Cyfarfodydd

P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y ffaith fod yr Arolygiaeth Gynllunio yn parhau i ystyried y mater hwn.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn pryd mae disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau, a'r dyddiad y disgwylir ei gwblhau.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn amlygu pryderon y deisebwr am y Gorchymyn i gau’r llwybrau, ac i holi pryd y mae’n disgwyl i’r Arolygiaeth Gynllunio wneud penderfyniad ar y gorchmynion.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i’w hanfon ymlaen at y deisebwyr i roi sylwadau.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, yn ogystal â’r awdurdod lleol a Tata Steel.