Cyfarfodydd

Reoli Tir yn Gynaliadwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy

NDM5554 Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

 

NDM5554 Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/05/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd – Rheoli Tir yn Gynaliadwy : Camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod ar 1 Mai

E&S(4)-13-14 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

  • Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried unrhyw newidiadau drwy e-bost.

 


Cyfarfod: 01/05/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Rheoli Tir yn Gynaliadwy – Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 01/05/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Kevin Austin, Pennaeth y Gangen Rheoli Tir yn Gynaliadwy

Nicola Thomas, Pennaeth Cyflawni, Newid Hinsawdd a Rheoli Adnoddau Naturiol

 

Dogfennau ategol:

  • Dogfen briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

2.1 Bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gan ddarparu rhagor o wybodaeth am y prosiect data a monitro a lansiwyd gan Brifysgol Caerdydd.

 


Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

  • Cynigion ar gyfer egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy

Cofnodion:

1.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, fel y nodwyd yn y papur a drafodwyd.

 


Cyfarfod: 27/03/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1.)

1. Rheoli Tir yn Gynaliadwy – Gweithdy i randdeiliaid i drafod y prif faterion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

  • Papur materion allweddol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

1.1. Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy'n codi o'r ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy.


Cyfarfod: 13/03/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Rheoli Tir Cynaliadwy: Gwybodaeth ychwanegol gan RSPB Cymru

E & S (4)-08-14 papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 20/02/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Tystiolaeth gan y Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedau (CCRI), Prifysgol Swydd Gaerloyw

E&S(4)-06-14 papur 4

 

Yr Athro Janet Dwyer, Cyfarwyddwr

Chris Short, Uwch Gymrawd Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd yr Athro Dwyer i ddarparu gwybodaeth ar rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chasglu data.

 


Cyfarfod: 20/02/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Tystiolaeth gan Ganolfan Ymchwil Amgylcheddol Cymru

E&S(4)-06-14 Papur 3

 

          Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu Dr Russell yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd Dr Russell i ddarparu manylion ar gynlluniau datblygu tramor.

 


Cyfarfod: 20/02/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Tystiolaeth gan Cyswllt Ffermio

E&S(4)-06-14 Papur 2

 

Gary Douch, Pennaeth Cyswllt Ffermio

Eirwen Williams, Cyfarwyddwr, Menter a Busnes a Phennaeth Rhaglenni Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/02/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Tir yn Gynaliadwy - Tystiolaeth gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth

E&S(4)-06-14 papur 1

 

Yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Ymchwil a Menter IBERS 

Yr Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol IBERS

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Tystiolaeth ar ynni ar raddfa fach

 

          Chris Blake, Cyfarwyddwr y Cymoedd Gwyrdd (Cymru)

          Richard Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr, Fre-energy

Cofnodion:

4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Tystiolaeth ar yr economi wledig

E&S(4)-03-14 papur 2 : Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

E&S(4)-03-14 papur 3 : Hybu Cig Cymru

 

Ben Underwood, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

Gary Davies, Cyfarwyddwr y Strategaeth Ranbarthol, Partneriaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru

          Dai Davies, Cadeirydd, Hybu Cig Cymru

Siôn Aron Jones, Rheolwr Datblygu Diwydiant, Hybu Cig Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-03-14 papur 1

 

Joanne Sherwood, Pennaeth Cynllunio Cyfoeth Naturiol

Brian Pawson, Uwch Ymgynghorydd Amaethyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth ysgrifenedig yn egluro sut y gall cyflwr a chysylltedd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig effeithio ar gydnerthedd yr amgylchedd ehangach a chyngor ar sut y gallai amaethyddiaeth a choedwigaeth fasnachol gael eu hintegreiddio'n well yn y Cynllun Datblygu Gwledig.

 


Cyfarfod: 23/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoli Tir in Gynaliadwy: Tystiolaeth gan y Diwydiant Coedwigaeth

E&S(4)-01-14 papur 2:  Coed Cadw

E&S(4)-01-14 papur 3:  Confor

E&S(4)-01-14 papur 4:  Meithrinfeydd Coedwig Maelor Cyf

 

Jerry Langford, Cyfarwyddwr Cymru, Coed Cadw

Kath McNulty, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Confor

Mike Harvey, Cyfarwyddwr, Meithrinfeydd Coedwig Maelor Cyf

George McRobbie, Rheolwr Gyfarwyddwr, UPM Tillhill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Parciau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

E&S(4)-01-14 papur 3 :  Parciau Cenedlaethol Cymru

E&S(4)-01-14 papur 4 :  Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

E&S(4)-01-14 papur 5 : Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

 

Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheoli Cefn Gwlad a Thir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Geraint Jones, Swyddog Cadwraeth Ffermio, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Chris Lindley, Swyddog ar gyfer Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: RSPB Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru

E&S(4)-01-14 papur 1 : RSPB Cymru

E&S(4)-01-14 papur 2 : Ymddiriedolaethau Natur Cymru

 

          Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad, RSPB Cymru

Annie Smith, Sustainable Development Manager, RSPB Cymru

          Rachel Sharp, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

James Byrne, Rheolwr Eiriolaeth Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Annie Smith i roi nodyn gyda manylion pellach am ei sylwadau ynghylch y diffiniadau ym Mhapur Gwyn Bil yr Amgylchedd.

 


Cyfarfod: 24/10/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Tystiolaeth Lafar

 

E&S(4)-25-13 papur 3 : Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

E&S(4)-25-13 papur 4 : Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

 

Ceri Davies, Is-gadeirydd, Materion Gwledig, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Sarah Price, Swyddog Datblygu Gwledig, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Ben Underwood, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

          Keri Davies, Grŵp Organig Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 24/10/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Tystiolaeth Lafar

 

E&S(4)-25-13 papur 1 : Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

E&S(4)-25-13 papur 2 : Undeb Amaethwyr Cymru

 

Ed Bailey, Llywydd, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

Dylan Morgan, Pennaeth Polisi/Dirprwy Gyfarwyddwr, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

Gavin Williams, Cadeirydd, Pwyllgor Defnydd Tir a Materion Seneddol, Undeb Amaethwyr Cymru

Rhian Nowell-Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol, Undeb Amaethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 26/09/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoli Tir Cynaliadwy - Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

  • Ymatebion i'r ymgynghoriad (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a sut i barhau gyda'r ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Ymchwiliad i reoli tir cynaliadwy - Ystyried y cylch gorchwyl

Dogfennau ategol:

  • Cylch gwaith drafft (Saesneg yn unig)