Cyfarfodydd

Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

NDM5700 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2015.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

 

NDM5700 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad, yn amodol ar fân newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 17

Dr Anna Kuczynska, Cyfarwyddwr Ardal Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Charlotte Moar, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Anthony Tracey.

4.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 19

Andrew Bell, Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Sue Evans, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Williams, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Williams.

6.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

6.3 Cytunodd Sue Evans i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch cryfderau a gwendidau'r ymgyrch '3 miliwn o fywydau' yn Lloegr, sef yr ymgyrch y cyfeirir ato yng nghyflwyniad ysgrifenedig Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i'r Pwyllgor. 

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu am faint o gyllid refeniw sydd ei angen, er enghraifft ar gyfer talu costau hyfforddiant, yn ogystal â gwariant cyfalaf, wrth gyflwyno technolegau newydd.

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 18

Dr Mark Vaughan, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Peter Horvath-Howard, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

Dr Charles Allanby, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol - ystyried y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad.

5.2 Nododd y Pwyllgor ei farn bod angen ymchwilio ymhellach i fynediad at dechnolegau meddygol o fewn gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol cyn cwblhau’r ymchwiliad hwn. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, i ystyried y materion hyn ymhellach.

 


Cyfarfod: 08/05/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 15

Pwyllgor Cynghorol Gwyddonol Cymru

·         Yr Athro Huw Griffiths

·         Yr Athro John Watkins

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/05/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 16

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ifan Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Arloesi Gofal Iechyd

Christine Morrell, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol (Iechyd) Dros Dro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 15

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan

Yr Athro Phil Routledge, Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 13

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Dr Alan Rees, Is-lywydd Cymru.

 

Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru

Dr Miles Allison, Meddyg ymgynghorol, cyfarwyddwr clinigol gastroenteroleg ac is-lywydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon

Jared Torkington, Llawfeddyg ymgynghorol laparosgopig y colon a'r rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.    Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2.    Gofynnodd Leighton Andrews AC am nodyn gan Lywodraeth Cymru am yr enghraifft a roddwyd gan Jared Torkington o gynllun hyfforddiant a gyflwynwyd yng Nghymru ar gyfer llawdriniaeth y colon a'r rhefr laparosgopig.

 


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 12

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Yr Athro Peter Barrett-Lee, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol.

 

Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr

Dr Richard Clements, Cadeirydd Pwyllgor Sefydlog Cymru a Radiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan;

Dr Martin Rolles, Ysgrifennydd Pwyllgor Sefydlog Cymru ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.    Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 14

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.    Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2.    Dywedodd y Dr Nazia Hussain y byddai'n darparu:

  • nodyn am y modd y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn ystyried llais cleifion wrth ddatblygu ei ddulliau gweithredu yn achos technolegau ac arloesedd, a'r modd y mae'r Coleg yn credu y dylai llais cleifion gael ei ystyried yn y broses arfarnu a chomisiynu;
  • nodyn yn egluro a yw'r defnydd o dechnolegau meddygol yn rhan o'r broses ailddilysu ar gyfer meddygon teulu, neu a fydd yn rhan o'r broses.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 11

Yr Athro Carl Heneghan, Canolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth, Prifysgol Rhydychen

 

Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru

Dr Corinne Squire, Rheolwr

 

Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr

Lars Sundstrom, Cyfarwyddwr Menter a Chyfieithu

Deborah Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddorau Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr, i ddarparu nodyn ar y system newydd sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr (sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru), sy'n caniatáu mynediad at gyllid ac yn rhoi ffordd o gomisiynu gwaith ymchwil a datblygu drwy'r system gofal iechyd.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 8

Ymchwil Canser y DU

Emma Greenwood, Pennaeth Datblygu Polisi, Ymchwil Canser y DU

Clare Bath, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru

Dr  Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ganser Felindre a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru.

Bernadette McCarthy, Rheolwr Radiotherapi, Canolfan Ganser Felindre

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Rhoddodd Emma Greenwood wybod i'r Pwyllgor am y cydweithrediad diweddar rhwng Cancer Research UK a GIG Lloegr a oedd yn gofyn i grwpiau perthnasol o fewn y diwydiant sut roeddent yn rhagweld maes radiograffeg mewn deng mlynedd. Cytunodd Ms Greenwood i rannu gwybodaeth am y gwaith hwn gyda'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 9

Cynghrair Geneteg y DU

Buddug Cope, Cyfarwyddwr Datblygu Cynghrair Geneteg y DU

Emma Hughes, Swyddog Datblygu Cynghrair Geneteg y DU

Hayley Norris, Cynrychiolwyr cleifion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Buddug Cope i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cyswllt rhwng rhaglen technoleg iechyd NICE a Rhwydwaith Profi Geneteg y DU (UKGTN).

 

3.3 Cytunodd Ms Cope hefyd i roi eglurhad pellach i'r Pwyllgor am y gydberthynas rhwng cymeradwyo profion newydd gan UKGTN a'u comisiynu wedyn gan GIG yr Alban.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 10

MediWales

Gwyn Tudor, Rheolwr y Fforwm

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitemau 6, 7 ac 8 cyn trafod eitem 5.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 7

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mark Roscrow, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Caffael

 

Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol

Pete Phillips, Cyfarwyddwr

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Alun Tomkinson, Llawfeddyg Clust, Trwyn a Gwddf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Mark Roscrow o Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Pete Phillips o'r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, ac Alun Tomkinson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.


Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6

Byrddau Iechyd Lleol

Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Dr Geoffrey Carroll, Cyfarwyddwr Meddygol

Dr Phil Webb, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Fiona Jenkins o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Pushpinder Mangat o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Dr Geoffrey Carroll a Dr Philip Webb o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.

 

2.2 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd Dr Webb i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu un argymhelliad allweddol y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwella'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru a sut y gellid cyflawni hyn.


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 4

Dr Susan Peirce

 

Y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg ym maes Meddygaeth

Yr Athro Stephen Keevil, Llywydd

Yr Athro Colin Gibson, Peiriannydd Clinigol Ymgynghorol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Cedar

Dr Grace Carolan-Rees

 

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)

Sally Chisholm

 

Dr Peter Groves, clinigydd ac is-gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Dechnoleg Feddygol NICE

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2. Cytunodd Sally Chisholm i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • Cyfeiriadau at dystiolaeth am y ffactorau sy'n dylanwadu ar bobl, o safbwynt aml-ddisgyblaethol, pan fyddant yn penderfynu a ydynt am integreiddio technolegau unigol yn eu harferion clinigol ai peidio;
  • Rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gyrff iechyd yng Nghymru sy'n cyfrannu ar hyn o bryd at y gwaith o ddatblygu canllawiau a rhaglen waith gyffredinol gan NICE;
  • Rhagor o fanylion am y cynllun cymell - taliadau Comisiynu Ansawdd ac Arloesedd (CQUIN) - sydd ar waith yn Lloegr i annog rhagor o bobl i ddefnyddio arloesedd o fewn y gwasanaeth iechyd.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 5

Yr Athro Ceri Phillips, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe

 

Yr Athro David Cohen, Athro Economeg Iechyd Prifysgol De Cymru sydd wedi ymddeol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2. Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr yn ystod eitem 4 o ganlyniad i drafferthion technegol.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Dr Richard Greville, Cyfarwyddwr

Joanne Ferris, Swyddog Gweithredol Polisi a Phrosiect

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Ymatebodd y Dr Rick Greville i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

3.2. Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd mewn perthynas â phrofiad ABPI o Raglen Mabwysiadu Technolegau Iechyd NICE, dywedodd y Dr Greville nad oedd ganddo brofiad uniongyrchol o'r broses hon, ond y gallai ofyn am ragor o wybodaeth ar ran y Pwyllgor.

 

3.3. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Dr Richard Greville i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • copi o'r adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar gan ABPI (o Brifysgol De Cymru) ynghylch y rhwystrau lleol i fabwysiadu meddyginiaethau a arfarnwyd, a fydd ar gael erbyn y Pasg 2014;
  • copi o'r adroddiad sy'n cael ei lunio gan y Swyddfa Economeg Iechyd, a fydd ar gael erbyn y Pasg 2014, a fydd yn edrych ar rwystrau i fabwysiadu meddyginiaethau a arfarnwyd sy'n codi yn benodol o ganlyniad i heriau cynllunio ac edrych tua'r dyfodol;
  • enghreifftiau'n ymwneud â defnyddio, neu ddiffyg defnyddio, meddyginiaethau a gymeradwywyd yng Nghymru, i gynnwys ystadegau sy'n dangos safle Cymru o gymharu â gwledydd eraill y DU.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 - Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan

Karen Samuels, Pennaeth Arfarnu Technoleg Iechyd a Rheoli Meddyginiaethau, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Ymatebodd Karen Samuels i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2. Nododd Ms Samuels fod yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru wedi bod yn monitro'r defnydd a wneir o feddyginiaethau a arfarnwyd gan AWMSG a NICE, a chytunodd i rannu'r papur yn amlinellu canlyniadau'r monitro hwnnw gyda'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - sesiwn friffio ragarweiniol gan yr ymgynghorydd arbenigol

Dr Alex Faulkner, cynghorwr arbenigol ar gyfer yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 116
  • Cyfyngedig 117
  • Cyfyngedig 118
  • Cyfyngedig 119

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad rhagarweiniol gan Dr Alex Faulkner, sydd wedi ei benodi yn ymgynghorydd arbenigol i'r Pwyllgor at ddibenion yr ymchwiliad i fynediad i dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafodaeth ar waith allgymorth ar yr ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 122

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 125

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn cynnal ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol, a chytunodd y byddai'n ceisio penodi cynghorwr arbenigol. Cytunodd hefyd ar swydd-ddisgrifiad ddrafft ar gyfer y rôl gynghorol hon.

 


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - ystyried y cylch gorchwyl

HSC(4)-18-13 papur 1

Dogfennau ategol:

  • HSC(4)-18-13(p1) (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl drafft.