Cyfarfodydd

Diwygio'r Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/01/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Diwygio'r Senedd


Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Bil Diwygio'r Senedd - amserlen

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau craffu ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd a deddfwriaeth gysylltiedig, a chytunwyd ar y canlynol:

 

  • Cyflwyno cynigion perthnasol i gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf bod y Senedd yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio gyda chylch gwaith i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes;
  • Dyrannu Cadeirydd y Pwyllgor i'r grŵp Llafur a gwahodd enwebiadau ar gyfer y swydd honno yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf;
  • Y dylai’r Pwyllgor gynnwys pedwar aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, (dau Lafur, un yr un o’r grwpiau Ceidwadol a Phlaid Cymru) a chofnodi ei bod yn well ganddo i Jane Dodds gael ei gwahodd gan y Cadeirydd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor fel y’i nodwyd yn Rheol Sefydlog 17.49;
  • Cyfeirio egwyddorion cyffredinol Bil Diwygio'r Senedd at Bwyllgor newydd y Bil Diwygio ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1;
  • Ymgynghori â Phwyllgor y Bil Diwygio ar amserlen arfaethedig y Bil i lywio penderfyniad terfynol gan y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater o ran a ddylai’r Bil Gweinyddu Etholiadol arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol hefyd gael ei gyfeirio at y Pwyllgor Biliau Diwygio yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 06/07/2023 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 4)

4 Goblygiadau ariannol deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio’r Senedd

Dogfennau ategol:

FIN(6)-12-23 P5 – Goblygiadau ariannol deddfwriaeth sydd ar ddod i ddiwygio’r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio'r Senedd.

 


Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch diwygio’r Senedd a theitl y Llywydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a’r ffaith na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r teitl a ddefnyddir ar gyfer y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn y ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar Ddiwygio’r Senedd.

 

Cytunwyd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn rhoi nodyn cyfreithiol ar wahaniaethau yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i ddiwygio enw'r sefydliad a theitl y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Diwygio’r Senedd


Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Costau a Rhagdybiaethau ar Ddiwygio'r Senedd: Gwybodaeth ddiwygiedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan Gomisiwn y Senedd i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Yn dilyn trafodaeth ynghylch y rhagdybiaethau o ran yr ystod ddisgwyliedig o bwyllgorau ychwanegol sy'n debygol o gael eu sefydlu gan Senedd y dyfodol a nifer yr wythnosau eistedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi'r rhagdybiaethau o ran busnes y Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ystyried papur yn nodi’r amserlenni lefel uchel ar gyfer ei waith ei hun yn ymwneud â Diwygio'r Senedd dros weddill tymor y Senedd hon mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

 


Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Diwygio'r Senedd


Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Trafod yr adroddiad drafft ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno, ac iddo gael ei osod a’i ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y tymor, yn amodol ar ddau ychwanegiad: nodi barn Siân Gwenllian y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd gynnwys y teitlau Cymraeg ‘Llywydd’ a 'Dirprwy Lywydd' yn unig; a, nodi barn y Llywydd y dylid pennu uchafswm cynyddol o Weinidogion Cymru yn 16.

 

 


Cyfarfod: 06/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Diwygio’r Senedd


Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Diwygio’r Senedd


Cyfarfod: 29/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ei drafodaethau ynghylch maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor i gynnig gan y Trefnydd y dylid cynyddu'r terfyn uchaf ar nifer Gweinidogion Cymru o 12 i 17 o weinidogion fel rhan o ddeddfwriaeth Diwygio'r Senedd. Cytunodd y mwyafrif hefyd i gynnig gan y Trefnydd y dylai'r ddeddfwriaeth gynnwys mecanwaith a fyddai'n galluogi i Lywodraeth Cymru gynnig cynnydd pellach i'r terfyn hwn, hyd at uchafswm o 19, drwy is-ddeddfwriaeth, mewn amgylchiadau lle ystyrir bod cynnydd yn deilwng. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cynnydd o'r fath fod yn destun pleidlais gadarnhaol yn y Senedd.

 

Dywedodd Darren Millar ei farn mai 16 dylai fod y terfyn uchaf o ran nifer y Gweinidogion, ac y dylai unrhyw gynnydd pellach yn nifer y Gweinidogion gael ei gymeradwyo gan ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio.

 

Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad ar eu canfyddiadau ar y pedwar mater y mae wedi’u hystyried mewn cyfarfod dilynol.

 

 


Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Datblygiad tybiaethau cyffredin

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur ymgynghori ynghylch nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan Gomisiwn y Senedd i lywio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ragdybiaethau ynghylch nifer bosibl y pwyllgorau mewn Senedd fwy.  Cytunwyd hefyd y dylai'r rhagdybiaethau a'r wybodaeth a gaiff eu cyflwyno ynghylch gweithgareddau Seneddol amlinellu'r ystod o weithgareddau a wneir gan y Senedd. Gofynnwyd am lunio papur arall i'w drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried dau argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd:

 

1.     Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y mater hwn tan y cyfarfod dilynol.

