Cyfarfodydd

P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen.       

 

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a nodwyd fod Coed Cadw bellach yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a chytunwyd i aros i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r Grŵp.

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn croesawu ei ymateb ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor:

 

·                     am strwythur ac aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen;

·                     a fyddai'r Gweinidog yn ystyried enwebai o Goed Cadw ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac

·                     am ganfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen unwaith y bydd wedi cwblhau ei waith ac unrhyw gynllun gweithredu dilynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i anfon manylion am y ddeiseb ac ystyriaeth y Pwyllgor ohono at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

 

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a fyddai'n barod i ystyried diogelu coed hynafol a choed treftadaeth ymhellach mewn deddfwriaeth arfaethedig.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ystyried y mater ymhellach yn dilyn ymweliad y Pwyllgor â choetir ger Gregynog yn ystod ei raglen allgymorth yn yr hydref; ac
  • aros i'r Bil Cynllunio (Cymru) drafft gael ei gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 27/06/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb - Coed Cadw Cymru

CELG(4)-20-13 – Papur 7

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn rhoi sylw i'r ddeiseb hon, cyn iddo ystyried y Bil Treftadaeth (Cymru);

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn rhoi sylw i'r ddeiseb hon, cyn iddo ystyried y Bil Cynullunio (Cymru) a'r Bil Amgylchedd (Cymru); ac i 

·         geisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan holi lle yr hoffent weld rhagor o gamau'n cael eu cymryd i warchod coed hynafol a choed treftadaeth.

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i holi sut y mae’n bwriadu ymdrin â’r materion a godwyd gan y ddeiseb.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy er mwyn gofyn am ei farn.