Cyfarfodydd

Ardaloedd Menter

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Dinas-ranbarthau

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Roger Lewis, Cadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Steve Phillips, Ysgrifennydd y Bwrdd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Steve Phillips, yr Athro Kevin Morgan a James Price gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd yr Athro Kevin Morgan i anfon copi o’i adroddiad o’r enw “Good Food for All” at y Pwyllgor pan fydd yn barod.

3.3 Cytunodd yr Athro Kevin Morgan i anfon gwybodaeth am gyllideb Dinas-ranbarth Stuttgart at y  Pwyllgor.


Cyfarfod: 03/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Dinas-ranbarthau

Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Phil Bale a Paul Orders gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i'r Cadeirydd ynghylch Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 04/12/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ardaloedd Menter, Dinas-Ranbarthau a Metro

Gareth Jenkins, Cadeirydd, Ardal Menter Glyn Ebwy

John Idris Jones, Cadeirydd, Ardal Menter Eryri

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd tystiolaeth gan John Idris Jones a Gareth Jenkins.


Cyfarfod: 04/12/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ardaloedd Menter, Dinas-Ranbarthau a Metro

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Gwyddoniaeth a
   Thrafnidiaeth

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd tystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,  James Price a Tracey Burke.

 


Cyfarfod: 04/12/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ardaloedd Menter, Dinas-Ranbarthau a Metro

Roger Lewis, Cadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Steve Phillips, Cynghorydd, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Cofnodion:

Cafwyd tystiolaeth gan Roger Lewis a Steve Phillips.


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ardaloedd Menter (11.00-11.45)

 

Tystion:

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, Llywodraeth Cymru

Yr Arglwydd Bourne, Cadeirydd y cyd Fyrddau Ardaloedd Menter

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth. Roedd yr Arglwydd Bourne, Cadeirydd y Byrddau Ardaloedd Menter ar y Cyd hefyd yn bresennol yn y sesiwn.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

- nodyn (a diweddariadau rheolaidd yn y dyfodol) am y cynnydd o ran darparu band eang cyflym iawn i ardaloedd menter o dan y rhaglen Cyflymu Cymru;

 

- nodyn am sut yr eir i’r afael â darparu band eang cyflym iawn (a’r dechnoleg band eang a ddefnyddir) mewn ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen Cyflymu Cymru;

 

- y ffigurau o ran nifer y busnesau sy’n rhan o’r arolwg hydredol hirdymor, a’r gyfran o gyfanswm nifer y busnesau mewn ardaloedd menter yr oedd y ffigurau hynny’n eu cynnwys;

 

- nodyn ynghylch nifer y ceisiadau cymorth ardrethi busnes a gymeradwywyd fesul ardal ac, unwaith y bydd yn barod, gwybodaeth am y gyfran o’r dyraniad o’r gyllideb a ymrwymwyd, sef £20 miliwn, a wariwyd ar gymorth ardrethi busnes mewn gwirionedd, gan adlewyrchu’r niferoedd sy’n manteisio ar y cymorth hwn;

 

- fel rhan o’r diweddariad rheolaidd, dadansoddiad o’r ffordd y mae ardaloedd menter unigol yn perfformio o ran y swyddi a grëwyd, a gynorthwywyd ac a ddiogelwyd, a dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol eraill (i’r graddau y gellir gwneud hynny o gofio ystyriaethau o ran  sensitifrwydd masnachol).

 

 


Cyfarfod: 12/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter

NDM5429 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.

 

Dogfennau Ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

 

NDM5429 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Menter, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ardaloedd Menter: Crynhoad i'r Cyfryngau

FIN(4)-01-14 (papur 2)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ardaloedd Menter: Trafod Adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafodwyd yr adroddiad ac awgrymwyd nifer o welliannau. Cytunodd yr Aelodau i drafod y newidiadau y tu allan i'r Pwyllgor.

