Cyfarfodydd

P-04-422: Ffracio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n ymgyrchydd hirsefydlog yn erbyn ffracio.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. 

 

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gael eglurhad ar swm a sylwedd sylwadau a nodwyd yn ddiweddar, yn ôl y sôn, am foratoriwm ar ffracio, nad oes sôn amdanynt yn ei lythyr at y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd yn gofyn am ei ymateb i ddogfen y deisebydd a’i farn ar y ‘ddeiseb’ gysylltiedig a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog sydd yn ôl y sôn wedi casglu 90,000 o lofnodion; ac

·         Anfon y wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW), gan dynnu eu sylw’n arbennig at y sylwadau ar dudalen 2 am y diffyg arweiniad a ddarperir gan NRW.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd, a oedd yn cynnwys llythyr ato gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd ac yn benodol y ceisiadau gan randdeiliaid am ganllawiau ychwanegol;

2.   y Prif Weinidog, yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch ei farn ymddangosiadol bod y strwythurau rheoleiddio presennol yn briodol, yn enwedig o ystyried barn rhanddeiliaid, sy'n awgrymu i'r gwrthwyneb;

3.   y deisebydd, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y llefarydd diwydiant a soniwyd amdano yn yr ohebiaeth; a

4.   Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gofyn ei farn.

 

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebwyr i ofyn iddynt a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-422: Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chutunodd i;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i holi faint o swyddogion sy’narbenigwyrar ffracio a lefel yr arbenigedd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a chynaliadwyedd yn holi am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sesiwn dystiolaeth ddiweddar ar nwy anghonfensiynol; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn tynnu sylw at ystyriaethau’r Pwyllgor o’r materion hyn.


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan rannu'r ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, a nodi nad yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn bwriadu cyflwyno canllawiau ychwanegol, er gwaethaf cais y deisebwyr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac at

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio yn holi a yw'r Llywodraeth wedi comisiynu unrhyw waith ymchwil ynghylch ffracio neu a yw wedi ceisio cyngor annibynnol ynghylch hynny.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio yn amlygu pryderon Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y diffyg canllawiau o ran ffracio; a’r

·         Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn i gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddo ystyried y mater.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-422: Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Daeth gohebiaeth i law’r Pwyllgor mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn a yw awdurdodau cynllunio lleol yn teimlo bod y canllaw cynllunio presennol yn ddigon clir ar fater ffracio;

Rhannu ymateb y deisebwyr â’r Gweinidog;

Ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a yw’n bwriadu cynnal unrhyw waith pellach mewn cysylltiad â ffracio, yn dilyn ei ymchwiliad i gynllunio a pholisi ynni.


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar bwnc y ddeiseb.