Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/09/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.


Cyfarfod: 25/04/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

NDM8243 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8243 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

37

52

Gwrthodwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 24/04/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 8)

8 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ynghylch y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:


Cyfarfod: 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.


Cyfarfod: 20/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig o’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Lywodraeth y DU: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Busnes a Masnach.


Cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

  • Nodyn Cyngor Cyfreithiol [Saesneg yn unig]

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

 


Cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 7)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) a chytunodd i gytuno ar adroddiad drwy ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 06/03/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol): Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 06/02/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.


Cyfarfod: 30/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 6)

6 Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd.