Cyfarfodydd

P-04-397 Cyflog Byw

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod y Llywodraeth wedi derbyn y ddeiseb mewn egwyddor; y camau sy'n cael eu cymryd drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, ac nad yw'r bobl ifanc a oedd yn rhan o gyflwyno'r ddeiseb yn rhan o hyn bellach; i gau'r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau diweddaraf y deisebwyr ac am ddiweddariad pellach ar y cynnydd, gan gynnwys trafodaethau diweddaraf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

 

Ar ôl trafod y deisebau newydd a chyfredol, cytunodd y Pwyllgor i gael egwyl rhwng 10.07 a 10.25, cyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac roedd yn bwriadu cau'r ddeiseb, ond cytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ohebiaeth ddiweddaraf y Gweinidog cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i aros am ganlyniad cyfarfod y Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr. 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am sicrwydd y bydd y mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Rhagfyr.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog gan ofyn am sicrwydd y caiff y mater ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a drefnwyd ar gyfer mis Medi; ac
  • aros am ganlyniad y cyfarfod hwn.

 

 

 

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd ar ôl i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ystyried y mater ym mis Mawrth.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu i ofyn pryd y maent yn bwriadu datblygu'r cynllun Cyflog Byw. 

 

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyflog byw, y gofynnwyd amdani, gan Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar gyflog byw.


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i geisio ymateb gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i: roi gwybod iddo am y ddeiseb; ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhanddeiliaid a gynullwyd; ac i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ymgynghori â Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant fel rhan o’i gwaith ar y mater hwn.