Cyfarfodydd
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen: Trafod y cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru
PAC(4)-27-13 Papur 5
Gillian Body – Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru
Paul Dimblebee – Cyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cofnodion:
8.1 Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a bwriad Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r modd y mae
Llywodraeth Cymru yn diweddaru ac yn egluro cynnydd gyda gweithredu
argymhellion y Pwyllgor.
Cyfarfod: 21/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Sesiwn friffio ar y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag
ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r
camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.
Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)
Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
Cofnodion:
9.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen, a chytunodd i ystyried gwelliannau terfynol i’r adroddiad drafft ar ffurf electronig.
9.2 Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r adroddiad yn fuan.
Cyfarfod: 26/02/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Cafwyd datganiad o fuddiant gan Julie Morgan o dan yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod cyn i’r drafodaeth ddechrau.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o newidiadau i’r adroddiad, a chytunodd i ystyried yr adroddiad eto mewn cyfarfod arall.
Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen - y prif themâu a'r materion sy'n dod i'r amlwg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif themâu a’r materion sy’n
dod i’r amlwg yn ei ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a
gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.
6.2 Cytunodd y
Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r
camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen mewn
cyfarfod sydd ar y gweill.
Cyfarfod: 08/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen - y prif themâu a materion sy'n dod i'r amlwg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Julie Morgan ar yr eitem hon a dywedodd na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y prif themâu a’r materion sy’n dod i’r amlwg yn ei ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i drafod canfyddiadau’r ymchwiliad ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Materion allweddol a themau sy'n dod i'r amlwg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y materion allweddol a’r themâu sy'n dod
i'r amlwg yn yr ymchwiliad i broses gaffael
Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge,
Llangollen, ac i anfon sylwadau at y tîm clercio.
Cyfarfod: 19/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Cofnodion:
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y
dystiolaeth a gafwyd ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd
ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.
Cyfarfod: 19/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Llywodraeth Cymru (13.35 – 14.00)
David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu
Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd
Drwy Gynhadledd Fideo:
Karen Sinclair, Cyn Aelod Cynulliad
(14.00 – 14.40)
Ieuan Wyn Jones AC, Cyn Weinidog dros
yr Economi a Thrafnidiaeth (14.40 – 15.20)
Andrew Davies, Cyn Weinidog dros
Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau (15:20 – 16:00)
Cofnodion:
Llywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd
dros dro David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; ac Arwel
Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd,
i'r cyfarfod.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tystion.
Cam Gweithredu:
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru
ddarparu:
·
Rhagor o
wybodaeth am gofrestr datganiadau o fuddiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pa
ddatganiadau a fyddai'n cael eu hystyried yn risg posibl.
Karen Sinclair (drwy
Gynhadledd Fideo)
2.3 Croesawodd y Cadeirydd
Karen Sinclair, y cyn Aelod Cynulliad, i'r cyfarfod.
2.4 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst.
Ieuan Wyn Jones AC
2.5 Croesawodd y Cadeirydd
Ieuan Wyn Jones AC, y cyn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i'r
cyfarfod.
2.6 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst.
Andrew Davies
2.7 Croesawodd y Cadeirydd
Andrew Davies, y cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, i'r
cyfarfod.
2.8 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst.
Cyfarfod: 23/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ynghylch proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge yn Llangollen.
Cyfarfod: 23/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Jeff Collins, Cyfarwyddwr Cyflewni
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; a Jeff Collins, Cyfarwyddwr Cyflenwi, i’r cyfarfod.
3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth i egluro a oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ohebiaeth a anfonodd cyfreithwyr Powys Fadog.
· Rhagor o wybodaeth am sut y daeth swyddogion Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad nad oedd angen gwesty’r River Lodge mwyach.
Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Amanda Brewer
PAC(4) 20-12 – Papur 2
Amanda Brewer, Cyn Swyddog Llywodraeth Cymru
Cofnodion:
Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan gyn Swyddog Cyfrifo
Gareth Hall, Cyn Gyfarwyddwr dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cofnodion:
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Hall i’r cyfarfod.
4.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Gareth Hall i ddarparu:
· rhagor o wybodaeth am waith briffio gyda’r Gweinidog perthnasol o ran cynigion Cymdeithas Tai Clwyd Alyn i ddefnyddio safle gwesty’r River Lodge.
· Eglurder ar a gafwyd unrhyw esiamplau eraill o Awdurdod Datblygu Cymru / Llywodraeth Cymru yn methu â chynnal gwerthusiad annibynnol ar gaffael tir.
· Eglurder ar ba bryd y comisiynwyd yr adolygiad cydymffurfio.
· E-bost a gafwyd gan reolwr llinell Amanda Brewer yn amlinellu natur ei rôl ar fwrdd Powys Fadog a sicrwydd bod yr achos o wrthdaro buddiannau yn cael ei reoli’n effeithiol.
Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Cofnodion:
Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Powys Fadog
PAC(4) 20-12 – Papur 1
Pol Wong, Cadeirydd, Powys Fadog
Cofnodion:
Cyfarfod: 10/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Paratoi ar gyfer tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
Cofnodion:
3.1 Trafododd y
Pwyllgor y ffordd y mae’n bwriadu ymdrin â’r sesiwn dystiolaeth ddilynol (eitem
5) ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r
camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen’.
Cyfarfod: 10/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd
Cofnodion:
5.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru;
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter Technoleg a Gwyddoniaeth;
Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a
Sicrwydd; a David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu.
5.2 Holodd y
Pwyllgor y tystion.
Pwyntiau gweithredu:
Mewn ymateb i’r
cwestiynau, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Manylion ar p’un a fyddai uwch reolwyr Llywodraeth Cymru sy’n
uwch na lefel ranbarthol wedi bod yn bresennol ar gyfer sesiynau briffio’r cyn
Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ynghylch cynigion i brynu gwesty
River Lodge.
·
Nodyn
ynghylch a oes dyddiad cau wedi’i bennu i waredu hen westy River Lodge.
·
Nodyn
ynghylch y cynnydd ar gyfer gwerthuso ceisiadau ar ddefnyddio’r safle, gan
gynnwys manylion am unrhyw amodau ar adeiladu pont droed ar y safle.
·
Rhagor
o fanylion am Dîm Arweinyddiaeth Eiddo Llywodraeth Cymru.
·
Manylion
am sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru yn y gogledd ymdrin â phryderon a
godwyd gan Aelod Cynulliad lleol mewn llythyr i’r Gweinidog ynglŷn â chaffael gwesty River Lodge.
Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Penderfynu ar dystion ar gyfer yr ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy'r River Lodge gynt, Llangollen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ba dystion yr hoffai eu gwahodd i roi tystiolaeth i’w ymchwiliad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gaffael a chael gwared ar westy’r River Lodge gynt, Llangollen.
Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Opsiynau ar gyfer ymdrin â Phowys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former River Lodge Hotel, Llangollen a gofynnodd i’r Clerc gasglu rhestr o dystion posibl i roi tystiolaeth.
Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Powys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
- Cyfyngedig 49 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/2)
Cofnodion:
6.1 Cafodd y Pwyllgor
friff preifat gan Gillian Body, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol – Archwilio Perfformiad ac Ian Hughes, Rheolwr
Cydymffurfio, ar adroddiad a gyhoeddir yn fuan, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former
River Lodge Hotel, Llangollen (heb ei gyhoeddi yn
Gymraeg hyd yn hyn) .