Cyfarfodydd

P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dwr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lygredd amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r systemau carthffosiaeth yn Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

At hynny, cytunodd yr Aelodau i anfon manylion y ddeiseb at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

 


Cyfarfod: 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ofyn am ei farn am hyn a gohebiaeth diweddaraf y deisebydd.