 

6.2 Nododd yr Aelodau eu bwriad i gyhoeddi'r adroddiad cyn y Nadolig a chytunwyd i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 


Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Adborth ar ymweliadau’r Pwyllgor ag Ardaloedd Menter Ynys Môn a Dyfrffordd y Daugleddau

FIN(4)-13-13 papur 1 – Ardal Fenter Ynys Môn

FIN(4)-13-13 papur 2 – Ardal Fenter Dyfrffordd y Daugleddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.


Cyfarfod: 26/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ystyried y dystiolaeth – Ardaloedd Menter

Cofnodion:

9.1 The Committee considered the evidence.


Cyfarfod: 26/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Adborth ar ymweliadau'r Pwyllgor ag Ardaloedd Menter Ynys Môn a Dyfrffordd y Daugleddau

Cofnodion:

7.1 The Committee agreed to hold this item in private.

7.2 The Committee discussed the visits to Anglesey and Haven Waterway Enterprise Zones.

7.3 The Chair and Clerk agreed to provide a joint note on the Committee visit to Haven Waterway Enterprise Zone.

7.4 Ieuan Wyn-Jones will provide a note on the visit he undertook to Anglesey Enterprise Zone.

7.5 These notes will be made public as papers to note at a future meeting of the Finance Committee.


Cyfarfod: 26/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Tystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

FIN(4)-11-13 Papur 4

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth

Rob Hunter, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. Cytunwyd i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • Cytunodd Tracey Burke i roi gwybod beth yw dyddiad cyhoeddi'r ail gyfnod o adolygiad yr Athro Dylan Jones-Evans ynghylch cyllid i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru.
  • Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddarparu rhestr o fanylion am weithgareddau'r gadwyn gyflenwi hyd yn hyn.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i edrych eto ar Ardaloedd Menter yng Nghymru rywbryd yn y dyfodol.


Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Cadeiryddion y Byrddau Ardaloedd Menter

FIN(4)-10-13 Papur 4

Nick Bourne, Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

 

FIN(4)-10-13 Papur 5

Gareth Jenkins, Cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy

 

FIN(4)-10-13 Papur 6 Ardal Fenter Canol Caerdydd

 

FIN(4)-10-13 Papur 7 Ardal Fenter Eryri

 

FIN(4)-10-13 Papur 8 Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

 

FIN(4)-10-13 Papur 9 Ardel Fenter Sain Tathan Maes Awyr Caerdydd

 

FIN(4)-10-13 Papur 10 Ardel Fenter Ynys Môn

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Nick Bourne, Cadeirydd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, a Gareth Jenkins, Cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy.   

 

4.2 Ymatebodd y tystion i’r cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Ardaloedd Menter yng Nghymru - Panel o fusnesau

FIN(4)-10-13 Papur 1eCube Solutions

Mike Corne - Partner a Chyfarwyddwr Masnachol

 

FIN(4)-10-13 Papur 2 Mustang Marine

Lucas Boissevain - Cyfarwyddwr Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Mike Corne, Partner a Chyfarwyddwr Masnachol yn eCube Solutions, a Lucas Boissevian, Cyfarwyddwr Cyllid yn Mustang Marine.

 

2.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 08/05/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ardaloedd Menter - Ystyried y cylch gorchwyl drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl drafft a chytunodd i ymweld ag Ardal Fenter Sain Tathan ar 22 Mai.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo hefyd ddiddordeb mewn ymweld ag Ardaloedd Menter eraill yng Nghymru yn y dyfodol agos.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur astudiaeth cymharol gan y Gwasanaeth Ymchwil ar yr Ardaloedd Menter sydd eisoes wedi’u sefydlu neu sydd wedi’u sefydlu’n ddiweddar.

 

4.4 Cytunodd y tîm clercio i ddarparu trawsgrifiad o’r sesiwn flaenorol ar Ardaloedd Menter a gynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar 29 Tachwedd 2012.

 


Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter - TYNNWYD YN ÔL