Cyfarfodydd

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunwyd i gau’r ddwy ddeiseb o ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei hun.

 

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan.

 

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa tra bod yr adolygiad o anhwylderau bwyta yn mynd rhagddo hyd nes tymor yr hydref 2018 a disgwyl am wybodaeth bellach am gynnydd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ai peidio.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i aros am yr ymateb i lythyr pellach y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â P-04-408 cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb, gan gynnwys y posibilrwydd o wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i:

 

  • nodi'r pryderon a godwyd gan y deisebydd;
  • gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran unedau anhwylder bwyta; a
  • gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan gyhoeddwyd canlyniadau'r adolygiad ffurfiol ar y Fframwaith Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta. 

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater.  

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am wybodaeth am ei hymgyrch ddiweddar.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Wedi’i grwpio gyda deiseb P-04-408 - Gweler eitem 3.3

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         nodi'r ymatebion; a

·         grwpio'r ddeiseb gyda P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc, a dod yn ôl at y ddwy ddeiseb pan fydd y Gweinidog wedi gorffen ei adolygiad.

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.