Cyfarfodydd

SL(6)213 - Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022 - TYNNWYD YN ÔL

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 14)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

NDM8053 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2022.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

NDM8053 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/07/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 4)

4 SL(6)213 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 27/06/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 3)

3 SL(6)213 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd ac, yn ogystal, i adrodd bod rheoliad 3(1) o'r rheoliadau hefyd yn cynnwys cyfeiriad anghywir at reoliad 3, lle y dylai gyfeirio at reoliad 2.