Cyfarfodydd

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod prif amcanion y ddeiseb wedi'u cyflawni, cytunwyd i'w chau.

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • aros am gyhoeddi Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac
  • yn y cyfamser, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi amserlen ar gyfer yr adolygiad i’r Pwyllgor, ac i ofyn ei farn am alwad yr Athro Trevor Purt am ragor o ganllawiau ar y polisi o ran cyfraniadau cymharol gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol / Pediatreg Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, Byrddau Iechyd Lleol ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y telerau y gofynnodd y deisebwyr amdanynt. Hefyd, i ysgrifennu at Brif Swyddog Gweithredol newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, yn gofyn am sicrwydd ynghylch y patrymau diweddaraf o ran amseroedd diagnosis ar gyfer awtistiaeth yn Sir Benfro, sy’n ymddangos fel eu bod wedi gwaethygu, ar ôl gwella i ddechrau.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The Committee considered correspondence on the petition and agreed to:

 

        Write to the new Minister responsible for this area to confirm that he is still committed to the approach and commitments made by the previous Deputy Minister for Social Services and how the policy will be developed beyond the life of the current Action Plan and across Wales; and

        Seek a progress report from Hywel Dda Local Health Board as requested by the petitioners.


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, yn unol â chais y deisebydd, i ofyn a ellir:

 

·         gwahodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drefnu bod un o'i chynrychiolwyr  yn rhan o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen y mae'r Dirprwy Weinidog wrthi'n ei ffurfio; a

·         sicrhau bod adroddiad ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog i groesawu ei hymateb a gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor o ddatblygiadau yn y meysydd a nodir yn y paragraff olaf ond un yn llythyr y deisebydd;

·         mynegi pryder i'r Gweinidog ynghylch y diffyg ymateb gan ddau o'r Byrddau Iechyd a gofyn pa gamau y mae wedi'u cymryd i sicrhau y bydd y wybodaeth honno ar gael; ac 

·         yn unol â chais y deisebydd, rhannu'r grynodeb lawn o ymatebion â changen Sir Benfro o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog am roi cynllun gweithredu Hywel Dda i fynd i'r afael a'r rhestr aros yn Sir Benfro ar waith; a 

·         dychwelyd i'r ddeiseb unwaith y daw'r wybodaeth honno gan y Dirprwy Weinidog i law, tua mis Chwefror flwyddyn nesaf.

 

 

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, chwe mis ar ôl cyflwyno'r cynllun gweithredu.


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.