Cyfarfodydd

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig

NDM5557 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

 

NDM5557 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig. Cytunwyd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: trafod y prif faterion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Nodyn a gofnodwyd yn y digwyddiad grŵp ffocws, Cwmbrân, 12 Mawrth 2014

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Nodyn a gofnodwyd yn y cyfarfod â chynrychiolwyr Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru, 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Nodyn a gofnodwyd yn y cinio i drafod gwaith gydag academyddion Prifysgol Abertawe, 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwybodaeth ychwanegol o'r cyfarfod ar 13 Chwefror 2014

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 2

Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed Llywodraeth Cymru

Chris Tudor-Smith, Pennaeth Is-adran Gwella Iechyd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig.

 

4.2 Yn ystod y sesiwn, awgrymodd y Gweinidog y byddai'n darparu gwybodaeth am y goblygiadau i'r GIG o ran cost y gwaith o roi llawdriniaethau cywirol i gleifion sydd wedi cael llawdriniaethau bariatrig y tu allan i Gymru.

 


Cyfarfod: 13/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 4

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Dr Khesh Sidhu, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru (o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd Dr Sidhu i roi eglurhad o'r ffigurau NICE a nododd yn ystod y sesiwn mewn perthynas â:

- nifer yr unigolion yng Nghymru sy'n gymwys i gael eu hatgyfeirio at wasanaethau bariatrig;

- nifer yr unigolion sy'n gymwys i gael llawdriniaeth fariatrig;

- nifer yr unigolion sy'n debygol o dderbyn llawdriniaeth. 

 


Cyfarfod: 13/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 3

Byrddau Iechyd Lleol

Jan Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapiau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapiau, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

Scott Caplin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd Dr Jane Layzell i egluro a oes gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen "Ysgolion Iach" wedi'i gynnal.


Cyfarfod: 13/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 2

Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru

Dr Dev Datta, Ymgynghorydd mewn Biocemeg a Meddygaeth Fetabolig

 

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon

Colin Ferguson, Cyfarwyddwr Materion Proffesiynol

 

Cymdeithas Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Prydain

Jonathan Barry, Llawfeddyg Ymgynghorol mewn Bariatreg Laparosgopig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Mr Barry i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr 11 o restrau llawn o lawdriniaethau y nododd iddynt fynd ar goll yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am beth y mae "11 o restrau llawn o lawdriniaethau" yn ei olygu o ran nifer y cleifion ac fel cyfran o faich gwaith cyffredinol Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru.


Cyfarfod: 13/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 1

Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru

Dr Nadim Haboubi, Cadeirydd a Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Oedolion a Gastroenteroleg

 

Cymdeithas Cleifion Llawfeddygaeth Gordewdra Prydain

Chrissie Palmer, Ymddiriedolwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Dr Haboubi i roi rhagor o fanylion am nifer y cleifion y mae wedi'u hatgyfeirio at lawdriniaeth fariatrig, a nifer y cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth o ganlyniad i'r atgyfeiriadau hynny.


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ystyried cynllun gwaith y Pwyllgor o ran yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Dogfennau ategol:

  • HSC(4)-2-14 Papur 3 Cynllun gwaith - ymchwiliad bariatrig

Cofnodion:

6.1. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dau ymweliad allanol ar gyfer yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: i Brifysgol Abertawe ac Ysbyty Treforys ar 13 Chwefror, ac i sesiwn grŵp ffocws yng Nghasnewydd ar 12 Mawrth. Cafodd yr holl wariant sy'n gysylltiedig â'r ddau ymweliad ei gytuno gan y Pwyllgor.