Cyfarfodydd

The Control of Horses (Wales) Bill

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

NDM5339 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5339 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 22/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

Gosodwyd Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2013.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fu’r bil drwy broses pwyllgor Cyfnod 1.

Dogfennau Ategol

Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fu’r bil drwy broses pwyllgor Cyfnod 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Julia Hill, Gwasanaethau Cyfreithiol, Tim Amaeth a Materion Gwledig

Fiona Leadbitter, Swyddog Polisi, Tim Polisi Ceffylau

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, am y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch y broses.