Cyfarfodydd

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y bwrdd iechyd.

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac
  • ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel yr awgrymodd y Gweinidog, yn gofyn am eglurhad pellach am y cyllid y byddai angen iddo ei gael i ddarparu triniaethau gyda chymorth robotig yng Ngogledd Cymru.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gynlluniau sydd yna i ddarparu offer i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal triniaethau gyda chymorth robotig, ac i gael gwybodaeth am y system sydd ar y gweill ym Manceinion ar hyn o bryd. Hefyd, i gael eglurder am y goblygiadau o ran cost i’r Bwrdd Iechyd o barhau i anfon cleifion i Fanceinion.


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ofyn am y sicrwydd y gofynnodd y deisebydd amdano; a
  • cheisio barn y deisebydd ar gyhoeddiad diweddar y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·                         Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eto i ofyn am ymateb i ohebiaeth gynharach; ac

·                         at y Gweinidog i ofyn am ei farn ynglŷn â sylwadau pellach y deisebydd ac i dynnu ei sylw at fethiant Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ymateb i ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am farn ynghylch a yw'r arian a ddarperir drwy'r Gronfa Technolegau Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn sicrhau y bydd triniaeth gyfartal ar gael i bobl ar draws Cymru;

·         ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a 

·         gofyn am ymateb gan y byrddau iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.

 

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei farn am y ddeiseb;

·         ysgfrifennu at bob Bwrdd Iechyd Lleol yn holi am wybodaeth ychwanegol ynghylch darparu gwasanaethau; a

·         gwneud cais am bapur briffio gan y gwasanaeth ymchwil.