Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 12.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO

 

NDM5342 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismo

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5342 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

0

55

56

Gwrthodwyd y cynnig.


Cyfarfod: 18/11/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona

CLA(4)-27-13 – Papur 8:    Papur cefndirol:

CLA(4)-27-13 – Papur 9:   Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(4)-27-13 – Papur 10:  Cyngor Cyfreithiol

CLA(4)-27-13 – Papur 11:  Adroddiad

 

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona

CLA(4)-26-13 – Papur 5: Papur cefndir

CLA(4)-26-13 – Papur 6: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(4)-26-13 – Papur 7: Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â chyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991

NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2013.

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â hysbysiadau amddiffyn cymunedol, gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus, hysbysiadau cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991

 



Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

1

9

55

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas ag adennill meddiant o dai annedd

NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013.

I weld copi o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2013-14/antisocialbehaviourcrimeandpolicingbill/documents.html

Dogfennau Ategol

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud ag adennill meddiant tai annedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud ag adennill meddiant o dai annedd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â’r Fframwaith ar gyfer rheolaethau ar gyllid cyfalaf a geir yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru

NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â rheolaethau ariannol ar brif gwnstabliaid yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol

NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud ag adennill meddiant tai annedd

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-23-13 – Papur 4

 

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Simon White - Rheolwr Prosiect, y Bil Rhentu Cartrefi

Lynsey Edwards - Cyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol:

 

hawliau statudol tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 


Cyfarfod: 11/07/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, Gorchmynion Ymddygiad Troseddol a’r Trothwy Cymunedol

 

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-22-13 – Papur 1

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth 

Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol

Claire Rooks, Rheolwr Polisi, Y Tîm Troseddu a Chyfiawnder

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

Gohebiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda'r Ysgrifennydd Cartref ynghylch yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc mewn perthynas â'r Bil. 

 

Nodyn am y ffrwd ariannu ar gyfer cyfiawnder adferol.

 

Yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer y Bil. 

 


Cyfarfod: 24/06/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.1)

Ystyried Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(4)-17-13(px) – Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod memoranda cydsyniad deddfwriaethol

CELG(4)-19-13 – Papur Preifat 4A

CELG(4)-19-13 – Papur Preifat 4B

CELG(4)-19-13 – Papur Preifat 4C

CELG(4)-19-13 – Papur Preifat 4D

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38
  • Cyfyngedig 39
  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papurau a chytunodd ar ei ddull.

 


Cyfarfod: 10/06/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.1)

Ystyried Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona

CLA(4)-15-13(p4) – Legislative Consent Memoranda

Dogfennau ategol: