Cyfarfodydd

Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2015 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn flaenorol (11:20 - 11:30)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.


Cyfarfod: 13/03/2015 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog (09:30 - 11:20)

Carwyn  Jones AC, Prif Weinidog

·         Bethan Webb - Dirprwy Gyfarwyddwr, Iaith Gymraeg

·         Peter Kennedy – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac am y broses o ran penodiadau cyhoeddus, a chraffu yn hyn o beth.

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog yn ymwneud â’r Gymraeg. Cwestiynau gan y cyhoedd oedd y rhain a fe’u hanfonwyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol.


Cyfarfod: 27/02/2013 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog.


Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn breifat cyn diwedd tymor yr hydref i drafod y busnes sydd ar ddod.


Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Sesiwn friffio anffurfiol cyn y prif gyfarfod

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor sut y byddai’n hoffi ymdrin â’r cyfarfod.


Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.

 

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

 

3.2 Roedd Claire Fife, Rheolwr y Rhaglen Ddeddfwriaethol, Llywodraeth Cymru, gyda’r Prif Weinidog.

 

3.3 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:

·         Cynllunio a chydgysylltu’r rhaglen ddeddfwriaethol;

·         Ymgynhoriadau ac ymgysylltu;

·         Trafodaethau â Llywodraeth y DU; a

·         Materion ar ôl deddfu a rhoi deddfau ar waith.

 

 

Hyrwyddo Menter

 

3.4 Roedd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth gyda’r Prif Weinidog; a Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid – Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

3.5 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:

·         Menter ac entrepreneuriaeth yng Nghymru;

·         Polisi trawsbynciol;

·         Cefnogaeth i fusnes a chreu busnesau; a

·         Menter mewn addysg ac entrepreneuriaeth yr ifanc.