Cyfarfodydd

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr yn dilyn eu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar hyn ac aros am ddiweddariad arall gan y deisebwyr, cyn ystyried y ddeiseb eto.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chytunodd i awgrymu bod Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn cysylltu ag ysgrifennydd dyddiadur y Gweinidog yn uniongyrchol i drefnu cyfarfod a gofyn iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys sylwadau diweddaraf y deisebydd, a gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â'r deisebwyr i drafod eu sylwadau a chynnig cefnogaeth mewn rhagor o fanylder.

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau’r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y materion a godir gan y ddeiseb gan fod ei chwaer yn hollol fyddar.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i nodi ychydig o gefndir y ddeiseb ac i ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer gweithredu a nodwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trafodaeth o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2014 - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 a chytunodd i:

 

·         anelu at ymweliad ag ysgol gyfagos i weld o lygad y ffynnon y gwaith a wnaed yno i greu acwsteg ardderchog i bawb yn yr ysgol;

·         ysgrifennu at y Sefydliad Acwsteg a Chymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn yn gofyn am gael gweld eu canllawiau ar acwsteg - disgwylir iddynt fod ar gael yn gynnar eleni; a

·         cheisio gwybodaeth bellach am bolisi ac arfer yn Lloegr i weld beth y gellir ei ddysgu.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

·         Jayne Dulson, Director NDCS Cymru

 

·         Elin Wyn, Policy Adviser NDCS Cymru

 

·         Danyiaal Munir, Student Cardiff & Vale College

 

·         Peter Rogers, Director Sustainable Acoustics Ltd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion canlynol gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor:

 

  • Jayne Dulson, Cyfarwyddwr NDCS;
  • Elin Wyn, Cynghorydd Polisi NDCS;
  • Danyiaal Munir, Myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro; a
  • Peter Rogers, Cyfarwyddwr Sustainable Acoustics Ltd

 

 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan NDCS a chytunodd i edrych yn fwy manwl ar y mater o acwsteg mewn ysgolion, yn arbennig sut y gall y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a rheoliadau adeiladu helpu i gynnal y gwelliannau.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r deisebydd nodi maes penodol yr hoffai i'r Pwyllgor gyflawni gwaith arno; ac

·         anfon copi, er gwybodaeth at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar.

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y grŵp trawsbleidiol er mwyn rhoi gwybod iddo am yr ohebiaeth ddiweddaraf; a

·         gofyn i'r deisebwr a yw'n fodlon â'r ohebiaeth a gafodd, a

·         gan ddibynnu ar ymateb y deisebwr, efallai bydd y Pwyllgor yn comisiynu darn byr o waith ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn, gan geisio eu barn ar y mater hwn:

 

·                     Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

·                     Action on Hearing Loss;

·                     Llywodraethwyr Cymru; a

·                     Chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion sy’n ymwneud â bod yn fyddar.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.