Cyfarfodydd

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) at y Goruchaf Lys

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.59


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Atebolrwydd

11, 13

 

2. Gofal Lliniarol

4

 

3. Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

4. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

5. Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

6. Defnyddio Gwybodaeth

12

 

7. Defnyddio symiau a ad-delir

14, 15

 

8. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

 

Dogfennau Ategol:

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli

Grwpio gwelliannau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.55

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Atebolrwydd

11, 13

 

2. Gofal Lliniarol

4

 

3. Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

4. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

5. Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

6. Defnyddio Gwybodaeth

12

 

7. Defnyddio symiau a ad-delir

14, 15

 

8. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

26

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

26

46

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 6 ac 10.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

1

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gan fod gwelliant 8 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.59

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1.  Gofal Lliniarol

4

 

2.  Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

3.  Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

4.  Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

5.  Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

 

Dogfennau ategol:

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o welliannau wedi’u didoli

Grwpio Gwelliannau


Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)


Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Papur: HSC(4)-13-13 - Papur 1 - Llythyr at y Cadeirydd gan Mick Antoniw AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Cadeirydd gan yr Aelod sy'n gyfrifol a oedd yn cynnwys nodyn atodol mewn ymateb i argymhelliad 5 y Pwyllgor yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil.

 


Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 2 - Ystyried Gwelliannau

Papurau:

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli, 24 Ebrill 2013

Grwpio Gwelliannau, 24 Ebrill 2013

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu gwelliannau i Fil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yn y drefn ganlynol:

 

Adrannau 1 – 21

Atodlen 1

Cofnodion:

3.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau i'r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 1 – 21

Atodlen 1

 

3.2 Trafododd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn, a'u gwaredu:

 

Adran 1:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adran 2:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 3:

Gwelliant 9 (Darren Millar)

 

 O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Elin Jones

Lindsay Whittle       

Kirsty Williams 

Lynne Neagle 

Rebecca Evans

Gwyn Price

Jenny Rathbone

Ann Jones

William Graham  

Darren Millar

3

5

2

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 (Darren Millar)

 

 O blaid

Yn erbyn

Ymatal

William Graham  

Darren Millar

Lynne Neagle 

Rebecca Evans

Gwyn Price

Jenny Rathbone

Ann Jones

Elin Jones

Lindsay Whittle       

Kirsty Williams 

2

5

3

Gwrthodwyd gwelliant 10.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 4:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adran 5:
Gwelliant 11 (Darren Millar)

 

 O blaid

Yn erbyn

Ymatal

William Graham  

Darren Millar

Lynne Neagle 

Rebecca Evans

Gwyn Price

Jenny Rathbone

Ann Jones

Elin Jones

Lindsay Whittle       

Kirsty Williams 

 

2

8

0

Gwrthodwyd gwelliant 11.

 

Adran 6:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 7:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 8:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 9:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 10:
Derbyniwyd gwelliant 4 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Adran 11:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 12:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 13:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 14:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 15:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 16:
 Gwelliant 12 (Darren Millar)

 

 O blaid

Yn erbyn

Ymatal

William Graham  

Darren Millar

Elin Jones

Lindsay Whittle       

Lynne Neagle 

Rebecca Evans

Gwyn Price

Jenny Rathbone

Ann Jones

Kirsty Williams 

 

4

6

0

Gwrthodwyd gwelliant 12.

 

Derbyniwyd gwelliant 1 (Mick Antoniw) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 6 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 5 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Tynnwyd gwelliant 13 (Darren Millar) yn ôl.

 

Adran 17:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adran 18:
Derbyniwyd gwelliant 7 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Derbyniwyd gwelliant 2 (Mick Antoniw) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 19:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adran 20:
Derbyniwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Tynnwyd gwelliant 14 (Darren Millar) yn ôl.

 

Adran 21:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Atodlen 1:
Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i Atodlen 1, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

3.3 Dywedodd y Cadeirydd y derbyniodd y Pwyllgor bob adran o’r Bil, a chan y gwaredwyd pob gwelliant, bydd Cyfnod 3 yn dechrau o 25 Ebrill 2013.

 

3.4 O dan Reol Sefydlog 26.27, cytunodd yr Aelodau y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig.

 

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013

NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013

NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 28/02/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad terfynol

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.


Cyfarfod: 25/02/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.1)

Adroddiad drafft terfynol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

CLA(4)-07-13(p5) – Adroddiad drafft terfynol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Trafod yr Adroddiad Drafft

Sesiwn breifat

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.


Cyfarfod: 18/02/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.2)

Adroddiad drafft a Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

CLA(4)-06-13(p3)Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - sesiwn dystiolaeth 8

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, yr Adran Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol

Fiona Davies, Gwasanaethau Cyfreithiol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru. Roedd swyddogion y Gweinidog yn bresennol hefyd.

 

 


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - sesiwn dystiolaeth 10

Yr Aelod sy’n gyfrifol

 

Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Vaughan Gething AC

Paul Davies, Aelod Cyswllt o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

Joanest Jackson, Cynghorydd Cyfreithiol

 

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (fel y’i cyflwynwyd)

 

Memorandwm Esboniadol

 

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil - Mick Antoniw AC, Vaughan Gething AC, Mr Paul Davies a Mrs Joanest Jackson.

