Cyfarfodydd

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Adroddiadau Blynyddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.


Cyfarfod: 06/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Adroddiad Blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i ail adroddiad blynyddol, a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.


Cyfarfod: 23/10/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Adroddiad Blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad blynyddol drafft a chytunwyd i drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 14/11/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Adroddiad Blynyddol 2021/22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

 


Cyfarfod: 09/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Adroddiad Blynyddol 2021/22

NDM8119 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod yn Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

NDM8119 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod yn Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 03/10/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad blynyddol, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a chytunodd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar ddyddiad a gadarnheir ym mis Tachwedd 2022. 


Cyfarfod: 26/09/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 19)

19 Adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddrafft o'i adroddiad blynyddol a chytunodd i drafod a chytuno ar fân newidiadau i'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 12)

12 Adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ddychwelyd at fersiwn ddiwygiedig yn dilyn toriad yr haf.