Cyfarfodydd

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddau bapur.

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd a gohebiaeth dyddiedig Chwefror 2017 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i ofyn:

  • pam mae'n ymddangos nad yw'r oriau agor ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Coffa Tywyn wedi cael eu hymestyn yn ystod haf 2017 er gwaethaf yr ymrwymiad i wneud hynny; a
  • pam nad yw Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd wedi cael ymateb gan y Bwrdd Iechyd i nifer o geisiadau am wybodaeth.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y deisebydd yn fodlon ar yr ymrwymiadau a wnaed o ran darparu gwasanaethau, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Roedd yr Aelodau hefyd am longyfarch y deisebwyr am ganlyniad llwyddiannus eu deiseb.

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd gan fynegi siom na gafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol a anfonwyd at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at y Bwrdd Iechyd, gan geisio:

·         ei ymateb i'r sylwadau diweddaraf gan y deisebydd, a;

·         gwybodaeth am fynediad i wasanaethau mân anafiadau yn ardal Tywyn, gan gynnwys y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn.

 

 

 

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Bu William Powell yn cwrdd â'r deisebwyr mewn perthynas â P-04-564 (Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog).

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

  • ofyn i'r Gweinidog, ar gais y deisebwyr ar gyfer deiseb P-04-564, ystyried adolygu'r materion a ganlyn:
    • y penderfyniadau a wnaeth BIPBC, mewn perthynas â materion sy'n peri pryder i'r deisebwyr, cyn iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig i sicrhau nad yw'r materion systemig a ganfuwyd ers hynny yn y Bwrdd Iechyd wedi  arwain at benderfyniadau diffygiol; a'r
    • cynlluniau gofal iechyd ar gyfer Ucheldiroedd Cymru gan gorff fel Cwmni Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru;
  • ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ddarparu manylion ynghylch canlyniadau'r gwaith o fonitro mynediad at wasanaethau mân anafiadau lleol yn Ucheldiroedd Cymru; ac
  • ar gais y deisebwyr ar gyfer deiseb P-04-479 (Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn), gofyn i'r bwrdd iechyd sut y maent wedi mynd i'r afael ag argymhelliad y cyngor iechyd cymuned y dylai'r bwrdd iechyd gael strategaeth ar gyfer cael mynediad at wasanaeth mân anafiadau amgen y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn.

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Bwrdd Iechyd am:

o   ei sylwadau ar y sylwadau diweddaraf gan y deisebwyr; sut mae cyd-gadeiryddion annibynnol y corff newydd yn bwriadu cydweithio ar faterion

o   ei farn bod oriau agor uned mân anafiadau Tywyn yn ymddangos i fod yn anghyson ag amseroedd agor eraill yn yr ardal ac a yw hyn yn gwthio pobl tuag at wasanaethau mewn mannau eraill, fel adrannau damweiniau ac achosion brys neu wasanaethau meddygon teulu

o   nodyn o gyfarfod diweddar y grŵp cydweithredol Iechyd yn y Canolbarth

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb ynghyd ag eitem agenda 3.15 (P-04-466)

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr am y sefyllfa yn lleol a chytunwyd i ofyn am farn y deisebydd ar y sefyllfa bresennol.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-x ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.4.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylwadau pellach y deisebwyr at sylw Bwrdd Iechyd y Brifysgol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor ymhen 3 mis am gynnydd o ran datblygu a darparu gwasanaethau wedi cyhoeddi’r adroddiad ar Astudiaeth Gofal Iechyd y Canolbarth.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r pwyntiau a wnaed ar ran y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd yn sgîl sylwadau'r deisebydd y byddai:

 

  • yn ysgrifennu eto at Brif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio cadarnhad o'r sefyllfa ynglŷn â'r ddarpariaeth ar gyfer mân anafiadau ym mhractisiau meddygon teulu yn Nhywyn, ac
  • yn gofyn am farn y deisebydd ar gyhoeddiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am yr astudiaeth o'r materion a'r cyfleoedd sy'n addas ar gyfer anghenion penodol y bobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiynau tystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol a oedd wedi gwneud Asesiad o Effaith y Traffig, a'r hyn y gallai hynny ei ddangos o ran trin cleifion o fewn yr “awr aur”; ac ystyried sylwadau ysgrifenedig pellach y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Brian Mintoft, Prif ddeisebydd

 

Diane Tucker, Deisebydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Mike Parry, Dr Delyth Davies, Brian Mintoft a Jennie Windsor.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor ynghyd â'r deisebwyr ar gyfer P-04-466 yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd.

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.