 

2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy

 

Ymhellach i'r casgliad a gytunwyd yn y cyfarfod blaenorol - y dylai deddfwriaeth ar Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn diwygiedig o ddau Ddirprwy Lywydd - cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol y dylai Aelodau a etholir i rolau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd gynrychioli o leiaf ddau grŵp plaid. Daeth y Pwyllgor hefyd i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan, pan fydd y Senedd yn ethol dau Ddirprwy Lywydd y dylai'r deiliad swydd hyn gynrychioli tair plaid wahanol, lle y bo'n bosibl.

 

Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes y dylai ddod i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddiwygio'r teitlau 'Presiding Officer' a 'Deputy Presiding Officer' i 'Speaker' a 'Llywydd', a 'Deputy Speaker' a 'Dirprwy Lywydd', yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn  ystyried a oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud hyn. Nododd Siân Gwenllian a Jane Dodds eu bod yn ffafrio defnyddio 'Llywydd' a 'Ddirprwy Lywydd' yn unig yn y ddeddfwriaeth.

 

 


Cyfarfod: 22/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Diwygio'r Senedd


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Papur cefndir: nifer y deiliaid swyddi

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 42

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Papur cefndir: canlyniadau pe bai Aelod yn newid plaid wleidyddol.

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 45

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd: Cymorth ar gyfer penderfyniad y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 48

Cofnodion:

1.   Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy (argymhelliad 4)

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd, mewn egwyddor, i ddod i’r casgliad y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn gwahanol ar y nifer o Weinidogion Cymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd mewn cyfarfod dilynol at drafodaeth bellach am lefel y trothwy o ran isafswm a/neu uchafswm, ac a ddylai'r ddeddfwriaeth gynnwys ystod ar gyfer y nifer o Weinidogion Cymru.

 

2.   Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy

 

Daeth Pwyllgor Busnes i'r casgliad y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn o ddau Ddirprwy Lywydd, yn hytrach nag un, fel sydd ar hyn o bryd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at drafodaeth bellach am sut y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol bod cydbwysedd gwleidyddol rhwng y Llywydd a’r dirprwyon, a pha deitlau a ddefnyddir ar gyfer y swyddi hynny yn y ddeddfwriaeth.

3.   Y nifer o Gomisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy

Daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad na ddylai fod unrhyw newid i'r darpariaethau statudol presennol o ran y nifer o Gomisiynwyr y Senedd.

4.   Y canlyniadau pe bai Aelod yn newid eu plaid wleidyddol pe bai wedi eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig

Daeth y Pwyllgor Busnes i'r casgliad na fyddai'n argymell y dylai deddfwriaeth Ddiwygio'r Senedd gyflwyno canlyniadau deddfwriaethol sy'n deillio o fod Aelod o'r Senedd yn newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i fecanweithiau mewnol y Senedd sy'n ymwneud ag aelodaeth grŵp wrth adolygu Rheolau Sefydlog cyn tymor y Senedd nesaf.

 

 

 


Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Diwygio'r Senedd


Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Dull o ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ei ddull o ystyried sawl argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gyda’r nod o ddarparu casgliadau i lywio datblygiad cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Senedd.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • ymgynghori ag Aelodau a Grwpiau Pleidiau ar y pedwar argymhelliad: maint Llywodraeth Cymru, nifer y Dirprwy Lywyddion a nifer Comisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy o faint; a beth fydd yn digwydd os bydd Aelod o’r Senedd yn newid ei blaid wleidyddol rhwng etholiadau.
  • gwahodd safbwyntiau gan randdeiliaid i lywio ei drafodaethau ar y materion a nodir uchod;
  • gwahodd safbwyntiau gan y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ar nifer y Dirprwy Lywyddion ddylai fod mewn Senedd fwy;
  • gwahodd safbwyntiau gan Gomisiwn y Senedd ar nifer Comisiynwyr y Senedd ddylai fod mewn Senedd fwy;
  • gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth am waith cwmpasu a dadansoddi a gynhaliwyd ar nifer Gweinidogion Cymru mewn Senedd fwy, a beth fydd yn digwydd os bydd Aelodau yn newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau;
  • ystyried enghreifftiau o sut yr ymdrinnir ag Aelodau sy'n newid eu plaid wleidyddol rhwng etholiadau mewn seneddau â systemau etholiadol tebyg.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnal gweithdy technegol gyda swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru cyn toriad hanner tymor yr hydref. Cytunodd i drafod y materion hyn a’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y slotiau cyfarfod sydd wedi’u trefnu ym mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus lle bo hynny’n briodol.

 

 


Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Diwygio’r Senedd