 


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): ystyried tystiolaeth yr Aelod sy'n gyfrifol

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 


Cyfarfod: 24/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - sesiwn dystiolaeth 9

Tenovus

 

Dr Rachel Iredale, Cyfarwyddwr y Tîm Cefnogaeth Canser

Miss Julia Yandle, Rheolwr Gwasanaethau Cyngor

 

Prifysgol Abertawe, Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe, Coleg y Gwyddorau Dynol a Iechyd

 

Yr Athro Ceri Phillips BSc.(Econ), MSc. (Econ), PhD, Economegydd Iechyd

 

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

 

Glyn Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid (Gweithrediadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Tenovus, yr Athro Ceri Phillips o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe a Mr Glyn Jones, a oedd yn cynrychioli Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

 

 


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4

HSC(4)-02-13 papur 1

 

Cymdeithas Yswirwyr Prydain

 

Nick Starling, Cyfarwyddwr Yswiriant Cyffredinol, Cymdeithas Yswirwyr Prydain;

Dominic Clayden, Cyfarwyddwr Hawliadau Prydain ac Iwerddon, Aviva;

Faye Glasspool, Cyfarwyddwr Etifeddiaeth y DU, RSA

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Yswirwyr Prydain.

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd fod copi o’r llythyr a gafodd gan Gomisiwn y Gyfraith yn cael ei anfon at y tystion.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol cael papur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Ymgynghoriad yr Adran Iechyd yn 2002 y cyfeiriodd y tystion ato.


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 7

HSC(4)-02-13 papur 4

 

Gofal Canser Marie Curie

 

Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru

Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ofal Canser Marie Curie.


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 6

HSC(4)-02-13 papur 3

 

Cymdeithas yr Yswirwyr Niwed Personol - Cymru (APIL Wales)

 

Michael Imperato, Cydgysylltydd APIL Wales

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas yr Yswirwyr Niwed Personol - Cymru (APIL Wales).


Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 5

HSC(4)-02-13 papur 2

 

Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant 

 

Simon Cradick, Partner, Morgan Cole PAC, yn cynrychioli Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant.

 


Cyfarfod: 10/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Vaughan Gething AC

Paul Davies, Aelod Cyswllt o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) fel y'i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, yn ogystal â Vaughan Gething AC, Mr Paul Davies a Mrs Joanest Jackson.


Cyfarfod: 10/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

11 Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Llythyr o'r Llywydd

HSC(4)-01-13 paper 7

HSC(4)-01-13 paper 7 (atodiad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.


Cyfarfod: 10/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3

HSC(4)-01-13 papur 3

 

Undebau Llafur

Uno’r Undeb a GMB Cymru a De Orllewin Lloegr

 

Hannah Blythyn, Cydgysylltydd Ymgyrchoedd a Pholisi Uno’r Undeb

Mike Payne, Swyddog Rhanbarthol, GMB

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau llafur y GMB a UNITE.


Cyfarfod: 10/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2

HSC(4)-01-13 papur 1

HSC(4)-01-13 papur 2

 

Ymwybyddiaeth Asbestos a Chefnogaeth Cymru

 

Joanne Barnes-Mannings, Swyddog Allgymorth Cymunedol

Lorna Johns, Swyddog Ymchwil a Datblygu Strategol

 

Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU

 

Tony Whitston, Cadeirydd, Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU

Marie Hughes, Cymorth Mesothelioma (Grŵp Cymorth Dioddefwyr Manceinion Fwyaf)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymwybyddiaeth a Chefnogaeth Asbestos Cymru a Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU.


Cyfarfod: 10/01/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): trafod tystiolaeth yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:11


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – sesiwn dystiolaeth 1 - GOHIRIWYD


Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – y dull o graffu

HSC(4)-33-12 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor at lythyr diweddar a gafodd oddi wrth y Llywydd yn nodi, yn ei barn hi, bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, nododd hefyd fod ei barn ar fin y gyllell o ran rhai rhannau o’r Bil. Amlinellodd y Cadeirydd y rhannau hynny o’r Bil a dywedodd y byddai’r llythyr yn cael ei anfon at Aelodau’n fuan.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried y materion a godwyd gan y Llywydd adeg y broses graffu yng Nghyfnod 1. Holwyd cynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a gododd y Llywydd er mwyn gallu llunio cwestiynau i gynorthwyo’r Pwyllgor i ymchwilio i’r materion hynny gyda’r tystion perthnasol.

 

6.3 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) yng Nghyfnod 1.

 

6.4 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dull cyffredinol o graffu a awgrymwyd ym mhapur y Pwyllgor ond cytunodd y dylid ychwanegu cwestiwn am gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol at y llythyr ymgynghoriad.

 

6.5 Cytunwyd hefyd y dylid ystyried cynrychiolwyr o elusennau canser, byrddau iechyd, y diwydiant adeiladu a sefydliadau sy’n cynhyrchu asbestos fel tystion llafar ychwanegol.

 


Cyfarfod: 28/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Datganiad gan Mick Antoniw: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD


Cyfarfod: 15/11/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Mick Antoniw AC ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

HSC(4)-30-12 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4 Dywedodd Mick Antoniw wrth y Pwyllgor na fyddai'n bresennol yn y sesiynau lle fydd y Pwyllgor yn trafod y Bil, gan mai ef yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil.