Cyfarfodydd

P-06-1322 Dylid ailddyrannu'r £30 miliwn sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i'r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1322 Dylid ailddyrannu’r £30 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i’r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.