Cyfarfodydd
Rheoli Asedau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus
NDM5345 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau yn y Sector
Cyhoeddus, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Awst
2013.
Nodyn:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30
Hydref 2013.
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM5345
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei
ymchwiliad i Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Awst 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Rheoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus - trafod yr adroddiad drafft
FIN(4)-13-13 papur 4
Dogfennau ategol:
- Papur 4 (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau drafftio.
Cyfarfod: 08/05/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Rheoli Asedau - (Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus) Arddangos ei system E-Pims
Cofnodion:
7.1 Arddangosodd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus ei system E-Pims i’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Rheoli Asedau – Ystyried y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.
Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Rheoli Asedau – Tystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd David Bentley, Pennaeth Rheoli Asedau, y Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) – Eiddo.
2.2 Holodd yr
Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at David Bentley gyda’r cwestiynau canlynol, sy’n canolbwyntio’n
benodol ar Reoli Asedau yng Nghymru:
·
Mae
strategaeth gyfalaf Llywodraeth Cymru, y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru
(WIIP), yn cyfeirio at reoli asedau ond dim ond o ran nodi'r angen i
ddefnyddio'r sylfaen asedau yn well. Yn
eich barn chi sut y dylai rheoli asedau yn y llywodraeth ganolog, ac yn y
sector cyhoeddus ehangach, gael ei gysylltu â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith
Cymru yn ymarferol?
·
Yn
eich papur, gan gyfeirio at gynlluniau rheoli asedau llywodraeth leol Cymru, yr
ydych yn nodi bod y rhan fwyaf o'r rhain yn cyfeirio i ryw raddau at amcanion
strategol neu bolisi, ond rhaid bod y cyfeiriadau hyn yn rhai gwirioneddol yn
ymarferol. Yn eich profiad chi, a yw’n
wir nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhai gwirioneddol yn ymarferol, ac os yw
rheoli asedau'n cael ei weld fel gwasanaeth cefnogi mewn rhai meysydd, fel y
mae peth o'n tystiolaeth yn ei awgrymu, sut y gellir sicrhau bod cysylltiadau
strategol o'r fath yn fwy diriaethol?
·
Yn
eich papur mewn perthynas â gwersi a ddysgwyd o Gymru [tudalennau 13-14] yr ydych
yn rhoi deg enghraifft o lle yr ydych wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol mewn
perthynas â rheoli eiddo. A oedd y cyfan
o'r rhain yn awdurdodau lleol o Gymru a sut y mae'r trefniadau hyn yn codi, er
enghraifft a yw'r awdurdod yn cysylltu â chi am gymorth gyda phrosiect?
Cyfarfod: 18/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried y Dystiolaeth ar Reoli Asedau
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.
Cyfarfod: 18/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Lesley Griffiths
AC, y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Busnes y Llywodraeth
Piers Bisson Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus.
Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid
Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Eiddo
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; Jane Hutt AC, y Gweinidog
Cyllid; Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Eiddo; a Deborah
Paramore, Rheolwr Rhaglenni, Tîm Diwygio GwasanaethAU Cyhoeddus.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidogion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r canlynol:
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am arbedion a gafwyd o’r Strategaeth Lleoliad a
gwaith rheoli’r ystâd weinyddol;
·
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella
dibynadwyedd a chysondeb yn y gwaith o gyflwyno gwybodaeth er mwyn galluogi
meincnodi a rheoli perfformiad;
·
Enghreifftiau o ble y defnyddiwyd ceisiadau llwyddiannus Buddsoddi i Arbed
er mwyn mynd i’r afael â materion Rheoli Asedau;
·
Arbedion a wnaed gan ddefnyddio dull y Gweithgor Asedau Cenedlaethol, yn
gymesur ag arbedion a wnaed gan fodel y Scottish Futures Trust.
Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 05-13 (p1) Rheoli asedau - y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 5
PDF 118 KB Gweld fel HTML (5/1) 80 KB
- FIN(4)-03-13 : Pwynt Gweithredu - gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 5
PDF 416 KB
- FIN(4)-03-13 :Pwynt Gweithredu - Atodiad - gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 5
PDF 301 KB
Cofnodion:
5.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley
Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol;
Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, yr Adran Iechyd
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Phlant; a Val
Whiting, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant i’r cyfarfod.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Gweinidog.
