Cyfarfodydd

P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i'r deisebydd am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar y mater o dan sylw. Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi mynd â'r ddeiseb mor bell â phosibl. Penderfynwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater.

 


Cyfarfod: 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ailystyrodd y Pwyllgor y ddeiseb yn sgil rhagor o ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn pa drefniadau sydd ar waith i gefnogi busnesau hunanddarpar na fydd yn gallu cwrdd â lefel y ddeiliadaeth oherwydd diffyg galw, yn arbennig yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf ac os yw ystadegau'n dangos dirywiad sydyn mewn eiddo hunanddarpar,  a yw Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y cyfraddau deiliadaeth ac yn ystyried eu hadolygu.

 


Cyfarfod: 10/10/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon a amlygwyd ynghylch rhai busnesau hunanddarpar sy’n cael trafferth cyrraedd y trothwy o ran meddiannaeth. Fodd bynnag, nododd yr Aelodau fod y ddeddfwriaeth eisoes mewn grym a bod y mater wedi’i drafod droeon yn y Senedd. Mae’r Gweinidog wedi gwneud ei barn yn glir fod hyn, bellach, yn fater i awdurdodau lleol. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.