Cyfarfodydd

P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafodaeth ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'w adroddiad a chytunwyd i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafod yr Adroddiad Drafft


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Trafod yr Adroddiad Drafft: P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad a’r argymhellion.

 

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod yr adroddiad drafft: P-04-433 : Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar adroddiad drafft ynghylch deiseb P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai ac iddo gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a oedd wedi dod i law ac i ffurfioli ei argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-433 a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn:

  • ailadrodd ei farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn lladd-dai Cymru;
  • gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Pwyllgor ynghylch y nifer sy'n cael cyllid o dan y Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd pan fydd hyn yn hysbys; a
  • gofyn iddi ddarparu rhestr o ladd-dai yng Nghymru lle nad oes teledu cylch cyfyng wedi'i osod.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am sicrwydd y bydd pob lladd-dy yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud cais am arian grant i osod teledu cylch cyfyng ac y bydd y rhai sy'n dewis peidio gwneud cais yn cael eu monitro'n agos, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar ôl cael ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399, Arferion Lladd Anifeiliaid, gan gytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i nodi bod y Pwyllgor yn gefnogol o'r alwad i deledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai a gofyn iddi ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau mwyaf diweddar y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a derbyn y cynnig o gael y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny'n briodol

 


Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid, a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am gael ein hysbysu am ganfyddiadau adroddiad y grŵp diwydiant cyn ystyried y camau gweithredu nesaf gyda’r ddwy ddeiseb.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at ymateb Animal Aid a gofyn am ei sylwadau ar gynigion pellach y sefydliad o ran sut y gellid defnyddio a monitro lluniau teledu cylch cyfyng.

·         gofyn i'r Dirprwy Weinidog am ei barn ynghylch a gaiff argymhelliad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm, a'i datganiad ysgrifenedig, unrhyw effaith ar y mater o ladd heb stynio yn gyntaf, sydd ychydig yn wahanol. 

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y ddeiseb hon ynghyd â'r ddeiseb flaenorol. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd wedi adolygu safbwynt Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar ymateb y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog unwaith y bydd adroddiad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm i Lywodraeth Cymru yn dod i law ac wedi ei ystyried.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan ofyn iddo am amserlen ar gyfer trafod y mater hwn a chan nodi’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o'r amserlen ar gyfer ymdrin â'r mater.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn holi a fyddai modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i:

·         ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am eglurhad o sut y mae’n bwriadu dwyn mater teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn ei flaen a’r amserlen ar gyfer gwneud hynny; a

·         chomisiynu papur ymchwil ar sut yr ymdrinir â’r mater hwn ledled Ewrop.

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Nododd Joyce Watson ei bod wedi llofnodi Datganiad Barn ar y mater hwn.

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y ddeiseb ac i ofyn pryd y byddai canfyddiadau’r ymgynghoriad ar weithredu Rheoliadau’r UE ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd yn cael eu cyhoeddi.