Cyfarfodydd

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y ddeiseb wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros dair blynedd yn ôl ac nid yw’n debygol y bydd y polisi’n newid yn y dyfodol agos, cytunodd y Pwyllgor y dylid ei chau.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd y trefniadau ar gyfer yr adolygiad o'r llenyddiaeth wedi cael eu cwblhau. 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

  • y byddai’n cyfleu sylwadau pellach y deisebydd i'r Gweinidog er mwyn gwybodaeth; ac
  • i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y bydd adolygiad o'r rheoliadau wedi dod i ben. 

 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach a gwahoddiad y deisebydd ymlaen at y Gweinidog a’i swyddogion a gofyn am gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau.

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac o ystyried llwyth gwaith y Pwyllgor ac ymrwymiadau eraill yr Aelodau, cytunwyd i wrthod y gwahoddiad. Wrth wneud hynny, penderfynwyd rhoi’r gwahoddiad i’r Gweinidog a gofyn iddo ef neu ei swyddogion ystyried y gwahoddiad fel rhan o’u hadolygiad o’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gadw golwg tan yr adolygiad o'r rheoliadau presennol; ac

·         anfon copïau at y Gweinidog o'r holl ymatebion a ddaeth i law gan y deisebydd a'r rhanddeiliaid yn ystod y drafodaeth ar y ddeiseb i helpu gyda'r adolygiad.

 

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r deisebwr ynghylch dechrau a chynnydd yr arolwg y mae disgwyl iddo ddechrau yn ystod haf 2014; ac

·         ysgrifennu at yr RSPCA i ofyn iddo am ei farn am ymateb y deisebwr dyddiedig 23 Tachwedd i'w lythyr.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i'w gohirio a'i thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, er mwyn i'r Pwyllgor gael amser i ystyried barn y deisebwyr am lythyr yr RSPCA.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan nodi’r ffaith fod Companion Animal Welfare Council yn gefnogol o amcanion y ddeiseb ac yn gofyn iddo a fydd y mater hwn yn cael ei ystyried ymhellach.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Companion Animal Welfare Council i geisio ei farn am y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn gofyn am ei farn ar y ddeiseb, a gofyn a yw’r ddeddfwriaeth yn effeithiol ac a yw’n bwriadu cynnal adolygiad arni.