Cyfarfodydd

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â threfniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Medi 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Andrew Goodall (30 Mehefin 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (17 Mehefin 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (15 Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd (13 Ebrill 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

8.1 Oherwydd diffyg amser, ni allodd y Pwyllgor drafod y dystiolaeth a ddaeth i law. Fodd bynnag, bydd y clercod yn aildrefnu'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Peter Higson OBE, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch ei drefniadau llywodraethu.

 

4.2     Cytunodd Dr Higson i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â:

·         hynt trafodaethau'r bwrdd ynghylch Ysbyty Glan Clwyd gan gynnwys materion recriwtio;

·         ‘Well North’;

·         gohebiaeth mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig y llyfryn;

·         hyfforddiant ar gyfer aelodau'r bwrdd;

·         dangosyddion perfformiad.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (18 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (4 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Cadeirydd at Dr Andrew Goodall (6 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (17 Medi 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (29 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

1.1       Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf.

1.2       Cytunodd yr aelodau i gynnal darn ehangach o waith ar drefniadau llywodraethu byrddau iechyd ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gyllid iechyd a dangosyddion allweddol ar berfformiad gwasanaeth.

 


Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn breifat ar ddechrau'r cyfarfod ar 15 Gorffennaf 2014.

 


Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Y wybodaeth ddiweddaraf am adroddiadau

PAC(4)-20-14(papur 2)

PAC(4)-20-14(papur 3)

PAC(4)-20-14(papur 4)

PAC(4)-20-14(papur 5)

PAC(4)-20-14(papur 6)

 

Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yr Athro Trevor Purt - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Geoff Lang – Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Grace Lewis-Parry - Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor swyddogion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â'u trefniadau llywodraethu, sef Dr Peter Higson, Cadeirydd, yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr, Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, a Grace Lewis-Parry, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu.

5.2 Cytunodd Geoff Lang i anfon gwybodaeth bellach ynghylch y canlynol:

·       Cyfanswm yr achosion yn ymwneud â diogelwch cleifion yn 2012-13 a sut y mae'r data hwn yn cymharu â'r blynyddoedd blaenorol;

·       Y meysydd clinigol y mae Uned Gyflawni Llywodraeth Cymru yn asesu eu perfformiad.

 


Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Papur briffio gan Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-20-14(paper 1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cyflwynodd swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wybodaeth i'r Pwyllgor am yr adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2014.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-07-14 (papur 3)

PAC(4)-07-14 (papur 4)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i nodi.

 

4.2 Roedd y Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o eglurhad ynghylch rhai o ymatebion y Llywodraeth a chytunodd i'w codi gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur briffio ar drefniadau llywodraethu o fewn GIG Cymru a hefyd ar wasanaethau iechyd arbenigol. Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i'w darparu.

 

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (9 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-31-13 papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Trafododd yr Aelodau'r adroddiad ac, yn amodol ar rai gwelliannau, cytunwyd ar yr adroddiad.

 

2.2. Nododd yr Aelodau y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar 12 Rhagfyr yng ngogledd Cymru.

 


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Bwyllgor Meddygon Ymgynghorol ac Arbenigwyr Gwynedd (5 Gorffennaf 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (2 Awst 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (12 Medi 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (11 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (31 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Mary Burrows (18 Gorffennaf 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Mary Burrows (12 Medi 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (2 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan yr Athro Merfyn Jones (4 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (15 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(4)-28-13 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nid oedd digon o amser i drafod y papur hwn. Cytunwyd y byddai’r Clercod yn anfon y papur at yr Aelodau drwy e-bost gan ofyn am unrhwy safbwyntiau, a bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Brif Weithredwr sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Mary Burrows, Prif Weithredwr sy'n Ymadael, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Yn fuan cyn i'r cyfarfod ddechrau, hysbysodd Mary Burrows, Prif Weithredwr sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Pwyllgor na fyddai'n gallu dod i'r cyfarfod.

 

7.2 Rhoddodd Mary Burrows dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor a chynigiodd i ateb unrhyw gwestiynau pellach yn ysgrifenedig.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

PAC(4) 23-13 – Papur 1

 

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Feddygol, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru; a Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru.

 

5.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion cost adroddiad Chris Hurst.

·         Y dyddiad pan adawodd Chris Hurst Lywodraeth Cymru.

·         Nodyn ar y broses ar gyfer cynnydd yn y pryderon ynghylch Byrddau Iechyd.

·         Y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adroddiad a luniwyd gan Allegra.

·         Nodyn ar wariant gwarchod cyflogau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

·         Eglurder ynghylch capasiti craidd a'r effaith a gafodd hyn ar ofal wedi'i drefnu.

  

 

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 


Cyfarfod: 18/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Merfyn Jones, Cadeirydd sy'n Ymadael, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Lyndon Miles, Is-gadeirydd sy'n Ymadael, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Grace Lewis-Parry, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu ac Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Keith McDonogh, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Merfyn Jones, Cadeirydd sy'n Ymadael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dr Lyndon Miles, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Grace Lewis-Parry, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu ac Ysgrifennydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Keith McDonogh, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am y categoriau a swm yr ad-daliadau a wnaed i Awdurdodau Iechyd ar draws y ffin.

·         Rhagor o wybodaeth am nifer y cleifion yr effeithiwyd arnynt gan yr oedi o ran y trinidiaethau etholedig a berwyd gan y rheolaethau gwariant argyfwng yn ystod wythnosau diwethaf blwyddyn ariannol 2012-13.

·         Nodyn ynghylch pryd y daeth y Bwrdd a'r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r pryderon ynghylch yr achosion o C Difficile.

·         Copi o gofrestr risg y Bwrdd Iechyd.

·         Rhagor o wybodaeth am y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael a ffigurau'r Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg.

 

 


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Geoff Lang, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Martin Duerden, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio, Bydwreigiaeth a Chleifion, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Helen Simpson, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Geoff Lang, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dr Martin Duerden, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio, Bydwreigiaeth a Chleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Helen Simpson, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion am ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y cyd, ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu:

 

·       Rhagor o fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Prif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr ac uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

·       Rhagor o fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Cyfarwyddwr Cyllid y Bwrdd Iechyd a Chyfarwyddwr Cyllid presennol a blaenorol Llywodraeth Cymru.

·       Ffigurau'n dangos sawl claf gafodd lawdriniaeth wedi'i hoedi o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y triniaethau a berfformiwyd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn seiliedig ar y newid i safon perfformiad.

·       Copïau o'r adolygiadau allanol a gynhaliwyd gan Chris Hurst ym mis Ebrill 2012 ac Allegra ym mis Rhagfyr 2012.

 

 

 


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

5.2 Bydd y Pwyllgor yn cymryd rhagor o dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad ddydd Iau 18 Gorffennaf 2013.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y dull o ymdrin â’r adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru: Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’ a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr cyn diwedd tymor yr haf.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn friffio ar yr adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru

Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru

Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru; Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru; Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; a Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

2.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i friffio’r Pwyllgor ar ganfyddiadau eu harolwg ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’.