Cyfarfodydd

Adolygiad ar Pleidleisio drwy Ddirprwy

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y materion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn fel rhan o'i adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy.

 

Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn y mwyafrif, i gynnig bod darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy yn cael eu hymestyn i gynnwys salwch neu anaf hirdymor, cyfrifoldebau gofalu a phrofedigaeth. Ym mhob achos, byddai’r hawl i ofyn am bleidlais drwy ddirprwy yn codi mewn amgylchiadau lle byddai Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd.

Ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â salwch neu anaf hirdymor a chyfrifoldebau gofalu, byddai isafswm amser o bedair wythnos ac uchafswm amser safonol o chwe mis, gyda'r gallu i hyn gael ei ymestyn yn ôl disgresiwn y Llywydd. Bydd cyfnod pleidlais drwy ddirprwy yn sgil profedigaeth yn cael ei gytuno rhwng yr Aelod a’r Llywydd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r trefniadau presennol ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gymhwysedd unigol ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy barhau, gyda’r categori eang o bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei gynnwys pan fydd adroddiad ar y trefniant yn cael ei osod gan y Llywydd.

 

Cododd Jane Dodds y ffordd y mae’r broses pleidlais drwy ddirprwy yn gweithio i Aelodau nad ydynt yn rhan o grŵp plaid. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried hyn ymhellach wrth ystyried diweddariadau drafft i'r canllawiau.

 

 


Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy


Cyfarfod: 28/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy fel rhan o'i adolygiad.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori ymhellach â'u grwpiau pleidiau ar sail consensws sy'n dod i'r amlwg ynghylch ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy i gynnwys salwch neu anaf hirdymor Aelod, cyfrifoldebau gofalu am ddibynnydd sydd â salwch neu anaf hirdymor ac absenoldeb oherwydd profedigaeth, a dychwelyd at drafodaeth bellach yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth.

Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.

 

 


Cyfarfod: 28/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy


Cyfarfod: 14/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy


Cyfarfod: 14/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Absenoldeb rhiant: materion i'w hystyried

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Fel rhan o'i adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy, trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â'r Rheolau Sefydlog dros dro ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar sail barn fwyafrifol, i gynnig y dylid gwneud y darpariaethau presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant yn barhaol. Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw'r darpariaethau presennol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid diwygio uchafswm yr hyd i saith mis ar gyfer mam neu dad baban, partner rhywun sy’n rhoi genedigaeth, rhiant sy’n mabwysiadu neu ofalwr mewn trefniant â rhywun sy’n rhoi genedigaeth ar eu rhan, lle gellir cymryd uchafswm o un mis cyn y dyddiad y disgwylir i’r baban gael ei eni, neu’r dyddiad mabwysiadu, ac uchafswm o chwe mis ar ôl i’r baban gael ei eni neu’r dyddiad mabwysiadu. Nododd y Llywydd nad y Llywydd ddylai benderfynu pa riant sy’n brif ofalwr. Gofynnodd Siân Gwenllian am i ystyriaeth gael ei rhoi i'r trefniadau a fyddai'n ymwneud â genedigaethau cynamserol pan gaiff y canllawiau eu drafftio.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes, os bydd unrhyw amwysedd, y dylai'r Llywydd barhau i allu defnyddio eu disgresiwn wrth benderfynu ar faterion ynghylch cymhwysedd unigolion i gael pleidlais drwy ddirprwy a hyd trefniadau o'r fath. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, pan fydd Aelod neu eu partner yn colli baban yn y groth neu pan fydd baban yn marw ar enedigaeth mai dim ond i benderfynu ar hyd trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ac nid cymhwysedd yr Aelod y dylid defnyddio disgresiwn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ba wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi pan fydd trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn cael ei gytuno unwaith y bydd wedi ystyried y posibilrwydd o ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy mewn cyfarfod dilynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid caniatáu pleidleisio drwy ddirprwy mewn pob math o bleidleisio yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgor o'r Senedd Gyfan, gan gynnwys y rhai sy'n gofyn am basio cynnig neu ddatrysiad ar bleidlais lle nad yw nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd, neu pan fyddai'r bleidlais drwy ddirprwy yn cyfrif tuag at y nifer sydd ei angen ar gyfer cworwm.

 

 


Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adborth o ymgynghoriad ag Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar bleidleisio drwy ddirprwy gyda'r Aelodau presennol a chyn-Aelodau a chytunodd i ystyried papur yn adolygu treialu pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhieni yn y cyfarfod canlynol, cyn ystyried estyniadau posibl i ddarpariaethau wedi hynny.

 

 

 


Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy


Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd lle y disgwylid i Aelod fod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023.

 

 


Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cwmpas yr adolygiad a’r papur ymgynghori i’r Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o ystyriaethau yn ymwneud â’r Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy. Yn sgil datblygu dulliau o gymryd rhan o bell a phleidleisio o bell yn nhrafodion y Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfyngu cymhwysedd ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy i sefyllfaoedd pan fydd Aelod yn absennol o holl drafodion y Senedd. Wedi gwneud hynny, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r ymgynghoriad gydag Aelodau ddechrau yr wythnos nesaf a rhedeg hyd at ddiwedd ail wythnos y tymor yn 2023 (20 Ionawr 2023).