Cyfarfodydd

P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Deiseb ar y Ddarpariaeth o Doiledau Cyhoeddus yng Nghymru – Ystyried dull y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cyndeithasol o weithredu

HSC(4)-12-11 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur ar ei ddull o weithredu mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylai ei waith ganolbwyntio ar y diffyg darpariaeth toiledau cyhoeddus ac effaith hyn ar iechyd y cyhoedd, ac y dylai’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 23 Rhagfyr 2011.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu sefydliadau ychwanegol at y rhestr ymgynghori arfaethedig.


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebydd gan egluro y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ystyried y mater hwn ac yna’n cau’r ddeiseb.


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniadau trafodaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei flaenraglen waith.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl trafod y ddeiseb fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i adfywio canol trefi.

 

Bydd y tîm clercio yn anfon copi o gylch gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i adfywio canol trefi at aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Deisebau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10:00 - 10:10)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ddwy ddeiseb a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Deisebau: P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus a P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol

 

2.2 Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn ailystyried y deisebau yn yr hydref, pan fyddai ei raglen waith yn fwy eglur.

 

2.3 Byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i’w gynghori ynghylch trafodaethau a chasgliadau’r Pwyllgor.  


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y wybodaeth hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol ar ôl i strwythur y pwyllgorau gael ei sefydlu i ofyn iddo a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater.