Cyfarfodydd
Diwygio'r Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Bil Diwygio'r Senedd - amserlen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig, a
chytunwyd ar y canlynol:
- Cyflwyno cynigion perthnasol i
gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf bod y Senedd yn sefydlu
Pwyllgor Biliau Diwygio gyda chylch gwaith i graffu ar Filiau a gyfeirir
ato gan y Pwyllgor Busnes;
- Dyrannu Cadeirydd y Pwyllgor
i'r grŵp Llafur a gwahodd enwebiadau ar gyfer y swydd honno yn y
Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf;
- Y dylai’r Pwyllgor gynnwys
pedwar aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, (dau Lafur, un yr un o’r grwpiau
Ceidwadol a Phlaid Cymru) a chofnodi ei bod yn well ganddo i Jane Dodds
gael ei gwahodd gan y Cadeirydd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor
fel y’i nodwyd yn Rheol Sefydlog 17.49;
- Cyfeirio egwyddorion
cyffredinol Bil Diwygio'r Senedd at Bwyllgor newydd y Bil Diwygio ar gyfer
ystyriaeth Cyfnod 1;
- Ymgynghori â Phwyllgor y Bil
Diwygio ar amserlen arfaethedig y Bil i lywio penderfyniad terfynol gan y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at y mater o ran a ddylai’r Bil Gweinyddu Etholiadol arfaethedig ar
gyfer llywodraeth leol hefyd gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio yn
nhymor yr hydref.
Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cyfarfod: 06/07/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)
4 Goblygiadau ariannol deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio’r Senedd
Dogfennau
ategol:
FIN(6)-12-23 P5 –
Goblygiadau ariannol deddfwriaeth sydd ar ddod i ddiwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol
deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio'r Senedd.
Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch diwygio’r Senedd a theitl y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr
a’r ffaith na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r teitl a
ddefnyddir ar gyfer y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y ddeddfwriaeth sydd ar
ddod ar Ddiwygio’r Senedd.
Cytunwyd y byddai'r
Ysgrifenyddiaeth yn rhoi nodyn cyfreithiol ar wahaniaethau yng nghymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd i ddiwygio enw'r sefydliad a theitl y Llywydd a'r
Dirprwy Lywydd.
Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Diwygio’r Senedd
Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Costau a Rhagdybiaethau ar Ddiwygio'r Senedd: Gwybodaeth ddiwygiedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar
nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan
Gomisiwn y Senedd i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu Asesiad Effaith
Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Yn dilyn trafodaeth ynghylch y
rhagdybiaethau o ran yr ystod ddisgwyliedig o bwyllgorau ychwanegol sy'n
debygol o gael eu sefydlu gan Senedd y dyfodol a nifer yr wythnosau eistedd,
cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi'r rhagdybiaethau o ran busnes y Senedd.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ystyried papur yn nodi’r amserlenni lefel uchel ar gyfer ei
waith ei hun yn ymwneud â Diwygio'r Senedd dros weddill tymor y Senedd hon mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Diwygio'r Senedd
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trafod yr adroddiad drafft ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno, ac iddo gael ei osod a’i
ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y tymor, yn amodol ar ddau ychwanegiad:
nodi barn Siân Gwenllian y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd gynnwys y
teitlau Cymraeg ‘Llywydd’ a 'Dirprwy Lywydd' yn unig; a, nodi barn y Llywydd y
dylid pennu uchafswm cynyddol o Weinidogion Cymru yn 16.
Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Diwygio’r Senedd
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Dychwelodd
y Pwyllgor Busnes at ei drafodaethau ynghylch maint Llywodraeth Cymru mewn
Senedd fwy. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor i gynnig gan y Trefnydd y dylid
cynyddu'r terfyn uchaf ar nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 o weinidogion fel
rhan o ddeddfwriaeth Diwygio'r Senedd. Cytunodd y mwyafrif hefyd i gynnig gan y
Trefnydd y dylai'r ddeddfwriaeth gynnwys mecanwaith a fyddai'n galluogi i
Lywodraeth Cymru gynnig cynnydd pellach i'r terfyn hwn, hyd at uchafswm o 19,
drwy is-ddeddfwriaeth, mewn amgylchiadau lle ystyrir bod cynnydd yn deilwng.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cynnydd o'r fath fod yn destun pleidlais
gadarnhaol yn y Senedd.
Dywedodd
Darren Millar ei farn mai 16 dylai fod y terfyn uchaf o ran nifer y
Gweinidogion, ac y dylai unrhyw gynnydd pellach yn nifer y Gweinidogion gael ei
gymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio.
Cytunodd y
Pwyllgor i drafod adroddiad ar eu canfyddiadau ar y pedwar mater y mae wedi’u
hystyried mewn cyfarfod dilynol.
Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Diwygio’r Senedd
Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Datblygiad tybiaethau cyffredin
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur ymgynghori ynghylch
nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan
Gomisiwn y Senedd i lywio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r
Senedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ragdybiaethau
ynghylch nifer bosibl y pwyllgorau mewn Senedd fwy. Cytunwyd hefyd y dylai'r rhagdybiaethau a'r wybodaeth
a gaiff eu cyflwyno ynghylch gweithgareddau Seneddol amlinellu'r ystod o
weithgareddau a wneir gan y Senedd. Gofynnwyd am lunio papur arall i'w drafod
mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Dychwelodd
y Pwyllgor Busnes at ystyried dau argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd:
1. Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd
fwy
Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y mater hwn tan y cyfarfod dilynol.
2. Nifer y
Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy
Ymhellach
i'r casgliad a gytunwyd yn y cyfarfod blaenorol - y dylai deddfwriaeth ar
Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn diwygiedig o ddau Ddirprwy
Lywydd - cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn
ofynnol y dylai Aelodau a etholir i rolau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd
gynrychioli o leiaf ddau grŵp plaid. Daeth y Pwyllgor hefyd i'r casgliad y
dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan, pan fydd y Senedd yn ethol dau Ddirprwy Lywydd y
dylai'r deiliad swydd hyn gynrychioli tair plaid wahanol, lle y bo'n bosibl.
Cytunodd
mwyafrif y Pwyllgor Busnes y dylai ddod i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth
ddiwygio'r teitlau 'Presiding Officer' a 'Deputy Presiding Officer' i 'Speaker'
a 'Llywydd', a 'Deputy Speaker' a 'Dirprwy Lywydd', yn amodol ar Lywodraeth
Cymru yn ystyried a oes gan y Senedd
gymhwysedd deddfwriaethol i wneud hyn. Nododd Siân Gwenllian a Jane Dodds eu
bod yn ffafrio defnyddio 'Llywydd' a 'Ddirprwy Lywydd' yn unig yn y
ddeddfwriaeth.
Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Diwygio'r Senedd
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Papur cefndir: nifer y deiliaid swyddi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor y papur.
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Papur cefndir: canlyniadau pe bai Aelod yn newid plaid wleidyddol.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
y papur.
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd: Cymorth ar gyfer penderfyniad y Pwyllgor Busnes
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 46
Cofnodion:
1. Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd
fwy (argymhelliad 4)
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
dystiolaeth a gafwyd a chytunodd, mewn egwyddor, i ddod i’r casgliad y dylai deddfwriaeth
Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn gwahanol ar y nifer o
Weinidogion Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol at drafodaeth bellach am lefel y trothwy o ran
isafswm a/neu uchafswm, ac a ddylai'r ddeddfwriaeth gynnwys ystod ar gyfer y
nifer o Weinidogion Cymru.
2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn
Senedd fwy
Daeth Pwyllgor Busnes i'r casgliad
y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol
presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn o ddau
Ddirprwy Lywydd, yn hytrach nag un, fel sydd ar hyn o bryd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at drafodaeth bellach am sut y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn
ofynnol bod cydbwysedd gwleidyddol rhwng y Llywydd a’r dirprwyon, a pha deitlau
a ddefnyddir ar gyfer y swyddi hynny yn y ddeddfwriaeth.
3.
Y nifer o Gomisiynwyr y Senedd
mewn Senedd fwy
Daeth y Pwyllgor Busnes i’r
casgliad na ddylai fod unrhyw newid i'r darpariaethau statudol presennol o ran
y nifer o Gomisiynwyr y Senedd.
4.
Y canlyniadau pe bai Aelod yn
newid eu plaid wleidyddol pe bai wedi eu hethol drwy system rhestr gyfrannol
gaeedig
Daeth y Pwyllgor Busnes i'r
casgliad na fyddai'n argymell y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd gyflwyno
canlyniadau deddfwriaethol sy'n deillio o fod Aelod o'r Senedd yn newid eu
plaid wleidyddol rhwng etholiadau. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai'n rhoi
ystyriaeth bellach i fecanweithiau mewnol y Senedd sy'n ymwneud ag aelodaeth grŵp
wrth adolygu Rheolau Sefydlog cyn tymor y Senedd nesaf.
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Diwygio'r Senedd
Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Dull o ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ei ddull o ystyried sawl argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor
Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gyda’r nod o ddarparu casgliadau i lywio datblygiad cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil
Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
- ymgynghori ag Aelodau a
Grwpiau Pleidiau ar y pedwar argymhelliad: maint Llywodraeth Cymru, nifer
y Dirprwy Lywyddion a nifer Comisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy o faint;
a beth fydd yn digwydd os bydd Aelod o’r Senedd yn newid ei blaid
wleidyddol rhwng etholiadau.
- gwahodd safbwyntiau gan randdeiliaid
i lywio ei drafodaethau ar y materion a nodir uchod;
- gwahodd safbwyntiau gan y
Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ar nifer y Dirprwy Lywyddion ddylai fod mewn
Senedd fwy;
- gwahodd safbwyntiau gan
Gomisiwn y Senedd ar nifer Comisiynwyr y Senedd ddylai fod mewn Senedd
fwy;
- gofyn i Lywodraeth Cymru
ddarparu gwybodaeth am waith cwmpasu a dadansoddi a gynhaliwyd ar nifer
Gweinidogion Cymru mewn Senedd fwy, a beth fydd yn digwydd os bydd Aelodau
yn newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau;
- ystyried enghreifftiau o sut
yr ymdrinnir ag Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau
mewn seneddau â systemau etholiadol tebyg.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i gynnal gweithdy technegol gyda swyddogion y Senedd a
Llywodraeth Cymru cyn toriad hanner tymor yr hydref. Cytunodd i drafod y
materion hyn a’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y slotiau cyfarfod sydd
wedi’u trefnu ym mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus lle bo hynny’n
briodol.
Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Diwygio’r Senedd