Cyfarfodydd

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i roi copi i'r deisebydd o'r canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio trefniadau oriau nas warentir a gofyn am ei barn ar hyn.

 

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ddatganiad y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i aros am ganlyniadau’r adolygiad o’r sefyllfa ym mis Ebrill 2015.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am ei farn am y sefyllfa bresennol; ac yna

·         aros am ganlyniadau’r adolygiad am y sefyllfa ym mis Ebrill 2015.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebwyr; a

·         thrafod a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach yn sgil yr ymateb.

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar am y ddeiseb gan:

 

·         y deisebydd; a

·         ColegauCymru.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil am grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y ddeiseb, a allai hefyd gynnwys unrhyw ymchwil a wnaed gan yr UCU.

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a

·         ColegauCymru gan holi ei farn am y ddeiseb; a 

·         phob coleg Addysg Bellach yng Nghymru yn holi am eu defnydd o gontractau dros dro.