Cyfarfodydd
P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 23 Tachwedd 2022, Eitem 3 PDF 138 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod
i'r deisebydd am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar
y mater o dan sylw. Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi mynd â'r ddeiseb mor bell â
phosibl. Penderfynwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r
mater.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
3 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 44 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 7 Hydref 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 259 KB Gweld fel HTML (3/2) 26 KB
- Gohebiaeth gan y Deisebydd at Mr Goodall, 01 Tachwedd 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 246 KB Gweld fel HTML (3/3) 14 KB
Cofnodion:
Ailystyrodd y
Pwyllgor y ddeiseb yn sgil rhagor o ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i ofyn pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi busnesau
hunanddarpar na fydd yn gallu cwrdd â lefel y ddeiliadaeth oherwydd diffyg
galw, yn arbennig yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf ac os yw ystadegau'n
dangos dirywiad sydyn mewn eiddo hunanddarpar,
a yw Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y cyfraddau deiliadaeth ac yn
ystyried eu hadolygu.
Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
- Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
2 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi
Dogfennau ategol:
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 177 KB Gweld fel HTML (2/1) 68 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 11 Gorffennaf 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 158 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 01 Medi 2022 (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 82 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, 01 Medi 2022 Atodiad 1 (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 232 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon a
amlygwyd ynghylch rhai busnesau hunanddarpar sy’n cael trafferth cyrraedd y
trothwy o ran meddiannaeth. Fodd bynnag, nododd yr Aelodau fod y ddeddfwriaeth
eisoes mewn grym a bod y mater wedi’i drafod droeon yn y Senedd. Mae’r
Gweinidog wedi gwneud ei barn yn glir fod hyn, bellach, yn fater i awdurdodau
lleol. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunwyd i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.