn dystiolaeth lafar ar y materion a godir yn y ddeiseb;

Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn tynnu ei sylw at y materion a godir yn y ddeiseb.


Cyfarfod: 15/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-295 Kyle Beere - gwasanaethau niwroadsefydlu paediatrig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am wybodaeth am nifer y plant sydd ag anghenion niwroadsefydlu cymhleth a oedd angen mynediad at wasanaethau Tadworth mewn blynyddoedd blaenorol er mwyn gallu deall maint y broblem yn llawn;

I drosglwyddo’r ohebiaeth a ddaeth i law gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i’r deisebydd roi sylwadau arni;

I ysgrifennu at Headway i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 2011/12 ac i ofyn a yw gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yn rhan o’r cynllun hwn.