Camau gweithredu:
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu:
- Rhagor o wybodaeth ynghylch trosglwyddo’r £35m o gyfalaf
i refeniw a natur y prosiectau dan sylw a oedd yn hwyluso trosglwyddo'r arian hwn.
- Rhagor o wybodaeth am y prosiectau sydd wrthi’n cael eu datblygu
ar hyn o bryd gan Lywodraeth
Cymru i wella trefniadau cydweithredu ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau.
- Copi o ganllawiau Cod Ystadau..
- Nodyn ar y gwahaniaethau o ran y driniaeth gyfreithiol / ariannol o drosglwyddo tir yn y GIG yn wahanol i sectorau eraill.
Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 05-13 Papur 2: Rheoli asedau - y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Eitem 6
PDF 77 KB Gweld fel HTML (6/1) 63 KB
Cofnodion:
6.1 Croesawodd y Cadeirydd Edwina Hart AC, y Gweinidog
Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; James
Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol
yr Adran Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Chris
Sutton, Aelod o Fwrdd Parth Menter Canol
Caerdydd ac Aelod o Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes; a Tim Howard, Pennaeth Eiddo, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i’r Cyfarfod.
6.2 Bu’r Pwyllgor yn
craffu ar waith y Gweinidog.
Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gydwasanaethau GIG Cymru
FIN(4) 03-13 – Papur 1 – Cydwasanaethau GIG Cymru
Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Cyfleusterau, Cydwasanaethau GIG Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Cyfleusterau,
Cydwasanaethau GIG Cymru, i’r cyfarfod.
3.2 Bu’r
Aelodau’n holi’r tyst.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd
Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu:
·
Astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae GIG Cymru wedi
cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill ym maes rheoli asedau er mwyn gwella’r
broses o ddarparu gwasanaethau.
·
Rhestr o enghreifftiau sy’n dangos lle mae cyrff sydd
ynghlwm â GIG Cymru wedi defnyddio’r Protocol Trosglwyddo Tir yn effeithiol.
Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Christopher Chapman, Rheolwr Rhaglen – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp ar y Cyd CLAW/ACES ar Eiddo ac Ystadau
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Christopher
Chapman, Rheolwr Rhaglenni – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru; a Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp Eiddo ac
Ystadau CLAW/ACES, i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan ofyn
cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod trafodion y Pwyllgor.
Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
FIN(4) 03-13 – Papur 2 – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Mathew Brown, Cymunedau Rheolwr Buddsoddi y Gronfa
Peter Williams, Cyfarwyddwr,
Cymdeithas Ymddiriedolaethau
Datblygu Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Croesawodd y
Cadeirydd Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru; Mathew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol; a Peter Williams, Cyfarwyddwr Cymdeithas
Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru.
4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
Cam i’w
gymryd:
Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:
·
Nodyn yn amlinellu enghreifftiau o sefydliadu
yn y sector gwirfoddol sy’n rheoli asedau fel adnoddau, a hynny er mwyn
gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau, ac sy’n gwneud hyn fel rhan o’u
strategaeth gyffredinol.
Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau
Cofnodion:
Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus
FIN(4) 02-13 – Papur 2 – Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus
Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Sioned Evans, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 02-13 Papur 2 - Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, Eitem 5
PDF 173 KB Gweld fel HTML (5/1) 90 KB
Cofnodion:
5.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a Sioned Evans, Cymorth i’r Rhaglen Waith ynghylch Caffael a Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Eiddo, Llywodraeth Cymru.
5.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer yr adeiladau cyhoeddus y gellid eu defnyddio fel llety;
· Sesiwn i ddangos i’r Aelodau sut mae e-PIMS, sef cronfa ddata eiddo y sector cyhoeddus, yn gweithio;
· Rhagor o wybodaeth ynghylch y naw prosiect peilot sy’n ymwneud â rheoli asedau a sut y cawsant eu dewis;
· Nodyn ynglŷn â sut mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn mynd i’r afael â’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da gan y gwasanaethau brys i ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb, i wneud defnydd da o gydweithio a darparu newid trawsffurfiol.
· Copi electronig o ddogfen Llywodraeth Cymru ynghylch Cyflwr yr Ystad.
· Rhagor o wybodaeth sy’n rhagamcanu nifer yr adeiladau sy’n rhan o ystad weinyddol Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer ei ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Pennu cwmpas yr Ymchwiliad i Reoli Asedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48 , View reasons restricted (8/1)
Cofnodion:
8.1 Trafododd yr Aelodau gwmpas ei ymchwiliad i Reoli Asedau.